Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN CORFFORAETHOL, CHWARTER 2, 2021 I 2022

Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) i dderbyn diweddariad am gyflawniad y Cynllun Corfforaethol yn 2021 i 2022 fel yr oedd ar ddiwedd chwarter 2 (mis Gorffennaf i fis Medi 2021).

 

            10.10am – 10.40am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad Diweddariad ar y Cynllun Corfforaethol. Chwarter 2, 2021-2022 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Darparu gwybodaeth am gynnydd y Cyngor ar ddiwedd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021), 2021 i 2022 mewn perthynas â chyflawni canlyniadau’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Roedd adrodd yn ôl yn rheolaidd yn un o ofynion monitro hanfodol y Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd i wella. Roedd adroddiadau perfformiad chwarterol yn cael eu rhannu â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA), y Cabinet a'r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn rheolaidd.

 

Ar ddiwedd cyfnod y Cynllun Corfforaethol, roedd disgwyl i’r mwyafrif helaeth o beth y gobeithiwyd y byddai’n cael ei ddarparu, gael ei wneud yn llwyddiannus. Rhedodd rhai o’r prosiectau drosodd oherwydd effaith covid, ond byddant yn cael eu darparu. Roedd yn gynllun uchelgeisiol.  Byddai gwersi’n cael eu dysgu, ac roedd aelodau arweiniol a swyddogion yn dechrau edrych ymlaen at sut beth fyddai cynllun corfforaethol newydd i gyngor newydd.

 

Roedd dau fesur, Cysylltu Cymunedau a Phobl Ifanc, yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer eu gwella, oherwydd y bu dibyniaeth ar bartïon eraill.

 

Yn nhermau prosiectau eraill, roedd pob un o statws da neu uwch.  Roedd y Bwrdd Cynllun Corfforaethol yn parhau i fonitro darpariaeth y Cynllun wrth symud ymlaen, a’r trosglwyddiad i’r Cynllun Corfforaethol newydd.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad, Iolo McGregor, drosolwg cryno o’r Cynllun.  Cyflwynodd yr adroddiad perfformiad blynyddol diwethaf a ddaethpwyd gerbron y Pwyllgor Craffu elfennau newydd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a wnaeth yr adroddiad cyfredol llawer mwy cynhwysfawr.

 

Yn ystod trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cadarnhawyd bod cofrestr ULlMaD yn bryder a allai ei graffu. 

Roedd Addysg a Phobl Ifanc yn bryder hefyd gan fod Craffu eisoes wedi derbyn adroddiadau gan yr Adran Addysg.

·         Gofynnwyd am eglurhad o ran Dementia, ac a oedd staff wedi’u hyfforddi i arsylwi unrhyw broblemau sydd gan breswylwyr a sut byddant yn eu hadrodd. 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, y byddai’n rhoi'r newyddion diweddaraf i aelodau.

·         Cadarnhawyd na fyddai 150 eiddo gwledig yn gallu cael mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn, a bod gwaith yn parhau gyda’r Swyddog Digidol a BT Openreach i ddatrys y broblem. 

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau ar y cyd rhwng Cadw a Llywodraeth Cymru (LlC) i gyflogi ail Swyddog Digidol.

·         Roedd Tai Fforddiadwy i’w gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol newydd i asesu'r holl faterion ynghylch y gwahaniaeth mewn cyflogau ledled y sir.

·         Risgiau'r Prosiect – y Gymraeg neu ddiwylliant Cymru, a yw’r rhain wedi cael eu hystyried fel risg oherwydd covid? 

Eglurodd y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad os y bu dirywiad i’r Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd covid, yna byddai hynny’n fater ar gyfer y Gofrestr Risgiau Cymunedol a fyddai’n cael ei fonitro gan Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.  Eglurodd bod y gwaith wedi cael ei gynnal i ddiweddaru Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych, ac roedd adrannau a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar ddiwylliant a threftadaeth, ac y byddai’n ymgynghori gyda’i gydweithiwr i sicrhau a oedd effaith covid ar y Gymraeg wedi’i adlewyrchu yno.

·         Gofynnwyd a fyddai’r siwrnai at fod yn ddi-garbon yn risg. 

Cadarnhawyd ei fod yn risg i’r Cyngor gan ei bod yn raglen waith mawr a chostus iawn, roedd yn raglen waith hir iawn hefyd.  Roedd yn cael ei adlewyrchu ar y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol, a fyddai’n cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor fel yr eitem nesaf ar y Rhaglen.

 

Penderfynodd y Pwyllgor -

 

I dderbyn a chadarnhau cynnwys yr adroddiad, yn amodol ar yr arsylwadau uchod, ac ar ôl ystyried yr adroddiad, ac unrhyw gamau gweithredu pellach a oedd angen ymateb i faterion yn ymwneud â pherfformiad a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: