Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 yn ymatal

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20).

·        rhagwelir gorwariant o £7.393m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio unrhyw grant 'colli incwm’ y gellir ei dderbyn)

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith ariannol Coronafeirws a chyllidebau Model darparu Amgen Hamdden

·        arbedion ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol o £4.448m i gael eu nodi a’u cytuno yn cynnwys arbedion corfforaethol sy’n ymwneud ag adolygiad actiwaraidd teirblwydd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% arbedion ysgolion (£0.692m); arbedion gwasanaeth (£1.756m)

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Fe soniodd yr Aelod Arweiniol ragor am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf gan ystyried effaith ariannol Covid-19 ond fe nodwyd fod yr ansicrwydd  sylweddol yn golygu ei bod yn eithriadol o anodd o ran cynllunio ariannol. Wrth dynnu sylw at y gorwariant a ragwelir, gobeithio y byddai’r ffigur yn lleihau dros y flwyddyn yn dilyn cadarnhad o ddyraniadau grant ac wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo lacio ac wrth i nifer o fesurau eraill gael eu hystyried.

 

Pwysleisiodd Pennaeth Cyllid bod y sefyllfa’n parhau i newid yn gyflym. Roedd hyd at £78m wedi cael ei gyhoeddi yn y gyllideb atodol ar gyfer colledion incwm yn Chwarter 1 yn erbyn ‘hawliad ffug’ oedd yn gyfanswm o £68m oedd wedi ei baratoi i'w gyflwyno gan awdurdodau lleol ar draws Cymru (roedd rhaid gosod gostyngiadau mewn gwariant yn erbyn colli incwm yn gostwng swm cyffredinol yr hawliad). Nid oedd cyhoeddiad ffurfiol wedi’i wneud o ran colledion incwm yn Chwarter 2. Fe nodwyd hefyd fod y grant gofal cymdeithasol wedi cael ei ymestyn ffurfiol i fis Mehefin 2020.

 

Trafododd y Cabinet y materion canlynol mewn mwy o fanylder -

 

·         o ran y £78 a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol ar gyfer colledion incwm yn Chwarter 1, mynegodd y Cynghorydd Mark Young ei siom na fyddai’r swm llawn bellach ar gael gan fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhywfaint o’r cyllid at ddibenion eraill. Eglurodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cyllid sut roedd lefel amcangyfrif yr incwm a gollwyd gan awdurdodau lleol wedi cael ei gyfrifo a thynnodd sylw at y newidiadau amrywiol a wnaed i’r cyfrifiadau hynny ers yr amcangyfrifon gwreiddiol oedd wedi arwain at hawliadau ‘ffug’ gostyngedig o tua £68m. Deallir y bydd cyfran o’r £78m yn cael ei ddyrannu at ddibenion adferiad ac roeddynt yn aros am benderfyniad a fyddai hawliad yr awdurdodau lleol am golli incwm yn cael ei dalu’n llawn.

·         cyfeiriodd yr Arweinydd at y gwaith a wnaed a’r pwysau ariannol roedd awdurdodau lleol yn eu hwynebu oedd wedi cael ei gydnabod gan Weinidog Llywodraeth Leol.  

Fe dynnodd sylw hefyd at yr angen am gefnogaeth ariannol briodol i gyflwyno mentrau Llywodraeth Cymru, megis Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ac roedd y mater yma wedi cael ei godi gyda’r Gweinidog drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd.  Rhoddodd y Gweinidog rywfaint o sicrwydd y byddai awdurdodau lleol yn cael eu had-dalu’n llawn am gyflwyno’r mentrau newydd yma.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Barry Mellor ynglŷn â’r broses i arwyddo’r datganiad o gyfrifon, cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r broses arferol yn cael ei dilyn.  Bydd fersiwn ddrafft y datganiad o gyfrifon yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ym mis Gorffennaf yna eto ym mis Medi i roi cymeradwyaeth derfynol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a chytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: