Eitem ar yr agenda
COMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDD
- Meeting of Pwyllgor Craffu Cymunedau, Dydd Iau, 2 Chwefror 2017 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Trafod gyda
Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei weledigaeth a’i flaenoriaethau ar gyfer y
rhanbarth.
9.35 a.m. – 10.15 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Mr Arfon Jones, Comisiynydd
yr Heddlu a Throsedd i’r cyfarfod ar ôl cael gwahoddiad gan y Pwyllgor, i rannu
ei weledigaeth a’i flaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth. Nododd yr Aelodau’r gwahaniaeth rhwng rôl
strategol y Comisiynydd a rôl weithredol y Prif Gwnstabl wrth blismona, a
chytunwyd i wahodd y Prif Gwnstabl i gyfarfod yn y dyfodol i drafod ei
weledigaeth a’i flaenoriaethau.
Cyn ei anerchiad ffurfiol, rhoddodd y Comisiynydd
wybod bod Panel yr Heddlu a Throsedd wedi cymeradwyo ei gyllideb ddrafft
2017/18 yn gynharach yr wythnos honno, a fyddai’n arwain at 17 o swyddogion
heddlu ychwanegol, a 6 aelod staff arall yn cael eu recriwtio. O’r 17 swyddog heddlu ychwanegol
i’w recriwtio, byddai 10 yn cael eu defnyddio ‘ar y bît’ ar draws gogledd Cymru
i ddelio â throseddau lefel isel, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, tra byddai’r
7 swyddog sy’n weddill, a 6 aelod arall o staff yn cael eu cyflogi mewn rolau
arbenigol, i archwilio cam-fanteisio ar blant a seiber-fwlio yn bennaf. I ariannu’r gyllideb hon, roedd y Pwyllgor
wedi cytuno pennu praesept yr Heddlu ar 3.79%, a oedd yn cyfateb i gynnydd o £9
y flwyddyn, neu 17c y diwrnod, ar eiddo Band D ar draws gogledd Cymru.
Anerchodd Mr Jones y Pwyllgor drwy amlinellu ei
rôl a’i gyfrifoldebau fel y Comisiynydd etholedig, cynrychiolydd y cyhoedd ar
gyfer ymgysylltu â Heddlu Gogledd Cymru. Roedd y dyletswyddau hyn yn cynnwys -
·
gosod
y gyllideb a’r praesept ar gyfer Gwasanaeth yr Heddlu
·
dwyn
y Prif Gwnstabl i gyfrif am gyflawni ei brif ddyletswydd, o ddarparu gwasanaeth
plismona effeithiol ac effeithlon i ogledd Cymru, gan ddarparu gwerth am arian
a lleihau troseddau
·
dyrannu
refeniw i grwpiau i atal trosedd ac anhrefn ar draws gogledd Cymru
·
llunio
Cynllun yr Heddlu a Throsedd, gan nodi’r cyfeiriad strategol ar gyfer plismona
yng Ngogledd Cymru.
Roedd y Comisiynydd ar hyn o bryd
yn y broses o ymgynghori ar ei Gynllun Heddlu a Throsedd, ei gynllun cyntaf ers
iddo gael ei ethol ym Mai 2016. Fel rhan o’i ymgynghoriad ar y Cynllun, roedd
holiadur ar-lein wedi bod ar gael i breswylwyr ei lenwi, a chyfres o
gyfarfodydd cyhoeddus wedi’u cynnal ar draws gogledd Cymru. Rhoddodd wybod i aelodau nad oedd wedi
newid Cynllun ei ragflaenydd wedi iddo gael ei ethol, gan ei fod yn cytuno â’r mwyafrif
o gamau gweithredu ynddo. Fodd bynnag, byddai ei Gynllun yn adlewyrchu’r
newidiadau a’r bygythiadau sy’n wynebu gogledd Cymru, yn ogystal â
blaenoriaethau preswylwyr, asiantaethau statudol, y sector gwirfoddol a’r
gymuned fusnes ar draws y rhanbarth, lle bo modd.
Byddai Cynllun y Comisiynydd yn canolbwyntio ar
freguster yn hytrach na cheisio delio â phawb a phopeth. O ganlyniad, byddai’n cynnwys cynlluniau i
fynd i'r afael â cham-drin domestig, cam-drin plant, caethwasiaeth fodern a
masnachu pobl. Er bod egwyddorion sylfaenol plismona wedi aros yr un fath â phan yr oedd
yn swyddog gyda’r heddlu, roedd agweddau eraill ar blismona wedi newid, yn
ogystal â’r mathau o droseddau roeddent yn delio â nhw o ddydd i ddydd. Roedd troseddau ffiaidd fel
cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn
llawer mwy cyffredin nawr, fel yr oedd digwyddiadau seiberdroseddau. Roedd ystadegau bellach yn dangos fod yna fwy
o droseddau’n cael eu cyflawni ar-lein y dyddiau hyn, o’i gymharu ag ar y
strydoedd. O ganlyniad, roedd angen mwy o adnoddau’r Heddlu i ddelio â throseddau a
oedd i bob pwrpas yn ‘guddiedig’, neu nid yn weladwy i fwyafrif y boblogaeth. Er gallai’r drosedd ‘guddiedig’ hon
ymddangos yn fater hawdd i’w ymchwilio i ddechrau, roedd cyflymder a phŵer
seiberdroseddau a chyfryngau cymdeithasol yn golygu ei fod yn faes cymhleth a
allai ehangu dros y byd i gyd a chynnwys dwsinau, os nad cannoedd, o gyflawnwyr
trosedd, h.y. rhannu delweddau anweddus ac ati. I bwysleisio maint a
chymhlethdodau'r mathau hyn o achosion, cyfeiriodd at achosion proffil uchel
penodol a oedd wedi'u cynnwys yn y cyfryngau dros y misoedd diweddar. Yn aml iawn, nid oedd dioddefwyr troseddau
o’r fath, oherwydd eu breguster, yn cydnabod eu hunain fel dioddefwyr, felly
roedd angen amser ac ymrwymiad staff arbenigol o’r Heddlu ac asiantaethau
eraill i gasglu’r dystiolaeth o’r troseddau a gyflawnwyd.
Roedd caethwasiaeth fodern yn drosedd ‘newydd’ arall a oedd yn dod yn
gyffredin yng ngogledd Cymru. Roedd porthladd Caergybi’n gwneud gogledd Cymru’n ardal allweddol yn y DU
ar gyfer masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern. Roedd y math penodol hwn o drosedd angen mwy o
fuddsoddiad ac yn esiampl o nifer o feysydd lle nad oedd yr Heddlu’n gallu
delio â’r broblem ar eu pen eu hun. Roedd materion yn codi o achosion yn cynnwys
caethwasiaeth fodern, cam-drin domestig, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, a
throseddau difrifol eraill yn aml â goblygiadau a gofynion adnoddau llawer
ehangach na phlismona’n unig. Er mwyn mynd i’r afael â’r troseddau hyn yn llwyddiannus, roedd gwaith
partneriaeth effeithiol rhwng yr holl gyrff ac asiantaethau cyhoeddus yn
hanfodol.
Roedd mwy na deuddeg mis wedi mynd heibio ers llunio cynllun
amlasiantaeth, a oedd yn cytuno ar ddelio â’r broblem gynyddol o
gam-fanteisio’n rhywiol. Fodd bynnag, roedd y diffyg cynnydd a wnaed ers ei gymeradwyo wedi bod yn
siomedig. Roedd y Comisiynydd yn meddwl fod hyn oherwydd diffyg ymrwymiad gan
bartneriaid. Gofynnod i'r aelodau etholedig gwestiynu rôl awdurdodau lleol a cheisio
sicrwydd fod popeth posibl yn cael ei wneud i ddiogelu plant ac aelodau mwyaf
diamddiffyn cymdeithas. Prosiect arall roedd yn awyddus i fwrw ymlaen ag ef oedd un i gefnogi plant
a oedd â rhieni yn y carchar. Er bod pob un o’r chwe awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd wedi cyfranogi i
sefydlu'r prosiect, mae'n ymddangos nad oes cynnydd pellach wedi bod.
Pwysleisiodd y Comisiynydd fod plant a phobl ifanc
yn flaenoriaeth arall ganddo. Yn ei farn ef, roedd y system cyfiawnder ieuenctid wedi bod yn aneffeithiol
am flynyddoedd, ac roedd angen ymyrryd yn gynt i atal plant a phobl ifanc rhag
canfod eu ffordd i'r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf. Dywedodd fod y pedwar Comisiynydd Heddlu a
Throsedd yng Nghymru'n galw ar bwerau mewn perthynas â datganoli cyfiawnder
ieuenctid fel rhan o Fesur Cymru, am iddynt deimlo y gallai hyn wella'r
sefyllfa. Yn ei farn ef, roedd manteision system cyfiawnder adferol yn gwrthbwyso'r
manteision o fynd â phobl ifanc i’r llys, yn sylweddol.
Mewn perthynas â’i gyfrifoldeb statudol am
ddyfarnu grantiau i atal trosedd ac anhrefn, dywedodd fod ei swyddfa ar hyn o
bryd yn rhoi arian i bartneriaethau diogelwch cymunedol ar draws gogledd Cymru. Roedd hwn yn drefniant roedd wedi’i
etifeddu, ond nid yn ei gefnogi. Byddai’n well ganddo weld model lle’r oedd y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel, a
oedd ar hyn o bryd yn gweithredu heb arian, yn cael arian i gomisiynu
gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn er mwyn delio â meysydd o bryder. Roedd yn barod i fuddsoddi’r grant i atal
trosedd ac anhrefn yn y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel, i’r Bwrdd gomisiynu
gwasanaethau atal drwy gydol y flwyddyn, a gofyn i bartneriaid ddarparu arian
cyfatebol i ariannu ei gyfraniad. Gofynnodd y Comisiynydd i’r Pwyllgor gefnogi ei gynnig, fel y gallai pob
partner, gyda’i gilydd, ddiogelu’r ddarpariaeth o wasanaethau rheng flaen,
lle’r oedd y galw mwyaf amdanynt.
Wrth ymateb i sylwadau a chwestiynau’r Pwyllgor,
fe wnaeth y Comisiynydd -
·
gadarnhau
ei fod yn cyfrannu £17k i bob un o chwe awdurdod lleol gogledd Cymru tuag at eu
gwasanaethau TCC. Roedd yn fodlon siarad gyda swyddogion y
cyngor ynghylch eu cynlluniau arfaethedig ar gyfer dychwelyd i wasanaeth
monitro 24 awr, i archwilio cefnogaeth bosibl. Fodd bynnag ni allai ymrwymo i ddarparu adnoddau
ariannol tuag at gynigion sy’n fwy na’i gyfraniad ef i awdurdodau lleol eraill
·
cytunodd
fod defnyddio gwirfoddolwyr i fonitro lluniau TCC hefyd yn opsiwn a oedd yn
haeddu rhagor o archwilio
·
roedd
yn cydnabod bod pryderon ymhlith y cyhoedd o ran diffyg presenoldeb Heddlu
gweladwy ar y strydoedd ac mewn cymunedau. Oherwydd effaith toriadau llym, cynnydd mewn
problemau iechyd meddwl, cydweithio gydag asiantaethau eraill, e.e. y Gwasanaeth
Ambiwlans a chynnydd mewn cyfraddau trosedd 'cuddiedig', h.y. seiberdroseddau,
roedd swyddogion yr heddlu bellach yn treulio 25% o'u hamser yn unig ar gynnal
dyletswyddau heddlu 'traddodiadol'
·
cadarnhaodd
fod nifer fawr o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Chwnstabliaid
Arbennig wedi ymuno â Gwasanaeth yr Heddlu fel rhan o’u dilyniant gyrfa
·
amlinellodd
nifer y rolau staff, a’u hamrywiaeth, sy’n cael eu cyflogi gan dîm y
Comisiynydd. Roedd costau swyddfa’r Comisiynydd tua £800k y flwyddyn, roedd hyn i’w
gymharu â chostau blynyddol hen Awdurdod yr Heddlu o tua £750k. Fodd bynnag, roedd cyfrifoldebau’r
Comisiynydd yn ehangach na’r rhai a oedd gan Awdurdod yr Heddlu, gan ei fod yn
gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau, rhai mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus
eraill ac ati, a oedd yn werth £4 miliwn i £5 miliwn
·
manylodd
ar y cymhlethdodau wrth ymchwilio i seiberdroseddau, rôl asiantaethau fel yr
Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, asiantaethau trosedd rhyngwladol, h.y. yr
FBI, y broses o ran penderfynu pwy fyddai'n arwain ymchwiliadau cenedlaethol a
rhyngwladol a phwy fyddai'n cynnal gwaith gwyliadwriaeth ar y llawr, yn cynnwys
pwy fyddai’n gyfrifol am dalu costau ymchwiliadau o’r fath. Roedd y Swyddfa Gartref yn awyddus i
heddluoedd gydweithio i fynd i’r afael â seiberdroseddau a throseddau digidol,
ac wedi dyfarnu Cyllid Trawsffurfio i brosiect wella dulliau o rannu data
troseddau a delweddau troseddau rhwng heddluoedd
·
cadarnhaodd
fod troseddau fel ymchwiliadau llofruddiaeth yn defnyddio llawer o adnoddau ac
yn ddrud i’w cynnal
·
rhoddodd
wybod fod y Tîm Troseddau Gwledig, a sefydlwyd gan ei ragflaenydd, bellach
wedi’i hen sefydlu. Roedd wedi cynyddu mewn maint a chapasiti a bellach yn cynnwys Swyddog
Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Fodd bynnag, gellid lleihau troseddau gwledig ymhellach os byddai mwy o
ffermwyr yn buddsoddi mewn offer neu dechnoleg diogelwch fel camerâu ac ati,
gan fod lluniau o offer o'r fath yn gallu cael eu defnyddio gan yr Heddlu i
ddal ac erlyn y sawl sy'n cyflawni'r drosedd
·
nododd
y byddai effaith ar y rhanbarth, yn enwedig ardal Wrecsam, o ganlyniad i
Garchar EM Berwyn. Byddai effeithiau
cadarnhaol ar gyfleoedd cyflogaeth ar yr ardal a byddai goblygiadau hefyd ar yr
isadeiledd lleol fel ysgolion, sefydliadau gwasanaeth iechyd ac ati. Nid oedd
effeithiau posibl ar ofynion plismona lleol neu gyfraddau troseddau'n hysbys
eto
·
cadarnhaodd
fod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Chwnstabliaid Arbennig gyda
phwerau gorfodi o ran symud cerbydau a oedd yn achosi rhwystr. Er mai gwirfoddolwyr oedd y Cwnstabliaid
Arbennig, roedd ganddynt fwy o bwerau gorfodi na Swyddogion Cymorth Cymunedol
yr Heddlu, mewn nifer o feysydd trosedd ac anhrefn
·
cynghorodd
nad oedd wedi’i argyhoeddi y dylid gofyn i bob swyddog yr heddlu gael ei addysgu
hyd at lefel gradd. I blismona fod yn effeithiol, dylai swyddogion fod ag amrywiaeth o sgiliau
addysgol a rhyng-bersonol
·
rhoddodd
wybod am ei safbwynt bod cyffuriau at ddibenion hamdden yn peri mwy o fygythiad
os cânt eu gorfodi i fod yn ‘guddiedig’. Teimlai pe baent yn cael eu rheoleiddio, yn debyg
i alcohol, y byddai modd eu rheoli’n well. Mewn rhai gwledydd roedd defnyddio cyffuriau’n
cael ei ddosbarthu fel mater iechyd cyhoeddus, nid mater troseddol. Yn y gwledydd hyn, nid oedd defnyddwyr
cyffuriau’n mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, yn hytrach roeddent yn
cael cynnig triniaeth. Roedd delwyr cyffuriau ar y llaw arall yn parhau i fod yn destun i’r system
cyfiawnder troseddol yn y gwledydd hynny. Oherwydd natur ddadleuol y dull hwn, roedd
gwleidyddion yn y DU yn anfodlon iawn trafod y mater hyd yn oed
·
cadarnhaodd i’r Prif Weithredwr y byddai’n
gwerthfawrogi cyfarfod gydag ef, gyda’r bwriad o symud ymlaen gyda’r cynllun
rhyngasiantaethol, i ddelio â’r problemau cynyddol o ran cam-fanteisio ar blant
·
rhoddodd
wybod i aelodau fod rhywfaint o’r cyllid grant a ddyrannwyd yn ei flwyddyn
gyntaf wedi’i ddarpar i’r grwpiau a gefnogodd waith gyda dioddefwyr troseddau,
gan ei fod yn ymwybodol nad oedd trawma dioddefwyr yn dod i ben unwaith roedd
yr achos llys wedi dod i ben. Byddai rhai dioddefwyr angen cefnogaeth am gyfnod sylweddol o amser. Roedd hefyd yn ymwybodol y byddai
ymchwiliadau proffil uchel cyfredol, fel Ymchwiliad Annibynnol yr Athro Alexis
Jay ac Ymchwiliad Offside o Gam-drin Plant mewn Clybiau Pêl-droed, yn rhoi mwy
o bwysau ar grwpiau cefnogaeth dioddefwyr ac yn gofyn am adnoddau ariannol
ychwanegol
·
cadarnhaodd
y byddai’n trafod gyda’r Awdurdod Tân ac Achub yn y dyfodol agos am ba mor
ddichonadwy yw defnyddio Staff Gwasanaeth Tân ac Achub, sy’n cynnal Gwiriadau
Diogelwch Tân yn y Cartref, i roi gwybod i’r Heddlu os ydynt yn amau fod yna
gam-drin domestig mewn unrhyw gartrefi maent yn mynd iddynt. Roedd o’r farn y gallai’r dull
partneriaeth arfaethedig hwn helpu i fynd i’r afael â cham-drin domestig yn yr
ardal.
Cyfeiriwyd at y broblem gyda rhif nad yw'n
argyfwng yr heddlu - 101, gan fod cysylltiad rhai galwyr yn cael ei dorri hyd
yn oed cyn i’w galwad gael ei hateb. Ymddengys yn yr achosion hyn fod y cysylltiad yn
cael ei dorri gan ddarparwr ffôn yr un oedd yn galw. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr aelodau’r
pwysigrwydd o’r Heddlu’n cael system yn ei lle i gydnabod yr alwad o leiaf, a
rhoi gwybod y gall yr alwad ddod i ben os nad yw'n cael ei hateb o fewn cyfnod
penodol o amser, neu i'r galwr adael neges i'r gwasanaeth eu galw'n ôl.
Ar ddiwedd y drafodaeth diolchodd y Cadeirydd i’r
Comisiynydd am fynychu ac ateb cwestiynau’r Aelodau, ac felly -
PENDERFYNWYD ysgrifennu
at y Prif Gwnstabl i geisio eglurder ar y pwerau a roddir i Swyddogion Cymorth
Cymunedol yr Heddlu a Chwnstabliaid Arbennig, o ran gweithredu gorfodaeth, ac i
wahodd y Prif Gwnstabl i gyfarfod yn y dyfodol i drafod ei weledigaeth a’i
flaenoriaethau ar gyfer gogledd Cymru.
Ar y pwynt hwn (10.50 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.