Eitem ar yr agenda
GWERSI YN DILYN ADOLYGIAD O ADDYSG GYNRADD ARDAL RHUTHUN
- Meeting of Pwyllgor Craffu Cymunedau, Dydd Iau, 19 Hydref 2017 10.00 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried
adroddiad gan y Pen Reolwr Cefnogaeth Addysg (copi ynghlwm) yn amlinellu
cynnydd Adolygiad Ardal Cynradd Rhuthun a gwersi a ddysgwyd hyd yma o’r gwaith
a gyflawnwyd.
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl
Ifanc adroddiad Prif Reolwr Cymorth Addysg (a gylchredwyd ymlaen llaw).
Dywedodd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno ar gais y pwyllgor oherwydd, yn
ystod cyfnod y Cyngor diwethaf, bod yr aelodau wedi gofyn am adolygiad o
gynnydd adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun er mwyn deall y gwersi a
ddysgwyd yn ystod yr ymarfer a cheisio gwella prosesau adolygiadau tebyg.
Er budd aelodau newydd, amlinellodd yr Aelod
Arweiniol a Phennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant gefndir yr adolygiadau addysg
gynradd sydd wedi eu cynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dywedwyd mai
amcanion yr adolygiadau yw –
·
Sicrhau
cynaliadwyedd darpariaeth addysg o ansawdd uchel ar draws y sir
·
Gwella
safon adeiladau a chyfleusterau ysgolion
·
Sicrhau
bod y nifer a’r math cywir o leoedd ysgolion ar gael yn y lleoliadau cywir
Bu iddynt hefyd bwysleisio bod adolygiad addysg
gynradd ardal Rhuthun wedi ei gynnal tra bo tri Gweinidog/ Ysgrifennydd Cabinet
Llywodraeth Cymru gwahanol wedi bod yn gyfrifol am y portffolio addysg. Roedd
gan bob un ddull neu bwyslais ychydig yn wahanol i’r llall o ran yr angen i
fynd i’r afael â lleoedd ysgolion gwag os bwriedir gwneud cais am gyllid
cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau addysgol. Dechreuodd Sir Ddinbych
foderneiddio ei wasanaethau addysg yn 2009 ar ôl mabwysiadu Fframwaith Polisi
Moderneiddio Addysg. Roedd y fframwaith hwn yn sylfaen i’r Cyngor gynllunio sut
a lle y byddai modd darparu gwasanaethau addysg yn y dyfodol. Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar y pryd yn glir iawn ynghylch
bod yn rhaid i awdurdodau lleol fynd i’r afael â lleoedd ysgolion gwag os oedd
arnynt eisiau gwneud cais am gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif gan Lywodraeth
Cymru. Roedd dangos tystiolaeth o sut y bwriedir mynd i’r afael â lleoedd gwag
yn ofyniad allweddol wrth gyflwyno ceisiadau am gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif
ar gyfer prosiectau cyfalaf addysgol. Er mwyn i’r Cyngor dderbyn y cyllid hwn roedd yn rhaid ad-drefnu ysgolion,
felly roedd cau rhai ysgolion yn anorfod. Pwysleisiodd y Gweinidog yr angen i
fynd i’r afael â lleoedd gwag pan ysgrifennodd at awdurdodau lleol yn 2012. Ym
mis Mehefin 2013 bu i’r Cabinet gymeradwyo’r chwe argymhelliad a nodwyd yn yr
adroddiad mewn perthynas â dyfodol addysg gynradd yn ardal Rhuthun. Fodd
bynnag, ym mis Hydref y flwyddyn honno cyflwynodd Llywodraeth Cymru God
Trefniadaeth Ysgolion a oedd â goblygiadau mawr o ran manylder yr wybodaeth a
oedd angen ei darparu yn ystod y camau ymgynghori ffurfiol ynghylch cynigion i
ad-drefnu ysgolion. Tra bod y cod yn fanwl iawn ynghylch gofynion gorfodol y
broses ymgynghori roedd hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar y camau ‘y dylid’ eu
cymryd. Fodd bynnag nid oedd yn gofyn i awdurdodau lleol gymryd y camau hynny.
Wrth edrych yn ôl byddai wedi bod yn well petai’r Cyngor wedi cymryd y camau
hyn oherwydd iddo fethu bodloni’r gofynion hyn yn yr achosion y cyfeiriwyd at y
Gweinidog a’r Uchel Lys. Dywedwyd hefyd bod y Cyngor yn dal yn aros am
benderfyniad gweinidogol ynghylch ail apêl yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol
Llanbedr Dyffryn Clwyd, deunaw mis ar ôl atgyfeirio’r penderfyniad at
Lywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod
Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion:
·
Mai
dyletswydd statudol y Cyngor mewn perthynas ag addysg yw darparu addysg o’r
radd flaenaf i ddisgyblion y sir.
·
Er mwyn gwneud hyn a sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad i gyfleusterau
sy'n briodol ar gyfer darparu cwricwlwm modern, gan gynnwys pynciau
gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Roedd hyn yn golygu cau
adeiladu hŷn nad oedd modd eu haddasu ac uno ysgolion llai neu, fel arall,
ni fyddai’r awdurdod addysg yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau i ddisgyblion y
sir. O ran categorïau iaith yr ysgolion, elfen sydd wedi bod yn bwnc llosg rhai
o’r cynigion ad-drefnu adolygiad addysg gynradd ardal Rhuthun, mae Llywodraeth
Cymru wedi sicrhau y bydd yn edrych ar gategorïau iaith ysgolion yn y dyfodol
agos
·
Cadarnhawyd
bod adborth gan fudd-ddeiliaid, gan gynnwys cyrff llywodraethu a rhieni, yn
cael ei groesawu a’i werthfawrogi yn ystod prosesau ymgynghori
·
Yn
dilyn proses adolygu mae’r awdurdod lleol bellach wedi derbyn eglurhad ar rolau
a chyfrifoldebau’r awdurdod addysg, penaethiaid a chyrff llywodraethu mewn
perthynas ag ysgolion a gynhelir ac ysgolion nas cynhelir wrth ymgynghori
ynghylch unrhyw gynnig
·
Cytunwyd
bod hi'n bwysig datblygu strategaeth ochr yn ochr â chynigion ad-drefnu pan
fo’r cynigion yn golygu gwagio adeiladau er mwyn gwaredu adeiladau gwag ac ati.
Mae gwaith yn cael ei wneud gyda Landlord Corfforaethol y Cyngor i ddatblygu
strategaeth i reoli a gwaredu adeiladau gwag corfforaethol, gan gynnwys
adeiladau ysgol
·
Mae
cefnogaeth ar gael i benaethiaid, staff, disgyblion a rhieni i'w helpu nhw
gyda’r broses bontio o un ysgol/cyfleuster ysgol i’r llall
·
Cadarnhawyd,
er bod rhai cymunedau yn ymateb yn negyddol i gau ysgolion, yn arbennig hyd nes
bydd y plant wedi setlo i mewn i’r cyfleusterau newydd ac yn dechrau manteisio
ar y cyfleusterau hynny, bod y gwrthwyneb wedi digwydd yn Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Arweiniodd y bygythiad i gau’r ysgol at ddod â’r trigolion yn nes at ei gilydd
i gydweithio i gefnogi’r ysgol
·
Cadarnhawyd
bod prinder penaethiaid yng Nghymru. Mae’r anawsterau wrth recriwtio
penaethiaid, yn arbennig i ysgolion gwledig bychain, wedi eu hamlygu’n
genedlaethol
·
Mae
llinellau cyfathrebu clir rhwng cadeiryddion cyrff llywodraethu, penaethiaid
a’r awdurdod lleol yn bwysig iawn bob amser ac yn allweddol yn ystod ymarferion
ymgynghori
·
Cadarnhawyd
bod dros £100,000 wedi ei fuddsoddi yn ysgolion Sir Ddinbych ers dechrau’r
broses Moderneiddio Addysg yn 2009
·
Er
nad oedd rhieni wedi rhestru safon adeiladau ysgol fel blaenoriaeth uchel yn
ystod yr ymgynghoriadau ynghylch y cynigion ad-drefnu, roedd safon y
cyfleusterau yn uwch ar sgoriau boddhad rhieni y mae eu plant wedi symud i
gyfleusterau modern o ganlyniad i’r adolygiadau blaenorol. Felly, rhagwelir, ar
ôl gwerthuso effaith adolygiad ardal Rhuthun ar ôl i’r disgyblion setlo i mewn
i’w cyfleusterau newydd y bydd ansawdd y cyfleusterau yn derbyn sgôr uwch gan
rieni
·
Cadarnhawyd,
petai Llywodraeth Cymru yn cefnogi apêl Llanbedr Dyffryn Clwyd, y byddai’r
Cyngor yn gweithio gyda’r corff llywodraethu i’w cefnogi nhw i ddarparu addysg
o’r radd flaenaf i'r disgyblion
·
Cadarnhawyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau i’r Cod
Trefniadaeth Ysgolion, a oedd yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion
gwledig ac nad yw mynd i’r afael â lleoedd gwag o reidrwydd yn golygu cau
ysgolion. Fodd bynnag, ni fyddai modd rhoi gweithdrefnau’r cod diwygiedig mewn
grym yn adolygol. Bydd presenoldeb lleoedd gwag wastad yn rhoi pwysau ariannol
ychwanegol ar ysgolion. Ni fydd y cod diwygiedig, ar ôl ei gymeradwyo,
yn diffinio dull y Cyngor ar gyfer gwneud cais yn ystod cylch nesaf cyllid
Ysgolion yr 21ain ganrif
·
Amlinellwyd
y meini prawf a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diffinio ysgolion
gwledig, a bu iddynt gytuno â’r Pwyllgor nad yw diffiniad presennol Llywodraeth
Cymru ar gyfer dosbarthiad ysgolion gwledig yn foddhaol
·
Cadarnhawyd
bod y ddau benderfyniad i gau ysgolion, yn Llanbedr Dyffryn Clwyd a
Phentrecelyn, a heriwyd ac a apeliwyd, wedi eu cefnogi ar sail drefniadol yn
hytrach nag ar y rhesymau addysgol dros gau. Eglurwyd cymhlethdodau proses yr
adolygiad barnwrol a’r newid i godau Llywodraeth Cymru yn fanwl
·
Nid oes fformiwla benodol ar gyfer penderfynu
ar leoliad neu faint optimwm ysgolion ardal. Mae’n rhaid i bob achos gael ei gynnig yn ôl ei
rinweddau ei hun ac yn ôl gwerthusiad o’i botensial i ddarparu cwricwlwm
ystyrlon i ddisgyblion. Fodd bynnag, ystyrir nad yw bellach yn briodol darparu
cwricwlwm i ddisgyblion o wahanol oedrannau a blynyddoedd ysgol yn yr un
dosbarth. Dyma’r rheswm dros ffedereiddio rhai ysgolion yn hytrach na’u huno
e.e. Bryn Clwyd a Gellifor
·
Cadarnhawyd
mai nifer y disgyblion mewn ysgol yw’r ystyriaeth sylfaenol leiaf at ddibenion
ad-drefnu ysgolion. Bydd ffactorau eraill yn cael ystyriaeth gyfartal os nad
mwy e.e. darparu cwricwlwm, profiadau’r plentyn, atebolrwydd ac arweinyddiaeth
·
Dywedwyd
bod effaith bosibl y datblygiadau tai arfaethedig sy’n hysbys i’r awdurdod neu
wedi eu cynnwyd yn y CDLl wedi ei hystyried yn y cynigion ad-drefnu a
gymeradwywyd gan y Cabinet
·
Cytunwyd, efallai, bod y cyhoedd wedi
cam-ganfod ehangder yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ynghylch adolygiad o ardal
Rhuthun, a bod cyfathrebu â thrigolion yn un maes y gellid ei gryfhau cyn
cynnal ymgynghoriad ynghylch cylch nesaf prosiectau cyllid Ysgolion yr 21ain
ganrif
·
Cadarnhawyd
bod pryderon wedi eu mynegi o ran effaith bosibl hyfywedd Ysgol Borthyn,
Rhuthun, ar ôl i’r ysgolion newydd gerllaw agor. Bydd y Cyngor yn monitro’r
sefyllfa yn ofalus. Tra bod y cynnig yn yr ysgol hon yn wahanol i’r ysgolion
newydd, oherwydd ei bod yn ysgol wirfoddol a reolir, bydd yr awdurdod yn
darparu cefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio ac i’r dyfodol. Yn ogystal, mae’r
ysgolion newydd wedi eu cynllunio’n ofalus o ran lleoedd, ac nid yw’n fwriad
cael effaith niweidiol ar Ysgol Borthyn sy’n ysgol gymunedol werthfawr. Wrth
gynllunio’r ysgolion newydd rhoddwyd ystyriaeth ofalus i’r effaith bosibl ar
ysgolion sefydledig cyfagos
·
Mae
cyflwyno dewis rhieni o ran darpariaeth ysgol wedi effeithio ar nifer y
disgyblion sy’n mynychu eu hysgol leol, gan fod rhieni rŵan yn cludo eu
plant i ysgol o’u dewis, llawer o’r ysgolion hyn wrth ymyl eu gweithle
·
Cadarnhawyd bod y ddogfennaeth yn
ymwneud ag ymgynghoriad arolwg addysg gynradd ardal Rhuthun, ynghyd â’r
ymatebion, ar gael i’r aelodau ei harchwilio os ydynt yn dymuno
·
Bu iddynt gytuno â’r Pwyllgor y byddai’n
briodol adolygu trefniadau ffederasiwn Ysgol Bryn Clwyd, Llandyrnog ac Ysgol
Gellifor i werthuso eu heffeithiolrwydd i’r dyfodol
·
Cadarnhawyd,
yn dilyn casgliad Adolygiad Addysg Gynradd Ardal Rhuthun, ac ar ôl i’r holl
ddisgyblion setlo i mewn i’w hysgolion newydd a threulio blwyddyn academaidd
gyfan ynddynt, y dylid cynnal asesiad o effaith y newidiadau ar les a
chyrhaeddiad addysgol disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned (yn unol â’r
egwyddor datblygu cynaliadwy a nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015)
Dywedodd yr Aelod Arweiniol blaenorol dros Addysg,
o’i brofiad ef o gynnal adolygiad ardal Rhuthun, bod cyfranogiad cynrychiolwyr
yr esgobaeth yn y broses o wneud penderfyniadau wedi bod yn heriol ar adegau.
Roedd hefyd yn cydnabod nad oes dwy ysgol yr un fath a bod gan bob ysgol ei
rhinweddau ei hun. Mae rhai yn asedau cymunedol gwerthfawr ac yn gwasanaethu
Cymry Cymraeg lleol ac mae eraill yn cael eu gwerthfawrogi gan rieni sy’n dewis
cludo eu plant iddynt.
O ran categori iaith ysgolion, dywedodd un aelod y
byddai’n well petai ysgolion yn cael dewis eu categori iaith eu hunain, yn
hytrach na gorfod cadw at gategori iaith Llywodraeth Cymru. Byddai dull o’r
fath yn helpu disgyblion o bob ysgol yn y sir ddatblygu sgiliau Cymraeg ac yn
cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn
2050.
Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr:
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried
y canfyddiadau yn yr adroddiad yn fanwl, ac yn amodol ar y sylwadau uchod -
(a) Nodi’r gwersi a ddysgwyd yn
sgil cynnal Adolygiad Addysg Gynradd Ardal Rhuthun ac argymell bod mesurau
priodol yn cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw wendid cyn cynnal
rhagor o adolygiadau addysg;
(b) Paratoi adroddiad er
gwybodaeth i’w gylchredeg i aelodau Pwyllgor a Chynghorwyr eraill sy’n dymuno
ei dderbyn, yn manylu ar y broses ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas ag
Adolygiad Addysg Gynradd Ardal Rhuthun, gan gynnwys manylion yr holl ymatebion
a dderbyniwyd;
(c) Monitro'r sefyllfa mewn
perthynas â disgyblion a budd-ddeiliaid Ysgol Rhewl yn ofalus hyd nes bod yr
ysgol yn cau yn 2018;
(d) Monitro’r sefyllfa mewn
perthynas â disgyblion a budd-ddeiliaid Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd hyd nes
bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg wedi penderfynu ar
ganlyniad yr apêl;
(e) Darparu adroddiad yn
gwerthuso’r gefnogaeth a roddir i Ysgol Rhewl ac Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd
i’r Pwyllgor er ystyriaeth yn ystod hydref 2018;
(f) Cynnal asesiad llawn o
effaith Adolygiad Addysg Gynradd Ardal Rhuthun, yn seiliedig ar egwyddorion a
nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ar ddiwedd y flwyddyn
academaidd gyntaf y mae’r disgyblion wedi bod yn eu hysgolion newydd, gan
gyflwyno'r canfyddiadau i'r Pwyllgor;
(g) Bod Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio yn ystyried
archwilio’r strategaeth ar gyfer rheoli a gwaredu asedau corfforaethol nad oes
eu hagen bellach.
Yn y fan hyn (12 p.m.) cymerodd y pwyllgor egwyl
am luniaeth.
Dogfennau ategol:
- RUTHIN PRIMARY AREA REVIEW, Eitem 5. PDF 242 KB
- RUTHIN PRIMARY AREA REVIEW - APPENDIX, Eitem 5. PDF 896 KB