Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARU CERDDORIAETH MEWN YSGOLION

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant a’r Swyddog Effeithiolrwydd Ysgolion yn delio â chynnydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen cydweithredol o ran datblygu cynigion mewn perthynas â darparu addysg gerddorol mewn ysgolion, neu fel arall gynnig Sir Ddinbych ar gyfer darparu addysg gerddorol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant  (PGYCh) adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) i ddiweddaru’r Aelodau ac i ennill cefnogaeth barhaus i gynnydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen cydweithredol i ddatblygu cynigion mewn perthynas â darparu addysg gerddorol mewn ysgolion, neu fel arall gynigion Sir Ddinbych i ddarparu addysg gerddorol.

 

Amlinellodd PGYCh yr adroddiad ac eglurodd gyd-destun a hanes darparu cyllid ar gyfer cerddoriaeth mewn ysgolion.

 

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater canlynol am y rheswm ei fod yn debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

O ran y cyfle ar gyfer cerddoriaeth i bob myfyriwr, yn hanesyddol, roedd cyllideb ar gael i ysgolion i gael at ddarpariaeth gan Ganolfan Gerdd William Mathias (CGWM).  Roedd pryder wedi’i godi gan rai ysgolion ynghylch sut oedd y cyllid hwnnw wedi’i ddosbarthu.  Roedd cyllid yn cael ei ddirprwyo o fformiwla hy poblogaeth o fewn yr ysgol a chanran y myfyrwyr sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.  Os oedd niferoedd mwy o blant yn gofyn am fynediad at addysg gerddorol, byddai rhaid i naill ai ysgolion neu rieni wneud cyfraniad.  Bu problem oherwydd anghysondebau ynglŷn â thaliadau rhieni.  Teimlid hefyd na ddylai rhai ysgolion fod yn rhoi cymhorthdal o’u cyllideb pan nad oedd ysgolion eraill yn gwneud defnydd o’r cyfleuster hwn.  Oherwydd yr anghysondebau hyn, roedd angen ateb tymor hir cynaliadwy.

 

Roedd myfyrwyr eithriadol o dalentog yn Sir Ddinbych ond roedd angen i fyfyrwyr gael eu cydnabod a’u hannog beth bynnag oedd eu gallu cerddorol.  Roedd cyfradd dderbyn cerddoriaeth yn cael ei monitro ac offerynnau cerdd yn cael eu darparu.  Enghraifft o fuddsoddiad mawr oedd Ysgol Christchurch yn Y Rhyl. Roedd yr ysgol mewn ardal o amddifadedd ond roedd hi’n bwysig annog plant iau i mewn i gerddoriaeth.  Roedd yn holl-bwysig fod y gyllideb yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau bosibl.

 

Hysbysodd Dr Dawn Marjoram, Aelod Cyfetholedig, y Pwyllgor fod cerddoriaeth, mewn perthynas ag ysgolion arbennig, yn cael ei thrin fel therapi.  Fodd bynnag, roedd rhai cyflawniadau nodedig ym maes addysg gerddorol mewn ysgolion arbennig.  Eglurodd PGYCh, o ran annog ysgolion i gyfranogi, nad oedd dim gwahaniaethu rhwng ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig, roedd cydraddoldeb yn cael ei sicrhau.   O ran gwir weithgaredd cwricwlaidd ynglŷn â cherddoriaeth fel therapi, roedd hyn yn fater hollol wahanol.

 

Holodd John Saxon, aelod Cyfetholedig, a oedd unrhyw gymorth i rieni a oedd yn dymuno prynu offerynnau.  Cadarnhaodd PGYCh fod yna gynllun hurio gydag opsiwn i brynu.  Roedd yna bobl a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun yn llwyddiannus.

 

Roedd y contract gyda William Mathias yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn ac roedd yn galluogi’r Cyngor i fonitro ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.  Roedd hefyd yn galluogi’r Cyngor i ddarparu addysg gerddorol trwy gyfrwng y Gymraeg.  Ar hyn o bryd roedd gan Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy gontractau gyda Williams Mathias, tra bod gan Sir y Fflint a Wrecsam eu hatebion eu hunain.  Ar hyn o bryd roeddid yn ceisio ateb ledled Gogledd Cymru a dyma oedd ffocws y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a gadeiriwyd gan Bennaeth Statudol Gwasanaethau Addysg Conwy.  Fe wnaeth y Pwyllgor:

 

BENDERFYNU:

 

(a)               parhau i gefnogi’r gwaith sy’n mynd ymlaen mewn perthynas â datblygu cerddoriaeth o fewn y Sir;

(b)               cefnogi’r cynigion ar gyfer yr adolygiad ehangach o gyllido darpariaeth cerddoriaeth yn Sir Ddinbych; a

(c)               bod canfyddiadau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cerddoriaeth Gogledd Cymru i’w hadrodd i’r Pwyllgor maes o law.

 

Yn y fan hon (10.55am) torrodd y cyfarfod am egwyl lluniaeth.

 

 

 

Dogfennau ategol: