Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SEILWAITH – THEMA ADFER TAI

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau Cwsmeriaid (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio Cynllun Adfer ôl COVID-19 y Cyngor ar gyfer Gwasanaethau’n ymwneud a Thai.

 

10.15am – 10.45am

 

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:- yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)           ei fod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth y gweithgareddau sy’n cael eu dilyn mewn perthynas ag adferiad ‘Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig â Thai’ o’r cyfnod clo cyntaf oherwydd pandemig COVID-19; a

(ii)          wedi gofyn i adroddiad, yn amlinellu effeithiau COVID-19 ar ddigartrefedd yn y sir ynghyd â chynlluniau adfer y Cyngor mewn perthynas â mynd i’r afael â materion digartrefedd, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad ac atodiadau i’r aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan roi gwybodaeth iddynt am y cynllun adfer ar ôl Covid-19 ar gyfer Isadeiledd y Flaenoriaeth Adfer Tai.

Fe dywysodd Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid yr aelodau drwy’r adroddiad a’r themâu adfer. Cyfeiriwyd at y ddau atodiad, y cyntaf oedd thema Adfer Tai oedd wedi’i lunio a’i gytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet ym mis Mai 2020, a’r ail oedd diweddariad am y gwaith a gwblhawyd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid at Atodiad 2 oedd yn dangos y camau gweithredu a gwblhawyd a diweddariad i’r camau gweithredu yn Atodiad 1. 

 

Cafodd yr aelodau gadarnhad fod y gwaith i leihau’r croniad o waith atgyweirio tai nad yw’n waith brys wedi dechrau ym mis Awst. Yn sgil y cyfyngiadau ar ymweliadau yn ystod y cyfnod clo, mae croniad o’r achosion wedi cynyddu. Roedd y gwaith o ganolbwyntio ar y croniad ac ailafael yn y gwaith yn parhau.

 

Clywodd yr aelodau fod penderfyniad dirprwyedig i newid y broses Un Llwybr Mynediad at Dai dros dro wedi cael ei gytuno, gydag adolygiad wedi’i drefnu at ddiwedd mis Hydref. Y nifer diweddaraf o aelwydydd a oedd wedi cael llety oedd 40, ychydig yn uwch na’r hyn oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.       

 

Er bod dyledion rhent wedi cynyddu, dywedodd swyddogion fod proses gyfathrebu gyda phreswylwyr a chynnwys Cyngor Ar Bopeth i gynorthwyo a swyddogion cymorth wedi cael eu darparu. Cafwyd cadarnhad fod Sir Ddinbych, ynghyd â Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda phreswylwyr oedd mewn perygl gyda dyledion rhent.

 

Roedd cyfathrebu gyda thenantiaid wedi bod yn hanfodol i’r cynllun adfer, gyda mwy na 3000 o alwadau ffôn cymorth i denantiaid diamddiffyn. Roedd defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon a chynnig cefnogaeth wedi bod yn werthfawr iawn. Cafwyd cadarnhad fod cynllun peilot wedi cael ei gymeradwyo i agor ystafell gymunedol o fewn Dolwen, Dinbych. 

 

Diolchodd yr aelodau i’r Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid am y cyflwyniad manwl drwy’r adroddiad. Yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor, dyma a wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion:

 

·         Cadarnhau fod gwaith wedi parhau gyda thenantiaid a bod swyddogion yn gweithio’n galed i ddatrys unrhyw faterion sydd gan denantiaid os nad oes modd iddynt symud i lety arall. Cynigiwyd cefnogaeth i denantiaid yn enwedig pan roeddynt yn derbyn cwynion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

  • Cafwyd cadarnhad y bu oedi yn prosesu taliadau gan Gredyd Cynhwysol, ac nid gan y tenant. Roedd y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar Gredyd Cynhwysol ac felly, wedi achosi problemau i breswylwyr. Y dyhead oedd galluogi preswylwyr i ddatblygu sgiliau a chael gwaith.
  • Roedd Aelodau’n cefnogi’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo â thenantiaid diamddiffyn. Teimlwyd bod yr agwedd hon o'r adferiad yn bwysig.
  • Rhoddwyd pwyslais ar nifer y preswylwyr yn y sir nad oes ganddynt fynediad at gyfleusterau ar-lein. Clywodd Aelodau y byddai’n rhaid ystyried a darparu cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau ar-lein.
  • Cafwyd cadarnhad fod gwaith ar wahân wedi cael ei gwblhau i fynd i’r afael â phryderon aelodau ynglŷn â digartrefedd yn yr awdurdod.
  • Pryder nad oes gan breswylwyr hŷn yn y gymuned fynediad at gyfryngau cymdeithasol. Roedd y ffôn wedi bod yn hynod werthfawr i’r preswylwyr yma.
  • Roedd y ffurflen Un Llwybr Mynediad at Dai wedi aros yr un fath.
  • Rhoddodd swyddogion sicrwydd fod contractwyr wedi dangos cardiau adnabod cyn gofyn am ganiatâd i gael mynd mewn i eiddo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion a’r Aelodau Arweiniol am yr adroddiad. Felly:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   ei fod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth y gweithgareddau sy’n cael eu dilyn mewn perthynas ag adferiad ‘Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig â Thai’ o’r cyfnod clo cyntaf oherwydd pandemig COVID-19; a

(ii)  wedi gofyn i adroddiad, yn amlinellu effeithiau COVID-19 ar ddigartrefedd yn y sir ynghyd â chynlluniau adfer y Cyngor mewn perthynas â mynd i’r afael â materion digartrefedd, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos

 

Dogfennau ategol: