Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIGARTREFEDD - EFFEITHIAU COVID 19 a CHYNLLUNIAU ADFERIAD, STRATEGAETH DDIGARTREFEDD A CHYFRIFIAD Y RHAI SY'N CYSGU AR Y STRYD

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn rhoi diweddariad ar gynnydd y Cynllun Gweithredu Digartrefedd Strategol a gweithrediad cynllun digartrefedd tri cham Llywodraeth Cymru ac i hysbysu aelodau ynghylch y fethodoleg ar gyfer cynnal y cyfrifiad blynyddol o’r rhai sy'n cysgu ar y stryd.

 

10.50 11.25 a.m.

 

 

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.  Bu i’r Aelodau benderfynu:

 

- yn amodol ar y sylwadau uchod i gadarnhau eu bod wedi eu sicrhau fod Tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych yn gweithio i gynllun tri cham Llywodraeth Cymru ‘Canllawiau Cynllunio ar gyfer Digartrefedd a Gwasanaethau Cefnogi yn Ymwneud â Thai’ i fynd i’r afael â materion digartrefedd yn y sir ac yn ei ymateb i bwysau a achoswyd gan bandemig COVID-19.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yr adroddiad ac atodiadau (dosbarthwyd yn flaenorol) i aelodau. Roedd Pennaeth y Gwasanaeth eisiau tynnu sylw at y pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn sgil y newidiadau mewn rheoliadau gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Covid-19. Fe nodwyd bod nifer yr aelwydydd digartref wedi dyblu bron yn sgil y newid i reoliadau Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd cadarnhad i’r aelodau bod cyllid cyfalaf wedi cael ei sicrhau er mwyn lleihau’r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer teuluoedd. Fe nodwyd hefyd bod cyllid refeniw wedi cael ei ddyrannu i gefnogi datblygu’r model newydd o gefnogaeth sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.

Yn sgil y newidiadau mewn rheoliadau, mae angen diwygiad i’r strategaeth digartrefedd. Mae’r newidiadau wedi cael eu cynnwys yn atodiadau’r adroddiad.

Dywedodd y Prif Reolwr - Gwasanaethau Cynnal wrth yr aelodau y gofynnwyd iddynt gyflwyno cynllun adfer (a amlinellwyd yn atodiad yr adroddiad).

Clywodd yr aelodau mai cam 2 canllaw Llywodraeth Cymru oedd wedi bod yn gyrru adferiad y gwasanaeth. Nod cyffredinol yr wybodaeth canllaw oedd dod â diwedd i ddigartrefedd a chyflwyno model ailgartrefu cyflym. Rhoddwyd pwyslais ar ddull corfforaethol gyda nifer o wasanaethau yn cydweithio. 

Pwysleisiodd y Prif Reolwr - Gwasanaethau Cynnal bod y gwaith oedd wedi cael ei wneud yn unol â’r canllaw ar bobl oedd yn cysgu ar y stryd, gyda’r nod na fyddai unrhyw unigolyn yn cysgu ar y stryd. Cadarnhawyd na fyddai cyfrifiad cysgu ar y stryd yn cael ei gynnal eleni. 

 

Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad a’r atodiadau. Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Dim ond rhent ar gyfradd rhent tai lleol roedd y Cynllun Prydlesu Rhentu Preifat yn ei warantu, fe allai hynny fod yn llai na’r rhent masnachol allai fod ar gael. Roedd y niferoedd yn derbyn y cynllun 5 mlynedd yn isel, roedd gwaith yn parhau gyda landlordiaid er mwyn ymgysylltu â swyddogion ac ymuno â’r cynllun. Mae’r galw am lety rhent  yn uchel.

·         Roedd y Peilot ar gyfer Cynllun Prydlesu Rhentu Preifat fod i fynd yn fyw ym mis Chwefror 2020, ond yn sgil Covid-19, cafodd y dyddiad lansio ei ohirio tan fis Gorffennaf 2020.

·         Mae’r gwaith o gydweithio’n agos gyda Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar ailddefnyddio eiddo gwag wedi parhau, gan weithio gyda landlordiaid i ddatblygu eiddo i greu eiddo sy’n cyrraedd safon i alluogi pobl i fyw ynddynt. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus ei bod yn cymryd amser i ailwampio eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir i safon er mwyn i deulu allu byw yn yr eiddo.

·         Roedd cefnogaeth yn parhau i gael ei darparu i unigolyn cyn iddynt ddod yn ddigartref.  Roedd cefnogaeth ar gael ar bob lefel. Sefydlwyd cynllun gan Lywodraeth Cymru o’r enw Tai yn Gyntaf ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn helpu a chynorthwyo unigolion sy’n cysgu ar y stryd. 

·         Yn aml, defnyddio llety gwely a brecwast yw’r unig ddatrysiad sydd ar gael ar gyfer teuluoedd ac unigolion sydd yn ddigartref. Yn aml, caiff ei ddefnyddio fel darpariaeth argyfwng. Fe fydd y Cyngor yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i brynu eiddo y gellir ei ddefnyddio i ddarparu cefnogaeth, i atal teuluoedd a phlant bach rhag symud i leoliadau gwely a brecwast. Roedd y broses o chwilio am eiddo wedi dechrau, ond pwysleisiwyd eu bod yng nghamau cynnar y broses. Byddai angen cael gafael ar eiddo mwy i leoli unigolion sengl, roedd y cyfan yn y camau cynnar ar hyn o bryd. 

 

Diolchodd yr aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad ac roeddynt eisiau diolch i’r tîm am yr holl waith caled yn ystod pandemig Covid-19. Felly:

 

Penderfynwyd: - Yn amodol ar y sylwadau uchod, cadarnhaodd aelodau eu bod wedi cael sicrwydd bod Tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych yn gweithio at gynllun cam tri Llywodraeth Cymru ‘Canllawiau Cynllunio i Wasanaethau Digartrefedd a Chymorth sy’n Gysylltiedig â Thai’ gan fynd i’r afael â materion digartrefedd yn y sir a’i ymateb i bwysau a achoswyd gan bandemig Covid-19.

 

 

Dogfennau ategol: