Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD AR YMGYNGHORI YNGHYLCH Y DDOGFEN CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL SAFLE TREFTADAETH Y BYD
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Polisi Cynllunio (copi’n
amgaeëdig) ar yr Ymgynghoriad ar Ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol Safle
Treftadaeth y Byd.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad
gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio, ynghylch yr
ymgynghoriad ar y ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd,
â phapurau’r cyfarfod.
Cyflwynwyd crynodeb manwl o’r adroddiad gan yr Aelodau Arweiniol
Twristiaeth, Hamdden ac Ieuenctid, y Cynghorydd H.L. Jones, ac esboniodd bod
Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol, â’r nod
o esbonio polisïau yn y Cynllun Datblygu Unedol yn fanylach. Roedd Nodyn
Canllawiau Cynllunio Atodol Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn ceisio ehangu ar
bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd, petai’r cynllun yn cael ei ystyried yn
un ‘cadarn’ gan yr Arolygiaeth Gynllunio a’i fabwysiadu’n ffurfiol yn lle’r
Cynllun Datblygu Unedol.
Gofynnwyd am
benderfyniad ar fabwysiadu’r Canllawiau
Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd er mwyn galluogi ei ddefnyddio fel
ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Byddai’r Canllawiau Cynllunio Atodol
Safle Treftadaeth y Byd yn cynorthwyo’r cyhoedd,
datblygwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, Cynghorwyr a swyddogion i ddeall y
goblygiadau ynghlwm â datblygu yn ardal Safle
Treftadaeth y Byd a’r ‘llain glustogi’ amgylchynol.
Esboniodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y penderfynwyd ar Safle Treftadaeth
y Byd a’r Llain Glustogi, a’u dynodi yn ddiweddarach, yn 2009 ac na ellid ei
newid. Ers 2009 roedd yr effaith y byddai datblygiad yn ei gael ar Safle
Treftadaeth y Byd a’r Llain Glustogi wedi bod yn ystyriaeth berthnasol wrth
benderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid oedd wedi effeithio ar y datblygiadau y
gellid eu gwneud heb yr angen am ganiatâd cynllunio, na chyflwyno’r angen am
Ddatganiadau Mynediad a Dylunio a oedd yn ofyniad cenedlaethol a gyflwynwyd yn 2009.
Dyfarnwyd statws
Safle Treftadaeth y Byd i Ddyfrbont a Chamlas Pontcysyllte gan UNESCO (United
Nations Educational Scientific and Cultural Organisation) ym mis Mehefin 2009,
yn dilyn cydnabod ei Werth Cyffredinol Eithriadol arwyddocaol i’r ddynoliaeth gyfan. Sefydlwyd
y ‘Llain Glustogi’ i ddiffinio’r ardal amgylcheddol sy’n cyfrannu at ‘Werth Cyffredinol Eithriadol’ y safle.
Mewn ymateb i
sylwadau gan y Cynghorydd T.R. Hughes am arwyddocâd Dyfrbont
Pontcysyllte i’r Canllawiau
Cynllunio Atodol, pwysleiswyd bod y cais wedi’i
ehangu i gynnwys y Gamlas a Rhaeadr y Bedol (Horseshoe Falls) i gynnwys eu
cyfraniad i’r Dyfrbont.
Cadarnhawyd bod y
Canllawiau Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd wedi eu paratoi ar y cyd
rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Swydd Amwythig.
Amcan yr Awdudodau Cynllunio Lleol sy’n gyfrifol am
ddiogelu’r Safle Treftadaeth
oedd rheoli datblygu mewn modd cadarnhaol, a oedd yn cefnogi’r weledigaeth a amlinellir yn
y Cynllun Rheoli.
Cytunwyd ar gynnwys
y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a’r cwmpas a’r bwriad i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis Awst 2011. Rhoddwyd crynodeb o’r materion yn y 10 ymateb a
dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori, a gynhaliwyd rhwng 26 Medi a 16
Rhagfyr 2011, yn yr adroddiad. Roedd ymatebion ymgynghori manwl wedi eu crynhoi
a’u cynnwys yn Atodiad 1, ac
roedd y rhain hefyd yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw newidiadau dilynol i’r Canllawiau Cynllunio Atodol.
Mewn ymateb i awgrym gan Gyngor Tref Llangollen, lluniwyd rhestr wirio
anffurfiol Safle Treftadaeth y Byd i ymgeiswyr, ac roedd copi yn Atodiad 2.
Cynhwyswyd crynodeb o’r prif newidiadau i’r ddogfen yn yr adroddiad,
ynghyd â chopi terfynol o’r Canllawiau Cynllunio Atodol
yn Atodiad 3.
Mynegodd Aelodau
ward Llangollen bod Safle Treftadaeth y Byd a’r
llain glustogi gysylltiedig yn cyflwyno a chreu cyfyngiadau cynllunio a
datblygu nad oeddynt yn weithredol mewn rhannau eraill o’r sir. Hefyd teimlwyd y byddai’n amharu ar ddatblygiad
economaidd yr ardal leol a’r gymuned, a allai
atal buddsoddi ac yn ei dro leihau’r cyfleoedd
cyflogaeth yn Nyffryn Dyfrdwy. Esboniodd
y Swyddog Polisi Cynllunio na fyddai’r Canllawiau
Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd yn cyflwyno unrhyw ofynion newydd,
ceisio atal na gwahardd yr egwyddor o ddatblygu yn yr ardal, ond byddai’n ceisio cynyddu ansawdd y
datblygiad a chyfoethogi’r ardal. Mynegodd y
Cynghorydd S.A. Davies bryder am y meini prawf aelodaeth ar Gyd-bwyllgor
Cynghori’r Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol.
Heb Ganllawiau Cynllunio Atodol Safle Treftadaeth y Byd wedi’u
mabwysiadu byddai potensial i ddatblygwyr ac ymgeiswyr gamddeall y gofynion ar
gyfer ceisiadau cynllunio yn yr ardal berthnasol. Byddai hyn yn arwain at y
Cyngor yn methu o ran ei gyfrifoldeb i ddarparu’r ddogfen sy’n ofynnol gan
UNESCO, a’r ymrwymiadau y mae wedi ymrwymo iddynt eisoes yn y Cynllun Rheoli
Safle Treftadaeth y Byd.
Dywedodd y Rheolwr Polisi
Cynllunio y byddai’r Grŵp Llywio sy’n cynnwys swyddogion sy’n gyfrifol am
oruchwylio Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd ar hyn o bryd yn cael ei
adolygu a chadarnhaodd y byddai cynnwys Aelodau yn y Grŵp
yn hanfodol bwysig. Roedd yr Aelodau o blaid hyn a chytunwyd y dylai’r
Grŵp Llywio gynnwys Aelod etholedig o bob un o’r Awdurdodau perthnasol.
Mewn ymateb i gwestiwn oddi
wrth y Cynghorydd M.Ll. Davies, rhoddwyd cadarnhad yr ymgynghorwyd â Fforymau
Mynediad Lleol Sir Ddinbych a Wrecsam fel rhan o’r broses datblygu’r
polisi.
Tynnodd y Cynghorydd M.L. Holland
sylw at yr angen i wella’r amserlen o ran y broses gynllunio gyda’r nod o
wella’r rhagolygon cyflogaeth. Eglurodd y Swyddog Polisi Cynllunio bod
Llywodraeth Cymru yn adolygu’r broses gynllunio ar hyn o bryd trwy annog
trafodaeth cyn cyflwyno cais, ac adolygu Pennod 7 Polisi Cynllunio Cymru er
mwyn sicrhau bod manteision economaidd ceisiadau cynllunio’n cael eu hystyried
yn llawn.
Yn dilyn rhagor o drafodaeth:-
(a)
PENDERFYNWYD –
(b)
(a) bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio
Atodol Safle Treftadaeth y Byd yn ffurfiol, i’w defnyddio i hysbysu penderfynu
ar geisiadau cynllunio, a
(b) dylai’r Grŵp Llywio sy’n goruchwylio Cynllun
Rheoli Safle Treftadaeth y Byd gynnwys Aelod etholedig o bob un o’r Awdurdodau
perthnasol.
Dogfennau ategol:
- WHS SPG Rep, Eitem 8. PDF 149 KB
- WHS SPG App 1, Eitem 8. PDF 94 KB
- WHS SPG App 2, Eitem 8. PDF 52 KB
- WHS SPG App 3, Eitem 8. PDF 5 MB