Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

BLAENORIAETHAU LLES A COVID-19

Trafod y blaenoriaethau lles gan roi ystyriaeth i Covid-19 ac ystyried a oes angen gwneud newidiadau (copi ynghlwm).

Bydd y Cadeirydd yn arwain yr eitem hon.

 

2.25 p.m - 3.35 p.m.

Cofnodion:

Cyflwynodd Iolo McGregor (CSDd) yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i alluogi aelodau’r BGC i gyrraedd cytundeb ar yr ymrwymiad i’w flaenoriaethau presennol yn sgil pandemig Covid-19 a pha un a oes angen newidiadau.    Cafodd yr Aelodau eu harwain drwy’r adroddiad a’r ddau atodiad gan gynnwys y broses os cytunir ar newidiadau. 

Roedd Sian Williams (Cyfoeth Naturiol Cymru) wedi amlygu’r blaenoriaethau LRS ac Adferiad ar ôl Covid-19, gyda chais i’r BGC edrych ar gyd-nerthu cymunedol a chefnogaeth i gymunedau lleol.  Rhoddodd y Cadeirydd gefndir byr i’r aelodau ar y Bwrdd Adferiad Rhanbarthol (BARh).  Dywedwyd bod y bwrdd yn edrych ar ddull dramatig i faterion a sefyllfaoedd yn dilyn pandemig Covid-19 gan gynnwys edrych ar adferiad a chynllunio posibl ar gyfer ail don o achosion.    Roedd gan y BARh 4 prif faes ffocws oedd yn cynnwys:

1 – Gwaith Tracio, Olrhain a Diogelu;

2 – Adfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

3 – Economi a Thwristiaeth;

4 - Cydnerthu cymunedol

Byddai’r BARh yn gofyn i’r BGC ystyried cyd-nerthu cymunedol ynghyd â’i flaenoriaethau i ychwanegu gwerth i adferiad cymunedol.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad manwl a’r atodiadau. Roeddent yn cydnabod yr anhawster i newid blaenoriaethau.  Roedd yr Aelodau yn cytuno bod y blaenoriaethau BGC presennol yn gywir ac yn parhau’n berthnasol i’r gymuned leol.  Teimlwyd bod elfennau o’r blaenoriaethau presennol hyd yn oed yn fwy pwysig ac yn berthnasol yn yr hinsawdd presennol.    Rhoddwyd pwyslais cryf ar iechyd meddwl o fewn y gymuned. 

 

Roedd Bethan Jones (Cyfarwyddwr Rhanbarth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) yn gwneud awgrym bod angen pwysais gwahanol o fewn y blaenoriaethau, gan gyfeirio’n benodol at allgau digidol, iechyd meddwl ac ymfudiad Roedd Aelodau yn trafod yr awgrymiadau hyn yn fwy manwl.  Nodwyd pwysigrwydd technoleg ac roedd ymgysylltu digidol wedi’i arsylwi yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd aelodau yn mynegi pryderon nad oedd gan bob aelod o’r cyhoedd fynediad i dechnoleg neu’n gallu cysylltu â thechnoleg.    Cyfeiriwyd at faterion yn ymwneud â chymunedau gwledig heb fynediad i TG a thechnoleg.

Pwysleisiwyd yr effaith tymor hir ar iechyd meddwl pobl o bob oed o fewn y gymuned.  Trafodwyd yr effaith ar addysg tymor hir plant ifanc a’r anghenion datblygu a allai godi o’r pandemig. 

Roedd yr aelodau yn trafod y gall y cynnydd mewn pobl yn symud i Ogledd Cymru gynyddu materion fel digartrefedd, cyflogaeth a’r effaith ar breswylwyr lleol. 

Teimlwyd y gall y rhain i gyd ddod o fewn y blaenoriaethau presennol gan y BGC.

 

Roedd y Cadeirydd yn atgoffa’r aelodau am y dair flaenoriaeth bresennol gan y BGC oedd yn cynnwys:

a. Pobl – Cefnogi lles meddyliol da i rai o bob oed b. Cymuned - Rhoi grym i gymunedau Lle – cefnogi cadernid amgylcheddol.

 

Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi anfon llythyr at bob BGC, i ofyn am gyfrannu at y trafodaethau ynglŷn â chynllunio rhanbarthol ar gyfer adferiad mewn ymateb i Covid.

Roedd yr Aelodau yn cytuno bod y tri maes lefel uchel o’r blaenoriaethau presennol yn parhau’n briodol ac yn berthnasol.  Roedd y pwyllgor yn edrych ar bob un o’r dair blaenoriaeth yn unigol ac yn trafod unrhyw newidiadau. 

 

Pobl – roedd yr Aelodau yn cytuno i gynnwys lles meddyliol unigolion yn arbennig edrych ar les meddyliol pobl ifanc, teimlwyd bod gan y BGC rôl i fonitro ac ymchwilio effaith Covid.  Yn yr un modd, teimlwyd bod angen y cydbwysedd cywir o ymchwil i’r effaith ar iechyd meddwl pob oedran o fewn y gymuned.  Teimlwyd y byddai’n bwysig edrych ar hyn ar lefel leol a lefel ranbarthol. 

Roedd yr aelodau yn cytuno i ofyn am ymchwil pellach i’r pedwar prif faes ar gyfer darparu blaenoriaeth Iechyd Meddwl fel y manylwyd yn yr adroddiad blynyddol.  Roedd y Cadeirydd yn cadarnhau bod gwaith wedi’i gomisiynu gan y Grŵp Adferiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol o amgylch lles plant, awgrymwyd i ofyn am ddiweddariad ac adrodd yn ôl i’r BGC yn ddiweddarach.

 

Cymuned – Helen Wilkinson (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych) - crynodeb byr o’r gwaith hyd yma.  Roedd hyn yn cynnwys diweddariad o’r rhaglen ymwybyddiaeth Dementia a ddarperir o bell ar hyn o bryd.  Darparwyd cadarnhad o waith parhaus yn ymwneud â digartrefedd.  Byddai gwaith yn ymwneud â blaenoriaeth cymunedol yn symud ymlaen yn gorfod edrych ar ymrymuso'r gymuned ac ymgysylltu yn arbennig gydag adferiad yr economi leol. 

 

Trafododd yr aelodau a oedd dal angen haen ar gyfer digartrefedd o dan y flaenoriaeth hon. Sylwyd ar gynnydd mawr i gynorthwyo unigolion i gael llety a sylwyd ar ganlyniad cadarnhaol.  Gyda chymorth ariannol, disgwylir cefnogaeth a gwaith pellach i gefnogi unigolion.    Roedd aelodau yn cefnogi’r awgrym i newid yr haen digartrefedd o fewn y flaenoriaeth gymunedol.  Trafodwyd cynnwys allgáu digidol ar gyfer ymrymuso'r gymuned o fewn y flaenoriaeth. Roedd y Rhaglen Ymwybyddiaeth Dementia ac elfennau rhagnodi cymdeithasol o’r flaenoriaeth wedi datblygu’n dda ac roedd gwaith ar y gweill, cytunwyd i barhau â’r ddwy elfen hyn yn y flaenoriaeth. Cytunwyd i newid yr elfen gwaith o amgylch digartrefedd i elfen o amgylch allgáu digidol a symud i’r platfform gwaith digidol.  

 

Lle – clywodd yr aelodau fod llawer o waith wedi’i wneud yn y maes blaenoriaeth hwn yn gweithio’n dda i’r addewidion cymunedol.  Roedd lansio’r addewidion wedi ei ohirio oherwydd y pandemig.  Mynegwyd bod y sefyllfa bresennol yn rhoi cyfle i adfer y gymuned leol.    Roedd yr effaith ar yr amgylchedd o ganlyniad i unigolion yn gweithio gartref wedi darparu allyriadau carbon isel. Sylwyd bod y cyfnod clo lleol wedi galluogi pobl i aros yn lleol ac archwilio’r ardal leol. Roedd aelodau yn cytuno i’r flaenoriaeth hon o’r BGC i barhau a rhoi diweddariad i’r aelodau fel bo’r angen.   

 

PENDERFYNWYD

      I.                Roedd y dair elfen uchel o’r blaenoriaethau BGC yn parhau;

    II.                Gwneud cais i’r grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynglŷn ag effaith ar les pobl ifanc ar ôl Covid;

   III.                I newid elfen blaenoriaeth gymunedol i ddisodli digartrefedd gydag allgau digidol;

  IV.                Parhau â’r elfennau fel y maent o fewn y flaenoriaeth lle, a

   V.                Derbyn fersiwn diwygiedig o’r blaenoriaethau BGC yn y cyfarfod BGC nesaf.

Dogfennau ategol: