Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

FFRWD WAITH TWRISTIAETH A’R LLAIN ARFORDIROL

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig), sy’n amlinellu cynnydd o ran gweithredu’r Ffrwd Waith, gan gynnwys unrhyw lithriant yn erbyn yr amserlen a’r gyllideb, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision.

                                                                                                           11.55 a.m.

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, a oedd yn rhoi diweddariad ar weithredu’r Ffrwd Waith Twristiaeth a'r Llain Arfordirol yn Strategaeth Adfywio’r Rhyl yn Symud Ymlaen, y goblygiadau ariannol a’r cynnydd neu’r rhagolygon o ran gwireddu manteision, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd y Llain Arfordirol o Harbwr Foryd i Splash Point wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau twristiaeth yn y Rhyl ers amser. Yr agwedd oedd adeiladu ar enw’r Rhyl fel cyrchfan i’r teulu ac amlinellwyd manylion cynigion i’r dyfodol a ffocws byrdymor ar gyfer y Pwyllgor. Roedd cynnydd ar y ffrwd waith yn cael ei fonitro gan Fwrdd Rhaglen Cymdogaethau a Lleoedd y Rhyl yn Symud Ymlaen.

 

Cyfeiriwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau cysylltiedig at y prosiectau allweddol a oedd yn rhan o’r ffrwd waith hon, sef:

·        Ailwampio Sinema Apollo.

·        Gwaith Gwarchod y Glannau yn y Rhyl.

·        Harbwr Foryd a’r Bont – a oedd yn cynnwys pont i gerddwyr a beicwyr, sgwâr cyhoeddus, adeilad ar y cei a muriau cei newydd.

·        Ailwampio’r Honey Club.

·        Ocean Plaza.

·        Tŵr Awyr y Rhyl.

·        Prosiectau a gweithgareddau eraill.

·        Cynlluniau i’r Dyfodol.

 

Byddai’r ffrwd waith hon yn cyfrannu tuag at y Flaenoriaeth Gorfforaethol newydd arfaethedig, Datblygu’r Economi Lleol a’n Cymunedau, a phrif amcan y rhaglen yw cynyddu nifer ymwelwyr a chreu mwy o gyfleoedd busnes a swyddi yn y sector twristiaeth. Nid oedd gan y ffrwd waith twristiaeth gyllideb benodol, gyda chyllid wedi ei ddyrannu i brosiectau penodol, gan ddefnyddio yn bennaf ffynonellau ariannu allanol, ac roedd y gwaith yn cael ei fonitro yn ôl prosiect. Roedd mewnbwn rheolaidd a chyfraniad tuag at at y cynlluniau adfywio yn cael eu derbyn gan y Gwasanaethau Hamdden, Parth Cyhoeddus, Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor, er mwyn creu economi twrisitaeth cryfach a delio â delwedd negyddol y Rhyl, y byddai angen cydnabod a delio gyda nifer o faterion a risgiau, a amlinellwyd yn yr adroddiad.

           

Cyfeiriwyd at yr adroddiad a gynhwyswyd fel Atodiad 4, a oedd yn rhoi gwybodaeth ar sefyllfa bresennol a dyfodol Tŵr Awyr y Rhyl.  Rhoddodd Rheolwr y Rhaglen grynodeb o’r adroddiad a thrafododd yr Aelodau y 3 prif opsiwn, a oedd yn cynnwys:-

 

Opsiwn 1 – Ailwampio ac adsefydlu fel reid.

Opsiwn 2 – Tynnu i lawr a symud ymaith.

Opsiwn 3 – Cadw’r strwythur ar gyfer defnydd newydd.

 

Roedd strwythur y tŵr yn gadarn a oedd yn rhoi opsiwn i’w gadw. Opsiwn 3, i gadw’r strwythur ar gyfer defnydd newydd, oedd yr Opsiwn a argymhellwyd gan y swyddogion yn y adroddiad, a rhagwelwyd y byddai hyn yn ffurfio sylfaen adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref 2012. Gofynnwyd i Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl nodi pa un o’r opsiynau manwl, neu opsiynau amgen, yr oeddynt hwy yn eu hystyried fel y rhai mwyaf priodol ar gyfer y tŵr. Cyfleodd y Cynghorydd W. Mullen–James y farn a fynegwyd gan Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl, yn ei gyfarfod y noson flaenorol, ac esboniodd bod y Grŵp o blaid Opsiwn 1.

 

Trafodwyd y materion canlynol mewn perthynas ag opsiynau ar gyfer y tŵr i’r dyfodol:-

 

·        Ni ellid cyfiawnhau’r goblygiadau ariannol arfaethedig ar gyfer adfer y tŵr fel reid weithredol ­gan y byddai'n anodd llunio achos busnes o blaid yr opsiwn hwn

·        Dylid ystyried defnyddiau eraill ar gyfer y tŵr a chael opsiynau i gael cytundebau noddi

·        Dylid gofyn am farn trigolion y Rhyl o ran defnyddio’r tŵr yn y dyfodol.

·        Dylid ystyried hysbysebu ar gyfer cyflenwi reid olwyn fawr, o bosibl ger y Marine Lake, fel y lleolir mewn atyniadau eraill a lleoliadau i dwristiaid.

·        Yr angen i ystyried yr opsiynau ehangach mewn perthynas â dyfodol y tŵr a sut byddant yn cael eu cynnwys yng Nghynllun y Rhyl yn Symud Ymlaen.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd rhoi eglurhad mewn perthynas ag agwedd, pwrpas ac amcanion Strategaeth y Rhyl yn Symud Ymlaen, a hefyd rôl Bwrdd y Rhaglen a’i gylch gorchwyl o ran cyfrifoldebau penodol. Cyfeiriodd at yr angen i gysylltu pob prosiect o fewn y cynllun ehangach ac adnabod amcanion cyffredinol o ran amcanion a thargedau a ragwelwyd. Pwysleisiwyd hefyd y byddai brandio’r Rhyl yn bwysig ynghyd â’r angen i feithrin hyder er mwyn annog buddsoddiad sector preifat yn y dref.      

 

Amlinellodd y Cadeirydd yr angen i gael neu ddenu gwesty enwog neu sefydliad tebyg i’r Rhyl. Pwysleisiodd hefyd yr angen i fonitro ac arfarnu datblygiad y prosiectau a sicrhau bod Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen yn cydgysylltu  â’r rhaglen adfywio ehangach ar gyfer Sir Ddinbych.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r farn a fynegwyd gan y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn cael adroddiadau monitro chwarterol ar Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen er mwyn arfarnu cynnydd y Rhaglen. Fe:

 

BENDERFYNWYD:-

 

(a)      Yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad a chydnabod y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r Ffrwd Waith Twristiaeth a’r Llain Arfordirol;

(b)      Cyflwyno adroddiad monitro mewn perthynas â Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen i’r Pwyllgor er mwyn ei alluogi i arfarnu’r cynnydd o ran cyflawni’r Rhaglen;

(c)       Gofyn i’r Cabinet argymell bod cylch gorchwyl Bwrdd Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen yn cael ei ehangu i gynnwys sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud fel rhan o’r Rhaglen i ddenu a chreu cyfleoedd gwaith cynaliadwy gyda sgiliau yn yr ardal;

(d)      Bod yr holl brosiectau yn cysylltu gyda, yn cefnogi ac yn cydfynd â'i gilydd ar agenda adfywio ehangach ar gyfer y Sir ac ardal Gogledd Cymru gyfan, a

(e)      Bod y nodau cyffredinol a’r weledigaaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy’r Rhyl yn cael eu hesbonio a’u cyfleu yn eang.

 

 

Dogfennau ategol: