Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGORAU CRAFFU
Ystyried adroddiad
gan y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu / Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) i’r Cyngor
ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2011/12.
Cofnodion:
Roedd
copi o’r cyd-adroddiad gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
a’r Cydgysylltydd Craffu, a oedd wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yn unol â
Chyfansoddion Sir Ddinbych, sef adroddiad blynyddol ar eu gweithgareddau yn
ystod 2011/12, wedi ei gyflwyno gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Esboniodd y Cydgysylltydd Craffu y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn
cynorthwyo gyda chyflwyno gwaith y Pwyllgorau Craffu a’r rôl i’r holl Aelodau
etholedig. Roedd yr adroddiad yn cynnwys canlyniadau’r ymarfer hunanwerthuso a
ymgymerwyd i fesur effeithiolrwydd y swyddogaeth graffu. Y llynedd, roedd yr
hunanwerthusiad wedi nodi rhai meysydd lle’r oedd angen gwaith pellach er mwyn
eu cryfhau. Roedd y meysydd hyn wedi eu gwerthuso eto mewn perthynas â
darganfyddiadau ymarfer eleni ac roedd y casgliad wedi ei gynnwys ar dudalennau
6 a 7 yr Adroddiad Blynyddol.
Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi mynegi
pryderon ynglŷn â phroblem cael cworwm yng nghyfarfodydd Pwyllgorau
Craffu. Tra nad oedd tystiolaeth bod hyn wedi amharu ar effeithiolrwydd craffu,
teimlwyd bod posibilirwydd y byddai gwaith craffu a’r broses ddemocrataidd yn
cael eu tanseilio yn y pen draw. O ganlyniad, roedd y Grŵp wedi argymell
bod cofnod presenoldeb pob Aelod unigol Pwyllgorau Craffu’r Cyngor, ar ddiwedd
blwyddyn ddinesig 2012/13, yn cael ei gofnodi yn yr Adroddiad Blynyddol. Byddai
cofnodion cyfarfod yn nodi ymddiheuriadau a gyflwynwyd, os byddant wedi eu
cyflwyno cyn cynnal y cyfarfod.
Roedd strwythur newydd y Pwyllgorau Craffu wedi ei gyflwyno yn
2011/12 gyda phedwar Pwyllgor Craffu gweithredol yn cael eu disodli gan dri
Phwyllgor thematig. Roedd manylion adolygiad o’r strwythur newydd wedi ei
werthuso a’i gynnwys yn yr Adroddiad. Y casgliad cyffredinol, yn amodol ar
ychydig o fân addasiadau, oedd bod y strwythur newydd yn addas i’w bwrpas.
Roedd manylion y pwerau a’r dyletswyddau newydd i’w rhoi i
Bwyllgorau Craffu Awdurdod Lleol, ar ôl gweithredu darpariaethau Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai
gwybodaeth bellach ar y darpariaethau, a’r opsiynau a gynigir ganddynt, yn cael
ei chyflwyno i’r Aelodau ar ôl cyhoeddi’r canllaw statudol terfynol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd H Ll
Jones at benodi Aelodau newydd i’r Cyngor a phwysigrwydd nodi’r newidiadau a’r
gwaith a wnaed gan y swyddogaeth graffu yn ystod flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd
yr angen i sicrhau bod cworwm yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Craffu a
chadarnhawyd y bydd cofnodion presenoldeb yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad
Blynyddol 2012/13. Roedd pamffled ar waith craffu wedi ei gyhoeddi i ysgogi
diddordeb trigolion yn y gwaith craffu a byddai hyn yn cael ei wneud eto i
grynhoi gwaith craffu 2012/13. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at baragraff 4.8
yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r pwerau a’r dyletswyddau newydd a ddaeth i
ran Pwyllgorau Craffu dan ddarpariaeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ac
Atodiad 7, y Siart Cyfeirio a Rhyngwneb Craffu, a oedd yn amlinellu rôl a
statws craffu o fewn y Cyngor.
Esboniodd y Cynghorydd D I
Smith bod bod yn Aelod o’r Pwyllgor Craffu yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar
agweddau gweithredol y Cyngor Cyfeiriodd at nifer o faterion a ystyriwyd gan y
Pwyllgor Craffu Cymunedau, ac esboniodd ei fod yn falch o’r gwaith a wnaed gan
y Pwyllgor a’r canlyniadau a ddeilliodd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd R L
Feeley at effeithiolrwydd gwaith craffu a oedd wedi ei gymeradwyo gan Adroddiad
Archwilio Estyn, fel y nodwyd ar dudalen 39 yr Adroddiad Blynyddol. Esboniodd
bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi cysylltu Aelodau’n llwyddiannus â heriau
effeithlonrwydd gwasanaeth a oedd wedi cynorthwyo o ran dosbarthu baich gwaith
a chyfrifoldebau.
Diolchodd y Prif Weithredwr
i’r aelodau a’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a’r hunanwerthusiad mewn
perthynas â’r broses graffu a phwysleisiodd y materion canlynol a oedd angen
gwaith a thrafodaeth bellach yn ystod y flwyddyn i ddod yn ei farn ef:-
·
Pwysigrwydd presenoldeb Aelodau yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Craffu
a’r angen i sicrhau pennu amcan bod cworwm i bob cyfarfod bob amser.
·
Ystyried barn Aelodau ar amser a lleoliad cyfarfodydd, gyda chyfeiriad
penodol at y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd gyda’r nos.
·
Cyfathrebu rhwng y Cabinet a
Chraffu a dosbarthu gwybodaeth yn hanfodol i agweddau gweithredol y Cyngor, Y
Cabinet yn cael eitem benodol ar y rhaglen ar gyfer materion a gyfeirir gan
Bwyllgorau Craffu, effeithiolrwydd y broses galw i mewn a chynnwys Arweinwyr
Grwpiau ar y Cabinet i wella atebolrwydd a chyfathrebu.
·
Pwysigrwydd mater craffu personau dynodedig a rhoi’r cyfle i alw i
gyfrif a chraffu’r sectorau cyhoeddus a phreifat.
·
Rôl y Byrddau Rhaglen o ran darparu Aelodau craffu gyda’r cyfle i gymryd
rhan yng ngweithrediadau mewnol yr Awdurdod.
·
Rôl Hyrwyddwyr a’r angen am
ganllawiau pellach a chymorth wrth sicrhau eu bod yn effeithiol. Awgrymodd y
Cynghorydd J. Butterfield bod adroddiadau’n cael eu cyflwyno yn y dyfodol gan
Hyrwyddwyr yn amlinellu'r gwaith a wnaed yn eu rolau unigol.
Mewn ymateb i gyfeiriad y
Cynghorydd C Hughes at y pŵer i gyfethol aelodau nad oeddynt yn aelodau’r
Cyngor fel aelodau Pwyllgorau Craffu Awdurdod Lleol esboniodd y Cynghorwyr R.L.
Feeley a G.M. Kensler y buasent yn croesawu penodi personau gyda gwybodaeth
arbenigol mewn meysydd penodol. Serch hynny, teimlent y dylai’r Awdurdod fod yn
ofalus o ran penodi aelodau cyfetholedig fel aelodau llawn y Pwyllgor a
chyfeiriodd y Cynghorydd Feeley at y broses ddemocrataidd o benodi Aelodau’r
Cyngor. Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Hilditch Roberts at bwysigrwydd adrodd am y
gwaith a wnaed gan y Cyngor a'r angen am well cyfathrebu gyda’r cyhoedd.
Cyfeiriodd nifer o’r Aelodau
at y gwaith canmoladwy a wnaed gan Hyrwyddwyr a rhoddodd nifer o’r Hyrwyddwyr
fanylion y gwaith a wnânt yn eu rolau penodol. Esboniodd y Cadeirydd y dylai’r
gwaith a wnaed gan Hyrwyddwyr gael mwy o gyhoeddusrwydd o fewn y Siambr ac yn
allanol.
Mewn ymateb i bryderon a
fynegwyd gan yr Aelodau mewn perthynas â phresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd,
cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai
manylion cofnodion presenoldeb Aelodau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan ac yn
cael eu monitro gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Fodd bynnag, roedd y
gyfraith yn pennu'r nifer lleiaf o gyfarfodydd yr oedd angen eu mynychu.
Cefnogodd yr Aelodau y farn a
fynegwyd gan y Cynghorydd E W Williams y dylid cyflwyno Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgorau Craffu i’r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yr oedd yr
adroddiad yn ymwneud â hi.
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd, eiliwyd cynnig gan y Cynghorydd M Ll Davies i dderbyn yr Adroddiad
Blynyddol gan y Cynghorydd S A Davies, ac o roddi’r mater i bleidlais,
derbyniwyd y cynnig.
PENDERFYNWYD – bod y
Cyngor yn derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2012/13 ac yn
cydnabod sylwadau'r Aelodau.
Dogfennau ategol:
- Annual Report Report 220512, Eitem 5. PDF 93 KB
- Adroddiad Blynyddol 11-12[3], Eitem 5. PDF 448 KB
- Adroddiad Blynyddol 11-12 Annex 7, Eitem 5. PDF 17 KB