Eitem ar yr agenda
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi i ddilyn) yn ymwneud â chynllun cydnabyddiaeth ariannol i Aelodau.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democraidd, a oedd
yn manylu’r opsiynau i ddyrannu Uwch Gyflogau yn unol ag argymhelliad Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/13, wedi ei ddosbarthu gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Yn ei gyfarfod ar 15fed Mai,
2012, ystyriodd y Cyngor adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau a oedd yn
nodi’r darpriaethau yn adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol. Dyrannodd y Cyngor 14 Uwch Gyflog a mynegi dymuniad i ystyried
opsiynau mewn perthynas â sut dylid dyrannu’r 3 Uwch Gyflog posibl arall.
Rhoddodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democraidd grynodeb o’r adroddiad a oedd yn rhoi
manylion:
·
Talu Uwch Gyflogau.
·
Talu Cyflogau Dinesig i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor.
·
Nifer yr Uwch Gyflogau y caiff y Cyngor eu dyrannu wedi eu cyfyngu i 17.
·
Swyddi a bennwyd gan y Panel i’r rhain y gellid dyrannu Uwch Gyflog.
Esboniwyd y caiff y Cyngor, ond
nad oedd yn rhai iddo, ddyrannu 3 Uwch Gyflog arall. Roedd y Cyngor wedi
penderfynu na fyddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn denu
Uwch Gyflog gan fod y Pwyllgor ond yn debygol o gyfarfod unwaith y flwyddyn. Y
swyddi eraill a oedd ar gael ar gyfer Uwch Gyflog oedd Band 3 – Arweinydd yr
Wrthblaid Fwyaf a Band 4 – Arweinwyr Grwpiau gwleidyddol eraill. Atgoffwyd yr
Aelodau bod 4 Grŵp Gwleidyddol ar y Cyngor, a dim ond 3 Uwch Gyflog a
gaiff eu dyrannu.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democraidd grynodeb o’r 4 opsiwn posibl i’w hystyried gan y
Cyngor, a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â’r costau perthnasol
a’r effaith bosibl ar wasanaethau eraill.
Mynegodd y Cynghorydd S A Davies
yr angen i gadw’r lwfansau a chefnogodd yr egwyddor a ymgorfforwyd yn Opsiwn 3,
ac awgrymodd y dylid ystyried opsiynau eraill, megis y posibilrwydd o gynnwys
taliadau i Hyrwyddwyr, ar gyfer y 2 Uwch Gyflog a oedd ar ôl. Rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fanylion y Mesur a oedd yn
gofyn i’r Cyngor weithredu argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol a oedd yn nodi’r uwch gyflogau y gellid eu talu, fel y
nodwyd yn 4.5 yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorwyr C. Hughes
a G.M. Kensler at benodi Arweinwyr Grwpiau i’r Cabinet, yr amserlen ar gyfer
adolygu cydnabyddiaeth ariannol Aelodau mewn perthynas â chydbwysedd
gwleidyddol a monitro perfformiad
Arweinwyr Grwpiau.
Amlygodd y Cynghorydd J.
Thompson-Hill ddau beth y teimlai y dylid eu hystyried, sef elfen cyfiawnhad
dyrannu cyflogau i Arweinwyr Grwpiau ac ystyried sefyllfa lle byddai Arweinydd
Grŵp, sydd hefyd yn Aelod Cabinet, yn hepgor cyflog Aelod Cabinet os yw’n
gadael y swydd. Esboniodd ei fod yn teimlo mai Opsiwn 1 fyddai’r Opsiwn gorau,
a cyfyngu nifer Uwch Gyflogau i 14.
Cefnogodd y Cynghorydd T.R.
Hughes Opsiwn 1 gyda’r awgrym y gellid defnyddio’r arian a arbedwyd i ddarparu
bagiau hel baw cŵn, yn hytrach na darparu hyfforddiant ychwanegol i
Aelodau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Councillor E.W. Williams at y costau a oedd yn
gysylltiedig â delio â phroblem baw cŵn ac awgrymodd bod hyn yn cael ei
ystyried ar wahân.
Esboniwyd gan y Cynghorydd H.H.
Evans mai un o brif broblemau’r Cyngor blaenorol oedd cyfathrebu aneffeithiol
rhwng y grŵp gweithredol a’r Aelodau. Teimlai y byddai penodi Arweinwyr
Grwpiau ar y Cabinet yn rhoi arweiniad gwleidyddol cryfach a gwella
atebolrwydd. Cyfeiriodd at Gyfansoddiad y Cyngor a oedd yn cyfeirio at gyfyngu
taliadau i Arweinwyr Grwpiau gyda llai na 5 Aelod, ac awgrymodd y byddai Opsiwn
3 yn cynorthwyo gyda delio â’r broblem trwy ddarparu datblygiad Aelodau y
gellid ei ddiffinio ar ôl trafodaethau rhwng yr Aelodau perthnasol a’u grwpiau.
Mynegodd y Cynghorydd J. Butterfield hefyd ei chefnogaeth i Opsiwn 3 a
phwysleisiodd bwysigrwydd datblygiad Aelodau.
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd, cynigiwyd Opsiwn 3 gan y Cynghorydd B. Blakeley a’i eilio gan y
Cynghorydd C. Hughes ac o roddi hyn i bleidlais, derbyniwyd Opsiwn 3.
PENDERFYNWYD – bod y Cyngor yn cytuno ag Opsiwn 3, i ddyrannu Uwch Gyflog i Arweinydd
Grŵp yr Wrthblaid fwyaf, a chyfyngu nifer yr Uwch Gyflogau i 15. Gellid
defnyddio’r arian a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â dau Arweinydd
Grŵp ar gyfer Datblygu Aelodau.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.55a.m.
Dogfennau ategol: