Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2011/2012
Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol
(copi’n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol
drafft y Cyngor ar gyfer 2011-12.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Rheolwr Tîm Gwella Corfforaethol, a oedd yn gofyn am gymeradwyo ffurf
drafft Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2011-12 y Cyngor, â phapurau’r cyfarfod.
Mae’n ofynnol i’r Cyngor
gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, ac
roedd angen penderfyniad i gymeradwyo’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol
2011-12, a gynhwyswyd fel Atodiad I i’r adroddiad.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr
Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd B.A. Smith, ac
esboniodd bod Cynllun Corfforaethol 2009-12 yn gosod
cyfeiriad strategol yr Awdurdod a bod cyhoeddi’r Ddogfen Cyflawni’r Cynllun
Corfforaethol 2011-12 yn amlinellu sut y bwriedir cyfrannu at gyflawni’r
Cynllun Corfforaethol yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw. Gwnaeth pob
gwasanaeth yn y Cyngor gynhyrchu cynllun gwasanaeth ar gyfer 2011-12 yn
disgrifio sut roedd yn bwriadu cyfrannu at gyflawni’r deilliannau cytunedig ar
gyfer cymunedau Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad Perfformiad Blynyddol yn darparu
gwerthusiad yn edrych yn ôl ar lwyddiant y Cyngor yn cyflawni yn erbyn y
cynlluniau yn ystod 2011-12, ac yn dangos a wnaeth y Cyngor lwyddo i gyflawni
ei ymrwymiad i wneud trefniadau i sicrhau gwella parhaus.
Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn cynnwys gwerthusiad
penodol o lwyddiant y Cyngor o ran cyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol.
Arfarnwyd y perfformiad mewn perthynas â dangosyddion perfformiad a mesuryddion
perfformiad allweddol, gan nodi sut roedd y blaenoriaethau corfforaethol wedi
cael effaith yn lleol yn chwe ardal Sir Ddinbych. Roedd y Cyngor wedi gwireddu
ei addewid i fod yn Gyngor sy’n perfformio ar lefel uchel, yn agos at ei
gymuned, ac esboniodd y Cynghorydd Smith y llwyddwyd â’r nod o ddarparu
trosolwg gonest a chytbwys o berfformiad y Cyngor. Roedd nifer o heriau’n
parhau, ac roedd y rhain wedi ffurfio sylfaen datblygu’r Cynllun Corfforaethol
newydd.
Cynhwyswyd manylion am yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd yn yr
adroddiad. Fodd bynnag, cadarnhawyd na chynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar
Gydraddoldeb yng nghyswllt yr adroddiad hwn.
Darparwyd yr ymatebion a ganlyn i gwestiynau a
materion gan yr Aelodau:-
·
Tudalen 22
– cytunodd y swyddogion i sicrhau y byddai’r adran yn cyfeirio at ieithoedd yn
yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei diwygio gyda’r Gymraeg wedi ei gosod o flaen
y Saesneg, yn unol â pholisi’r Cyngor.
·
Tudalen
24, Ffyrdd a chynlluniau Atal rhag Llifogydd – cytunodd y swyddogion gael
eglurhad a darparu manylion ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru i gynlluniau
lleddfu llifogydd yn y Rhyl a Chorwen.
·
Tudalen
25, Meysydd Blaenoriaeth, Priffyrdd – Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y
byddai argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a’r
Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â chyfuno Adrannau Priffyrdd Sir Ddinbych a
Chonwy. Cadarnhaodd na fyddai hyn yn effeithio ar y buddsoddiad a wnaed gan Sir
Ddinbych, a sicrhaodd yr Aelodau y byddai’r prosiect dan sylw yn ddiogel.
Ymatebodd y Prif Weithredwr i bryderon a fynegwyd gan yr Aelodau, ac esboniodd
na ddylid cyfleu’r sefyllfa fel cydweithredu’n methu, ond yn hytrach edrych
arno fel Sir Ddinbych wedi bod yn rhagweithiol wrth asesu ac ymateb i’r
opsiynau ar gael.
·
Tudalen
63, Ardal Dinbych – cytunwyd y byddai swyddogion yn cael eglurhad ac yn darparu
manylion ynghylch cyllid Tai Clwyd ar gyfer y datblygiad yn ymwneud ag
adleoli’r Gwasanaeth Ieuenctid. Cadarnhaodd y Cynghorydd C.L. Hughes nad oedd y
cyllid wedi ei sicrhau hyd yma.
·
Tudalen
25, Maes blaenoriaeth, Priffyrdd – Esboniodd y Prif
Weithredwr nad oedd safbwynt y Llywodraeth o ran cyflwyno cydweithredu wedi
newid, ac onibai ei fod yn cael ei ddatblygu’n wirfoddol gellid gorfodi hyn
mewn ffyrdd eraill. Diben y cydweithredu oedd cyflawni arbedion sylweddol. Fodd
bynnag, byddai goblygiadau ariannol ynghlwm â chyfuno i ddechrau, ac yn achos
yr adrannau Priffyrdd ystyriwyd bod y rhain yn anghynaliadwy. Hefyd byddai
angen cefnogaeth wleidyddol a gweithredol gan yr holl bartïon yn ymwneud â hyn
er mwyn sicrhau llwyddiant.
·
Cyfeiriodd
y Cynghorydd J. Butterfield at Ddangosyddion Perfformiad a oedd yn datgelu na
chyrhaeddwyd blaenoriaethau, a bod disgyblion wedi gadael yr ysgol heb
gymwysterau priodol. Cefnogodd y Cynghorydd E.W. Williams y farn a fynegwyd gan
y Cynghorydd J. Butterfield ynghylch yr
angen i roi’r gwelliannau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar gwrs carlam ac awgrymodd
anfon sylwadau at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ryddhau cyllid ar gyfer y gwaith
gwella’r ysgol.
·
Tudalen
30, Cyngor sy’n perfformio ar lefel uchel, yn agos at ei gymunedau –
cadarnhaoedd y Rheolwr Gwella Corfforaethol y farn a fynegwydd gan y Cynghorydd J. Butterfield am bwysigrwydd gwella’r berthynas waith
rhwng Aelodau etholedig a swyddogion y Cyngor a’r gymuned.
·
Tudalen
15, Adfywio – Esboniodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol bod mesuriadau
perfformiad yng nghyswllt y tai aml-feddiannaeth a aeth trwy’r broses drwyddedu
wedi eu cynnwys fel gwyrdd oherwydd goresgyn y targed a osodwyd. Fodd bynnag,
esboniodd y byddai’r holl ddangosyddion a mesuriadau yn cael eu hadolygu i’w
cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol newydd mewn ymgais i sicrhau’r trothwy sy’n
ofynnol ar gyfer rhagoriaeth.
·
Tudalen
19, Newid Demograffig – Eglurwyd bod y Dangosydd Perfformiad ynghylch Pobl â
gefnogir o dan 60% y llinell tlodi, a ddangoswyd yn goch, yn gamarweiniol gan
ei fod yn mesur gweithgarwch yr Uned Hawliau Lles yn unig, ac nid oedd yn
cynnwys y gwaith partneriaeth sy’n cael ei wneud. Cyfeiriodd y Pennaeth Busnes,
Cynllunio a Pherfformiad at y gwaith sy’n cael ei wneud mewn ardaloedd Cymunedau’n
Gyntaf, a nodwyd fel blaenoriaeth, ynghyd â’r Prosiect Cronfa Gymdeithasol
Ewrop sy’n cael ei hyrwyddo gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
·
Mesuriadau
Perfformiad, Pobl a gefnogir o dan 60% y llinell dlodi. Mae’r Tîm Hawliau Lles
yn gweithio’n dda â Chyngor ar Bopeth. Dylai Siop Cyngor ar Fudd-daliadau’r
Rhyl ddarparu mwy o gymorth ac adnabod ac ymdrin â’r newidiadau i
fudd-daliadau.
·
Tudalen
66, Rhuthun, Prosiect Cae Ddol – cytunodd y Rheolwr Gwella Corfforaehtol i
adolygu’r sefyllfa o ran Cael Ddol er mwyn sicrhau cywirdeb.
·
Tudalen
35, Newid Demograffig – Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd Feeley
ynghylch y gwahaniaeth rhwng y data a’r targed ar gyfer Taith i Waith: Nifer y
bobl a gefnogwyd fel nad ydynt heb fod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
cytunwyd i adrodd yn ôl ar hyn wrth y Cynghorydd Feeley. Amlinellodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles y problemau o ran sicrhau cyllid
Ewropeaidd, yn enwedig yng nghyd-destun y sefyllfa economaidd, a chyfeiriodd at
y targedau penodol a amlinellir yn yr adroddiad.
·
Tudalen
61, Canolfan y Dderwen, Y Rhyl – cytunodd y Rheolwr Gwella Corfforaethol i
adolygu’r sefyllfa o ran Canolfan y Dderwen, y Rhyl, a sicrhau cynnwys y
wybodaeth ddiweddaraf yn yr adroddiad.
·
Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd
gan y Cynghorydd C. Guy-Davies am swmp y wybodaeth fanwl a gynhwysir yn yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol, esboniodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad bod Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir
Ddinbych gyhoeddi gwybodaeth a’i bod yn anodd cynnal cydbwysedd. Serch hynny,
gellid ystyried darparu crynodeb i gyd-fynd â’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol
yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y gwaith caled a wnaed i
gynhyrchu’r fath adroddiad cynhwysfawr.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar y newidiadau uchod, bod y Cyngor yn
cymeradwyo ffurf drafft yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2011-12 er mwyn
galluogi ei gyfieithu a’i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2012.
Dogfennau ategol: