Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 01/2019/0752 - 8 LÔN NANT, DINBYCH

Ystyried cais i godi estyniad arfaethedig a gwneud addasiadau i annedd (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad ac addasiadau i annedd yn 8 Lôn Nant Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Mr Dyfrig Berry (Yn erbyn) - Yn deall pam fod y cymdogion wedi cyflwyno'r cais, ond yr unig reswm iddo wrthwynebu'r cais yw oherwydd yr effaith ormesol y byddai'r cais yn ei chael ar breifatrwydd yng ngardd ei eiddo. Roedd yr eiddo'n anarferol gan fod ei wedi'i osod mewn triongl rhwng dau eiddo arall, a oedd ymhellach yn ôl na'i gartref, ac felly'r ardd gefn oedd yr unig le â phreifatrwydd, ni fyddai gwrych yn lliniaru unrhyw bryderon preifatrwydd. Dywedwyd bod yr ymgeisydd wedi honni bod ceisiadau tebyg wedi'u caniatáu o'r blaen, ond ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau tebyg eraill. Roedd tri mater cynllunio yn peri pryder, ond nododd swyddogion cynllunio mai'r unig sail dros wrthod oedd natur ormesol y datblygiad arfaethedig.

 

Dywedodd Mr Richard Jones (O blaid) - ei fod yn byw yn 8 Lôn Nant gyda'i deulu, dau o blant a fynychodd ysgolion lleol a bod ganddynt gysylltiad cryf â'r gymuned leol. Nid oedd yr eiddo wedi'i wella ers 30 mlynedd, a byddai'r datblygiad arfaethedig yn dod â'r i safonau modern. Atebwyd mwyafrif y gwrthwynebiadau yn yr adroddiad fel rhai nad oeddent yn berthnasol i'r cais. Yr unig fater oedd heb ei ddatrys, oedd y canfyddiad o fod yn ormesol ar yr eiddo cyfagos. Yn y nodiadau canllaw cynllunio atodol, nodwyd y dylid atal effaith ormesol ar eiddo cyfagos yn enwedig os oedd ffenestr i'r drychiad ochr i'r eiddo cyfagos y mae'r estyniad yn mynd i’w gyfeiriad. Er nad oedd bob amser yn gyraeddadwy, dylid ystyried bwlch un metr rhwng yr estyniad arfaethedig a'r ffin. Hysbyswyd yr aelodau nad oedd yr estyniad arfaethedig yn cynyddu ôl troed yr adeilad presennol, ac nad oedd ffenestri i'r drychiad deheuol, a oedd yn mynd i gyfeiriad 10 Lôn Nant. Hysbyswyd yr aelodau bod 10 a 12 Lôn Nant wedi cael caniatâd cynllunio blaenorol wedi'i gymeradwyo a oedd yn lleihau maint cefn yr ardd a oedd yn ychwanegu at y canfyddiad o gael ei gau i mewn. Dywedwyd y byddai'n annheg pe bai'r cais yn cael ei wrthod pan fo ceisiadau eraill wedi cael eu caniatáu o'r blaen, ac yn dymuno i'r cais gael ei ganiatáu fel y gallai ei deulu barhau i fod yn rhan o'r gymuned leol.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Amlygodd y Cynghorydd Christine Marston a fynychodd yr ymweliad safle natur gymhleth cynllun y safle a oedd yn fwy amlwg na'r manylion yn yr adroddiad, ond roedd y ceisiadau a roddwyd yn flaenorol wedi gwneud yr ardd y tu ôl i 10 Lôn Nant yn llai. Nodwyd hefyd bod y ffenestri y tu ôl i rif 10 yn wydr tywyll, a nodwyd gan ei bod yn amlwg bod tros-edrych yn broblem.

 

Canmolodd y Cynghorydd Mark Young (aelod lleol) y siaradwyr cyhoeddus am siarad ar gais mor anodd, a gofynnodd am eglurder ynghylch a oedd dyfarniad ar fater gormesol yn fater o bolisi neu farn, ac a ellid cynnwys unrhyw amodau ar unrhyw ffenestri ar yr estyniad pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, a fyddai'n cynorthwyo i leddfu unrhyw bryderon. 

 

Dywedodd yr aelodau y dylai'r adroddiad nodi cyngor tref ac nid cyngor cymunedol. Gofynnwyd hefyd a fu asesiad ar yr effaith ar olau ar gyfer eiddo cyfagos. Codwyd ceisiadau hanesyddol ag effaith ormesol na thrafodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a sut roedd angen cysondeb â'r term ar gyfer unrhyw geisiadau yn y dyfodol.

 

Eglurodd swyddogion cynllunio fod dyfarniad ar fater gormesol yn fater o farn yn seiliedig ar gymhwyso canllawiau a oedd yn cynorthwyo i asesu ceisiadau. Nid oedd unrhyw reol gyffredinol ac y byddai angen asesu pob achos yn unigol. Gallai ffenestr yr ystafell wely gefn yn 8 Lôn Nant achosi problemau gyda throsedrych, ond mater o farn eto oedd faint o effaith fyddai'r ffenestr yn ei gael. Gellid cynnwys amodau i'w gwneud yn ofynnol cyflwyno manylion pellach. Awgrymwyd na fyddai unrhyw olau yn cael ei golli'n niweidiol oherwydd y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) nad oedd Cyngor Tref Dinbych wedi codi unrhyw bryder ynghylch y cais, amlinellodd y cynllun corfforaethol y dylai'r cyngor annog teuluoedd ifanc i addasu eu cartrefi i sicrhau y gallant aros yn Sir Ddinbych. Ni fyddai'r estyniad yn cynyddu ôl troed yr adeilad presennol, ac ni fyddai unrhyw ffenestr ar ochr yr estyniad ac roedd y 6 metr i ffwrdd o 10 Lôn Nant.

 

Cynigwyd - Cynigiodd y Cynghorydd Mark Young y dylid caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog gan nad oedd yr estyniad yn cael effaith ormesol ar amwynderau’r cymdogion, a chynigiwyd y dylid gosod amod ar fanylion ffenestr yr ystafell wely i leddfu unrhyw bryderon a godwyd gan breswylwyr. Eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas (Aelod Lleol) y byddai effaith ormesol yn digwydd mewn perthynas â gardd fach yr eiddo cyfagos. Nid oedd y ceisiadau hanesyddol yn uniongyrchol berthnasol, a dylid penderfynu ar geisiadau cynllunio yn ôl eu rhinweddau. Y prif fater gyda'r datblygiad oedd natur cynllun y tai.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU 14

GWRTHOD 4

YMATAL 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar y sail na fyddai'r eiddo'n ormesol ar eiddo cyfagos.

 

 

Dogfennau ategol: