Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL INTERIM 2016-2018

Ceisio sylwadau a chefnogaeth y Pwyllgor ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim y Cyngor 2016-2018 (copi ynghlwm)

 

11:15am – 11:45am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol adroddiad y Tîm Cynllunio Strategol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’r Aelodau a chyflwynodd Gynllun Cydraddoldeb Strategol Interim Drafft 2016-18 y Cyngor i’r Pwyllgor.

Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd yr Aelodau mai dyma’r tro cyntaf i’r Cynllun, a oedd yn amlinellu’r prosiectau a’r gweithgareddau allweddol a ddarparwyd gan y Cyngor yn unol â’r Cynllun Cydraddoldeb yn ystod 2017-18, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor. Yn flaenorol, cyflwynwyd y cynlluniau i’r Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol. Fodd bynnag, diddymwyd y Grŵp Cydraddoldeb Corfforaethol ym Mawrth 2017. Wrth symud ymlaen, y bwriad fyddai adrodd ar ymrwymiad a chyfraniad y Cyngor at gydraddoldeb ac amrywiaeth drwy lunio adroddiadau monitro rheolaidd ar berfformiad y Cyngor wrth ddarparu ei Gynllun Corfforaethol, gan y dylai cydraddoldeb ac amrywiaeth ffurfio rhan annatod o fusnes cyfan y Cyngor. Eglurodd yr Aelod Arweiniol hefyd bod y Cynllun Cydraddoldeb yn cael ei gyflwyno i aelodau er mwyn derbyn eu sylwadau, cyn ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn unol â’r terfyn amser statudol, 31 Mawrth 2018. Dywedodd hefyd os oedd ar yr aelodau angen cyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i'w darparu. Roedd gwaith ar fynd ar hyn o bryd gydag Adran AD y Cyngor i sicrhau argaeledd y modiwl e-ddysgu ‘Cydraddoldeb’ ar gyfer aelodau staff ar lwyfan e-ddysgu’r Cyngor yn y dyfodol agos.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol a’r Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad:

·         bod angen cynnal Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb/ Asesiadau o Effaith ar Les ar gyfer polisïau cynllunio newydd neu ddiwygiedig ond nid oedd y rhain yn berthnasol i geisiadau cynllunio unigol;

·         cadarnhaodd bod disgwyliad ar bob un o Wasanaethau’r Cyngor i ymgymryd ag Asesiad o Effaith at Les a chadw at ddyletswyddau cydraddoldeb wrth ddatblygu polisïau newydd neu adolygu polisïau cyfredol;

·         pwysleisiodd fod dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn berthnasol i sefydliadau sector cyhoeddus yn unig ac nid oeddent yn berthnasol i fusnesau preifat. Fodd bynnag, byddai’r wybodaeth a ddarperir i fusnesau preifat mewn perthynas â chyflwyno ceisiadau cynllunio yn pwysleisio’r angen i’w cynigion gydymffurfio â gofynion gwahaniaethu ar sail anabledd y Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

 

Yn ystod y drafodaeth ar gynnwys y Cynllun, awgrymwyd gan Aelodau’r Pwyllgor y dylid gwneud y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol i ddogfen y Cynllun, cyn i’r ddogfen honno gael ei chyfieithu a’i chyhoeddi:

·         dylid cynnwys geirfa i egluro’r acronymau a’r derminoleg a ddefnyddir yn y ddogfen drwyddi draw.

·         dylid gwirio’r ddogfen er mwyn sicrhau bod yr holl sefydliadau wedi eu cyfeirio atynt yn gywir ym mhob rhan o’r ddogfen, hynny yw ‘Urdd’ nid ‘URDD’.

·         at ddibenion eglurder a dealltwriaeth, dylid cynnwys naratif byr i egluro rolau grwpiau penodol, hynny yw ‘Cydlynwyr Datblygu Cymunedol’ ac ati;

·         dylid cynnwys gwybodaeth ar y gwaith helaeth a wnaed ar draws y Cyngor ac yn y gymuned leol i godi ymwybyddiaeth o ddementia; a

·         chynnwys ffotograffau er mwyn gwella edrychiad y ddogfen ac annog unigolion i’w darllen.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth dechreuodd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion archwilio’r dulliau y gallai’r Cyngor eu defnyddio i ddylanwadu ar y gymuned ehangach yn y sir i fodloni safonau Cydraddoldeb tebyg i’r rheiny a fodlonwyd gan yr Awdurdod.

 

Penderfynwyd:

 

(i)           yn amodol ar y sylwadau a wnaed a chynnwys y newidiadau a’r ychwanegiadau a awgrymwyd, i gefnogi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Interim 2016-2018 ac argymell ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn unol â’r gofynion statudol; a

(ii)          bod adroddiad yn adolygu perfformiad y Cyngor wrth ddarparu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ym mis Medi 2018.

 

 

Dogfennau ategol: