Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 01/2023/0231/PF - TIR GYFERBYN Â PHEN DDWY ACCAR, LAWNT, DINBYCH
Ystyried cais i
newid defnydd tir drwy leoli 2 gaban pren at ddibenion llety gwyliau, gosod
tanciau septig, tirlunio, mynediad i geir, parcio a gwaith cysylltiedig ar dir
gyferbyn â Phen Ddwy Accar, Lawnt, Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cafodd cais ei
gyflwyno am newid defnydd tir drwy leoli 2 gaban coed
i ddiben llety gwyliau, gosod tanciau septig, tirlunio, mynediad i gerbydau,
parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger Pen Ddwy Accar, Lawnt, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus
–
Martin Shutt (Asiant) (O blaid) – diolchodd i Aelodau am ganiatáu
iddo annerch y Pwyllgor; mae yna ddirywiad o ran ffermydd ar hyd a lled Sir
Ddinbych ac maent yn ei chael yn anodd i wneud elw; y cynnydd mewn costau a
gostyngiad mewn cymorthdaliadau oedd rhai o’r rhesymau dros y dirywiad. Roedd
salwch yn y teulu wedi dwysáu’r heriau; roedd y cais yn ymwneud ag
arallgyfeirio darn o dir ar raddfa fach; a’r gobaith oedd y byddai ehangu
gweithrediadau’r fferm y tu hwnt i’r defnydd traddodiadol yn golygu y byddai’r
ymgeisydd yn gallu cadw’r tir a gwneud y fferm yn fwy gwydn yn y dyfodol.
Roedd y cynnig yn
ymwneud â rhoi ail-bwrpas i goetir nad oedd yn cael ei ddefnyddio a hynny ar
gyfer dau gaban bach; nid oedd yr ardal wedi ei
ffermio’n hanesyddol o ganlyniad i’r coetir sefydledig, ac roedd y safle
bellter rhesymol oddi wrth weithrediadau arferol y fferm. Mae’r cynigion wedi
parchu’r eiddo agosaf drwy fod i ffwrdd o’u prif ddrychiadau, a darparu pellter
mwy na helaeth a gwaith bioamrywiaeth gyda’r tirlunio, a lleihau’r tri chaban a
gynigiwyd yn wreiddiol i ddau. Byddai ymwelwyr â’r
safle hefyd yn dod â budd economaidd i’r ardal leol. Er yn fach y gobaith yw y
byddai hwn yn gynnig deniadol i bobl; roedd y cabanau hefyd yn addas i ddau
unigolyn a fyddai’n denu pobl a fyddai eisiau gwyliau tawel. Diolchodd Mr Shutt i swyddogion o’r holl sefydliadau am eu cefnogaeth,
ac roedd yr ymgeisydd yn hapus gyda’r holl amodau o fewn y cais.
Trafodaeth
Gyffredinol –
Diolchodd y
Cynghorydd Delyth Jones (aelod lleol) i’r cadeirydd am gael caniatâd i siarad;
roedd yn llwyr gefnogi ffermydd yn arallgyfeirio i’w galluogi i barhau yn
fusnesau hyfyw. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Jones yn bryderus y byddai tir
amaethyddol da yn cael ei golli a ph’run ai a allai
colli’r tir effeithio’n negyddol ar y fferm; hefyd fe leisiodd bryder ynglŷn
â’r golau a llygredd sŵn gydag unrhyw dybiau poeth a ph’run
ai a fyddai’n effeithio ar yr ardal leol; a ph’run ai
a fyddai yna effaith ar fioamrywiaeth yr ardal.
Wrth ymateb eglurodd
swyddogion y byddai’r cabanau yn cael eu codi ger ardal goediog ar y fferm.
Gyda’r tirlunio yn gysylltiedig gyda’r cabanau, fe fyddai bioamrywiaeth yr
ardal yn elwa. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd tybiau poeth o fewn y cais
mwyach o ganlyniad i’r posibilrwydd o sŵn a llygredd dŵr; o ran y
golau fe fyddai yna sgriniau digonol ar y safle i liniaru’r pryderon hyn. Yn
olaf, gan ddychwelyd at y pryder ynglŷn â cholli tir amaethyddol da, roedd
yna amodau o fewn y cais. Pe byddai’r busnes yn profi’n aflwyddiannus, fe
fyddai yna chwe mis i alluogi’r tir i gael ei newid yn ôl i’w ddefnydd
blaenorol.
Fe gododd rhai
aelodau o’r pwyllgor cynllunio bryderon yn ymwneud â’r tybiau poeth, gan eu bod
yn bryderus er nad oeddent yn cael eu cynnwys yn y cais y gallent gael eu
hychwanegu’n ddiweddarach heb unrhyw fewnbwn gan y Pwyllgor Cynllunio. Hefyd
roedd pryderon pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, y gallai cynsail gael ei
gosod i ddefnyddio tir amaethyddol da ar gyfer defnyddiau eraill.
Eglurodd
swyddogion y gellid mynd i’r afael â phryderon y tybiau poeth gydag amod yn
galluogi’r pwyllgor neu swyddogion i benderfynu p’run ai y gallent gael eu
gweithredu ar y safle. Ymdriniwyd hefyd â’r pryderon yn ymwneud â defnyddio tir
amaethyddol yn amod 12 y cais, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr
dynnu’r cabanau ac adfer y tir i’w ddefnydd blaenorol.
Mynegodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bryder ynglŷn â sefyllfa’r tybiau poeth ac
awgrymodd na ddylai unrhyw amodau gael eu gosod ar y safle, gan y gallai diffyg
ohonynt effeithio ar hyfywedd y busnes. Adleisiodd y Cynghorydd Chris Evans y
pryderon hyn.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Delyth Jones fod y
cais yn cael ei gymeradwyo gyda’r amod ychwanegol nad oedd unrhyw dybiau poeth
i’w gosod ar y safle heb ganiatâd cynllunio, eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd
Arwel Roberts.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
hefyd fod y cais yn cael ei gymeradwyo heb unrhyw amodau ychwanegol, ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Terry Mendies.
Eglurodd
swyddogion wrth yr aelodau y byddent yn pleidleisio dros gymeradwyo’r cais
gyda’r amod ychwanegol yn cyfyngu ar dybiau poeth yn y lle cyntaf; os na
chymeradwywyd y cynnig yna fe fyddai yna bleidlais heb unrhyw amodau
ychwanegol.
Pleidlais –
O blaid – 12
Yn erbyn – 7
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y
swyddog, i gynnwys yr amod ychwanegol.
Dogfennau ategol: