Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2016/17

Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 fel y mae ar ddiwedd chwarter 4 2016/17.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17  ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen -

 

·         Crynodeb Gweithredol - cyflawniadau manwl ac eithriadau allweddol gyda pherfformiad da yn gyffredinol.

·           Dim ond un canlyniad wedi cael ei asesu fel Coch: Blaenoriaeth ar gyfer Gwella - Canlyniad 7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, a oedd yn ddangosydd blynyddol (dim data newydd ar gyfer y chwarter hwn) fel y nodwyd a thrafodwyd yn flaenorol.  Roedd pob canlyniad arall wedi’i werthuso i fod yn dderbyniol neu’n well, ac roedd adroddiad chwarterol llawn wedi darparu asesiad ar sail tystiolaeth o'r sefyllfa bresennol yn canolbwyntio ar eithriadau allweddol.

 

Roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd penodol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion allweddol yn cael sylw a’u trafod ymhellach yn y cyfarfod.  Roedd y rhan fwyaf o feysydd yn ddangosyddion blynyddol ac ni fu fawr o symudiad ers y chwarter diwethaf.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r materion canlynol –

 

·         Canlyniad 7: Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial – ar gyfer eglurder, esboniodd y Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y cefndir hyd at y sefyllfa bresennol.

·           Yn 2012, roedd y Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol iddo ei hun i fod y Cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran cyrhaeddiad addysgol.  Mesurodd Estyn berfformiad yn ôl safle Prydau Ysgol Am Ddim  y Cyngor, lle'r oedd Sir Ddinbych yn safle 14, ac roedd lefel llwyddiant Sir Ddinbych yn unol â hynny.  Ym mis Ebrill 2013, aeth Gwasanaeth Rhanbarthol Gwella Ysgolion, GwE, yn fyw a dirprwywyd y gwasanaeth i ddarparu ar ran awdurdodau lleol yn rhanbarthol, a chafodd adnoddau eu cyfeirio at yr awdurdodau hynny mewn angen fwyaf.  Gan fod Sir Ddinbych yn perfformio’n dda, golygai’r dull nad oedd gwelliant yn parhau ar yr un raddfa, ac er bod y Cyngor yn dal i gyflawni'n gadarnhaol yn unol â phroffil Estyn o'r awdurdod, nid oedd wedi cyflawni ei uchelgais.  Gan fod yna bellach well cysondeb ar draws y rhanbarth, rhagwelwyd y byddai cyfradd gwelliant Sir Ddinbych yn cynyddu.  Ychwanegodd yr Arweinydd bod uchelgeisiau'r Cyngor yn parhau’n uchel a bod angen sicrhau tuedd o welliant.  O ran heriau'r dyfodol, cynghorodd y Pennaeth Gwasanaeth fod disgyblion CA2 yn cyflawni’n dda ond bod bwlch mewn lefel perfformiad rhwng CA2 a CA4, ac y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda GwE er mwyn sicrhau'r lefel cywir o gefnogaeth yn hynny o beth.  Ychwanegodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts fod yna bellach well cysondeb ar draws y rhanbarth, ac felly roedd angen ymdrechu i gyrraedd lefel uwch o welliant. Roedd yn hyderus y byddai'r adroddiad nesaf yn adlewyrchu'r nod hwnnw.  Dadleuodd y Prif Weithredwr fod angen mwy o bwyslais ar ansawdd addysg mewn ysgolion yn hytrach nag ansawdd y gwasanaeth cefnogi, a theimlai y gellid rhoi teilyngdod i adolygu’r targed, er y dylai barhau yn uchelgeisiol. Canlyniad 8: Gwella ein ffyrdd – trafodwyd yr her o gynnal ansawdd ein ffyrdd gwledig yn barhaus, yn ogystal â p'un a fyddai buddsoddiad ychwanegol ar gael at y diben hwnnw.  Nodwyd y byddai aelodau yn trafod blaenoriaethau corfforaethol y cyngor ar gyfer buddsoddi yn y Cyngor llawn ym mis Gorffennaf

·         Canlyniad 9: Mesur Newydd - nifer y lleoliadau newydd i oedolion y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal (65 oed neu hŷn).  Esboniwyd bod hwn yn fesur newydd heb unrhyw ffigurau eto, ond mai ei bwrpas oedd nodi tueddiadau'r dyfodol.  Fodd bynnag, roedd y duedd gyffredinol i lawr gan fod yna bellach lawer o ddewisiadau amgen i gartrefi gofal.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni’r Cynllun Corfforaethol ar ddiwedd chwarter 4 o 2016/17.

 

 

Dogfennau ategol: