Eitem ar yr agenda
DELIO Â CHOED
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth (copi ynghlwm)
sydd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar ymagwedd a gweithdrefn newydd i reoli
gweithgareddau sy’n ymwneud â choed ar draws y sir.
10.05am – 10.35am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai, Adfywio a’r
Amgylchedd a’r Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol adroddiad y
Rheolwr Cefn Gwlad a Threftadaeth (a gylchredwyd yn flaenorol), gan roi gwybod
i aelodau bod eisiau eu barn ar weithdrefn ddrafft i reoli pob gweithgaredd yn
ymwneud â choed ar draws y sir. Fe wnaethant esbonio bod y penderfyniad i lunio gweithdrefn wedi codi o her
gwasanaeth diweddar a oedd wedi tynnu sylw at yr angen am weithdrefn a chanllaw
ysgrifenedig i gynorthwyo swyddogion ar draws yr awdurdod i ateb ymholiadau
rheoli coed. Gan fod nifer o wasanaethau’r Cyngor gyda choed wedi’u lleoli yn eu heiddo
neu o'i gwmpas, roedd rheoli coed yn gyfrifoldeb ledled yr awdurdod. Felly, roedd angen gweithdrefn hygyrch
iawn, sy'n gyfeillgar i ddefnyddwyr, i helpu swyddogion i ddelio ag
ymholiadau'n ymwneud â'u rheolaeth. Byddai bodolaeth gweithdrefn o’r fath hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor i
gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol fel perchennog tir, ei ddyletswyddau
rheoleiddio o dan y Deddfau Cynllunio, ac i gefnogi’r ddarpariaeth o nifer o
elfennau yn y Flaenoriaeth Amgylcheddol o'r Cynllun Corfforaethol newydd, wrth
gefnogi ei uchelgeisiau bioamrywiaeth ar yr un pryd. Roedd cyflwyniad y weithdrefn ddrafft i’r
Pwyllgor ar gyfer sylwadau aelodau’n ffurfio rhan o’r broses ymgynghori ar ei
gynnwys. Unwaith y byddai’n cael ei gymeradwyo, byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan a
mewnrwyd y Cyngor, a byddai dogfen Cwestiynau Cyffredin, hawdd ei darllen, yn
cael ei chynhyrchu er mwyn gallu cyfeirio ati.
Cyn gwahodd cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor,
croesawyd y Cynghorydd Hugh Irving i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, a’i wahodd i
annerch y Pwyllgor, gan fod y Cynghorydd Irving wedi gofyn yn ffurfiol bod
Archwilio’n ymchwilio i’r angen am bolisi neu weithdrefn ledled y sir i ddelio
â choed. Yn ei anerchiad, croesawodd y Cynghorydd Irving y weithdrefn, gan nodi
esiamplau o broblemau a gafodd eu hachosi gan goed wedi gordyfu ac ati, o'i
brofiad fel cynghorydd. Cefnogodd yr awgrym o gael fersiwn cryno hawdd ei ddarllen o’r weithdrefn,
a fyddai’n ddefnyddiol i swyddogion, cynghorwyr a phreswylwyr fel ei gilydd.
Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe wnaeth y
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Economi ac Uchelgais
Cymunedol, y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, a’r Rheolwr
Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth -
·
gadarnhau
mai’r egwyddor sylfaenol i gael gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer delio â choed
oedd amddiffyn coed ar draws y sir lle bynnag y bo’n bosibl, drwy sicrhau mai
tocio coed fyddai’r dewis olaf h.y., os oedd yn achosi neu’n peri perygl. Trafodwyd yr agwedd hon yn Adran 15 o’r weithdrefn ddrafft
·
rhoi
gwybod na fyddai coed yr ystyrir iddynt fod yn ‘rhwystro golau naturiol’ i eiddo’n
cael eu dosbarthu fel perygl, ac felly ni fyddent yn cael eu tocio neu eu torri
ar y sail honno
·
esbonio’r
broses ar gyfer gwneud cais am Orchymyn Cadw Coed (TPO) a dywedwyd nad oedd TPO
yn gyfyngedig i amser. Os byddai’n cael ei ystyried yn addas i dorri coeden i lawr a oedd gyda
TPO, byddai cais yn gorfod cael ei wneud ar gyfer diddymiad, neu amrywiad, i'r
gorchymyn. Os byddai’r Cyngor yn caniatáu’r diddymiad/amrywiad, gallai wneud hynny ar
y sail bod coeden newydd yn cael ei phlannu yn ei lle, ac y gallai’r goeden
newydd hefyd fod yn destun TPO. Roedd y mwyafrif o goed a oedd yn destun TPO wedi’u lleoli ar dir preifat,
ac nid ar dir a oedd yn berchen i’r Cyngor
·
cadarnhau
bod Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor yn cynnwys strategaeth ar gyfer mynd
i’r afael â’r diffyg coed mewn mannau penodol o’r sir
·
rhoi gwybod bod yr Adran
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wedi cyflogi swyddog TPO a oedd yn delio ag
ymholiadau a oedd yn ymwneud â TPO, tra bod y Gwasanaethau Priffyrdd ac Eiddo’n
cynnal asesiadau risg mewn perthynas â choed;
·
rhoi
gwybod bod ardal ‘hunan-wasanaethu’ ar borth Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor y
gallai preswylwyr, cynghorwyr a staff ei ddefnyddio i weld a oedd coeden
benodol yn destun TPO. Fodd bynnag, nid oedd gan y Cyngor ddigon o adnoddau i fonitro
cydymffurfiad yn rheolaidd â TPO, ond os oedd aelod o’r cyhoedd yn cysylltu â’r
Cyngor yn mynegi pryderon bod coeden TPO mewn perygl o gael ei thorri heb
ganiatâd y Cyngor, neu heb gael gorchymyn amrywio, gallai Gwasanaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd gyhoeddi rhybudd gorfodi i’w diogelu
·
cadarnhau
nad oedd y Cyngor yn chwistrellu plaladdwyr ar goed. Roedd sudd ac ati, a oedd yn cael ei achosi oherwydd pla llau’r coed, yn
cael ei ystyried yn fath derbyniol o niwsans
·
rhoi
gwybod bod cynllun busnes yn cael ei lunio o ran y cynnig yn y Cynllun
Corfforaethol i blannu 18,000 o goed, yn Ninbych a’r Rhyl, i’w gyflwyno i Fwrdd
y Rhaglen yn Chwefror ynghylch sut y gellir gwireddu’r uchelgais hwn. Roedd Swyddogion yn hyderus, gyda'r arian
a oedd ar gael o ffynonellau eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru a Menter Plant! Llywodraeth Cymru (lle mae
coeden frodorol yn cael ei phlannu yng Nghymru ar gyfer pob plentyn sy’n cael
ei eni neu ei fabwysiadu), y gellir darparu’r elfen hon o’r flaenoriaeth gydag
ychydig o fewnbwn ariannol gan y Cyngor. Mewnbwn y Cyngor fyddai darparu staff i blannu’r
coed
·
rhoi gwybod i aelodau, fel
rhan o’r gwaith sy’n ofynnol i gyflawni blaenoriaeth yr Amgylchedd a gynhwysir
yn y Cynllun Corfforaethol, y gellid ystyried cyflogi 'Swyddog Coed,' arbenigwr
yn y maes, a fyddai'n helpu i reoli a chydlynu gwaith yn ymwneud â choed ar
draws yr awdurdod. Roedd hyfywedd ariannol creu’r swydd hon yn cael ei asesu ar hyn o bryd Roedd gan y Cyngor ‘Swyddog Coed’
ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond pan ymddeolodd deiliad y swydd, penderfynwyd
cael gwared ar y swydd fel rhan o’r broses arbedion effeithlonrwydd
·
cadarnhau
bod gan y Cyngor bwerau o dan Ddeddf Priffyrdd (Coed Peryglus, 1980), i wneud i
berchnogion coed sy’n peri rhwystr ar y briffordd gael gwared arnynt. Os nad oeddent yn cydymffurfio gyda chais
y Cyngor, byddai’r Awdurdod yn cael gwared arnynt ac yn codi tâl priodol ar y
perchennog tir
·
rhoi
gwybod nad oeddent yn gallu gweld unrhyw fudd i’r awdurdod lleol drwy
drosglwyddo cyfrifoldebau dros reoli coed i gynghorau tref neu gymuned
·
cadarnhau
bod pob Gwasanaeth y Cyngor yn gyfrifol am y coed a oedd ar neu wrth ymyl tir
neu eiddo roeddent yn eu rheoli e.e. tai, gwasanaethau cymdeithasol, addysg,
gwasanaethau hamdden ac ati. Ad-delir am unrhyw waith adferol a wnaed gan y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i sicrhau diogelwch preswylwyr a
defnyddwyr gwasanaeth ar ac o amgylch safleoedd a reolir gan wasanaethau
eraill, i gyllideb y Gwasanaeth hwnnw. Roedd y mater o godi ad-daliad ar wasanaethau am
waith a wnaed yn ddadl ehangach, a oedd angen digwydd ar draws y Cyngor - roedd
yn werth archwilio rhinweddau cael 'cyllideb' er mwyn gwneud gwaith i gadw
preswylwyr a'r cyhoedd yn ddiogel mewn eiddo dan berchnogaeth y Cyngor, neu
mewn ardaloedd o'u cwmpas, ar sail yn ôl y gofyn
·
gall
cyfrifoldeb ysgolion am ddiogelwch a chynnal a chadw coed ar eu tir gael eu
dirprwyo i bob ysgol yn unol â’u cyllideb ddirprwyedig
·
pwysleisio’r
angen i gynghorwyr neu'r cyhoedd a oedd â phryderon am ddiogelwch coed i’w
hadrodd i Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor, fel bod pob ymholiad yn
cael ei gofnodi ar y system CRM a’i ddyrannu i’r Gwasanaeth er mwyn mynd ar ei
drywydd Byddai hyn yn sicrhau bod llwybr archwilio’n bodoli ar gyfer bob ymholiad
·
rhoi
gwybod, os oedd unrhyw anghydfod rhwng cymdogion oherwydd uchder gwrychoedd ac
ati, y byddai’r rhain yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd. Fodd bynnag, fe wnaeth Adran 3 o’r weithdrefn ddrafft gyfeirio at Ddeddf
Gwrychoedd Uchel, Rhan 8 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, 2003, a’i
darpariaethau mewn perthynas ag effaith twf gwrych bytholwyrdd ar olau
naturiol. Cyfeiriwyd pobl at yr adran hon hefyd o dan y 'Gyfraith Gyffredin' i leihau
niwsans sy'n cael ei achosi gan goed yn mynd ar y tir
·
cadarnhau
bod y weithdrefn ddrafft yn destun ymgynghoriad mewnol ar hyn o bryd gyda’r
Cyngor. Nid oedd ymgynghori wedi’i ymestyn hyd yn hyn yn allanol i’r cyhoedd,
awdurdodau cyfagos neu Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru (NWTRA). Fodd bynnag, cydnabuwyd bod NWTRA yn
rheoli coed yn effeithiol ar hyd ei rwydwaith. Unwaith roedd y Cyngor yn hapus gyda’r weithdrefn,
byddai swyddogion yn fodlon ei rhannu gyda NWTRA
·
cytuno
i wneud ymholiadau ar nifer o honiadau a wnaed yn erbyn y Cyngor dros y
blynyddoedd diwethaf, o ran y difrod a achoswyd gan goed sy’n berchen i’r
Cyngor, a’r symiau a dalwyd i setlo honiadau o'r fath
·
cytunodd
y swyddogion i gylchredeg dolen gyswllt i aelodau i’r adran berthnasol o wefan
y porth Cynllunio sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth amrywiol a chanllaw TPO,
gwrychoedd uchel a choed, a oedd yn cynnwys mapiau’n dangos coed a oedd eisoes
yn destun TPO.
Gofynnodd y Pwyllgor i’r ddogfen weithdrefn
derfynol gynnwys cyfeiriad penodol at berchnogaeth coed nad oedd ar briffyrdd,
wedi’u lleoli yng nghyffiniau tiroedd ysgol, neu arnynt, cyfleusterau hamdden,
cyfleusterau gofal cymdeithasol, neu eiddo arall sy’n cael eu rhedeg gan y
Cyngor, a’r angen am ‘reolwr safle cyfrifol’ i sicrhau bod trefniadau’n cael eu
gwneud er mwyn i asesiadau risg iechyd a diogelwch rheolaidd gael eu gwneud ar
goed yn y safleoedd hynny. Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch a oedd
rheolwyr eiddo’r Awdurdod wedi’u hyfforddi’n addas neu’n gymwys i gynnal
asesiadau risg ar goed at ddibenion atebolrwydd cyhoeddus, ac a allai’r Cyngor
neu reolwyr unigol fod mewn risg o fod yn agored i gamau cyfreitha, drwy beidio
ag asesu diogelwch y coed ar yr eiddo yma gan unigolion â chymwysterau addas.
Ar ddiwedd y drafodaeth -
PENDERFYNWYD yn
amodol ar y sylwadau uchod, a chynnwys cyfeiriad penodol yn y ddogfen bod
‘rheolwr safle cyfrifol’ ym mhob eiddo wedi’i redeg gan y Cyngor, yn sicrhau
bod trefniadau’n cael eu gwneud i gynnal asesiadau risg iechyd a diogelwch
rheolaidd ar yr holl goed nad ydynt ar briffyrdd, ar neu o amgylch y safle, at
ddibenion diogelu defnyddwyr safle a'r cyhoedd, i gefnogi'r dull a amlinellir
yn y ddogfen gaffael 'Delio â Choed'.
Dogfennau ategol: