Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       cymeradwyo trosglwyddo arian o’r Cyflawniad Arbedion Wrth Gefn i’r Gwasanaethau Hamdden i osod yn erbyn yr angen i ddyrannu’r arbedion Benthyca Darbodus i’r SC2 yn hytrach na’r oedi i sefydlu’r Model Cyflenwi Amgen.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.  Rhoddodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2019/20 oedd £198.538 miliwn (£194.418m yn 2018/19)

·        roedd amcanestyniad o orwariant o £1.733 miliwn ar gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol

·        nodwyd fod angen arbedion ac arbedion effeithlonrwydd gwerth £5.672 miliwn, gan gynnwys arbedion corfforaethol a nodwyd yn 2018/19 (£0.5 miliwn), arbedion ysgolion gwerth 2% (£1.32 miliwn) ac arbedion yn y gwasanaethau (£3.852 miliwn).

·        Tynnwyd sylw at y risgiau a’r amrywiadau sy’n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol gan gynnwys newidiadau yn dilyn ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac effaith ar y gyllideb yn dilyn trosglwyddo Cludiant Ysgol o'r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a

·        rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif Refeniw Tai a'r Cynllun Cyfalaf Tai

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo cyllid arian parod o’r Gronfa Wrth Gefn i Gyflawni Arbedion i'r Gwasanaethau Hamdden i'w osod yn erbyn yr angen i ddyrannu i'r arbedion Benthyca Darbodus i’r SC2 yn hytrach nag oedi cyn sefydlu’r Model Darparu Amgen (ADM).

 

O ran cefndir eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod yr achos busnes gwreiddiol ar gyfer SC2 wedi’i briodoli ar gymhorthdal sy’n gostwng nes y cyrhaeddir pwynt o adennill costau ym mlwyddyn 5. Dangoswyd colled yn y gyllideb o £378mil yn y flwyddyn gyntaf gyda nifer o ddewisiadau wedi'u nodi i leihau'r golled gan gynnwys oedi Benthyca Darbodus – gwnaed y penderfyniad o ystyried ei fod yn fusnes newydd ac mae’n debyg y byddai amrywiadau.   Ond yn dilyn adolygiad arbedion roedd yn amlwg na fyddai’r cyfanswm arbediad o £850mil yn ymwneud â'r cynnig ADM yn cael ei gyflawni’n llawn ac fel Cyngor penderfynwyd y dylid defnyddio’r dull o oedi’r Benthyca Darbodus i alluogi cyflawni’r arbediad ADM o £850mil fel rhan o broses y gyllideb yn 2019/20, gan leihau’r angen ar gyfer toriadau i wasanaethau eraill.   O ganlyniad cynigiwyd bod £612mil yn cael ei ddefnyddio o’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar gyfer arbedion nas cyflawnir i ddiwallu diffyg cyllid blwyddyn 1 SC2. Er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd yn y dyfodol ar gyfer SC2 roedd y gwasanaeth wedi pwysleisio na fyddai'r sefyllfa yn digwydd eto yn y flwyddyn ariannol nesaf o ystyried y mesurau a roddwyd ar waith.

 

Cydnabu’r Cabinet eu bod fel Cyngor wedi cael gwybod am y risgiau ariannol a’r amrywiadau posibl ar ddechrau cynllun SC2 ac wedi cynllunio mesurau lliniaru er mwyn mynd i’r afael â nhw.   Canmolodd y Cabinet y cyfleuster a oedd yn darparu atyniad cyffrous ac unigryw a chydnabod y buddion ehangach i’r economi ac i fusnesau lleol eraill.   Yn ystod y drafodaeth  ceisiwyd rhagor o eglurder ynglŷn â’r rhesymau dros y cynnydd yn y golled gyllidebol ar gyfer y flwyddyn gyntaf ynghyd â sicrwydd o ran ffigyrau masnachu ariannol y blynyddoedd sydd i ddod a sicrhau llwyddiant hir dymor parhaus y cyfleuster.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill i’r materion a godwyd fel a ganlyn-

 

·         yn seiliedig ar y ffigyrau presennol a’r achos busnes diwygiedig roedd hyder y byddai SC2 yn niwtral o ran costau erbyn blwyddyn 5 – fel atyniad roedd y cyfleuster eisoes yn llwyddiant: roedd niferoedd yr ymwelwyr yn uchel ac fe groesawyd y cyfleuster gyda’r pwll yn gweithredu bron yn llawn yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod masnachu.

·         roedd cyfuniad o ffactorau wedi cyfrannu at y diffyg cyllid gan gynnwys (1) colli cyfnod masnachu'r Pasg ar gyfer y Pad Sblasio y tu allan a'r incwm cysylltiedig a ragwelwyd (2) nad oedd Laser TAG wedi denu'r niferoedd a ragwelwyd ond o ganlyniad i farchnata rhagwelir twf yn y dyfodol a (3) gwariant eilaidd ymwelwyr (bwyd/diod ac ati)  heb gynhyrchu cymaint o incwm a ragwelwyd a disgwylir y bydd yn cynyddu drwy farchnata ychwanegol.

·         gwnaed arbedion o symleiddio’r strwythur staffio a gellir cymryd sicrwydd pellach y byddai’r cyfleuster yn elwa o flwyddyn lawn o effaith arbedion effeithlonrwydd staff a gweithrediad y Pad Sblasio ym mlwyddyn 2, a chynnydd mewn twf gydag incwm wedi'i dargedu o Laser TAG a gwariant eilaidd; byddai arbedion TAW ychwanegol ar gyfer y cwmni ac fe ddylent, gyda'i gilydd, ddiwallu'r diffyg a gynlluniwyd ar gyfer yr ail flwyddyn

·         o ran 2021, byddai arbedion y Cyngor yn deillio o pan fo’r ADM yn dechrau masnachu a derbynnir y gallai elw busnes hamdden amrywio, fel y gallent pe bai'r gwasanaethau hamdden yn parhau i fod yn fewnol, a phe bai pwysau'n codi byddai angen mynd i'r afael â nhw

·         cadarnhawyd y byddai’r Grŵp Buddsoddi Strategol yn adolygu’r achos busnes ar gyfer SC2 ar ddechrau’r flwyddyn newydd

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan rai nad oeddent yn aelodau Cabinet, bu i'r Cynghorydd Thompson-Hill-

 

·         gyfeirio at yr amrywiaeth o ddewisiadau a nodwyd i liniaru diffyg yn y sefyllfa fasnachu yn SC2 ym mlwyddyn 1. Dim ond unwaith y gellir defnyddio’r dull o oedi costau Benthyca Darbodus a gwnaed y penderfyniad i’w ddefnyddio er mwyn galluogi’r arbediad ADM o £850,000 fel rhan o gyllideb 2019/20 a lliniaru toriadau cyllidebol i wasanaethau eraill yn hytrach na'i roi o’r neilltu ar gyfer unrhyw golledion posibl yn SC2, yr argymhelliad oedd trosglwyddo arian parod o'r Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Cyflawni Arbedion at y diben hwnnw

·         o ran effeithlonrwydd staff, roedd yr achos busnes wedi awgrymu strwythur staffio ar gyfer niferoedd a swyddogaethau gofynnol, wrth i'r sefyllfa ddatblygu gosododd y tîm rheoli'r strwythur staffio mwyaf effeithlon ar waith i weithredu'r gwasanaeth ar y gost economaidd gorau gan arwain at arbedion.   

 Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych bod rhywfaint o staff tymhorol yn cael eu cyflogi oherwydd bod gan y cyfleuster dueddiadau tymhorol.   Fodd bynnag roedd staff ar gontract yn cael eu cyflogi ac yn cael eu hadleoli i safleoedd eraill pan nad oeddent yn gweithio yn SC2 yn hytrach na defnyddio staff achlysurol oherwydd roedd yn well buddsoddi yn y staff sydd wedi’u cyflogi yn hytrach na phenodi staff newydd ym mhob tymor.   Collwyd rhai aelodau o staff oherwydd yr ystod o staff a benodwyd am resymau amrywiol - ond roedd yr oriau gweithredu presennol yn ystod y tymor yn unol â'r achos busnes.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at yr adeilad newydd ar gyfer Ysgol Llanfair a gofyn a oedd unrhyw gam gweithredu i adennill y costau gyda’r newidiadau i’r system i ddraenio dŵr budr o ganlyniad i’r cyngor a gafwyd gan Ddŵr Cymru.   Eglurodd y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill a Huw Hilditch-–Roberts bod Dŵr Cymru wedi egluro mai dangosol oedd y cynlluniau ac felly byddai'n annhebygol y gallai'r Cyngor adennill unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i hynny.    Eglurodd yr Arweinydd mai’r flaenoriaeth oedd cwblhau’r gwaith ac yna ailymweld â’r mater a chymryd cyngor cyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2019/20 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo trosglwyddo cyllid arian parod o’r Gronfa Wrth Gefn i Gyflawni Arbedion i'r Gwasanaethau Hamdden i'w osod yn erbyn yr angen i ddyrannu i'r arbedion Benthyca Darbodus i’r SC2 yn hytrach nag oedi cyn sefydlu’r Model Darparu Amgen.

 

 

Dogfennau ategol: