Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID 2012/13

Ystyried adroddiad ar y cyd gan yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau a’r Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeëdig) yn galluogi i’r Pwyllgor adolygu perfformiad y Cyngor mewn perthynas â’i strategaeth gyllidebol ar gyfer 2012/13 fel y diffinnir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn manylu perfformiad y Cyngor mewn perthynas â’i strategaeth gyllidebol ar gyfer 2012/13.  Roedd y manylion yn yr adroddiad cyllid a gyflwynwyd i’r Cabinet at 17 Gorffennaf a oedd wedi ei gynnwys fel atodiad ac yn dangos y sefyllfa gyllidebol ar ddiwedd Mehefin 2012 a’r arbedion a gyflawnwyd.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn:

 

·        Roedd amcanestyniad cyllidebol refeniw diweddaraf yn dangos sefyllfa gytbwys ar draws yr holl wasanaethau, gan gynnwys ysgolion a chyllidebau corfforaethol

·        Cyflawnwyd £1.312m (38%) o’r arbedion a gytunwyd gyda £2.131m (62%) ar y gweill ar hyn o bryd

·        Tanlinellu amrywiadau allweddol o’r cyllidebau a’r targedau arbed mewn perthynas â gwasanaethau unigol

·        Diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai, a

·        Cadarnhau cymeradwyaeth y Cabinet o argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol, sef y cynllun i adleoli Llyfrgell Prestatyn.

 

Yn ystod adolygiad o wybodaeth ariannol, trafododd y pwyllgor nifer o faterion gyda’r Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, a oedd yn canolbwyntio ar y materion canlynol -

 

·        Pryderon ynglŷn â’r goblygiadau ariannol i’r awdurdod ar ôl cwblhau’r arolwg cyflwr stoc dai a fyddai, mae’n debygg, yn adna­bod rhaglen waith arwyddocaol. Dywedodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau bod y cyngor ar y llwybr iawn i gyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Unwaith y byddai canlyniad yr arolwg cyflwr yn hysbys, gellid ystyried goblygiadau ariannol buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol

 

·        Amlygwyd y gwasanaeth gwerthfawr a oedd yn cael ei ddarparu gan y Canolfannau Integredig Plant, ynghyd â cholli cyllid Cymorth a mynegwyd pryderon ynglŷn â’r pwysau o £40k ar y gyllideb a nodwyd ar gyfer Canolfan y Dderwen y Rhyl, a ddisgrifiwyd fel un hanfodol ar gyfer ymyrraeth gynnar i deuluoedd yn yr ardal. Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau cyllid hirdymor y ddwy ganolfan yn y Rhyl a Dinbych. Soniwyd am bosibilrwydd bid consortia newydd gyda Home Start ar gyfer cyllid grant a gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ar gynnydd yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor. Hysbyswyd yr aelodau bod trafodaeth faith wedi bod ar y Canolfannau Integredig mewn cyfarfod herio gwasanaeth gyda nifer o fodelau ariannu yn cael eu hystyried

 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Joan Butterfield at Brosiect Adfywio Canol y Dref y Rhyl a gofynnodd am esboniad ar fanyleb y prosiect, amserlen a chostau. Cytunwyd bod y Cydgysylltydd Craffu yn ystyried y mater ac yn adrodd yn ôl. Nododd yr aelodau bwysigrwydd monitro cynlluniau o’r fath i sicrhau eu bod yn cael eu hymgymryd yn unol â’r fanyleb ofynnol, mewn amserlen briodol ac o fewn y gyllideb

 

·        Ystyriwyd y cynnydd ar gyn-Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, a hysbyswyd yr aelodau o’r sefyllfa ddiweddaraf. Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddiffyg cyfathrebu ar y mater hwn a ysgogodd drafodaeth yn ystod yr hon y disgrifiodd yr aelodau gyfathrebu fel problem ledled yr awdurdod, gyda chynghorwyr ddim bob amser yn ymwybodol o’r materion a oedd yn effeithio eu wardiau hwy a’r gymuned ehangach. Cytunwyd cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i ystyried sut gellid gwella dulliau cyfathrebu gyda chynghorwyr

 

·        Gofynnwyd am esboniad ar y rhesymeg  tu ôl i’r penderfyniad i adleoli Llyfrgell Prestatyn ac effaith y penderfyniad hwnnw ar ddefnyddwyr gwasanaeth a gwasanaethau llyfrgell eraill yn y sir. Dywedodd y Cynghorydd Gareth Sandilands bod Cyngor Tref Prestatyn wedi mynegi pryderon ynglŷn â pharcio ceir ac iechyd a diogelwch ac wedi awgrymu y dylid lleoli croesfan i gerddwyr ar y safle newydd, Rhoddodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau fwy o wybodaeth gefndir ar y cynllun, a oedd wedi ei ystyried fel yr opsiwn gorau i Brestatyn ac ar ôl cymryd yr holl ffactorau i ystyriaeth. Roedd maes parcio talu ac arddangos dros y ffordd o’r lleoliad newydd. Adroddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ar gamau i foderneiddio gwasanaethau llygfrgell y sir, gan sicrhau nad oedd unrhyw lyfrgell yn cael ei hesgeuluso a bod cynlluniau ariannu priodol yn cael eu sicrhau. Tanlinellodd y Cynghorydd Butterfield ddiffyg unedau cychwyn busnes ac awgrymodd y gellid defnyddio’r hen safle llyfrgell i’r diben hwnnw.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau hefyd faterion mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau ar amrywiol agweddau’r adroddiad. Atebodd gwestiynau ar feysydd gwasanaeth penodol a dywedodd bod y gwasanaethau hynny a nodwyd fel rhai a oedd wedi medru cyflawni arbedion ar ôl her gwasanaeth wedi eu manylu yn Atodiad 2 i’r adroddiad. Roedd Castell Bodelwyddan ac ECTARC yn cael eu rhedeg gan Gwmnïau Hyd Braich (gyda chynrychiolwyr y cyngor ar fwrdd y ddau) ac y byddai’r grantiau a ddarparwyd gan yr awdurdod yn cael eu lleihau.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       cydnabod y sefyllfa ariannol ddiweddaraf o ran cyflawni strategaeth gyllidebol a Chynllun Ariannol Tymor Canol y Cyngor;

 

(b)       rhoi diweddariad ar gynnydd i ddelio â’r pwysau cyllidebol ar Ganolfan Integredig y Dderwen yn y Rhyl i gyfarfod nesaf y pwyllgor;

 

(c)        bod y Cydgysylltydd Craffu yn holi ynglŷn â Phrosiect Adfywio Canol Tref y Rhyl ac yn adrodd yn ôl ar y mater, a

 

(d)       cyfeirio pryderon yr aelodau ynglŷn â diffyg cyfathrebu cyson ac ymgysylltiad â chynghorwyr gan swyddogion i sicrhau eu bod yn gwybod am y materion yn y sir at y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol gyda golwg ar wella cyfathrebu.

 

Dogfennau ategol: