Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEBAU CEFNOGI I BOBL AG ANGHENION GOFAL A CHEFNOGAETH CYMWYS

Ystyried Adroddiad gan y Prif Reolwr: Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ymwneud â gwneud  newidiadau i ddyraniad cyllid i unigolion sy'n gymwys am ofal wedi'i reoli a chynllun gofal yn Sir Ddinbych.

11.00 a.m. – 11.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Chymorth a'r Pen Reolwr: Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn ymwneud â newidiadau i ddyraniad cyllid i unigolion sy'n gymwys am gynllun gofal a chymorth wedi'i reoli yn Sir Ddinbych.   Roedd y newidiadau mewn prosesau a dull o ran dyrannu arian wedi’i wneud yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er mwyn cynyddu dewis, llais a rheolaeth yr unigolyn a gefnogir.

 

Fe wnaeth yr adroddiad ddangos camau at ddull newydd gyda staff yn cael sgyrsiau gwahanol gyda dinasyddion, sy'n cael eu disgrifio fel arfer fel sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' - gan holi beth oedd yn bwysig iddyn nhw a sut roeddent yn dymuno cyflawni eu canlyniadau dymunol, yn hytrach na beth oedd yn bod gyda nhw, i benderfynu a oeddent yn gymwys am ofal a chymorth drwy gymhwyso'r olwyn adnoddau.  Lle nad oedd modd cyflawni canlyniadau gofal cyflawn, byddai cyllidebau cymorth yn cael eu darparu mewn un o dair ffordd (1) cyllideb wedi’i hunan-reoli (taliad uniongyrchol), (2) cyllideb trydydd parti wedi’i rheoli (broceriaeth), a (3) cyllideb wedi'i rheoli gan awdurdod lleol, a chydnabuwyd y byddai llawer o bobl hŷn yn dal eisiau pecyn gofal cartref traddodiadol wedi'i reoli gan yr awdurdod lleol.  Fodd bynnag, lle dyrannwyd arian drwy daliad uniongyrchol i unigolion, gellid ei ddefnyddio’n greadigol, ar yr amod bod y canlyniadau dymunol ac y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni, e.e. prynu gwasanaethau mewnol, cyflogi aelodau teulu, a thalu am docyn awyr/tymor i aelod teulu roi gofal seibiant.  Os byddai cyllidebau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n effeithiol, gellid cyflawni canlyniadau mewn ffordd well a gallai arwain at ostyngiadau cost mewn rhai achosion.  Yn olaf, cyfeiriwyd at y newidiadau system gofynnol a fyddai'n effeithio ar staff gofal cymdeithasol, swyddogion cyllid a gwasanaethau a darparwyr cymorth eraill, yr oedd angen eu rheoli’n addas.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         gyfeirio at y potensial o system broceriaeth gofal Iaith Gymraeg, i gysylltu â gofalwyr, a chydnabuwyd nifer y siaradwr Cymraeg ar draws y sir gyfan, gyda galw mewn trefi mawr yn ogystal ag ardaloedd gwledig

·         adrodd ar gamau diogelu i amddiffyn yn erbyn camreoli arian, gyda gwasanaeth cyfrif wedi’i reoli’n fewnol ar gyfer taliadau uniongyrchol a dalir bob mis – nododd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) y dylid adolygu cyllidebau yn y chwe mis cyntaf; roedd y cynllun gofal a chymorth yn manylu ynghylch canlyniadau penodol a fyddai’n cael eu hasesu drwy’r broses adolygu a byddai disgwyliadau'n cael eu hegluro i unigolion a monitro trylwyr o'r contract yn digwydd.  Os canfyddir bod arian wedi’i gamddefnyddio, roedd dull ar gyfer adfachu

·         cadarnhau nad oedd taliadau uniongyrchol wedi’u hyrwyddo’n dda hyd yn hyn, gyda thua 90 allan o 1500 o unigolion yn cael taliadau uniongyrchol; roedd y mwyafrif o’r rhai hynny a gafodd daliadau uniongyrchol yn oedolion ieuengach gydag anableddau cymhleth, ond roedd esiamplau lle gellid bodloni anghenion pobl hŷn gartref, gyda chymorth y teulu a gofal cymdeithasol, yn hytrach na lleoliad cartref gofal preswyl, gan roi mwy o ddewis felly i'r unigolyn

·         rhoi gwybod bod opsiynau i godi ymwybyddiaeth o daliadau uniongyrchol yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, ac mai taliad uniongyrchol fyddai’r sefyllfa ddiofyn o’r cychwyn cyntaf (os yw’n addas), i’r rhai hynny sy’n gymwys yn dilyn asesiad, a gellid cael sicrwydd o weithrediad buan systemau a gweithdrefnau addas sydd yn eu lle

·         egluro’r defnydd o’r olwyn adnoddau fel offeryn i sicrhau dull yn seiliedig ar asedau, gan wneud y gorau o gyfraniad cryfderau pobl a’r cymorth a allai fod ar gael yn eu teulu a’r gymuned; roedd unigedd yn fater allweddol ac roedd yr Un Pwynt Mynediad a Phwyntiau Siarad yn allweddol i gysylltu pobl unig, a oedd hefyd yn ffocws i'r Llywiwr Cymunedol

·         egluro os nad oedd unigolyn yn gymwys ar gyfer gofal cymdeithasol a chynllun gofal a chymorth wedi’i reoli, gall fod yn bosibl o hyd mewn amgylchiadau penodol i gynnig taliad uniongyrchol ar gyfer cyfarpar fel mesur ataliol

·         ailadrodd bod tri opsiwn cyllideb cymorth i fodloni anghenion unigolion cymwys – os nad oedd unigolyn â’r sgiliau angenrheidiol neu'r gallu meddyliol i reoli taliad uniongyrchol, byddai system broceriaeth trydydd parti'n darparu lefel o gymorth i'r unigolyn hwnnw a rhywfaint o annibyniaeth.  Roedd y trydydd opsiwn yn darparu ar gyfer cyfrifon a reolwyr gan awdurdod lleol.  Byddai dewis mwyaf addas i’r unigolyn yn ffurfio rhan o’r sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ gychwynnol – roedd pob opsiwn yn cynnwys cynllun gofal a chymorth gyda chanlyniadau wedi’u nodi’n glir

·         cytuno i ddarparu adroddiad gwybodaeth ar Grant Cyfleusterau i’r Anabl/Gwasanaeth Addasiadau’n amlinellu proses y Cyngor ar gyfer delio â cheisiadau grant, a’i berfformiad wrth brosesu a darparu addasiadau cartref sy’n gysylltiedig â grant (i gynnwys gwybodaeth am y Gwasanaeth Gofal a Thrwsio, y nifer sy'n manteisio ar ei wasanaethau a manylion cyfraniad ariannol y Cyngor tuag at y gwasanaeth).

 

Roedd Aelodau’n awyddus i adolygu effaith y newidiadau a chynnydd wrth ddatblygu, hyrwyddo a chyflwyno cyllidebau cymorth i bobl gymwys mewn tua deuddeg mis.  Awgrymwyd hefyd y byddai’n ddefnyddiol cynnwys arolwg boddhad defnyddwyr gwasanaeth ac astudiaethau achos fel esiamplau.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn -

 

(a)       cadarnhau ei fod wedi darllen a deall y newidiadau i’w gwneud;

 

(b)       wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau;

 

(c)        gofyn am adroddiad cynnydd ar Gyllidebau Cymorth i Bobl ag Anghenion Gofal a Chymorth cymwys, i’w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym Mai 2019, a

 

(d)       gofyn bod adroddiad gwybodaeth ar Grant Cyfleusterau i’r Anabl/ Gwasanaeth Addasiadau’n cael ei roi i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod nesaf ym Mehefin 2018.

 

 

Dogfennau ategol: