Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH BAND B - RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc (copi’n amgaeedig) ar gynnydd o ran Band B a’r Rhaglen Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif a goblygiadau’r ddarpariaeth.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cadarnhau ei ymrwymiad i ddarparu cynigion Band B yn unol â’r Rhaglen Amlinellol Strategol, fel y’u cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, er mwyn cwrdd â’r flaenoriaeth a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2017-2022;

 

(b)       cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yr adroddiad yn cynghori’r Cabinet ynglŷn â chymeradwyo cyflwyno rhaglen Band B ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg a goblygiadau cyflawni.

 

Roedd y Cyngor wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni’r cynigion Band A mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a gyda’i gilydd fe fyddent wedi buddsoddi dros £90m erbyn 2019 i gyflawni prosiectau allweddol. Fis Gorffennaf 2017, cymeradwyodd y Cabinet gyflwyno cynigion Band B gwerth £80.5m i Lywodraeth Cymru fel rhan o gam nesaf y buddsoddiad. Roedd Llywodraeth Cymru ers hynny wedi cymeradwyo’r buddsoddiad mewn egwyddor yn ddibynnol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau unigol.  Yn dilyn hynny gofynnwyd i’r Cabinet gadarnhau ymrwymiad ariannol y Cyngor i gyflawni cynigion Band B yn unol â'r Cynllun Corfforaethol. £32.8m fyddai cyfraniad Sir Ddinbych a tua £1.8m fyddai’r gyllideb refeniw fyddai ei hangen i ariannu'r benthyca i gefnogi'r rhaglen dros saith mlynedd y rhaglen. Nid oedd unrhyw fanylion wedi ei ddarparu yn nhermau cynigion unigol a fyddai'n ddibynnol ar achosion busnes unigol yn cael eu hystyried gan y Grŵp Buddsoddiad Strategol a'r Cabinet.

 

Croesawodd y Cabinet yr adroddiad a buddsoddiad yng ngwaith adeiladu ysgolion er budd plant a phobl ifanc ac roedd yr Arweinydd yn awyddus i barhau â buddsoddiad a chynnydd y Cyngor blaenorol a manteisio ar unrhyw gyllid fyddai ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diben hwnnw. Pwysleisiodd y Cynghorydd Mark Young yr angen i sicrhau proses agored ar gyfer cymunedau a rhoddodd yr Aelod Arweiniol sicrwydd o ran y gwersi sydd wedi eu dysgu o adolygiadau blaenorol a fyddai’n cael eu hadlewyrchu ym mhrosesau'r dyfodol.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant i gwestiynau gan aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Cabinet fel a ganlyn -

 

·        roedd y Rhaglen Amlinellol Strategol wedi ei chyflwyno cyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag arian ychwanegol yn benodol ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg.

·        Ond atgoffwyd aelodau fod tua £30m wedi ei fuddsoddi mewn cynyddu a gwella cyfleusterau ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg yn rhan Band A o’r cyllid a rhoddwyd sicrwydd pellach y byddai unrhyw gynlluniau fyddai’n mynd ymlaen i Fand B yn canolbwyntio ar barhau i gryfhau a chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg Cyfrwng Cymraeg. Roedd swyddogion yn awyddus i sicrhau fod aelodau’n cael eu hysbysu ynglŷn ag unrhyw gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru a allai ychwanegu neu alluogi cynlluniau i symud ymlaen i fuddsoddi yn ystâd yr ysgol yn gyffredinol. Roedd swyddogion yn ymrwymedig i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw ddiffygion mewn darpariaeth addysgol ar draws yr holl ysgolion yn Sir Ddinbych a thrafodwyd y ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yn ystod datblygiad y Cynllun Amlinellol Strategol; byddai'r drafodaeth yn parhau wrth i gynlluniau mwy manwl gael eu datblygu.

·        unwaith roedd y Cabinet wedi cadarnhau ei ymrwymiad ariannol byddai’n bosibl mynd i'r afael â thrafodaethau helaeth yn ymwneud ag unrhyw gynigion dilynol fyddai'n cael eu cyflwyno yn unol â'r broses ddemocrataidd a glynu at bolisïau a gweithdrefnau’r Cod Trefniadaeth Ysgol

·        hefyd rhoddwyd sicrwydd fod swyddogion yn gweithio’n agos gyda thimau dylunio o ran yr effeithiau ar yr amgylchedd gan gydnabod yr ymrwymiad i sicrhau fod gofynion amgylcheddol yn cael eu hateb cymaint â phosibl o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer prosiectau penodol.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

 (a)      cadarnhau ei ymrwymiad ariannol i gyflawni cynigion Band B yn unol â’r Rhaglen Amlinellol Strategol fel a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w alluogi i gwrdd â'r flaenoriaeth a gynhwysir o fewn y Cynllun Corfforaethol 2017 – 2022, a

 

 (b)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les, sydd ynghlwm ag Atodiad 1 o’r adroddiad, fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: