Eitem ar yr agenda
YSBYTY DINBYCH
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 4 Ebrill 2019 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cynlluniau ar
gyfer darparu gwasanaethau yn Inffyrmari Dinbych yn y dyfodol.
10.10 a.m. – 10.45 a.m.
Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Gyfarwyddwr
Gwasanaethau Clinigol – Therapïau a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau
Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i drafod dyfodol
y gwasanaethau yn Ysbyty Dinbych. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyfarwyddwr Rhanbarth: Canol BIPBC (Bethan Jones).
Wrth roi’r cyflwyniad darparodd Gyfarwyddwr
Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol y Bwrdd Iechyd drosolwg bras o gefndir cau’r
ward yn Ysbyty Dinbych, gan gynnwys gwybodaeth am yr archwiliadau a’r arolygon
tân manwl, a’r canlyniadau a arweiniodd at gomisiynu gwaith i ganfod y costau
a’r raddfa amser ar gyfer gwneud y ward yn addas i’r diben eto. Nododd y gwaith hwn wyth dewis posibl ar gyfer dyfodol y gwasanaethau yn yr
ysbyty. Sef:
·
Ailwampio’r
llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i ddarparu 14 gwely, a fydd yn costio rhwng £10
ac £11 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd
·
Dymchwel
ac ailgodi’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i ddarparu 16 gwely, a fydd yn
costio rhwng £11 ac £12 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd
·
Symud
yr Adran Ffisiotherapi i ran arall o’r ysbyty er mwyn creu 4 bae gwely, a fydd
yn costio rhwng £1.2 ac £1.4 miliwn ac yn cymryd oddeutu dwy flynedd
·
Codi
ward 5 gwely newydd rhwng yr Ystafelloedd MacMillan ac adeilad y clinig, a fydd
yn costio rhwng £1.2 ac £1.3 miliwn ac yn cymryd oddeutu 2 flynedd
·
Codi ward
6 gwely newydd, a fydd yn costio rhwng £4.5 a £5 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3
blynedd
·
Dymchwel
y gegin a’r ward uchod a chreu ward 6 gwely newydd, a fydd yn costio rhwng £3.5
a £4 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd
·
Addasu’r
ystafell wydr wrth ymyl y ward MacMillan yn uned un ystafell wely heb ystafell
ymolchi, a fydd yn costio oddeutu £100,000 ac yn cymryd oddeutu 12 mis
·
Symud
yr ystafell mamolaeth i’r llawr gwaelod, a fydd yn costio rhwng £350,000 a
£400,000 ac yn cymryd oddeutu 12 mis
Mae’r dewisiadau hyn yn destun gwaith pellach.
Os gwneir penderfyniad, yn dilyn dadansoddiad
manwl o’r dewisiadau, i ail-ddarparu’r ward cyfan yna byddai angen cau’r ysbyty
i gyd er mwyn ymgymryd â’r gwaith. I sicrhau bod digon o
wlâu cymunedol yn yr ardal yn ystod cyfnod y gwaith adeiladu, ni fydd modd
cychwyn y gwaith tan y bydd Ysbyty Gogledd Sir Ddinbych wedi agor. Serch hynny, byddai modd ymgymryd â rhywfaint o waith ar y safle yn y
cyfamser. Mae cynghorwyr sir lleol a Chynghrair
Cyfeillion yr Ysbyty yn awyddus i sicrhau nad yw’r ward yn wag yn y cyfamser
oherwydd y byddai hynny yn lledaenu’r neges anghywir o ran dyfodol y safle.
Felly, mae’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir wedi cytuno i leoli aelodau o dîm
Adnoddau Cymunedol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd Ardal Dinbych ar Ward
Lleweni tan y bydd unrhyw waith ailwampio yn barod i’w wneud. Byddai’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn symud i rywle arall cyn i’r gwaith
ddechrau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaethau
Cymunedol bod swyddogion y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â Grŵp Ardal Aelodau
Dinbych yn ddiweddar i drafod dyfodol yr ysbyty. Yn ystod y cyfarfod gofynnodd yr aelodau i’r Bwrdd Iechyd ystyried
dewisiadau ehangach ar gyfer y safle gyda Chyngor Sir Ddinbych a sefydliadau
partner eraill. Ers y cyfarfod hwnnw mae’r Bwrdd iechyd
wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o gyllid y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer
gwaith ymchwil i fapio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer gwasanaethau iechyd, lles
a gofal cymdeithasol integredig yn ardal Dinbych.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaethpwyd y
sylwadau canlynol gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd –
·
Mae
ystyriaeth wedi’i roi, pan gaewyd Ward Lleweni, i'r posibilrwydd o ail-ddarparu
gwlâu ar sail dros dro mewn unedau symudol arbenigol.
Oherwydd
nad oes llawer o le ar y safle, a’r angen i barhau i ddarparu gwasanaethau
eraill yn yr ysbyty, nid yw ail-ddarparu gwlâu mewn unedau symudol yn addas. Os
penderfynir dymchwel ac ailgodi wardiau’r llawr gwaelod a chyntaf, ni fyddai’n
briodol ceisio darparu gwasanaethau cleifion mewnol yr ysbyty mewn unedau
symudol ar safle a fyddai’n safle adeiladu. Yn ogystal, byddai ar
wardiau/cleifion mewnol angen mynediad hawdd at wasanaethau ategol, ond ni
fyddai hynny'n bosibl os ydynt ar safle adeiladu.
·
Byddai
gan y Bwrdd Iechyd fwy o drosoledd i sicrhau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru
ar gyfer datblygu safle Ysbyty Dinbych petai unrhyw brosiect arfaethedig yn
fenter ar y cyd gyda’r awdurdod lleol at ddibenion darparu gwasanaethau iechyd,
gofal cymdeithasol a lles integredig.
Petai’r
cynnig yn golygu ailwampio’r adeilad presennol, yna byddai’r Bwrdd Iechyd yn
llai tebygol o sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ac felly yn gorfod cwrdd â’r
costau yn defnyddio’i gyllideb ei hun. Mae Cyngor Sir Ddinbych a Grŵp Cynefin
yn rhan o’r trafodaethau hyn, gyda’r golwg o ddatblygu gweledigaeth iechyd a
gofal ar gyfer Dinbych fel sail i lunio achos busnes cadarn i ymgeisio am
gyllid Llywodraeth Cymru. Byddai arian grant y Gronfa Gofal Integredig yn helpu
i hwyluso gwaith ymchwil yn ogystal â gwaith gyda’r gymuned ehangach i
benderfynu ar weledigaeth ar gyfer yr ardal a’r cyfleusterau sydd eu hangen i
ddarparu’r weledigaeth honno.
·
Mae’r
Bwrdd Iechyd, hyd yma, wedi sicrhau cyllid grant ar gyfer datblygiadau gofal
iechyd yn y Rhyl, Corwen a Phrestatyn, a'u bod rŵan yn canolbwyntio ar
ardal Dinbych.
·
Yn
dilyn tân Tŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo pob Bwrdd
iechyd i archwilio'r holl gyfleusterau cleifion mewnol sydd ag uchder mwy nag
unllawr.
Yr
archwiliad manwl hwn, yn unol â chyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru, sydd wedi
gwneud ward llawr cyntaf yr ysbyty yn anaddas ar gyfer cleifion – oherwydd y
dull gwagio pan fo argyfwng. Yn unol â gofynion Deddf Tân ac Achub 2005 roedd
gan yr ysbyty gynllun gwagio pan fo tân a oedd yn cynnwys cynllun gwagio
llorweddol ar gyfer ward y llawr cyntaf. Er bod y cynllun hwn, yn y blynyddoedd
diwethaf, wedi’i gefnogi gan bob arolygwr diogelwch tân, arolygwyr y Bwrdd
Iechyd a’r rheiny a gyflogir gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, nid yw'n bodloni
gofynion y canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn
trychineb Tŵr Grenfell. Mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ddarparu ei
wasanaethau mewn adeiladau sy'n cyrraedd safonau diogelwch Llywodraeth Cymru.
·
Yn
sgil yr arolwg cyntaf o’r adeilad, yn ystod haf 2017, gwelwyd bod y diffyg
dulliau ynysu tân ar ward y llawr cyntaf yn risg ac felly bu’n rhaid tynnu 10
gwely (2 fae 5 gwely).
Daeth yr
arolwg hwn i’r casgliad bod yn rhaid i’r 7 gwely sy’n weddill gael eu defnyddio
gan bobl sy’n medru cerdded allan o’r adeilad petai angen ei wagio. Fodd
bynnag, mae arolwg manylach wedi gwneud y gwlâu hyn yn anniogel pan fo tân ac
felly mae’r ward cyfan wedi’i gau ar gyfer cleifion mewnol.
·
Roedd
10 i 12 merch y flwyddyn yn defnyddio gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Dinbych pan
gafodd ei agor.
Mae’r
gwasanaethau sydd ar gael yno yn debyg iawn i’r rheiny a ddarperir i ferched
beichiog sy’n geni gartref. Er y byddai modd ystyried a ddylid parhau â’r
gwasanaeth hwn neu beidio fel rhan o ddatblygiad y safle, mae’n bwysig cofio
bod bwrsari addysgol ar gael i fyfyrwyr sydd wedi’u geni yn yr ysbyty.
·
Maent
awyddus i weithio gyda’r awdurdod lleol, Grŵp Cynefin a 4 meddygfa’r dref
i ddatblygu gweledigaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles gyfannol ar gyfer y
dref gyda gwasanaethau ar gael mewn cyfleuster hygyrch ac yng nghartrefi
preswylwyr er mwyn cefnogi annibyniaeth a gwella gwytnwch.
·
Nid
yw’r ysbyty, er ei fod yn un o’r ysbytai hynaf yng Nghymru, yn adeilad
rhestredig ar hyn o bryd.
·
Mae staff
Stadau’r Gwasanaeth iechyd wedi archwilio nifer o atebion strwythurol posibl i
ailagor y ward i fyny’r grisiau.
Yr unig
ddewis hyfyw yw tynnu llawr pren y ward a gosod llawr concrid. Fodd bynnag,
oherwydd oed a ffabrig yr adeilad mae’n annhebygol y byddai sylfeini presennol
yr adeilad yn ddigon cryf i ddal llawr concrid. O ganlyniad, mae’r cynigion
amlinellol presennol ar gyfer ailwampio’r adeilad yn cynnwys codi ffrâm ddur
fel rhan o’r cynllun buddsoddi cyfalaf.
·
Mae’n
anghenion gofal iechyd cymunedol ardal Dinbych yn wahanol i anghenion gogledd y
sir, gan fod demograffeg yr ardal leol yn wahanol.
Mae preswylwyr
canol y sir yn fwy tebygol o fod â chefnogaeth teulu.
·
Er y
byddai’n rhaid i unrhyw brosiect mawr i ailddatblygu’r safle cyfan ddilyn
gweithdrefn dri cham prosiectau cyfalaf Llywodraeth Cymru, rhagwelir, yn achos
yr ysbyty, na fyddai’r broses hon mor hir â phroses Ysbyty Cymunedol Gogledd
Sir Ddinbych oherwydd bod y weledigaeth ar gyfer Dinbych eisoes yn un
cydweithredol ac y dylai’r gwersi a ddysgwyd yn sgil prosiect Gogledd Sir
Ddinbych helpu datblygiad achos busnes Ysbyty Dinbych.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y
Cyngor bod yr awdurdod lleol yn ymwybodol y byddai mwy o alw yn yr ardal yn y
dyfodol am elfennau o ofal nyrsio yn ogystal â gofal dementia arbenigol –
gartref ac mewn lleoliad preswyl/cartref nyrsio. Felly mae’r Cyngor yn awyddus i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd a phartneriaid
i sicrhau gwasanaethau addas i’r diben ar gyfer preswylwyr. Ar ddiwedd y drafodaeth –
PENDERFYNWYD –
(a) Derbyn yr wybodaeth a’r cyflwyniad ar y gwaith hyd yma o ran dyfodol
darpariaeth gwasanaethau Ysbyty Dinbych;
(b) Cefnogi’r ymdrechion i ddatblygu gweledigaeth iechyd, gofal cymdeithasol a
lles ar gyfer ardal Dinbych; a
(c) Derbyn diweddariadau ar gynnydd y weledigaeth a’r achosion busnes i’w
gwireddu.