Eitem ar yr agenda
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT AILFODELU’R GWASANAETH GWASTRAFF
Cael adroddiad
diweddaru (ynghlwm) gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu yn ymwneud â
chyflwyno’r gwasanaeth newydd.
11:45 – 12:15
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd
a’r Amgylchedd adroddiad diweddaru (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar gyflwyniad y
Prosiect Ailfodelu’r Gwasanaeth Gwastraff newydd.
Bwriad yr adroddiad oedd rhoi gwybod i'r Pwyllgor
Craffu Cymunedau am gynnydd presennol y prosiect ac amlygu'r risg o ran
cymeradwyo'r drwydded weithredol sydd ei hangen ar gyfer Cynllun Trosglwyddo
Gwastraff newydd Dinbych yn amserol.
Eglurodd swyddog arweiniol Tîm Gweithredol
Corfforaethol y Prosiect i Aelodau mai’r Gwasanaeth Gwastraff newydd oedd y
newid gweithredol mwyaf a ddarparwyd gan y Cyngor ers blynyddoedd ac roedd
llawer o waith cynllunio wedi cael ei gwblhau i gyrraedd y cam hwn.
Byddai’r gwasanaeth newydd yn cynnwys casglu
gwastraff wedi’i ailgylchu yn wythnosol mewn cynwysyddion ar wahân a chasglu
gweddill gwastraff y cartref bob mis.
Y brif broblem ar hyn o bryd oedd cael y drwydded
weithredol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ni ellir gweithredu’r Orsaf
Drosglwyddo Gwastraff heb y drwydded hon.
Disgwyliwyd y byddai’r drwydded yn cael ei chyflwyno yn y Gwanwyn
2024. Roedd y Cyngor wedi cyflwyno’r
ffurflen gais ar gyfer Depo Trosglwyddo Gwastraff Dinbych ym mis Ionawr 2023,
fodd bynnag, roedd oedi wedi bod yn sgil croniad o drwyddedau i’w cyflwyno gan
CNC. Roedd y broblem hon bellach wedi’i
datrys, roedd y broses y disgwyliwyd iddi gymryd hyd at 4 mis i’w chwblhau
bellach ar waith, ac roedd trafodaethau cadarnhaol wythnosol yn parhau gyda
CNC. Byddai unrhyw broblemau a godir yn
ystod y cyfarfodydd hyn yn cael eu huwchgyfeirio ar unwaith i Aelod Arweiniol a
Swyddog Arweiniol y Tîm Gweithredol Corfforaethol.
Roedd bwriad i gyflwyno’r Prosiect Ailfodelu’r
Gwasanaeth Gwastraff o fis Mehefin 2024 a chwblhau’r depo erbyn mis Rhagfyr
2023.
Roedd angen canolbwyntio ar recriwtio staff a
darparu’r cynwysyddion newydd i bob aelwyd yn y sir.
Byddai’r Tîm Prosiect yn mynychu bob cyfarfod
Grŵp Ardal Aelodau ym mis Chwefror / Mawrth 2024 i gynnig rhagor o
fanylion am gyflwyniad y Prosiect yn eu hardaloedd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a Swyddog
Arweiniol Gweithredol y prosiect am y diweddariad a chroesawyd cwestiynau gan
Aelodau.
Nododd Aelodau bod yr ymweliad diweddar â depo
gwastraff newydd Dinbych yn fuddiol iawn a gofynnwyd am ymweliad arall cyn
cyflwyno’r gwasanaeth.
Holodd aelodau am y newid i wagenni trydan dan y
gwasanaeth newydd a gofynnodd pwy oedd yn gyfrifol am y costau
cysylltiedig. Nododd Swyddog Arweiniol
Gweithredol y Prosiect bod ar y gwasanaeth newydd angen fflyd newydd o wagenni
i ymdrin â’r cynwysyddion sortio ar ymyl palmant o fewn y Gwasanaeth Ailgylchu
newydd. Fodd bynnag, byddai cerbydau
gwastraff cyffredinol presennol yn parhau i fod yn addas ar gyfer darparu’r
gwasanaeth gan nad oedd y model gwasanaeth yn newid, dim ond amlder y
ddarpariaeth gwasanaeth. Er bod rhagor
o gerbydau trydan wedi cael eu cyflwyno i’r fflyd, nid oedd y fflyd i gyd yn
drydan gan fod angen sicrhau cadernid cylchoedd casgliadau gwastraff yn y
sir.
Nododd aelodau eu pryderon am yr helynt posibl yn
sgil cwynion gan y cyhoedd a nododd nad oedd hyn yn cael ei amlygu ddigon yn yr
adroddiad. Darparodd Swyddog Arweiniol
Gweithredol y Prosiect sicrwydd i aelodau eu bod yn deall y byddai gan
breswylwyr rai pryderon am y newid. Yn y
flwyddyn newydd (Ionawr 2024), byddai prosesau cyfathrebu arfaethedig yn cael
eu rhoi ar waith 6 mis cyn gweithredu.
Nododd awdurdodau eraill a oedd eisoes wedi trosglwyddo i’r Gwasanaeth
Ailgylchu Gwastraff newydd bod rhai pryderon ar ddechrau’r cyflwyniad. Fodd bynnag, unwaith yr oedd preswylwyr wedi
dod i ddeall y system newydd, roeddent yn ei ffafrio.
Gofynnodd Aelodau beth oedd cyfanswm y costau a
oedd ynghlwm â chyflwyno’r prosiect.
Nododd Swyddog Arweiniol Gweithredol y Prosiect fod y Prosiect yn costio
oddeutu £22 miliwn. Yn sgil yr hinsawdd
ariannol sydd ohoni, roedd y costau disgwyliedig wedi cynyddu. Roedd
Llywodraeth Cymru wedi darparu £12 miliwn o gyllid, a byddai gweddill y
costau’n cael eu talu gan gronfa wrth gefn y Gwasanaeth a thrwy Fenthyca
Darbodus. Nodwyd y byddai’r costau rhedeg sydd ynghlwm â’r gwasanaeth newydd,
unwaith y byddai’n weithredol, yn llai na chostau’r gwasanaeth ailgylchu a oedd
ar waith ar hyn o bryd.
Roedd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion yn
cydnabod, fod y risg fwyaf i gyflwyno’r Gwasanaeth newydd yn brydlon yn ymwneud
â chael y drwydded i’r Orsaf Drosglwyddo Gwastraff gan CNC. Er nad oedd cynllun wrth gefn ar waith pe bai
oedi gyda chyflwyno’r drwydded, roedd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion yn
hyderus, o ystyried y trafodaethau rheolaidd a oedd bellach yn mynd rhagddynt
gyda CNC yn lleol ac yn genedlaethol, y byddai’r drwydded yn cael ei chyflwyno
mewn pryd.
Nododd a chytunodd yr Aelodau bod angen bod yn
gadarnhaol am y Gwasanaeth Gwastraff newydd a gweithio gyda swyddogion i
hysbysu’r cyhoedd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r
Aelodau Arweiniol a Swyddog Arweiniol Gweithredol am eu hadroddiad.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:
Penderfynwyd: yn amodol ar y
sylwadau a’r atebion uchod i’r cwestiynau a godwyd -
(i)
cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma â darpariaeth y Prosiect, gan gynnwys yr
ymdrechion a wnaed i sicrhau cymeradwyaeth brydlon o’r drwydded weithredol ar
gyfer Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff newydd Dinbych; a
(ii)
cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar
Les, sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad fel rhan o’i ystyriaethau.
Dogfennau ategol:
- Waste and Recycling Project Report 19102023 Communities Scrutiny, Eitem 6. PDF 236 KB
- Appendix 1 WBIA, Eitem 6. PDF 150 KB