Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CLUDIANT CYNALIADWY

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ar Y Ffyrdd (copi ynghlwm) i roi diweddariad am ddatblygiad Cynllun Cludiant Cynaliadwy drafft y Cyngor a gweithgareddau gwaith cysylltiedig.

 

11.50am – 12.20pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones Adroddiad y Cynllun Cludiant Cynaliadwy (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Yn 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol.

 

Yn y Cynllun Corfforaethol cyfredol, mae’r blaenoriaeth Cysylltu Cymunedau wedi’i chynnwys yn y prosiect “Galluogi pobl yn well i deithio i’r gwaith, addysg a gwasanaethau”. Roedd cwmpas y prosiect yn eang iawn, a wnaeth hi’n anodd i nodi ymyriadau penodol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth, er y gwaith ymchwil pellach a wnaed.

 

Yn dilyn trafodaeth yn y Bwrdd Rhaglen Gorfforaethol ym mis Hydref 2020 a Gorffennaf 2021, cafodd ei benderfynu oherwydd materion gyda’r prosiect uchod a’r angen i wneud gostyngiad carbon sy’n ganolog i unrhyw brosiectau sy’n ymwneud â chludiant, yna dylai'r ffocws fod ar ddatblygu Cynllun Cludiant Cynaliadwy.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Mae angen ystyried pobl ag anableddau yn y cynllun hwn.

·         Pwyntiau gwefru Cerbydau Trydanol - cam nesaf ym mis Mawrth/Ebrill 2022 oedd cam 1 ac fe'i gwelwyd fel cyfle i ddysgu, a byddai 30 pwynt gwefru ar gael mewn 8 lleoliad, a fyddai'n cynnydd sylweddol. 

Byddai swyddogion yn edrych ar ddefnydd data i gasglu gwybodaeth yn ymwneud â defnydd y pwyntiau.  Byddai'r dadansoddiad yn helpu i nodi’r cynllunio ar gyfer yr angen yn y dyfodol mewn perthynas â phwyntiau gwefru Cerbydau Trydan.   Roedd modelau darpariaeth gwahanol posib yn y dyfodol hefyd e.e.: os oes rhagor o ddiddordeb gan y sector preifat yn nhermau rhentu'r gofod yn rhywbeth a edrychwyd arno hefyd.  Dywedwyd wrth Aelodau bod Llywodraeth Cymru gyda Trafnidiaeth Cymru hefyd yn edrych ar y rhwydwaith ehangach, felly yn nhermau siwrneiau pell a’r rhwydwaith cefnffyrdd, roedd ganddynt brosiect lle fyddai pwyntiau gwefru wedi’u gosod yn gyson ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.  O ran pwyntiau gwefru mewn eiddo datblygiadau newydd, byddai hynny’n rhywbeth i edrych arno yn y dyfodol, mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Cynllunio.

·         A oedd unrhyw ffigurau i ddangos bod newid i gerbydau trydan yn arbed arian, ac yn well o lawer i'r amgylchedd? 

Cadarnhaodd swyddogion nad oeddent yn ymwybodol o’r ffigurau, gan y byddai’n debygol o fod yn rhy gynnar yn y cynllun i gael y ffigurau.

·         Pan roedd mesurau teithio llesol yn mynd i effeithio ar gymuned, a fyddai sicrwydd gan swyddogion y byddai ymgynghoriad â chymunedau a'u bod yn derbyn gwybodaeth, a byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i Grwpiau Ardal yr Aelodau er trafodaeth.   

Byddai swyddogion yn cadarnhau y byddai Aelodau lleol a Grwpiau Ardal yr Aelodau yn ael eu cynnwys o gamau cynnar.

·         Gellir cychwyn trafodaethau gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad yn y dyfodol mewn perthynas ag archwilio’r posibilrwydd o gael pwyntiau gwefru mewn meysydd parcio sy’n cael eu rheoli ganddynt. 

Serch hynny, gallai natur wledig y lleoliadau hyn fod yn rhwystr i gael argaeledd pŵer digonol ar gyfer pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan.

·         Cafodd ei bwysleisio bod Teithio Llesol a Chynaliadwy yn ymgorffori pob dull cludiant, nid ceir yn unig, ac yn ceisio datrysiadau teithio integredig h.y. cerdded, beicio, bysus, trenau a cheir.

·         Roedd cynllunio ar gyfer datrysiadau teithio cynaliadwy yn parhau i fod yn ei gamau dechreuol. 

Roedd yn bwysig bod cynlluniau teithio cynaliadwy lleol, yn cysylltu gyda chynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol.  Roedd cludiant yn swyddogaeth ar gyfer sefydlu Cyd-Bwyllgor Corfforedig er mwyn sicrhau datrysiadau y gellir eu cyflawni. Byddai datrysiadau posib yn cael eu harchwilio yn ystod y blynyddoedd i ddod.

 

Penderfynodd y Pwyllgor -

 

PENDERFYNWYD:

(i)   Cefnogi nodau ac amcanion y Cynllun Cludiant Cynaliadwy yn amodol ar y sylwadau ac arsylwadau uchod ar gynnwys y Cynllun drafft Cludiant Cynaliadwy; a

(ii)  wrth gefnogi’r Cynllun, cadarnhau ei fod wedi darllen, deall a chymryd yr Asesiad o’r Effaith ar Les i ystyriaeth yn Atodiad A fel rhan o'i benderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: