Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH ARWYDDION TWRISTIAETH AR GYFER SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd a’r Arweinydd Tîm – Twristiaeth, Marchnata a  Digwyddiadau, gan roi’r diweddaraf i aelodau am ddatblygiad cychwynnol strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych.

 

11.15-12.00 p.m.

 

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Arweinydd, cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd (Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol) adroddiad ar y cyd gan Reolwr Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, a’r Arweinydd Tîm: Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am ddatblygiad dechreuol strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych.  Rhoddodd friff i aelodau am gefndir y prosiect ac eglurodd, pan fyddai’r arwyddion twristiaeth ‘brown’ wedi’u codi ar ochr yr A55 i gyfeirio ymwelwyr i Rhuddlan, Llanelwy a Dinbych, byddai angen arwyddion eraill i’w cyfeirio i atyniadau eraill ar draws y sir.  Barn Aelodau Arweiniol a swyddogion oedd fod codi’r arwyddion ar yr A55 a chyflwyno menter dwristiaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Ffordd Cymru’ (ynghlwm wrth atodiad C yr adroddiad) a oedd yn canolbwyntio ar hyrwyddo tri llwybr twristiaeth craidd yn y sir, yn darparu cyfle delfrydol i’r Cyngor ei hun ddatblygu strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych a oedd yn ategu arwyddion yr A55 a gweledigaeth LlC, wrth ddatblygu economïau trefol a gwledig y sir.  Yn ogystal â gweithio gyda cynghorau tref a chymuned, twristiaeth a busnesau eraill i ddatblygu a darparu arwyddion ‘traddodiadol’, byddai hefyd yn ddoeth cynyddu portholion gwybodaeth ddigidol a chyfleoedd busnes, fel ‘i-beacons’.

 

Dywedodd swyddogion fod awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi cyflwyno cynnig ar y cyd llwyddiannus dan brosiect ‘Ffordd Cymru’ i ddatblygu twristiaeth y gaeaf yn y rhanbarth.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda busnesau lleol ar draws y rhanbarth gyda bwriad o’u hymgysylltu gyda phrosiect a fyddai’n gweld busnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ar agor drwy’r flwyddyn ac yn ffynnu, beth bynnag yw’r tymor.  Er bod technoleg yn datblygu bob dydd, roedd arwyddion ochr ffordd yn dal yn ffordd bwysig o dynnu sylw twristiaid at atyniadau, roedd gwybodaeth ddigidol yn ategol at arwyddion. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:

·         roedd gweithredwyr twristiaeth fel arfer yn talu am arwyddion ‘brown’, ond roedd y Cyngor fel arfer yn talu am unrhyw gostau cynnal a chadw ar eu cyfer, er nad oedd ganddynt gyllideb benodol ar gyfer costau cynnal a chadw’r arwyddion;

·         gallai’r gweithgor aelodau etholedig a swyddogion arfaethedig weithio allan manylion llwybrau twristiaid a ffefrir a rhai amgen drwy’r sir, fel rhan o’i waith o ran datblygu ‘llwybrau twristiaid'.  Gallai’r Grŵp drafod gyda chynghorau dinas, tref a chymuned hefyd beth yw manteision datblygu a phrynu arwyddion a oedd â brandio cyson.  Byddai’r gweithgor hwn yn edrych ar strategaeth arwyddion yn unig, gan gynnwys rhoi symbolau hawdd eu hadnabod ac ati arnynt, ar gyfer rhwydwaith priffyrdd y sir, ni fyddai’n archwilio arwyddion cefnffyrdd gan mai cyfrifoldeb LlC oeddent.  Pan oedd wedi’i sefydlu, rhagwelwyd y byddai cyfle i’r Gweithgor weithio gydag awdurdodau cyfagos eraill gyda bwriad o sicrhau y byddai ‘llwybrau twristiaeth’ pob awdurdod yn ategu llwybrau ei gilydd a’r rhai a nodwyd fel rhan o gynnig Ffordd Gogledd Cymru i gyd;

·         er nad oedd gan y Cyngor ei ‘Siop Arwyddion’ ei hun bellach, gallai gaffael arwyddion ffordd ar gyfradd gystadleuol, er byddai rhywfaint o oedi o ran amser darparu;

·         roedd y Gweithgor oedd â’r dasg o ddatblygu arwyddion twristiaeth yr A55 ar gyfer atyniadau Dyffryn Clwyd wedi ailgyfarfod yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd gyda bwriad o ddatblygu’r prosiect.  Roedd rhywfaint o ddiffyg o ran y cyllid a oedd ar gael ar gyfer yr arwyddion, ac roedd yr Aelod Cynulliad (AC) yn ceisio datrys hyn drwy LlC;

·         er bod twristiaid yn dibynnu fwyfwy ar wybodaeth ddigidol am le i ymweld ag ef ac ati, byddai angen dogfennau papur o hyd fel mapiau a chanllawiau; ac

·         nid oedd cydbwysedd gwleidyddol yn ofyniad i weithgor, er byddai’n fuddiol pe bai’n cynnwys aelodau o bob rhan o’r sir, gan ystyried cylch gwaith y grŵp arfaethedig.

 

Gwnaeth y Pwyllgor gytuno ei bod yn hynod o bwysig i dwristiaid gael eu cyfeirio at bob ardal o’r sir i sicrhau bod economi gyfan y sir yn cael cyfle i fanteisio ar eu grym gwario.   Roedd Aelodau o’r farn y dylid gwahodd cynrychiolydd o LlC i ymuno â Gweithgor Strategaeth Arwyddion Twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych i sicrhau bod cynigion y Grŵp yn ategu strategaeth LlC ei hun. 

 

Gan ymateb i bryderon aelodau am allu busnesau lleol bach ac awdurdodau lleol i brynu gofod hysbysebu ‘digidol’ ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu busnesau o gymharu â chwmnïau mawr cenedlaethol a rhyngwladol, dywedodd swyddogion y gallai busnesau restru eu hunain ar Google a Google Maps am ddim.  Byddai’n fater o addysgu busnesau am sut i restru eu busnes a beth oedd ganddynt i’w gynnig.  Dull arall effeithiol a chost isel o hyrwyddo busnes ac ati fyddai drwy ‘flog’, gan fod blogwyr yn denu cynulleidfa rhyngwladol eang.  Roedd technoleg yn datblygu bob dydd ac roedd yn darparu cyfleoedd gwych i dynnu sylw twristiaid at wasanaethau a busnesau.

 

Cytunodd Swyddogion i holi a oedd Deddf Llywodraeth Leol yn rhagnodi pwy ddylai ariannu neu gyfrannu at gostau arwyddion ffordd.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)                 gefnogi parhad y gwaith i ddatblygu strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych;

(ii)               cadarnhau, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les yn Atodiad A;

(iii)             argymell bod y gweithgor swyddogion ac aelodau etholedig arfaethedig sydd i gael ei sefydlu i ddatblygu strategaeth arwyddion twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych yn cynnwys 12 aelod etholedig, dau yn cynrychioli pob Grŵp Ardal Aelodau, a chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru (LlC), a swyddogion perthnasol; a

(iv)              bod adroddiad am gynnydd y Gweithgor o ran datblygu strategaeth arwyddion twristiaeth, gan gynnwys gwybodaeth am ffynonellau ariannu posibl ac amserlen a ragwelir ar gyfer darparu’r prosiect, yn cael ei gyflwyno’r Pwyllgor ymhen 12 mis.

 

 

Dogfennau ategol: