Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHYBUDD O GYNNIG

Rhybudd o Gynnig a gyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 “Mae’r Cyngor hwn yn nodi â phryder y cofnod ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn nodi’r canlynol:

 

·         Mae Fforwm Gofal Cymru yn pryderu fod y maes gofal ‘ar drothwy argyfwng’, ac yn rhybuddio y gallai effeithiau hirdymor ymadael a’r Undeb Ewropeaidd greu prinder staff aruthrol;

·         Cyfanswm gwerth yr allforion o Sir Ddinbych a Chonwy yn 2016 oedd £188 miliwn, ac aeth £102 miliwn o hynny - 55% - i'r Undeb Ewropeaidd. 

Cyfanswm gwerth yr allforion o Sir y Fflint a Wrecsam oedd £5,051, ac aeth £4,382 o hynny – 87% – i’r Undeb Ewropeaidd;

·         Mae Cymru’n fuddiolwr net yn yr Undeb Ewropeaidd, gan dderbyn oddeutu £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na’r hyn a dalwn i mewn;

·         Yn gynharach y mis hwn dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth y Deyrnas Undedig dros yr Amgylchedd, Michael Gove AS, y byddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb fargen yn peri “anhrefn”.

·         Bod pob rhagolwg economaidd credadwy’n dangos y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny drwy fargen Theresa May neu ddim bargen o gwbl, yn niweidio economi’r Deyrnas Unedig;

 

 

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod 13.5% o’r holl unedau busnes lleol yn Sir Ddinbych, yn ôl yr wybodaeth ar 10 Mawrth 2018, yn perthyn i’r diwydiant ‘Amaeth, Coedwigaeth a Physgod’.  Hwn oedd y dosbarth mwyaf ei faint o ran busnes a diwydiant.

 

Mae’r Cyngor yn pryderu ynghylch:

·         effaith bosib ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Sir Ddinbych;

·         effaith bosib ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar economi leol Sir Ddinbych.

 

Gan ystyried yr wybodaeth sydd newydd ddod i’r amlwg a manylion hysbys y fargen a gynigir, mae’r Cyngor yn galw ar Senedd y Deyrnas Unedig i roi’r dewisiadau sydd bellach ar gael, gan gynnwys y dewis i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gerbron y cyhoedd mewn Pleidlais i’r Bobl.”

 

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, nododd y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Scott, bod cyfyngiad o 30 munud ar amser i drafod Rhybudd o Gynnig.

 

Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler gysylltiad personol am ei bod hi’n Gadeirydd Amgueddfa Dinbych, Ysgrifennydd Theatr Twm o’r Nant a Chadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd, ac mae bob un ohonynt yn derbyn Cyllid Ewropeaidd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn:

 

 “Mae’r Cyngor hwn yn nodi â phryder y cofnod ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn nodi’r canlynol:

·         Mae Fforwm Gofal Cymru yn pryderu bod y maes Gofal ‘ar drothwy argyfwng’, ac yn rhybuddio y gallai effeithiau hirdymor ymadael â’r Undeb Ewropeaidd greu prinder staff aruthrol;

·         Cyfanswm gwerth yr allforion o Sir Ddinbych a Chonwy yn 2016 oedd £188 miliwn. Aeth £102 miliwn o hynny – 55% – i’r Undeb Ewropeaidd.  Cyfanswm gwerth yr allforion o Sir y Fflint a Wrecsam oedd £5,051, ac aeth £4,382 o hynny – 87% – i’r Undeb Ewropeaidd;

·         Mae Cymru’n fuddiolwr net yn yr Undeb Ewropeaidd, gan dderbyn oddeutu £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd na’r hyn a dalwn i mewn;

·         Yn gynharach y mis hwn dywedodd Ysgrifennydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros yr Amgylchedd, Michael Gove AS, y byddai ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn peri “anhrefn”.  Byddai’n ergyd i’r ffermwyr a’r busnesau bwyd yn ein sir sy’n gweithredu ar raddfa fechan.  Y gwir amdani, sy’n ofnadwy ond yn amhosibl ei osgoi, yw pe byddem yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, byddai’r tariffau ar gig eidion a chig oen yn fwy na 40% y cant – ac mewn rhai achosion yn uwch na hynny.”

·         Bod pob rhagolwg economaidd credadwy’n dangos y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, boed hynny drwy gytundeb Theresa May neu ddim cytundeb o gwbl, yn niweidio economi’r Deyrnas Unedig;

·         Mae’r trafodaethau dros y ddwy flynedd diwethaf wedi dangos mor gymhleth yw’r amryw ddewisiadau ar gyfer gadael.

 

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod 13.5% o’r holl unedau busnes lleol yn Sir Ddinbych, yn ôl yr wybodaeth ar 10 Mawrth 2018, yn perthyn i’r diwydiant ‘Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgodfeydd’.  Hwn oedd y dosbarth mwyaf ei faint o ran busnes a diwydiant.

 

Mae’r Cyngor yn pryderu ynghylch:

·         effaith bosibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Sir Ddinbych;

·         effaith bosibl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar economi leol Sir Ddinbych.

 

Gan ystyried yr wybodaeth sydd newydd ddod i’r amlwg a manylion hysbys y cytundeb a gynigir, mae’r Cyngor yn galw ar Senedd y Deyrnas Unedig i roi’r dewisiadau sydd bellach ar gael, gan gynnwys y dewis i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, gerbron y cyhoedd mewn Pleidlais i’r Bobl.”

 

Ar y pwynt hwn, cynigodd y Cynghorydd Graham Timms ddiwygiad i’r Rhybudd  o Gynnig i nodi’r frawddeg gyntaf fel a ganlyn:

 

 “Mae’r Cyngor hwn yn nodi, â phryder, y cofnod ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd”.

 

Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

Pleidleisiwyd ar y diwygiad fel a ganlyn:

 

(i)            Cytuno i’r diwygiad i’r Rhybudd o Gynnig - 17

(ii)          Ymatal - 2

(iii)         Anghytuno i’r diwygiad - 16

 

Felly, cymeradwywyd y Rhybudd o Gynnig.  

 

Oherwydd bod y diwygiad wedi’i gymeradwyo, daeth y diwygiad yn gynnig o sylwedd a fyddai angen pleidlais fel a ganlyn:

 

(i)            Cytuno i'r cynnig o sylwedd- 22

(ii)          Ymatal - 4

(iii)         Yn erbyn y cynnig o sylwedd - 9

 

Felly, yn dilyn y bleidlais

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno i'r Rhybudd o Gynnig “Mae’r Cyngor hwn yn nodi, â phryder, y cofnod ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Sir Ddinbych mewn perthynas ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd”.