Eitem ar yr agenda
YSBYTY DINBYCH
Cael cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn amlinellu’r
canlynol:
(i)
y
cynnydd hyd yma mewn perthynas ag ail ddarparu gwasanaethau yn Inffyrmari
Dinbych a chynlluniau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau’r cyfleuster yn y
dyfodol;
(ii)
gweledigaeth
y Bwrdd Iechyd a phartneriaid ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
y dyfodol yn ardal Dinbych
10.10am – 10.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd Bethan
Jones, Cyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) y
cyflwyniad - Ysbyty Dinbych. Hefyd yn bresennol o BIPBC roedd Alison Kemp,
Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol, Gwasanaethau Cymunedol.
Amlygodd y
cyflwyniad sawl maes yn ymwneud ag ysbyty Dinbych, hysbyswyd y pwyllgor fod 17
gwely i gleifion mewnol wedi eu hatal yn ward Lleweni, roedd y gostyngiad hwn
yn golygu fod 23 gwely yn parhau ar agor. Lliniarwyd effaith y gostyngiad mewn
gwelyau drwy leoli cleifion eraill yn Rhuthun a Threffynnon. Byddai ward
Lleweni yn costio tua £10-£12 miliwn i’w hail agor, roedd y ward wag yn cael ei
defnyddio dros dro i gartrefu’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn yr ardal. Y camau
nesaf ar gyfer yr ysbyty oedd prosiect iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd
sector ar y cyd a oedd wedi ei sefydlu a'i ariannu gan gyfalaf y Gronfa Gofal
Integredig. Roedd y tîm wedi drafftio manylion ar gyfer partner i alluogi
astudiaeth ddichonoldeb ar gyfleusterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ninbych.
Byddai’r adolygiad yn cynnwys -
·
Cyfeiriad strategol wedi ei gadarnhau drwy gyd-gynhyrchu
gyda budd-ddeiliaid
·
Dadansoddiad
o’r modelau gofal presennol ac i ragweld yr angen yn y dyfodol
·
Datblygu
modelau lefel uchel
·
Ymgysylltu
ar fodelau gyda budd-ddeiliaid craidd, grwpiau gyda nodweddion a ddiogelir a
grwpiau anodd eu cyrraedd
·
Ymgysylltiad
ehangach gyda'r cyhoedd ar ddewisiadau ar y rhestr fer
·
Astudiaeth
ddichonoldeb a dewisiadau wedi'u pwysoli
Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Holwyd
ynglŷn â cholli’r gwelyau ac a oedd yna welyau ychwanegol ar gael mewn
ysbytai eraill.
Hysbyswyd aelodau fod yna 5 gwely
ychwanegol ar gael yn Rhuthun, sicrhawyd aelodau fod y gwelyau yn cael eu
monitro’n ddyddiol. Nodwyd hefyd mai’r bwriad a’r targed oedd i sicrhau y
byddai iechyd cleifion yn gwella ac y gallant gael eu symud yn ôl i ofal nyrsio
neu eu cartrefi.
·
Codwyd
mater y mesurau ariannol arbennig yr oedd BIPBC wedi ei roi ynddynt ac amlygwyd
pryderon ynglŷn â chydweithredu o ganlyniad i’r trafferthion ariannol o fewn BIPBC.
Hysbyswyd aelodau fod BIPBC yn parhau mewn
mesurau arbennig. Ond y byddai cydweithredu o fudd, gyda’r boblogaeth yn
heneiddio a’r pwysau parhaus, er mwyn sicrhau fod anghenion cleifion yn cael eu
bodloni.
·
Holodd
y pwyllgor ynglŷn â’r terfynau amser oedd yn cael eu dangos yn y
cyflwyniad ac eraill sydd wedi eu dangos yn ymwneud ag Ysbyty Dinbych, roedd y
terfynau amser yn wahanol.
Hefyd amlinellwyd ei bod yn ymddangos nad
yw’r materion a nodwyd o fewn y terfynau amser fel pe baent wedi eu gweithredu.
Ymatebodd swyddogion y byddai’n ymddangos fod y gwaith yn dod yn ei flaen yn
araf, roedd hyn o ganlyniad i’r mesurau arbennig yr oedd BIPBC ynddynt ar hyn o
bryd, fe allai’r gwaith ymddangos fel ei fod yn dod yn ei flaen yn araf ond
byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau.
·
Holodd
y pwyllgor swyddogion o BIPBC a allai gwasanaethau ychwanegol, fel mân
anafiadau, gael eu cynyddu yn Ysbyty Dinbych a fyddai’n lleihau’r pwysau ar
Glan Clwyd.
Dywedwyd wrth y pwyllgor fod yna gynnydd
eisoes wedi bod yn ysbyty Dinbych, roedd cefnogaeth pelydr x wedi ei gynyddu ac
roedd cynlluniau i agor ar y penwythnos yn cael eu trafod.
·
Amlygwyd
effaith carbon BIPBC ac a oedd yna gynlluniau i wneud eu hadeiladau’n fwy
carbon effeithiol.
Hysbyswyd y pwyllgor fod yna gynlluniau i
BIPBC leihau’r effaith o ran carbon gan nifer o wasanaethau.
PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn nodi'r cyflwyniad ar Ysbyty Dinbych.