Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 41/2019/0671/PC – TIR I’R DE ORLLEWIN O FFERM TŶ DRAW, FFORDD YR WYDDGRUG, BODFARI, DINBYCH
Ystyried cais ar gyfer newid defnydd o dir amaethyddiaeth i ddefnydd cymysg ar gyfer amaethyddiaeth a chadw ceffylau, cadw stablau ar dir i’r de orllewin o Fferm Tŷ Draw, Ffordd Yr Wyddgrug, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i
newid y defnydd o dir amaeth i ddefnydd cymysg ar gyfer amaethyddiaeth a chadw
ceffylau, cadw stablau ar y tir i’r de-orllewin o Fferm Tŷ Draw, Ffordd yr
Wyddgrug, Bodfari, Dinbych.
Siaradwr Cyhoeddus –
Kerry James (asiant) (O blaid) – cafwyd mwy o fanylion a’r rhesymeg y tu ôl i’r cais i
gadw ceffylau Arab a phwysleisiwyd y byddai’r cyfleusterau ar gyfer defnydd
preifat yn unig a ddim ar gyfer dibenion masnachol. Dywedodd hefyd bod y cais
yn cyd-fynd â'r ystyriaethau cynllunio perthnasol a bod profion a mesurau
polisi wedi eu cynnig i liniaru pryderon a godir, yn arbennig amwynder
gweledol.
Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cynghorydd Christine Marston (Aelod
Lleol) ei phryderon ynglŷn â natur ôl-weithredol y cais a'r mynediad i’r
A451 gan ofyn am sicrwydd bod y cynllun plannu arfaethedig ddim yn rhwystro
gwelededd o fynedfa'r safle. Roedd hi’n
gwerthfawrogi bod swyddogion wedi gweithio’n galed gyda’r ymgeisydd i fynd i’r
afael â'r meysydd oedd yn achosi pryder ac fe groesawodd yr amodau arfaethedig
i fynd i'r afael â'r achosion hynny.
Fodd bynnag roedd y safle mewn lleoliad sensitif o ran gwelededd ac fe
ofynnodd os oedd argymhelliad Cyd-Bwyllgor yr AHNE i blannu coed o amgylch y
bloc stablau a'r ardal storio yn cael ei weithredu fel nad yw’n sefyll allan yn
ormodol. Yn olaf o ystyried pa mor agos ydyw i’r Afon Chwiler a lleoliad yr
ardal risg o lifogydd, fe ofynnodd y Cynghorydd Marston fod amod ychwanegol yn
cael ei gyflwyno i sicrhau bod gan y bloc stablau system ddraenio
cynaliadwy. Roedd y Cynghorydd Mark
Young yn cefnogi’r cais yn gyffredinol ond roedd ganddo bryderon ynglŷn â
natur ôl-weithredol y cais ac fe ofynnodd am eglurhad ynglŷn â'r system
draenio o ystyried y gofynion gwahanol ar gyfer ceffylau ac anifeiliaid fferm
eraill gan nodi fod caniatâd blaenorol wedi bod yn amodol ar newidiadau i’r
system draenio. Gofynnodd am sicrwydd
pellach hefyd ynglŷn â gwahardd rhag defnyddio'r safle ar gyfer dibenion
masnachol.
Ymatebodd y Prif
Swyddog Cynllunio (IW) i’r achosion a godwyd gan gynghori fod -
·
y
system gynllunio wedi’i ganiatáu ar gyfer ceisiadau yn cael ei wneud yn
ôl-weithredol a bod pob cais yn derbyn sylw yn ôl ei rinweddau.
·
amod 4
yn berthnasol i’r gofyniad ar gyfer cynllun tirlunio a phlannu ar y safle i
gael ei wella gan yr awdurdod a byddai swyddogion yn gwneud yn siŵr fod
yna ddim rhwystr o ran gwelededd ar fynedfa'r safle o ganlyniad
·
y
cais am blannu ychwanegol o amgylch y bloc stablau/ ardal storio ei hun yn cael
ei cynnwys fel rhan o gam cynllunio dyluniad gwirioneddol y cynllun a gellir
ychwanegu nodiadau i dynnu sylw'r ymgeisydd at y materion hynny y mae’r
awdurdod yn teimlo sydd angen sylw mewn perthynas i’r cynllun.
·
byddai’n
bosib cynnwys amod ychwanegol mewn perthynas â’r system draenio ar gyfer yr
adeilad stablau a sut i ddelio â’r dŵr wyneb o’r to.
Ystyriwyd hynny'n resymol o ystyried fod yna ddim cyfeiriad ato yn y
cynlluniau a gyflwynwyd.
·
awgrymwyd
amod newydd yn y gwybodaeth atodol hwyr (taflenni glas) i fynd i’r afael â’r
pryderon o gael gwared ar wastraff anifeiliaid gyda threfniadau addas yn eu lle
i storio a chael gwared ar y gwastraff i sicrhau nad oedd unrhyw risg posib o
lygredd i'r Afon Chwiler gerllaw.
·
roedd
geirio amod 3 yn bendant o ran atal hurio stablau ar gyfer defnydd masnachol ar
unrhyw adeg.
Cynnig – roedd y Cynghorydd Christine Marston yn fodlon gyda’r amodau a gyflwynwyd
ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â system draenio addas ar gyfer y bloc
stablau ac ar sail hynny cynigodd y Cynghorydd Marston, gyda'r Cynghorydd Mark
Young yn eilio, bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y
swyddog.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU – 14
GWRTHOD – 0
YMATAL - 0
CYTUNWYD bod CANIATÂD
yn cael ei roi yn unol ag argymhellion y swyddog wedi’i cynnwys yn yr adroddiad
a’r papurau atodol ac yn amodol i unrhyw amod ychwanegol yn gofyn am system
draenio addas ar gyfer y bloc stablau i gael ei gymeradwyo gan yr awdurdod
cynllunio lleol.
Dogfennau ategol:
- ITEM 5 - LAND SW OF TY DRAW FARM, BODFARI, Eitem 5. PDF 95 KB
- ITEM 5 - LAND SW OF TY DRAW FARM, BODFARI APPENDIX, Eitem 5. PDF 567 KB