Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF. 45/2020/0096/ PF - 64 BRIGHTON ROAD, Y RHYL
Ystyried
cais ar gyfer newid defnydd ac addasiadau i gyn swyddfeydd i ffurfio ysbyty 6
ward, 61 gwely at ddefnydd nyrsio preswyl a gofal iechyd yn 64 Brighton Road, Y
Rhyl,
LL18 3HN (copi wedi’i atodi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais
ar gyfer newid defnydd ac addasiadau i hen swyddfeydd er mwyn ffurfio ysbyty 61
gwely a 6 ward ar gyfer gofal iechyd a nyrsio preswyl yn 64 Brighton
Road, y Rhyl, LL18 3HN.
Hysbysodd swyddogion y pwyllgor bod y swyddogion
cynllunio wedi derbyn sylwadau hwyr mewn ffurf llythyrau gwrthwynebu, gan
drigolion gerllaw. Roedd y pryderon a godwyd yn y llythyrau gwrthwynebu yn
ymwneud â diffyg cyfiawnhad ar gyfer y datblygiad, diffyg cynllun rheoli clir
ac ofnau dros ddiogelwch y safle a throsedd ac anrhefn posibl.
Dywedodd y cadeirydd wrth y pwyllgor nad oedd yr
aelod lleol, y Cynghorydd Barry Mellor yn gallu mynychu’r cyfarfod, fodd bynnag
gofynnwyd i’r cadeirydd godi pwyntiau gyda swyddogion ar ei ran. Holodd pam nad
oedd y ddeiseb ar gyfer y cais blaenorol wedi cael ei grybwyll o fewn yr
adroddiad ar gyfer y datblygiad newydd.
Ymatebodd y swyddogion i’r ymholiad, ac eglurwyd
bod y Pwyllgor yn delio â chais cynllunio newydd. Nid oedd unrhyw ddeiseb wedi
cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais hwn. Roedd y cais cynllunio a wrthodwyd yn
flaenorol yn destun apêl gynllunio a gafodd ei
wrthod. Ystyriwyd y ddeiseb ar amser y cais cynllunio blaenorol ond ni allai'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer cais cynllunio
newydd.
Hysbysodd y Cynghorydd Tony Thomas (aelod lleol)
y pwyllgor fod nifer o drigolion lleol yn meddwl bod y cais yr un fath, a bod y
ddeiseb yn dal i sefyll. Cytunodd yr aelod lleol gyda phryderon trigolion lleol
gan nad oedd cynllun rheoli clir o fewn y cais. Holwyd am orddwysáu
cartrefi gofal yn yr ardal ac os oedd unrhyw gyfatebiaeth gyda chartrefi gofal
gerllaw i asesu eu capasiti. Amlygwyd hefyd os
fyddai’r ysbyty’n cael ei adeiladu, byddai mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda
busnesau lleol gerllaw. Yn olaf, amlygodd yr aelodau lleol nad oedd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi amlygu angen lleol am y
datblygiad.
Cynnig -
Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas i wrthod y cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd
Brian Jones.
Eglurodd y cadeirydd y byddai angen rheswm clir
dros wrthod y cais unwaith y byddai aelodau eraill wedi trafod y cais.
Cytunodd y Cynghorydd Brian Jones gyda sylwadau
a godwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas. Codwyd hefyd bod y cais presennol o
ddiddordeb i nifer o bobl y Rhyl, a fyddai wedi mynychu'r cyfarfod yn Neuadd y
Sir, a dywedodd y byddai well ganddo weld eitemau dadleuol yn cael eu trafod
mewn cyfarfodydd corfforol yn hytrach na chyfarfodydd o bell. Datganwyd hefyd
bod yr un rhesymau dros wrthod yn dal i fod yn gymwys o’r cais diwethaf. Yn
ogystal â hynny, hysbysodd y Cynghorydd Jones, byddai dod a phobl i'r ysbyty o
du hwnt i'r ardal yn cael effaith ar amwynderau lleol, ynghyd â rhai cleifion a
allai fod yn risg i ddiogelwch y trigolion gerllaw.
Amlinellwyd yr ansicrwydd yn dilyn COVID ac os fyddai’r adeilad yn cael unrhyw
ddefnydd yn dilyn y pandemig.
Yn dilyn y pwyntiau a godwyd, ymatebodd y
swyddogion i ddweud bod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol wedi cael ei gynnal,
yn unol â’r ddeddfwriaeth gynllunio. Fodd bynnag,
roedd y swyddogion yn deall pryderon y trigolion lleol. Roedd mwy o fanylion yn
y cais newydd, gan fod yr adolygiadau ac asesiadau priodol wedi cael eu cynnal.
Trafododd yr aelodau’r cais a bod yr adeilad yn
boendod i Heddlu Gogledd Cymru oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bod yr
adeilad gwag yn dod yn risg. Roedd hefyd yn edrych yn hyll yn yr ardal leol.
Roedd rhai aelodau yn cytuno bod y diffyg achos busnes o fewn y cais yn codi
pryderon. Atgoffodd y Cynghorydd Alan James y pwyllgor nad oedd yr achos busnes
yn fater cynllunio ac ni ddylai effeithio ar benderfyniad y pwyllgor. Amlygwyd
hefyd y byddai angen i’r pwyllgor fod yn ofalus gyda’r goblygiadau negyddol
wrth drafod cleifion posibl.
Roedd y swyddogion yn cydnabod ac yn deall y
pryderon a godwyd gan drigolion lleol mewn perthynas â’r
cais. O ran yr achos busnes a defnydd hirdymor yr adeilad, byddai’n newid yr
adeilad swyddfa gwag i ysbyty dosbarth C2. Cafodd yr aelodau hefyd wybod bod
marchnata priodol wedi cael ei gynnal ar y safle, ac nid oedd unrhyw ddiddordeb
arall i’r safle.
Cytunodd y Cynghorydd Mark Young gyda’r sylwadau
a godwyd gan y Cynghorydd Alan James.
Cynnig – Cynigodd
y Cynghorydd Mark Young fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion
y swyddog ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.
Cododd yr aelodau barcio ar y safle ac os fyddai
digon o lefydd ar y safle pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo. Holwyd hefyd
os fyddai llygredd sŵn ychwanegol o’r ysbyty o’i gymharu â’r swyddfeydd pan oeddent ar agor. Datganodd yr aelodau
bod angen sicrhau bod unrhyw orchudd ar yr eiddo yn ddiogel rhag tân.
Ymatebodd y swyddogion drwy hysbysu'r pwyllgor
bod digon o le parcio ar y safle, gan gynnwys staff, ymwelwyr a danfonebau ar y
safle. O ran y llygredd sŵn, byddai posib trefnu danfonebau ar amseroedd
penodol, er mwyn lleihau llygredd sŵn. Byddai adnewyddiad yr adeilad angen
cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.
Atgoffodd y swyddog cyfreithiol bod y pwyllgor
angen rheswm clir dros wrthod cyn symud ymlaen i bleidleisio.
Eglurodd y Cynghorydd Tony Thomas mai’r rheswm
oedd effaith y datblygiad ar drigolion lleol ac amwynderau lleol. Yn olaf,
roedd gorddwysáu cartrefi gofal yn yr ardal.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 9
GWRTHOD – 8
YMATAL – 0
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel
y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.
Daeth y cyfarfod i ben am 10:42am
Dogfennau ategol: