Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 43/2023/0071/PF - TIR AR FFERM MIDNANT, GRONANT ROAD, PRESTATYN

Ystyried cais ar gyfer adeiladu 45 o anheddau, adeiladu mynediad newydd i gerbydau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Fferm Midnant, Ffordd Gronant, Prestatyn (copi ynghlwm). 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu 45 o anheddau, adeiladu mynediad newydd i gerbydau, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir ar Fferm Midnant, Ffordd Gronant, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Stuart Andrew (ymgeisydd) (o blaid) - Rwy’n gyfarwyddwr Dylunio a Chynllunio i Castle Green Homes gyda’r cais wedi ei gyflwyno ar gyfer datblygiad preswyl ar y safle preswyl dynodedig yn Fferm Midland, Ffordd Gronant, Prestatyn. Cafodd y safle ei ddyrannu ar gyfer tai gan y Sir o’i Gynllun Datblygu Lleol yn 2013.

 

Y dyraniad ar gyfer y safle oedd ar gyfer 65 o anheddau; fodd bynnag dim ond ar gyfer 45 o gartrefi oedd y cais hwn, ac rydym yn ystyried fod hynny yn nifer mwy addas ar gyfer y safle hwn yn nhermau’r safle a’i ddwyster; byddai 10% o’r anheddau a fyddai’n cael eu hadeiladu yn fforddiadwy yn unol â pholisi mabwysiedig y Cyngor.

 

Mae’r tai arfaethedig yn cynnwys cymysgedd o eiddo dwy, dair a phedair ystafell wely, y mae Swyddog Tai a Pholisi Strategol y Cyngor wedi ei dderbyn. Mae disgwyl i’r safle gael man agored cyhoeddus o ychydig dros 1/3 acer, a bydd y tirlun aeddfed presennol yn cael ei gadw i wahanu’r safle oddi wrth y tai o amgylch i’r Gorllewin ac o amgylch y safle. Byddai’r ffiniau eraill hefyd yn cael eu cadw. Hefyd mae cyfraniadau ariannol wedi eu sicrhau drwy gytundeb Adran 106 sydd wedi ei gytuno mewn egwyddor gyda swyddogion y cyngor, sy’n cynnwys tua £68,000 ar gyfer tai fforddiadwy oddi ar y safle, tua £45,000 ar gyfer mannau agored cyhoeddus presennol a chyfleusterau chwaraeon a £40,000 ar gyfer cyfleusterau addysg ysgol gynradd leol. Hwn oedd yr ail dro i’r cais hwn gael ei gyflwyno, yn dilyn gohiriad ym Medi o ganlyniad i ymateb hwyr i’r ymgynghoriad gan Dŵr Cymru yn ymwneud â phryderon oedd ganddynt ynglŷn â’r capasiti draenio terfynol lleol.  Fodd bynnag, mae’r mater hwn nawr wedi ei ddatrys, a bydd datblygu’r cynllun hwn yn dod â budd net i’r rhwydwaith ddraenio budr lleol, gan leihau llwytho’r system yn gyffredinol. Mae Dŵr Cymru wedi diddymu’r cais am wybodaeth ar amodau cynllunio yn seiliedig ar ein cais.

 

Mae ymgyngoreion statudol angenrheidiol eraill a swyddogion y cyngor wedi adolygu ein cynigion. Ni fu unrhyw wrthwynebiadau technegol i gymeradwyo’r cynllun, ac mae swyddogion y cyngor wedi dod i’r casgliad fod y cais yn bodloni’r holl ofynion polisi ac na fyddai’n cael unrhyw effaith andwyol ar yr amwynderau preswyl neu weledol lleol presennol. Mae’r adroddiad yn argymell rhoi caniatâd cynllunio, ac rydym yn gobeithio eich bod yn cytuno â’r farn hon. Rydym yn gwerthfawrogi eich ystyriaeth.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrea Tomlin (aelod lleol) wrth y pwyllgor fod y cais wedi ei asesu’n drylwyr am tua deuddeg mis; ni fu unrhyw wrthwynebiad lleol; fodd bynnag, codwyd rhai pryderon eraill ac ymdriniwyd â’r rhain i gyd drwy’r broses gynllunio. Y prif bryderon oedd draenio, palmentydd a ffyrdd; fodd bynnag gellid ymdrin â’r materion hyn ar wahân. Pwysleisiodd y Cynghorydd Tomlin gyfoeth gwybodaeth leol ac anogodd yr ymgeisydd i weithio mor agos â phosibl gyda’r gymuned leol wrth ddatblygu. Codwyd pryderon gan y cyngor tref yn ymwneud â’r ffermdy, a oedd wedi ei leoli ar y safle. Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad canfuwyd nad oedd y ffermdy o unrhyw bwysigrwydd saernïol na hanesyddol.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Gareth Sandilands bwysigrwydd cyfathrebu, rhywbeth yr oedd y Cynghorydd Tomlin wedi ei amlinellu; awgrymodd fod lluniau yn cael eu tynnu o’r ffermdy a’r ardal gyfagos i sicrhau y gallai pobl gofio beth oedd ar y safle cyn unrhyw ddatblygiad.

 

Holodd Aelodau a oedd yr AHNE wedi codi unrhyw bryderon yn ymwneud â’r safle. Wrth ymateb eglurodd swyddogion nad oedd y safle yn yr AHNE.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gareth Sandilands.

 

Pleidlais –

O blaid – 19

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: