Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHIF Y CAIS 16/2016/1045/PF - PLAS LLANBEDR, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN

Ystyried cais i amrywio amod rhif 12 caniatâd cynllunio 16/2016/0545 er mwyn parhau i ddefnyddio’r ddwy fynedfa ar gyfer y datblygiad, gan ddileu’r angen i gyfyngu defnydd mynedfa Lôn y Mynydd ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Hall, Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd bod yr Asiantiaid oedd yn gweithredu ar ran Llanbedr Hall hefyd yn gweithredu fel ei Asiantiaid o ran gwaith yn ymwneud â’i ffarm].

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno i amrywio amod rhif 12 caniatâd cynllunio 16/2016/0545 er mwyn parhau i ddefnyddio’r ddwy fynedfa ar gyfer y datblygiad, gan ddileu’r angen i gyfyngu defnydd mynedfa Lôn y Mynydd ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Hall, Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Ms G Crawley (o blaid) – cyfeiriodd at hanes cynllunio blaenorol a chanfyddiadau apêl yr Arolygydd na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar draffig sy’n defnyddio’r rhodfa gefn ac amlygodd welliannau i’w gwneud i’r rhodfa o flaen y datblygiad i annog defnydd.   Byddai holl draffig adeiladu yn defnyddio’r rhodfa o flaen y datblygiad.  Dadleuwyd nad oedd yn rhesymol gwrthod yr amrywiad o ystyried yr hanes cynllunio a hawliau defnydd presennol. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) sylw at y pwynt mynediad o'r cefn a rhwydwaith ffordd fel y nodwyd ar y cynlluniau ac a ddangoswyd yn sleidiau’r cyflwyniad ac amlygodd bryderon arbennig ynglŷn â’r briffordd.    Roedd pryderon yn cynnwys annigonolrwydd y llwybr mynediad cefn a Lôn y Mynydd / Lôn Cae Glas ac ar Gefnffordd yr A494 gan gynnwys dim neu welededd gwael yn y gyffordd yn arwain o’r cefn, goryrru ar hyd ffyrdd mynediad cefn a Chefnffordd yr A494 rhwng Rhuthun a’r Wyddgurug a oedd yn gul ac yn beryglus ac yn lle gwael am ddamweiniau.    Hefyd amlygodd ran o lwybr mynediad cefn wedi’i arwyddbostio’n benodol yn anaddas i gerbydau a nifer o ddamweiniau ffordd ar hyd y llwybr cefn.   Yn olaf, cyfeiriwyd at y nifer fawr o wrthwynebiad lleol ar sail priffordd ac o ystyried y cynnydd posibl mewn traffig o ganlyniad i’r datblygiad cadarnhaodd y Cynghorydd Williams na allai gefnogi’r cais. 

 

Yn ystod trafodaeth bu’r aelodau’n ystyried y ffactorau o blaid ac yn erbyn yr amrywiad, gan bwyso a mesur yr hanes cynllunio a phryderon diogelwch ffordd.    Cadarnhaodd y Cynghorwyr Merfyn Parry, Dewi Owens a Huw Hilditch-Roberts eu bod yn gyfarwydd â’r ardal a dywedwyd am eu profiadau eu hunain a phryderon am ddiogelwch traffig yn y cyswllt hwn.    Teimlwyd y dylid rhoi llawer o ystyriaeth i wybodaeth leol a’r llu o wrthwynebiadau a dderbyniwyd oedd yn manylu pryderon diogelwch priffordd.    Tra’n cydnabod yr hanes cynllunio a’r tebygolrwydd o apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais roedd yr aelodau hynny’n teimlo bod pryderon diogelwch yn hanfodol yn yr achos hwn, yn arbennig o ystyried bod y rhodfa o flaen y datblygiad yn cynnig llwybr mwy diogel a digonol. 

 

Nid oedd y Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd yn herio cyfyngiadau’r llwybr rhodfa gefn ac yn cydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn a’i annigonolrwydd.   Fodd bynnag, ailadroddwyd bod hanes cynllunio sylweddol yn yr achos hwn yn cynnig cefnogaeth gyfyngedig i wrthod y cais a manylodd y swyddogion oblygiadau oedd yn codi o ganiatâd cynllunio blaenorol gan y pwyllgor yn 2006 [Rhif. 16/206/0872 – apêl wedi’i gefnogi yn ymwneud â’r defnydd o’r un rhodfeydd], 2015 [Rhif  16/2014/1020 – caniatâd cynllunio ar gael ar gyfer 9 annedd heb unrhyw gyfyngiadau], a 2016 [Rhif. 16/2016/0545 – cymeradwyaeth ddilynol i drefniant yn ymwneud ag amod 10 yn cyfyngu llwybr cerbydau adeiladu i’r rhodfa o flaen y datblygiad].  O wybod yr hanes nid oedd swyddogion yn ystyried bod effaith 2 annedd ychwanegol o dan y caniatâd cynllunio diweddaraf yn caniatáu cyfiawnhad digonol i wrthod y cais ar gyfer amrywiant.   O ran tystiolaeth un ddamwain yn unig a gofnodwyd ar hyd y ffordd rhwng Hydref 2011 – Hydref 2016, er y derbyniwyd na roddwyd gwybod am bob damwain.   Mewn ymateb i gwestiynau pellach eglurodd y swyddogion bod y ddwy dramwyfa yn eiddo preifat i fyny at y briffordd gyhoeddus.  O ran gorfodi amod rhif 12 roedd yn ofynnol i’r ymgeisydd ddangos ffyrdd o atal mynediad i’r rhodfa gefn i’r awdurdod lleol ei gymeradwyo a byddai torri unrhyw amod yn fater gorfodi.

 

Cynnig – Roedd y Cynghorydd Huw Williams yn ystyried bod defnyddio mynediad Lôn y Mynydd yn beryglus ac nid yn addas i'r diben, ac roedd yn cynnig, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail diogelwch priffordd.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 6

GWRTHOD - 16

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD i WRTHOD caniatâd, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail diogelwch priffyrdd.

 

Os bydd yna apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor, cytunwyd fel cynigydd ac eilydd bod y Cynghorwyr Huw Williams a Dewi Owens yn mynychu unrhyw wrandawiad apêl dilynol.    Nodwyd hefyd na fyddai’r Swyddog Priffyrdd yn gallu amddiffyn y penderfyniad mewn apêl a chytunodd yr aelodau i gynnwys Ymgynghorydd Priffyrdd os bydd angen.  Hefyd penderfynwyd i gytuno ar eiriad y rheswm dros wrthod gyda’r aelod lleol. 

 

Dogfennau ategol: