Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

Pleidlais: 8 o blaid, 0 yn erbyn, 0 ymataliad

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol a gytunwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £208.302 miliwn (£198.538 miliwn yn 2019/20);

·        rhagwelir gorwariant o £5.107 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol (nid oedd y gorwariant yn rhagdybio derbyn unrhyw grantiau na hawliadau 'colli incwm’ pellach);

·        tynnwyd sylw at y risgiau a’r rhagdybiaethau presennol sy’n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, ynghyd ag effaith ariannol y coronafeirws a chyllidebau Model Darparu Amgen Hamdden;

·        cytunwyd ar arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gofynnol manwl o £4.448 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol sy’n gysylltiedig ag adolygiad actiwaraidd bob tair blynedd o Gronfa Bensiynau Clwyd (£2m); 1% o arbedion ysgolion (£0.692m); arbedion gwasanaeth (£1.756m);

·        cafwyd diweddariad cyffredinol am y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf mewn manylder, yn enwedig o ran effaith ariannol Covid-19, gan gynnwys y cyllid grant a sicrhawyd hyd yma a’r sefyllfa o ran hawliadau ar gyfer y cyngor.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·        Eglurwyd fod setliad gwell na’r disgwyl gan LlC wedi arwain at i’r Cyngor gymeradwyo gostyngiad yn yr arbedion ysgolion o 2% i 1% ym mis Chwefror 2020, i gydnabod balansau diffyg net ysgolion.

·        Bydd y setliad cyllideb drafft yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, gyda’r setliad terfynol i’w gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o’r hyn y bydd yn ei olygu. 

Oherwydd y cyhoeddiad hwyr, ychydig o newidiadau a ddisgwylir yn y setliad drafft, ac roedd yn debygol y byddai’r cyngor angen gosod cyllideb cyn cyhoeddi’r setliad terfynol.

·        Nid oedd unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud o ran y cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol mewn perthynas â’r cyfnod clo sydd ar ddod yn benodol, a thybiwyd y byddai hawliadau am golli incwm a chostau ychwanegol a ysgwyddwyd o ganlyniad yn cael eu hawlio o’r gronfa £264 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan LlC.

·         Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley y dylai LlC ddarparu cyllid penodol ar gyfer y sector hamdden o ystyried ei fod yn wasanaeth hanfodol o ran iechyd a lles, a’i fod yn parhau i wynebu sefyllfa fasnachu ansicr ac anodd.  

Nodwyd fod yr hawliad am golli incwm mewn perthynas â Hamdden ar gyfer Chwarter 1 wedi cael ei dalu a bod yr hawliad am Chwarter 2 wrthi’n cael ei baratoi, ond roedd ansicrwydd o hyd o ran Chwarteri 3 a 4.  Adroddodd yr Arweinydd ar gyfarfodydd rheolaidd a thrafodaethau cadarnhaol â LlC, a oedd yn ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol, gan gynnwys y gwasanaethau hamdden.  Fodd bynnag, mae’n eithaf posib y bydd y pwysau ariannol cynyddol ar LlC yn risg i lywodraeth leol, yn enwedig o ran setliadau’r dyfodol.

·         Holodd y Cynghorydd Mark Young sut y byddai’r cyngor yn mynd i’r afael â’r diffyg ariannol os nad oedd cyllid ar ddod gan LlC, a cheisiodd sicrwydd fod y cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau a thrigolion o ran ardrethi busnes a threth y cyngor o ystyried yr heriau ariannol cyfredol.  

Adroddodd y Pennaeth Cyllid fod y cyngor wedi bod yn ddoeth gyda’i gronfeydd wrth gefn, gyda chronfeydd wedi’u clustnodi a chronfa liniaru’r gyllideb y gellid ei defnyddio os bydd angen, a bydd unrhyw argymhellion yn hynny o beth yn cael eu dwyn ger bron y Cabinet.  Roedd yn hyderus y byddai’r cyngor yn parhau’n ddiddyled dros y flwyddyn ariannol bresennol, ond roedd pryderon o ran y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt.  Roedd y prif ansicrwydd yn ymwneud â threth y cyngor a gallu LlC i gyllido llywodraeth leol ar y lefel yr hoffent ei weld o ystyried effaith ariannol Covid-19.  O ran adennill treth y cyngor ac ardrethi busnes, rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill sicrwydd y caiff unigolion eu trin mor sensitif ag y bo modd.

·         Diolchodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts i’r Arweinydd am ei ddatganiad i LlC yn galw am wybodaeth frys cyn cyhoeddiad y cyfnod torri'r cylch, gan gynnwys pecyn cymorth ar gyfer busnesau a chynllun ffyrlo, a chredai ei fod wedi cael effaith ar y wybodaeth a rannwyd gan LlC yn eu cyhoeddiad, a’i fod wedi cael ei werthfawrogwyd gan fusnesau. 

Teimlai fod y datganiad yn adlewyrchu sefyllfa Sir Ddinbych go iawn ac roedd yn gobeithio, yn ogystal â chymorth i’r sectorau hynny oedd ar gau yn ystod y cyfnod clo, y byddai cymorth ar gael hefyd i fusnesau hanfodol oedd yn parhau i fasnachu, ond gydag incwm sylweddol is.  Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn fater o bwys a gydnabuwyd gan LlC, a’r gobaith yw y byddent yn gallu ymateb yn ariannol.

·         Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Emrys Wynne mewn perthynas â’r wybodaeth a’r canllawiau oedd ar gael i fusnesau cyn y cyfnod clo, cadarnhaodd y Cynghorydd Mark Young ei fod yn cydweithio â’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gyfathrebu a darparu datganiadau i’r wasg wrth i’r wybodaeth ddod i law.  

Cyfeiriwyd y Cynghorydd Williams hefyd at y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ar wefan LlC, y gellir mynd ati hefyd drwy ddolen ar wefan y cyngor, ac fe’i sicrhawyd fod gwybodaeth yn cael ei rhannu â busnesau a thrigolion wrth iddi ddod i law.  Cydnabuwyd pwysigrwydd gwybodaeth a chanllawiau perthnasol ac amserol, a dyma a ysgogodd ddatganiad yr Arweinydd i LlC cyn cyhoeddiad y cyfnod torri’r cylch.

·         Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, cadarnhawyd fod y dyfarniad cyflog i staff yn 2.5% ar gyfartaledd, gyda chynyddiadau mwy i'r rhai oedd ar y cyflogau isaf, a'r cynnydd i gynghorwyr ychydig dros 1%.  

O ran y Model ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff, cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Jones y byddai’r cerbydau newydd yn rhedeg ar ddiesel, ond y rhoddwyd ystyriaeth i dechnolegau’r dyfodol ar y safle wrth iddynt ddatblygu, e.e. hydrogen.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2020/21 a'r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.

 

 

Dogfennau ategol: