Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 01/2016/0374/PF - TIR YNG NGHAE TOPYN ODDI AR HEN FFORDD RHUTHUN, FFORDD EGLWYSWEN, DINBYCH
- Meeting of Pwyllgor Cynllunio, Dydd Mercher, 15 Mawrth 2017 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried cais i
godi 75 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith
cysylltiedig ar dir yng Nghae Topyn, oddi ar Hen Ffordd Rhuthun, Ffordd
Eglwyswen, Dinbych (copi ynghlwm)
Cofnodion:
[Datganodd y Cynghorydd Welch
gysylltiad personol gan fod Perchennog y cae y mae’r cais yn ymwneud ag o yn
ffrind iddo. Datganodd y Cynghorydd Arwel Roberts gysylltiad personol yn yr eitem hon
gan ei fod yn ymwneud â Chapel yr oedd yn pregethu’n aml ynddo.
Roedd cais wedi ei gyflwyno i
godi 75 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith
cysylltiedig ar dir yng Nghae Topyn, oddi ar Hen Ffordd Rhuthun, Ffordd
Eglwyswen, Dinbych.
Siaradwyr Cyhoeddus-
Dr. H. Watkin (Yn erbyn) – cyfeiriodd at ddogfennau
roedd wedi eu hanfon at aelodau ar y diwrnod blaenorol ynglŷn â’i
wrthwynebiad i’r datblygiad ac amlygodd feysydd pryder penodol yn ymwneud â mynediad
i gerddwyr, mannau agored, priffyrdd a pharcio, llifogydd, ac effeithiau ar y
Gymraeg a bioamrywiaeth.
Mr. M. Gilbert (O blaid) – pwysleisiodd fod y safle
wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLl ac felly roedd yn dadlau
bod gwrthwynebiadau i’r lleoliad a’r pellter at gyfleusterau yn bwyntiau
amherthnasol. Adroddodd ar y gofynion a gyflwynwyd drwy’r gweithdrefnau ymgeisio ac
ymatebodd i faterion a godwyd ynghylch y traffig a gynhyrchwyd a pharcio,
llifogydd, bioamrywiaeth ac addysg.
Trafodaeth Gyffredinol - Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu eitem yn nodi fod y safle'n rhan o
ddyraniad tir mwy ar gyfer tai yn y CDLl. Tynnodd sylw at y diffyg mawr yn nifer y tai a gwblhawyd dros gyfnod y
CDLl, gan nodi y byddai’r datblygiad yn darparu 75 o dai ac ystod o anheddau
(gydag ychydig mwy na’r isafswm o 10% o dai fforddiadwy), gofod agored a
thaliad swm gohiriedig o £31,993. Er mwyn arwain datblygwyr posibl, roedd Briff
Datblygu Safle (BDS) wedi cael ei fabwysiadu, ac er nad oedd yn bolisi, roedd y
BDS hwn yn cynnig arweiniad ac roedd yn ystyriaeth gynllunio o bwys yn yr achos
hwn. Roedd y prif ystyriaethau cynllunio wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac
roedd y BDS wedi cael ei ystyried hefyd mewn perthynas â chynigion fel rhan o’r
broses honno. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu codi gan arbenigwyr a ymgynghorwyd a
nhw a darparwyd dogfennau priodol mewn perthynas â’r asesiadau a’r
strategaethau perthnasol oedd eu hangen. Yn olaf, atgoffwyd aelodau fod yr ystyriaethau
cynllunio o bwys yn ymwneud ag effaith y cynnig yn hytrach nag egwyddor y
datblygiad.
Tynnodd y Cynghorydd Mark
Young (Aelod Lleol) sylw at y swm sylweddol o waith a wnaed i ddatblygu’r BDS
ar gyfer Safleoedd Brookhouse a oedd yn sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau
cynllunio ar y safle, ac roedd yn credu fod sawl agwedd i’r datblygiad
arfaethedig nad oedd yn cydymffurfio â'r gofynion hynny. Rhannwyd y farn hon gan ei gyd-Gynghorwyr
o Ddinbych, Colin Hughes a Gwyneth Kensler a roddodd ychydig o hanes y safle o fewn
cyd-destun presennol y cais cynllunio a dyraniad y safleoedd gan yr Arolygiaeth
Gynllunio. Roedd trigolion Dinbych wedi gwrthwynebu’r dyraniad safle yn y CDLl ac nid
oedd y cynigion datblygu presennol yn cynrychioli eu lles gorau. Siaradodd y Cynghorydd David Smith hefyd o
blaid y defnydd penodol o BDS wrth ystyried ceisiadau cynllunio ac roedd yn
siomedig nad oedd mwy o bwyslais wedi’i roi ar y BDS ar yr achlysur hwn. Y consensws cyffredinol oedd, o ystyried
fod y BDS wedi cael ei deilwra'n benodol ar gyfer Safleoedd Brookhouse, ac er
gwaethaf sicrwydd y byddem yn cydymffurfio’n bendant â’r BDS, nid oedd wedi
digwydd yn yr achos hwn. Codwyd cwestiynau hefyd ar y pwynt hwn ynghylch yr asesiad cludiant a
mesurau i fynd i’r afael â phryderon ynghylch llifogydd ynghyd â phroblemau
draenio. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cadernid y gofynion cyfreithiol a
gynigiwyd o ystyried bod nifer wedi cael eu herio a’u gwyrdroi yn sgil hynny yn
y gorffennol.
Dyma oedd ymateb y Swyddogion
i bryderon a chwestiynau’r Aelodau:-
·
rhoddwyd
eglurhad o’r derminoleg ynghylch BDS gan gadarnhau nad oedd yr BDS yn bolisi yn
yr ystyr cyfreithiol ond roedd yn arweiniad ac yn ystyriaeth gynllunio o bwys
ac yn rhan bwysig o’r asesiad
·
pwysleisiwyd
nad oedd y BDS wedi cael ei anwybyddu yn yr achos hwn a nododd y swyddogion yn
glir fod polisïau yn y CDLl a gefnogwyd gan arweiniad ac roedd asesiad clir o’r
cais wedi ei gynnal gan roi ystyriaeth i’r BDS
·
er
eglurder, gofynnwyd i aelodau nodi’r meysydd hynny o’r BDS y credent nad oedd y
cais yn cydymffurfio â nhw
·
mewn
perthynas â chwestiynau ynghylch addysg a draenio / llifogydd, tynnwyd sylw’r
aelodau at y wybodaeth ychwanegol yn y papurau ategol (taflenni glas) a oedd yn
rhoi eglurhad ar y materion hynny
·
er y
gwerthfawrogwyd fod pryderon ynghylch materion priffyrdd, ystyriwyd fod y data
a gynhyrchwyd fel rhan o’r Asesiad Cludiant yn gadarn ac roedd yr effaith ar y
rhwydwaith priffyrdd lleol wedi’i nodi yn yr adroddiad – daethpwyd i’r casgliad
y gallai’r rhwydwaith briffyrdd bresennol ymdopi â’r lefel hwnnw o draffig ac
roedd hyder y gallai ymdopi â’r traffig ychwanegol.
Yn ystod y drafodaeth,
rhoddodd aelodau ystyriaeth i’r polisïau a’r canllawiau perthnasol, gan gynnwys
y BDS a’r ystyriaethau cynllunio o bwys fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn ychwanegol at y cyfoeth o bryderon a
godwyd drwy’r sylwadau a dderbyniwyd, mynegodd yr aelodau eu pryderon ynghylch
y datblygiad hefyd –
·
Priffyrdd
(gan gynnwys mynediad a pharcio) – pryderon ynghylch digonolrwydd yr Asesiad
Cludiant a’r dulliau cyfrifo o ystyried fod datblygiadau blaenorol a
gymeradwywyd ar y sail hwnnw wedi arwain yn sgil hynny at gynnydd mewn
problemau traffig; problemau parcio ar Hen Ffordd Rhuthun; safle’r fynedfa wrth
ymyl y Capel a’r angen am leoedd parcio ychwanegol ar amseroedd brid, a
phryderon ynghylch llwybrau diogel i’r ysgol
·
Addysg
– roedd gofyniad yn y BDS am gyfraniad addysg a mynegwyd pryderon ynghylch y
penderfyniad i hepgor y gofyniad hwnnw, yn arbennig o ystyried ffafriaeth
rhieni gyda nifer o ysgolion yn hollol llawn, gan gynnwys Ysgol Glan Clwyd,
ynghyd â’r straen ar yr isadeiledd ysgolion presennol ar ffurf dosbarthiadau
symudol. Amlygwyd pwysigrwydd yr amgylchedd addysgol i ddisgyblion presennol a
darpar ddisgyblion
·
Y Gymraeg
– cyflwynwyd mai Dinbych oedd ag un o’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg yn
y sir a allai gael ei fygwth gan y datblygiad gan fynd yn groes i strategaethau
i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir ac ar draws Cymru
·
Tai
fforddiadwy – roedd y datblygwr wedi nodi ei fwriad i ddarparu 8 annedd fel tai
fforddiadwy ar y safle a fyddai’n gorfod bod yn destun cytundeb A.106 i’w
gyflawni. Fodd bynnag, nid oedd rhai aelodau wedi eu perswadio y gellid dibynnu ar
gytundeb cyfreithiol i sicrhau fod yr anheddau hynny’n cael eu darparu
·
Gofod
Agored – roedd galwadau i ddarparu’r dyraniad llawn
·
Draenio
(gan gynnwys llifogydd) – teimlwyd y dylid fod wedi delio â’r elfen hon ar y
cam cyn ymgeisio fel y nodwyd yn y BDS ac er bod rhywfaint o wybodaeth wedi
cael ei darparu ynghylch rheoli llifogydd dŵr wyneb a draenio, nid oedd
aelodau’n credu bod digon o fanylion i’w bodloni i'r perwyl hwn, yn enwedig o
ystyried nad oedd yr isadeiledd presennol yn ymdopi ac ystyriwyd bod y
datblygiad a'r modd arfaethedig o fynd i’r afael â’r mater hwn yn debyg o
arwain at lifogydd ychwanegol. Roedd hefyd rhywfaint o bryder ynghylch lleoliad yr orsaf bwmpio nesaf at y
Capel
·
Colli
Gwrychoedd – roedd y cynnig yn cynnwys cael gwared ar wrychoedd a gwnaed
cyfeiriad yn y BDS at y gwrych presennol a oedd yn ffinio â’r A525 a phob ochr
i Hen Ffordd Rhuthun a dylai’r gwrych sefydledig sy’n ffinio â Ffordd Eglwyswen
gael ei gynnal gan amlygu eu pwysigrwydd ar gyfer sgrinio gweledol ac fel
cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt lleol
·
Graddfa, Dwysedd a Chymeriad y
Datblygiad Tai - pryderon fod y datblygiad yn mynd yn erbyn graddfa a chymeriad
yr ardal gyfagos ac yn groes i’r BDS o ran bod cyflawnhad dros ddwysedd is yn
yr achos hwn.
Rhoddodd Swyddogion yr
ymatebion canlynol i’r pryderon a’r cwestiynau hynny:-
Priffyrdd (gan gynnwys
mynediad a pharcio) -
·
er
nad oedd y feddalwedd y gofynnwyd amdani wedi ei defnyddio yn yr Asesiad
Cludiant, roedd swyddogion yn fodlon fod y cyfrifiadau a ddarparwyd yn gadarn
·
roedd
y canllawiau a nodwyd yng Nghanllaw Cynllunio Atodol y Cyngor ar Barcio wedi
cael ei ddiwallu
·
ystyriwyd
na fyddai’r datblygiad yn golygu cynnydd sylweddol mewn traffig yn lleoliad
cyffordd Hen Ffordd Rhuthun a Ffordd Eglwyswen a byddai’n debyg o gynhyrchu
cynnydd o un car y funud ar y briffordd
·
roedd
problem bresennol yn gysylltiedig â pharcio ar Hen Ffordd Rhuthun (brig y
llethr) ac roedd pob mynedfa i’r ffordd yn cyrraedd safonau gwelededd
·
yn
ddelfrydol, byddai 10 safle yn cael eu darparu ar gyfer y Capel a chynigiodd y
datblygwr greu lleoedd parcio i’r Capel ar ffurf cilfan gyda 4 lle – gallai
rhagor o safleoedd gael eu darparu fel rhan o’r cais ar gyfer datblygu’r safle
arall
·
gan ystyried y wybodaeth a
gyflwynwyd, nid oedd y Swyddog Priffyrdd yn ystyried bod sail ddigonol dros
wrthod y cais ar faterion ac roedd amodau wedi eu hawgrymu i ddelio gyda
phwyntiau penodol yn ôl yr angen.
Draenio – nid oedd
gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Pheiriannydd
Draenio Tir y Sir ynghylch y modd arfaethedig o ddelio â draenio dŵr wyneb
ac roedd swyddogion yn credu fod digon o wybodaeth wedi ei chyflwyno i ddangos
y gellid rheoli dŵr wyneb a dŵr budr yn effeithiol os cyflwynwyd
amodau priodol. Roedd ystyriaeth wedi ei rhoi i’r effaith ar y Capel wrth leoli’r orsaf
bwmpio ac roedd wedi ei drafod gydag Iechyd yr Amgylchedd a oedd yn teimlo nad
oedd unrhyw broblemau o ran sŵn neu arogl ac felly nid oedd effaith.
Archaeoleg – ymgynghorwyd ag
Archeolegydd y Sir ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys ac roeddynt wedi
dod i’r casgliad mai effaith gyfyngedig fyddai ar y safle.
Addysg – o ystyried yr
wybodaeth ddiweddaraf a oedd ar gael a’r cyfrifiad o ran nifer y lleoedd ysgol
a fyddai’n cael eu cynhyrchu gan y datblygiad newydd, credai swyddogion Addysg
fod gallu digonol yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd agosaf ac felly ni fyddai
angen cyfraniad ariannol – o ran yr isadeiledd cymunedol, roedd yn rhaid i
gyfraniadau fod yn rhesymol ac wedi eu cysylltu â’r datblygiad.
Tai Fforddiadwy – nododd
swyddogion fod y defnydd o gytundebau A.106 yn arfer safonol i sicrhau bod
datblygwyr yn cael eu dal i gyfrif ac nid oedd yn sail cadarn i wrthod y cais.
Yn sgil y pryderon a godwyd
ynghylch y datblygiad, cynigiodd y Cynghorydd Mark Young, wedi’i eilio gan y
Cynghorydd Merfyn Parry, y dylid gwrthod y cais, a chanolbwyntiodd trafodaeth
bellach ar y sail cynllunio penodol dros wrthod. Nododd Swyddogion, pe bai’r cais yn cael ei
wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddogion, byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor yn unol â'r arfer er mwyn i swyddogion
ymateb i'r materion a godwyd a rhoi cyngor pellach ynglŷn â pha mor
briodol oedd y sail cynllunio dros wrthod.
Cynnig – Cynigiodd y
Cynghorydd Mark Young, ac eiliodd y Cynghorydd Merfyn Parry, y dylid gwrthod y
cais, yn groes i argymhelliad y swyddog ar sail yr effaith annerbyniol ar y
Gymraeg; effaith ar ddiogelwch traffig a llwybrau diogel i’r ysgol; gwybodaeth
annigonol wedi’i chyflwyno ynghylch draeniad a phryderon ynghylch llifogydd;
diffyg cyfraniadau ariannol tuag at addysg yn arwain at effeithiau negyddol ar
addysg; diffyg darpariaeth mannau agored digonol ar y safle; colli gwrychoedd;
graddfa, dwysedd a chymeriad y datblygiad tai, ac effaith niweidiol ar yr
eglwys gyfagos oherwydd yr orsaf bwmpio arfaethedig.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 1
GWRTHOD - 24
YMATAL - 0
PENDERFYNWYD y
dylid GWRTHOD rhoi caniatâd, yn
groes i argymhelliad y swyddogion ar sail yr effaith annerbyniol ar y Gymraeg;
effaith ar ddiogelwch traffig a llwybrau diogel i’r ysgol; gwybodaeth annigonol
wedi’i chyflwyno ynghylch draeniad a phryderon ynghylch llifogydd; diffyg
cyfraniadau ariannol tuag at addysg yn arwain at effeithiau negyddol ar addysg;
diffyg darpariaeth mannau agored digonol ar y safle; colli gwrychoedd; graddfa,
dwysedd a chymeriad y datblygiad tai, ac effaith niweidiol ar yr eglwys gyfagos
oherwydd yr orsaf bwmpio arfaethedig.
Ar y pwynt hwn (11.30 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- ITEM 5 - CAE TOPYN, DENBIGH, Eitem 5. PDF 6 KB
- ITEM 5 - CAE TOPYN, DENBIGH - APPENDICES, Eitem 5. PDF 1 MB