Eitem ar yr agenda
RHAGLEN RHEOLEIDDIO SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU AR GYFER ARCHWILIO PERFFORMIAD 2012-13
Ystyried adroddiad
gan Reolwr y Tîm Gwelliannau Corfforaethol (copi’n amgaeëdig) ar Raglen
Reoleiddio Archwilio Perfformiad 2012/13 ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru.
9.35 a.m. – 10.00 a.m.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan Reolwr y Tîm Gwella Corfforaethol,
ar Raglen Rheoleiddio ar gyfer Archwiliad Perfformiad 2012/13 far gyfer Swyddfa
Archwilio Cymru (SAC) wedi ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Roedd yr adroddiad yn
darparu manylion y gwaith archwilio perfformiad a wnaethpwyd yn Sir Ddinbych
gan SAC yn ystod 2012-13. Fe
amlinellai’r rhaglen rheoleiddio’r gwaith i’w gyflenwi gan ac ar ran yr
Archwilydd Cyffredinol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur), Deddf
Llywodraeth Leol 1999 a rhannau 2 a 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
2004. Roedd yn crynhoi’r gweithgaredd a
gynlluniwyd ar gyfer 2012-13, swyddogaethau a chyfrifoldebau staff perthnasol
SAC a ffioedd am waith archwilio perfformiad yr Archwilydd Cyffredinol.
Roedd y Rhaglen Rheoleiddio
Drafft wedi ei drafod gyda swyddogion perthnasol, yn cynnwys y Pennaeth
Cynllunio Busnes a Pherfformiad a Rheolwr y Tîm Gwella Corfforaethol, cyn
cymeradwyaeth gan y Prif Weithredwr.
Roedd yr allbynnau o’r gwaith archwilio perfformiad yn cynnwys
adroddiadau gan gyrff rheoleiddiol, fel SAC, ac roedd “y risg o adroddiadau
negyddol arwyddocaol gan reolyddion allanol” wedi eu nodi fel risg ar Gofrestr
Risgiau’r Cyngor. Gyda Fframwaith Rheoli
Perfformiad Corfforaethol yn brif reolaeth wedi ei sefydlu i reoli’r risg, fe
nodwyd fod y camau canlynol yn ofynnol i leihau’r risg gweddillol ymhellach:-
·
Datblygu fframwaith mwy ffurfiol ar gyfer cydlynu hunanasesiadau i
gynnal gweithgareddau rheoleiddiol.
·
Gweithredu dull gweithredu newydd i osod targedau, yn ôl cytundeb yr
Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ar gyfer Cynlluniau Gwasanaeth 2012-13.
·
Cyflenwi hyfforddiant rheoli perfformiad ar gyfer Aelodau newydd, yn
cynnwys gosod targedau.
Cyflwynodd Cynrychiolydd SAC (GB) yr adroddiad a
rhoddodd wybodaeth gefndir ar yr Archwiliad Perfformiad ac agweddau ariannol ar
y gwaith a ymgymerwyd gan SAC o ran Sir Ddinbych. Fe amlinellodd y meysydd allweddol i’w nodi a
oedd yn cynnwys:-
-
Darparu Sicrwydd
-
Awgrymiadau ar
gyfer Meysydd i’w Gwella
-
Nodi Arferion Da
-
Gofynion dan
Fesurau Llywodraeth Cymru
Darparwyd
crynodeb manwl o’r Rhaglen Reoleiddiol ar gyfer Archwiliad Perfformiad 2112-13
ac roedd yn cynnwys y prif feysydd canlynol:-
-
Gwaith archwilio perfformiad yn Sir Ddinbych,
dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
-
Yr Asesiad Gwella, yn archwilio’r Cynllun
Corfforaethol.
-
Gwaith arall y bydd yr Archwilydd
Cyffredinol yn ei ddefnyddio i hysbysu ei waith o archwilio perfformiad yn y
Cyngor.
-
Gwaith archwilio ariannol yr Archwilydd
Penodedig.
-
Gwaith rheolyddion perthnasol.
-
Rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o waith
archwilio perfformiad lleol cyrff GIG unigol.
-
Rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o
astudiaethau gwerth am arian.
Roedd
cynigion ar gyfer gwaith lleol eleni wedi eu gosod allan yn Arddangosyn 1 yr
adroddiad ac roedd sylw arbennig wedi ei wahodd i faterion sy’n ymwneud á
Chydweithredu, Digartrefedd ac Adolygiad trefniadau gan y Cyngor i gyflenwi
gwasanaethau a oedd yn effeithlon ac yn cael eu rheoli’n dda.
Darparwyd
crynodeb o’r Atodiadau canlynol gan Gynrychiolydd SAC (GB)
Atodiad 1 -
Gwaith perfformiad Swyddfa Archwilio Cymru a gynlluniwyd ar gyfer
2012/13.
Atodiad
2 -
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau.
Atodiad
3 -
Tîm archwilio perfformiad yr Archwilydd Cyffredinol
Atodiad
4 -
Ffioedd.
Atodiad
5 -
Rhaglen yr Archwilydd Cyffredinol o astudiaethau gwerth-am-arian.
Codwyd
y materion canlynol gan Aelodau’r pwyllgor a darparwyd ymateb:-
O ran Atodiad 1, esboniwyd y
dylai cyflenwad y rhaglen waith flynyddol fod wedi ei gwblhau, yn ddelfrydol,
erbyn Mawrth 31ain. Ond, roedd agweddau
arbennig yn cael eu rheoli gan ddylanwadau allanol lle’r oedd meysydd eraill yn
cael eu rheoli’n statudol.
Nid oedd SAC yn ymwybodol yn
gyfredol o unrhyw Archwiliadau Estyn cynlluniedig.
-
Cyfeiriwyd at gyfrifoldeb SAC i archwilio’r Datganiad Cyfrifon Statudol. Esboniwyd ei bod yn bwysig fod y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol yn gwbl ymwybodol o’r ddogfen pecyn gwaith cyflawn a
gyflwynwyd gan SAC.
-
Gellid cyflwyno adroddiad o ran y gwaith a
wnaethpwyd gan SAC ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol i ddibenion gwybodaeth.
Cadarnhawyd y byddai agweddau arbennig ar y gwaith yn rhaglen statudol o
waith a fyddai’n ymddangos yn y flaenraglen waith.
-
Esboniwyd bod y gwaith a wnaethpwyd gan SAC
yn darparu’r Awdurdod a’r trethdalwyr â sicrwydd o ran perfformiad a
threfniadau rheolaeth ariannol.
-
Fe adroddwyd yn Ionawr, 2012 y byddai
cynnydd o ran prosiect y Rhyl yn Symud Ymlaen yn cael ei archwilio ym Medi,
2012.
Mewn ymateb i gwestiwn ar
Astudiaethau Gwella o ran effeithiolrwydd craffu, esboniwyd y byddai’r fformat
sydd i’w ddefnyddio’n cael ei fabwysiadau gan holl Awdurdodau Cymru.
-
Cafodd manylion o ran archwilio gweithio
cydweithredol gyda chyrff allanol, gyda chyfeiriad arbennig at Betsi Cadwaladr,
eu hamlinellu gan ystyried y gwaith i’w sgopio.
Yn
dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r Rhaglen Reoleiddiol, yn
atodol yn Atodiad I.
Dogfennau ategol: