Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNYDD AR WAITH CYNNAL A CHADW CYFALAF PRIFFYRDD A GWAITH SEILWAITH CLUDIANT MAWR

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Seilwaith ar y Cyd (copi’n amgaeedig) a oedd yn nodi cynnydd y rhaglen gynnal priffyrdd, ac yn amlinellu’r mecanwaith a’r ffrydiau ariannu potensial ar gyfer buddsoddiad seilwaith ar raddfa fawr yn Sir Ddinbych.

                                                                                                         10.55 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith, a oedd yn manylu'r cynnydd hyd yma ar y rhaglen cynnal a chadw priffyrdd ac yn amlinellu’r mecanwaith a’r ffrydiau ariannu posibl ar gyfer buddsoddiad seiliwaith mawr yn Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd adroddiad gwybodaeth yn manylu’r mecanwaith a’r ffrydiau ariannu posibl ar gyfer buddsoddiad seilwaith mawr yn Sir Ddinbych wedi ei gynnwys fel Atodiad 1.

 

Esboniodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith bod gwaith wedi cychwyn ar ddrafftio rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf ac y byddai’n mynychu cyfarfodydd Grwpiau Ardal i drafod y cynigion. Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau bod y Grŵp Buddsoddi Strategol yn ddiweddar wedi ystyried adroddiad ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a chylllid mewn perthynas â phriffyrdd, ac yn gofyn am asesiad risg cyson ar draws y seilwaith priffyrdd i alluogi blaenoriaethu gwariant.

           

Roedd yr adroddiad yn manylu cynnydd Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2012/13. Roedd gwella cyflwr y ffyrdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac roedd Sir Ddinbych wedi ymrwymo £1,400,000 yn 2012/2013, gyda’r bwriad penodol o dargedu ffyrdd y Sir a oedd wedi bod yn destyn cwyion neu risgiau posibl. Roedd dyraniad o £2,022,000, cyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru (LGBI), ac roedd hwn yn bennaf wedi canolbwyntio ar y ffyrdd A a B yn y Sir. Roedd y rhaglen gyfan wedi ei chysylltu â delio â’r materion penodol a nodwyd fel rhan o arolygon mwy technegol megis SCRIM, asesiad o atal sgidio.

 

Roedd y rhaglen ail-arwynebu wedi ei rhannu’n dri prif categori o ail-arwynebu traddodiadol â bitwmen, micro-asffalt a Thrin Arwyneb. Roedd manylion y cynlluniau, ynghyd â rhaglen waith a chynlluniau a oedd ar y gweill nawr, wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Dros fisoedd gweddillol y flwyddyn ariannol, roedd rhyw ddeuddeg cynllun wedi eu cynnwys yn y rhaglen, a oedd o fewn y gyllideb ar hyn o bryd.

 

Roedd tywydd gwael wedi effeithio gwaith ar rai pontydd a byddai’r gwaith hwn nawr yn cael ei ohirio tan 2013/14. Roedd manylion gwaith a chynlluniau a gwblhawyd yn y flwyddyn ariannol hon wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, ynghyd â chynhwysiad rhestr o waith cryfhau ac ailwampio pontydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, esboniwyd y byddai Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2013/14 wedi ei chytuno erbyn Ionawr, 2013.  Byddai gwaith yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng LGBI ac adnoddau Sir Ddinbych ei hunan, ac ar hyn o bryd tybiwyd bod cyllid oddeutu £3.5 miliwn ar gyfer y rhaglen gyfan, a oedd yn cynnwys pontydd a goleuadau stryd. Byddai angen cyflwyno rhaglen fanwl i Lywodraeth Cymru erbyn Rhagfyr 2012, a byddai hon yn cael eu hanfon at holl yr Aelodau etholedig, Cynghorau Tref a Chymuned ac yn cael ei dodi ar y wefan. Amlinellodd yr adroddiad y broses ymgynghorol a fabwysiadwyd a thanlinellu’r risgiau cysylltiedig mwyaf. Cadarnhawyd y byddai’r cylch adolygu ar gyfer gwaith a ymgymerwyd ar y priffyrdd nawr yn cael ei adnabod ar ôl ymrwymiad ariannol hirdymor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R M Murray at broblemau yn ymwneud â gwaith ailarwynebu ar Ffordd yr Arfordir rhwng y Rhyl a Phrestatyn. Mynegodd hefyd ei werthfawrogiad o’r gwaith a wnaed gan y Rheolwr Grŵp: Rhaglen Newid, Cymorth Busnes a Thwristiaeth yn ei oruchwylio. Rhoddodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith fanylion y gwaith a wnaed a rôl oruchwylio’r Cyngor. Cadarnhaodd y byddai’r contractwr yn delio ag unrhyw fethiant yn ymwneud â safon neu ansawdd gwaith dan y warant, a chytunodd ymchwilio i’r meysydd pryder a godwyd gan yr Aelodau. 

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd W Mullen-James, esboniwyd bod y gwaith trwsio a gwella i gyflwr y ffordd ar yr A547 rhwng Rhuddlan ac Abergele angen buddsoddiad arwyddocaol. Mewn perthynas â chostau glanhau mwd a adawyd ar y ffordd, sy’n eu gadael mewn cyflwr peryglus, gellid anfon y bil ar y sawl sy’n ei achosi os na fyddant yn gwneud y gwaith eu hunain. Mewn perthynas â glanhau dail o’r briffordd, byddai’r angen i daro cydbwysedd rhwng diogelwch a gwariant yn arwyddocaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Welch, esboniodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith bod rhaglen ddwy flynedd o welliannau i’r priffyrdd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd yn unol â chyllid Llywodraeth Cymru trwy fenter benthyca llywodraeth leol. Nododd y Cyd-Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith yr angen i fod yn ofalus wrth gynhyrchu rhaglen waith ddrafft. Pwysleisiodd yr angen i gydbwyso’r gallu i gyflawni yn erbyn lefel disgwyliadau, a sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cyflawni yn unol â’r adnoddau a oedd ar gael.

 

Atebodd y Rheolwr Adran – Rheoli Rhwydwaith bryderon a godwyd gan y Cynghorydd C.H. Williams ac esboniodd y byddai gwaith sgwrio ar bontydd, na wnaed yn yr haf oherwydd lefelau dŵr uchel, yn digwydd yr haf nesaf os byddai lefelau dŵr yn caniatáu. Amlinellwyd manylion y rhaglen o wagio gwlïau i’r Aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd feysydd pryderon a materion a godwyd gan yr Aelodau a oedd yn cynnwys:-

 

-                                              Clirio mwd a adawyd ar briffyrdd, yn enwedig ger mynedfeydd i ffermydd a chaeau.

-                                              Cynllun i wneud y gwaith ar y pontydd y flwyddyn nesaf.

-                                              Cynhyrchu rhaglen waith ddwy flynedd, gydag amlinelliad o’r cefndir a’r hanes i’w chyflwyno i Grwpiau Aelodau Ardal.

-                                              Rheoli disgwyliadau ynglŷn â’r rhaglen gwaith cynnal a chadw ar y ffyrdd, gan gynnwys cyfathrebu, yn enwedig mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Adran: Cludiant Traffig at Atodiad 1 yr adroddiad ac esbonio bod Cynllun Cludiant Rhanbarthol TAITH Gogledd Cymru yn fecanwaith ar gyfer adnabod, datblygu a chyflawni cynlluniau seilwaith cludiant mawrion. Roedd yn cynnwys chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru gyda Sir Ddinbych yn cael ei chynrychioli gan yr Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

Roedd amcanion polisi a blaenoriaethau’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol yn alinio ag amcanion Strategaeth Cludiant Cymru. Yn gysylltiedig â’r Cynllun oedd cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cael ei alw’n Grant Consortia Cludiant Rhanbarthol (RTCG).  Roedd TAITH yn casglu bidiau ar gyfer RTCG gan awdurdodau fel rhan o broses bidio flynyddol, ynghyd â bidiau ar gyfer prosiectau Rhanbarthol. Byddai pob prosiect a dderbyniai RTCG yn cael eu cynnwys yn rhaglen y Cynllun Cludiant Rhanbarthol a byddai pob un yn cael ei asesu’n annibynnol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag amcanion a blaenoriaerhau polisi cludiant yr RTP. Ni fyddai prosiectau nad oeddynt yn cwrdd â’r polisïau cludiant yn cael eu cynnwys yn y rhaglen. Byddai rhyw £4.5 miliwn o RTCG ar gael ar gyfer rhanbarth TAITH fesul blwyddym, er y gallai hyn ostwng i lai na £4.0 miliwn yn y ddwy flynedd nesaf. Roedd manylion prosiectau Sir Ddinbych a ariannwyd o’r RTCG mewn blynyddoedd diweddar wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod enghreifftiau lle’r oedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau ffordd liniaru. Dim ond 18 mis o’r rhaglen 5 mlynedd bresennol a oedd ar ôl a byddai angen paratoi ar gyfer y rhaglen 5 mlynedd nesaf a fyddai’n cychwyn yn 2014. Amlinellwyd manylion y broses o ymgynghori ag Aelodau.

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod TAITH yn darparu ffynhonnell ariannu bwysig i’r Cyngor ac y byddai hyn yn dod yn fwy cyffredin wrth i waith rhanbarthol gynyddu. Pwysleiswyd pwysigrwydd sicrhau bod y mwyaf yn cael ei wneud ohoni. Byddai unrhyw brosiectau a ariannwyd gan y Grant Consortia Cludiant Rhanbarthol yn destun methodoleg rheoli prosiect cadarn i sicrhau bod unrhyw risgiau a oedd yn gysylltiedig â prhosiect unigol yn cael eu rheoli’n briodol.

 

Rhoddodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i'r materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

- amlinellwyd manylion cyllid cyfalaf, cynnal a chadw a chostau llwybrau beicio gan y Rheolwr Adran: Cludiant Traffig.

- Nad oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer Ffordd Dinbych Isaf o Lanelwy i Ddinbych. Fodd bynnag, gofynnid am farn Aelodau trwy’r broses ymgynghori mewn perthynas â’r paratoadau ar gyfer y cynllun 5 mlynedd i ddod.

- Esboniwyd mai’r bwriad oedd ymestyn Llwybr Beicio Dyffryn Clwyd trwodd i Ruthun, a fyddai’n darparu cysylltiad â Gogledd a De Parc Busnes Colomendy.

- Cafwyd trafodaeth gyda Chyfarwyddwyr Strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn perthynas â chlirio tywod o’r llwybr beicio ar ochr Conwy y datblygiad Harbwr. Cadarnhawyd bod ystyriaeth wedi ei roddi i ddarparu sgriniau ac roedd trafodaethau ar y gweill mewn perthynas â hyn. Cytunwyd cyflwyno adroddiad cynnydd ar y mater hwn.

- Mewn perthynas â’r Eisteddfod i’w chynnal yn Ninbych, cadarnhawyd bod cyfarfodydd cyswllt y Grŵp Strategol, gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid yn cadeirio, wedi eu cynnal i ystyried trefniadau mynediad. Sefydlwyd Is-grwpiau a oedd yn cynnwys Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch a oedd yn delio â meysydd yn ymwneud â Chynllunio ar gyfer Argyfwng a threfniadau Cynllun Traffig.

 

Ar ôl trafodaeth bellach, fe:-

 

BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn cydnabod:-

 

(a)                                      Cynnwys yr adroddiad ac Atodiad 1.

(b)                                      Y cynnydd hyd yma ac yn cadarnhau’r strategaeth ar gyfer symud ymlaen.

(c)                                       Cyfranogiad y Cyngor yn natblygiad y seilwaith strategol, a

(d)                                      Problemau a meysydd pryder a godwyd gan yr Aelodau ac yn cytuno’r camau a amlygwyd.

 

 

Dogfennau ategol: