Eitem ar yr agenda
GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC A GWASANAETHAU NIWRO-DDATBLYGIAD
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Llun, 16 Medi 2019 10.00 am (Item 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn Sir Ddinbych, a Gwasanaethau Niwro-Ddatblygiad
11.40am – 12.30pm
Cofnodion:
Roedd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7 (Gwasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad) gan ei fod yn
gweithio i BIPBC.
Roedd y
Cynghorydd Rachel Flynn (arsylwr) yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7
(Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad)
gan fod ei mab wedi'i atgyfeirio ar gyfer niwroddatblygiad gan CAMHS.
Yn bresennol i
gyflwyno’r adroddiad ar lafar ar Wasanaethau Arbenigol Iechyd Meddwl Plant a
Glasoed (CAMHS) a Gwasanaethau Niwroddatblygiad o BIPBC oedd:
Bethan Jones,
Cyfarwyddwr Ardal Canolog
Sue Wynne, Rheolwr Gwasanaeth
Clinigol, Ardal Ganolog, a
Sara Hammond-Rowley, Pennaeth
Seicoleg Plant a Therapïau Seicolegol
Cyflwynodd Bethan
Jones, Cyfarwyddwr Ardal, Canolog y cyflwyniad ac amlinellodd yr amcanion sef:
·
Rhoi
trosolwg o Wasanaethau Arbenigol CAMHS a Niwroddatblygiad i blant a phobl ifanc
yn Sir Ddinbych wedi’i gysylltu â dull rhanbarthol BIPBC;
·
Amlinellu’r
weledigaeth – dull systemau cyfan – ac amlygu gwaith partneriaeth / cydbrosiectau.
Amlinelliad o’r
sylw presennol i iechyd meddwl yn y cyfryngau - y budd a'r canlyniadau posibl
nas fwriadwyd:
Manteision -
Ø
Mwy o
ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd
Ø
Mwy o
ymgyrchu
Ø
Llai
o stigma, a
Ø
Mwy o
bobl yn dod ymlaen i ofyn am gymorth
Canlyniadau
posibl nas fwriadwyd -
Ø
Mwy o
bobl yn gofyn am gymorth ar gyfer trallod ‘arferol’ oedd yn arwain at gynnydd
yn y galw ar gyfer problemau nad oedd bob amser angen cymorth arbenigol
Ø
Gall
y sawl â phroblemau iechyd meddwl sylweddol / salwch meddwl deimlo eu bod yn
cael eu heithrio, roedd rhai yn teimlo bod y ffocws cynyddol ar “les” yn
tanseilio difrifoldeb y problemau iechyd meddwl “gwirioneddol” a gallai yn
anfwriadol leihau mynediad i’r sawl oedd ei angen fwyaf
Ø
Roedd
mwy o wasanaethau yn disgrifio eu hunain yn canolbwyntio ar iechyd meddwl o
bosibl yn arwain at ormod o wasanaethau yn gorgyffwrdd a dryswch.
Roeddent yn
egluro’r gwahaniaeth rhwng Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd.
Prif
swyddogaethau CAMHS oedd:
·
Integreiddio
ü
Timau
Amlddisgyblaethol
ü
Swyddogaethau
·
Un
Pwynt Mynediad
·
Asesiad
a Thriniaeth
·
Argyfwng
·
Gweithio
gyda phartneriaid - Ymyrraeth Gynnar ac Ataliad
Roedd dull system
gyfan nawr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau CAMHS gan y teimlwyd bod
angen canolbwyntio ar bob agwedd o CAMHS i sicrhau fod popeth yn cael ei gymryd
i ystyriaeth. Byddai canolbwyntio’n
benodol ar gyflawni targedau yn gwneud anghymwynas â phlant a phobl ifanc oedd
angen cymorth mewn argyfwng.
Bu heriau yn
ystod y 3 blynedd ddiwethaf o ran recriwtio staff o ganlyniad i’r cynnydd yn y
galw. Roedd hon yn broblem
genedlaethol.
Roedd ymgyrch
recriwtio wedi'i gynnal yn ystod y 12 mis diwethaf a datblygwyd swyddi
hyfforddiant newydd i ddenu gweithwyr proffesiynol i CAMHS. Roedd yr ymgyrch recriwtio hwn wedi bod yn
llwyddiannus gyda 30% ychwanegol o staff yn ymuno â’r tîm oedd yn dechrau yn eu
swyddi ar hyn o bryd. Byddai’r staff
ychwanegol yn galluogi cyrraedd y 4 wythnos ar draws holl amseroedd aros ac
asesiadau arferol. Roedd ymgyrchoedd
recriwtio ychwanegol yn creu diddordeb mewn swyddi a rhagwelir y sefydlir yn
llawn erbyn diwedd Mawrth 2020.
Yn ystod
trafodaeth fanwl, codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Os
oedd yna argyfwng, cadarnhawyd y byddai’r unigolyn yn derbyn cymorth a thriniaeth
ar unwaith ac ni ddisgwylir iddynt aros.
Byddai atgyfeiriadau nad ydynt yn argyfwng yn amodol ar gael eu rhoi ar
restr aros, ond y nod oedd lleihau'r amser yr oedd unigolion yn dreulio ar
restr aros.
·
Ar
gyfer gofal sylfaenol, roedd yna nod i leihau’r rhestrau aros.
Roedd galw ar gynnydd oedd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru.
·
Roedd
gwaith ar y gweill gyda chlwstwr Meddyg Teulu Gogledd Sir Ddinbych i geisio
lleihau’r niferoedd oedd yn cael eu hatgyfeirio i CAMHS Arbenigol drwy
ymyrraeth gynnar yn y pwynt mynediad gofal sylfaenol.
Roedd darparu’r gwasanaeth cywir ar yr amser cywir yn allweddol.
·
Roedd
cynnydd wedi’i wneud o ran hunan-niweidio gan fod darn o waith cadarn wedi’i
wneud o fewn Sir Ddinbych ac roedd yna lawer o gefnogaeth a gwaith wedi’i wneud
i helpu’r bobl ifanc hynny oedd yn hunan-niweidio.
·
Byddai
prosiect rhanbarthol sy’n cael ei arwain gan Sir Ddinbych yn cael ei sefydlu
ond oherwydd cymhlethdod mae’n cymryd amser ac ystyriaeth ofalus.
Byddai’r prosiect yn darparu gwybodaeth ar gyfer datblygiad a phroblemau’r
plentyn a fyddai ar gael i rieni a gofalwyr.
·
Roedd
effaith cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc wedi cynyddu’n sylweddol a
chadarnhawyd bod angen mireinio’r llwybrau.
O ran gofal bugeiliol, roedd gan bob ysgol uwchradd berson cyswllt oedd yn
mynychu pob cyfarfod.
·
Roedd
prosiect Allgymorth CAMHS Sir Ddinbych a Wrecsam yn cael ei werthuso ar hyn o
bryd.
Roedd hon yn gydfenter rhwng CAMHS ac ysgolion yn y ddwy sir.
·
Cadarnhawyd
bod gorbryder yn broblem anferth a gallai achosi iselder.
Gobeithio y byddai’r mater hwn yn derbyn mwy o sylw wrth i fwy o staff gael
eu recriwtio.
·
Roedd
gan y Gwasanaeth Addysg rôl allweddol i’w chware i ddarparu cefnogaeth briodol
i ddisgyblion ysgol, fodd bynnag ni ellir gwneud hynny nes byddai asesiadau
CAMHS wedi eu cwblhau.
·
Roedd
Gwasanaethau Niwroddatblygiad nawr wedi eu gwahanu oddi wrth CAMHS gan y
cydnabyddir nad oedd cyflyrau niwroddatblygiadol yn gyflyrau iechyd meddwl
·
Cadarnhawyd
y byddai’r Gwasanaeth CAMHS yn archwilio’r potensial o ddatblygu dogfen ganllaw
i rieni plant oedd yn aros i gael mynediad i’r gwasanaeth.
Diolchodd y
Pwyllgor i’r cynrychiolwyr o BIPBC am fynychu a rhoi trosolwg o CAMHS.
PENDERFYNWYD yn
amodol ar y sylwadau uchod, i nodi’r cyflwyniad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad.