Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEILLIANNAU AROLWG ESTYN YN SIR DDINBYCH 2018

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi’n amgaeedig) am Arolwg diweddar Estyn yn yr Awdurdod.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant, ganlyniadau Adroddiad Arolygu Estyn, Sir Ddinbych 2018 (a gylchredwyd yn flaenorol).

 

Arweiniodd y Pennaeth yr aelodau drwy’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y broses arolygu gadarn a grymus, yn cynnwys y gwaith a gwblhaodd y swyddogion er mwyn cael gwybodaeth ac adroddiadau mewn paratoad at yr arolygiad. Datganodd y Pennaeth ei bod yn falch iawn gyda chanlyniad cyffredinol yr arolwg ac ategodd ei diolch a chanmoliaeth i holl swyddogion ac adrannau a gyfrannodd a chefnogodd y tîm yn ystod yr arolwg.

 

Cafodd y canlyniadau oedd wedi’u hasesu yn erbyn fframwaith arolwg newydd Estyn, eu hamlygu i’r aelodau o fewn yr adroddiad. Pwysleisiwyd mai Sir Ddinbych oedd un o’r unig ddau awdurdod i dderbyn ardderchog am arweinyddiaeth yn y rowndiau diwethaf o arolygon. Eglurodd y Pennaeth bod Estyn wedi cydnabod y cwmpawd moesol cryf a ddangoswyd yn Sir Ddinbych wrth ddarparu ar gyfer unigolion ifanc yn y sir. Yn dilyn uniad llwyddiannus rhwng Addysg a Gwasanaethau Plant, gofynnodd Estyn i swyddogion Sir Ddinbych gwblhau astudiaeth achos er mwyn dangos y broses a ddilynwyd i awdurdodau eraill. Ar y cyfan, mynegodd y Pennaeth bod yr arolwg wedi bod yn broses ddwys ond roedd y canlyniad yn gadarnhaol a gwerthfawr.

 

Yn ystod trafodaethau, codwyd y materion canlynol:

·         Llongyfarchodd yr aelodau'r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r swyddogion am ganlyniad rhagorol yr arolwg. Estynnwyd canmoliaeth i’r holl adrannau ynghlwm. Roedd yr aelodau’n falch bod Estyn wedi amlygu’r gwaith a wnaed a'r gwaith parhaus gan yr awdurdod i ymgysylltu ag ysgolion, rhieni ac unigolion ifanc.

·         Monitro tu hwnt i’r Sir – Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y cwblhawyd monitro plant mewn lleoliadau tu hwnt i'r Sir. Amlygodd yr arolwg y monitro o’r gwasanaethau a gomisiynir sy’n darparu gwasanaethau. Clywodd yr aelodau bod nifer cyfyngedig o ddarparwyr trydydd parti ar gael wrth ymchwilio i leoliadau tu hwnt i’r Sir. Fel awdurdod, lles a datblygiad y plentyn oedd y brif flaenoriaeth.

·         Cyfradd gwaharddiadau cyfnod penodol – Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant bod cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol a arsylwyd yn uchel, gyda nifer o waharddiadau parhaol yn isel. Gweithiodd y swyddogion addysg gydag ysgolion i fynd i'r afael â'r materion. Pwysleisiwyd bod perthynas gweithio da gydag ysgolion a phenaethiaid wedi'i sefydlu, a oedd yn creu perthynas weithio cadarnhaol er mwyn cael yr adnoddau a chanlyniadau gorau i blant Sir Ddinbych.      

·         Byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r swyddog cyswllt i fynd i’r afael â phryderon a godwyd yn yr adroddiad arolygu. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant bod gwaith wedi cael ei wneud i fonitro plant ifanc yn y sir neu y tu allan i'r sir ac roedd angen esboniadau pellach gan Estyn er mwyn deall yn union beth oedd sail eu canfyddiadau.

·         Trefnwyd gwaith ar argymhellion yr ymchwiliad. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro a’i ddadansoddi a’i ddatblygu trwy’r broses graffu i alluogi i dystiolaeth gael ei gyflwyno am y gwaith presennol a gyflawnir. Disgwyliwyd i gynllun gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion gael ei ddatblygu ym mis Medi yn dilyn cyfarfod dilynol gydag aelod ymchwilio cysylltiol Estyn.

·         Addysgu yn y Cartref – tynnwyd sylw at y cymhlethdod sy’n gysylltiedig â dewis addysgu plant yn y cartref. Roedd perthnasoedd gwaith gyda gweithwyr proffesiynol eraill wedi cael eu harsyllu. Canmolodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant waith y swyddogion ac amlygwyd yn glir yn yr adroddiad bod gwaith yn y maes hwn yn gryfder penodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r swyddogion am yr adroddiad. Llongyfarchodd yr adran am y cynnydd a wnaed i sicrhau bod plant Sir Ddinbych yn derbyn yr addysg orau, gyda’r holl adnoddau ar gael iddynt. Roedd canlyniad yr arolwg yn adlewyrchiad o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a’r swyddogion a dylid eu canmol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: