Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2022/21 - CYNIGION TERFYNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi goblygiadau Setliad Llywodraeth Leol a’r cynigion i ddod i gyllideb derfynol ar gyfer 2022/23.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2022/23;

 

(b)       cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, ac yn eu hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2022/23;

 

(c)        argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 2.95% yn y Dreth Gyngor;

 

(ch)     argymell i’r Cyngor bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500mil os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod y Dreth Gyngor yn amserol, a

 

(d)       cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau Setliad drafft Llywodraeth Leol 2022/23 a'r cynigion ar gyfer cyllideb derfynol 2022/23, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb a sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ac ymhelaethodd ar y cynigion i’w hystyried a’r argymhelliad i’r Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y setliad drafft wedi arwain at setliad cadarnhaol o +9.2% (o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 9.4%) a disgwylir y setliad terfynol ar 1 Mawrth 2022. O fewn y ffigur hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am rai cyfrifoldebau newydd, ond nid oedd canlyniadau cyllido eglur ar gyfer pob un ohonyn nhw yn y data, a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Rhoddwyd manylion am bwysau gwerth £17.628m ac roedd y setliad o +9.2% yn cynhyrchu £15.005 miliwn gan adael bwlch cyllido gwerth £2.623m gyda chynigion i gau’r bwlch hwnnw wedi eu nodi yn yr adroddiad a’u hegluro ymhellach yn y cyfarfod.  Cynigiwyd cynnydd o 2.95% yn Nhreth y Cyngor er mwyn cynhyrchu £1.869m o refeniw ychwanegol.  Gan fod y setliad terfynol yn hwyr, argymhellwyd y dylid dirprwyo awdurdod er mwyn galluogi addasiadau arian parod yng nghynigion y gyllideb hyd at £500,000.  Nodwyd bod y setliad drafft hefyd yn cynnwys codiadau setliad cyfartalog dangosol o 3.5% ar gyfer 2023/24 a 2.4% ar gyfer 2024/25. Yn olaf, cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad eang ar broses y gyllideb a chyfranogiad pob grŵp gwleidyddol yn hynny o beth, yn cynnwys cyflwyno’r pwysau/arbedion a ddygwyd ymlaen.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid, er ei fod yn setliad anarferol o uchel, roedd yn cynnwys cyfrifoldebau ychwanegol ac adroddodd am asesiadau ariannu’r elfennau newydd hynny a gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddogion S.151 mewn perthynas â hynny a thybiaethau ariannu dilynol.  O ran cynnydd yn Nhreth y Cyngor, roedd yr arwyddion presennol ar draws Cymru yn amrywio rhwng 2.95% a 4.95%.

                                                    

Gwnaeth y Cabinet drafod cynigion y gyllideb ac fe ganolbwyntiodd y drafodaeth ar y materion canlynol -

 

·        ar gais y Cynghorydd Brian Jones er budd preswylwyr, rhoddodd yr Aelod Arweiniol fanylion am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar broses y gyllideb ac esboniodd yr acronymau a ddefnyddiwyd, gan ddangos cyfranogiad yr holl uwch swyddogion a’r aelodau etholedig yn y broses honno, yn ogystal ag ysgolion ac undebau llafur. 

Rhoddwyd cyfle i’r holl aelodau etholedig roi mewnbwn i’r broses a chynhaliwyd cyfarfodydd ychwanegol gydag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol er mwyn cyflwyno pwysau/arbedion. Cafodd pwysau/arbedion a gyflwynwyd gan y grwpiau gwleidyddol eu trafod yn y gweithdy ar gyllideb y cyngor ym mis Rhagfyr ac estynnwyd gwahoddiad i bob aelod etholedig fynychu’r gweithdy hwnnw.

·        Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley yn falch o nodi y byddai gweithwyr yn sector gofal cymdeithasol y Cyngor a sector gofal cymdeithasol y sector preifat yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol a theimlai bod hyn yn gam cyntaf pwysig. 

Er hyn, er gwaethaf y cynnydd, roedd gwaith ar ôl i’w wneud er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn tâl teg a haeddiannol am y gwaith maen nhw'n ei wneud ac mae yna argyfwng recriwtio difrifol yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol ar hyn o bryd sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar y staff presennol

·        wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mark Young ynghylch gweithredu taliadau’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

Roedd cymunedau’n cydnabod y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwnnw a soniwyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fuan gyda chydweithwyr a phartneriaid er mwyn penderfynu beth fyddai'r ffordd orau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw yn y dyfodol.  Rhoddwyd sicrwydd bod y Cyngor wedi ymwneud â'r gwaith o’r cychwyn cyntaf a'i fod mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â'r gwaith, yn enwedig gan mai Sir Ddinbych a fu’n gyfrifol am gynnal y Tîm Cydweithredu Rhanbarthol a bod y gwaith ar raglen genedlaethol y gweithlu wedi cael ei harwain gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid am yr adroddiad eglur, llawn gwybodaeth.  Roedd hefyd yn croesawu’r ffaith bod setliadau dangosol ar gyfer 2023/24 a 2024/25 wedi eu cynnwys a fyddai'n cynorthwyo wrth gynllunio cyllidebau yn y dyfodol.  Er hyn, roedd yn amlwg y byddai pwysau ar gyllidebau’r dyfodol yn sgil y setliadau dangosol a chredai y byddai codi lefel Treth y Cyngor fel y cynigiwyd ar y cam hwn yn gosod sylfaen gryfach ar gyfer gosod cyllidebau yn y dyfodol wrth symud ymlaen.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau eraill gan rai nad oedd yn aelodau o’r Cabinet fel a ganlyn –

 

·        byddai’r gwahaniaeth yn swm Treth y Cyngor a godir drwy gynyddu’r cynnig o 2.95% i 3.00% yn £29,000 y flwyddyn, 72c yr wythnos ar eiddo Band D.

·        roedd y derminoleg ‘Tâl y Gwasanaeth Tân’ yn gywir gan ei fod yn ardoll yn ôl y gyfraith; mae'r Gwasanaeth Tân yn gosod ei gyllideb ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol dalu eu rhan nhw ohoni

·        ceir darlun cymysg o ran grantiau yn y dyfodol a pheth ansicrwydd ynghylch hynny, yn enwedig o ran grantiau addysg a grantiau cyfalaf, ond byddai’r sefyllfa’n fwy eglur wrth arwain at y flwyddyn ariannol newydd a Chyngor newydd

·        rhoddwyd ystyriaeth i arbedion yn y dyfodol yn ystod rownd olaf cyfarfodydd heriau'r gwasanaeth er mwyn canfod prosiectau mawr lle gellir gwneud arbedion; byddai’r posibilrwydd i werthu asedau’n ffurfio rhan o’r rhaglen ffyrdd newydd o weithio a byddai angen ystyried cyflwr y farchnad hefyd

·        rhoddwyd enghreifftiau ynghylch sut gellid cyfrifo’r swm i’w wario ar gyfrifoldebau newydd, a byddai £5.5m o leiaf yn cael ei ddyrannu ar gyfer yr elfennau hynny yn y setliad cadarnhaol o 9.2%

·        esboniwyd y rhesymau pam nad oedd ffigyrau blynyddoedd i ddod wedi eu cynnwys yn y gyllideb arfaethedig yn ymwneud â gwasanaethau gwastraff, a chafodd ffigurau'r flwyddyn flaenorol eu cynnwys fel pwysau strategol penodol yr ymdriniwyd ag ef ers hynny; byddai ffigurau blynyddoedd i ddod yn cael eu diweddaru gan ystyried y setliad dangosol dros y misoedd nesaf a bydden nhw’n mynd drwy'r prosesau democrataidd arferol.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn -

 

 (a)      nodi effaith Setliad Drafft Llywodraeth Leol 2022/23;

 

 (b)      cefnogi’r cynigion a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac y manylir arnynt yn Adran 4 yr adroddiad, a’u hargymell i’r Cyngor llawn er mwyn llunio’r gyllideb yn derfynol ar gyfer 2022/23;

 

 (c)       argymell i’r Cyngor y cynnydd cyfartalog arfaethedig o 2.95% yn Nhreth y Cyngor; 

 

 (ch)    argymell i’r Cyngor fod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol Cyllid i addasu’r defnydd o arian sydd wedi’i gynnwys yng nghynigion y gyllideb o hyd at £500,000 os oes yna symud rhwng ffigyrau’r setliad drafft a’r setliad terfynol er mwyn gallu gosod Treth y Cyngor yn brydlon, a

 

 (d)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 i’r adroddiad).

 

 

Dogfennau ategol: