Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 – 2016/17
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros
Gyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn rhoi
diweddariad ar ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 2
2016/17.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) bod y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad;
(b) gwahodd cynrychiolwyr perthnasol y darparwyr band eang cyflym iawn i'r
pwyllgor craffu perthnasol i ateb cwestiynau ac ymateb i bryderon yr aelodau o
ran y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych, ac
(c) anfon llythyr agored at Weinidogion Cymru yn nodi pryderon y Cabinet
ynghylch cynnydd y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych.
Cofnodion:
Cyflwynodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i aelodau
ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 - 17 fel ag yr oedd ar ddiwedd chwarter
2 o 2016/17.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys dwy brif elfen -
·
Crynodeb
Gweithredol - cyflawniadau manwl ac eithriadau allweddol gyda pherfformiad da
yn gyffredinol. Dim ond un
canlyniad wedi cael ei asesu fel Coch: Blaenoriaeth ar gyfer Gwella - Canlyniad
7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial, a oedd yn ddangosydd blynyddol fel y
trafodwyd yn flaenorol gan y Cabinet, ac yn destun archwilio gan y Pwyllgor
Archwilio Perfformiad. Roedd pob
canlyniad arall wedi’i werthuso fel bod yn dderbyniol neu’n well ac
·
Adroddiad
chwarterol llawn – wedi darparu asesiad ar sail dystiolaeth o'r sefyllfa
bresennol yn canolbwyntio ar eithriadau allweddol.
Roedd eglurhad ar gyfer statws pob dangosydd
wedi’i gynnwys yn yr adroddiad gyda materion allweddol wedi’u hegluro ymhellach
yn y cyfarfod. Roedd y rhan fwyaf o feysydd yn
ddangosyddion blynyddol ac ni fu fawr o symudiad ers y chwarter diwethaf.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol -
·
nodwyd
cyd-destun hanesyddol yr adroddiad ar y chwarter blaenorol ac er eglurder,
cytunwyd y dylid pwysleisio hyn yn yr adroddiad i ddarllenwyr, o gofio bod
materion penodol yn yr adroddiad wedi symud ymlaen ers hynny
·
adroddodd
y Cynghorydd Barbara Smith ar y cam symud o system y Cyngor ei hun i lwyfan
e-ddysgu y GIG a oedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac roedd yn hyderus y
byddai e-ddysgu ar waith ar gyfer aelodau erbyn Mai 2017
·
cyfeiriwyd
at yr Asesiad o Effaith Lles a'i ddylanwad ar benderfyniadau ac esboniwyd y
byddai'r broses yn cael ei defnyddio fel canllaw i helpu i lunio cynigion a
llywio penderfyniadau, ond rhoddwyd sicrwydd mai lle'r aelodau oedd gwneud eu
penderfyniadau eu hunain yn dilyn y broses honno
·
Credai'r
Cynghorydd Meirick Davies y dylai Adroddiad Perfformiad y Cynllun Corfforaethol
ar gyfer Chwarter 2 a oedd yn atodiad i’r adroddiad fod wedi'i gyfieithu. Yn unol â pholisi'r Cyngor, cynghorodd y
swyddogion fod dogfennau a anfonir at y cyhoedd yn ddwyieithog, ond o ran y
pwyllgorau, nid oedd atodiadau a oedd yn fwy na phedair ochr o dudalen yn cael
eu cyfieithu. Cytunwyd bod y mater yn
cael ei gyfeirio at Grŵp Llywio'r Iaith Gymraeg ar gyfer ystyriaeth
bellach
Wrth ystyried y meysydd hynny a oedd angen
archwilio pellach, trafodwyd y materion canlynol yn fwy manwl -
·
Arolwg
Trigolion – roedd ymateb siomedig i'r arolwg trigolion a diffyg ystyriaeth
uchel i'r Cyngor yn parhau i achosi pryder. Wrth ddarparu rhywfaint o gyd-destun i'r
dangosydd, nodwyd y bu nifer fach iawn o ymatebwyr, ac roedd pobl yn
gyffredinol yn debygol o ymateb os oedd ganddynt farn negyddol. Nodwyd bod yr arolwg trigolion wedi bod yn
destun archwilio’n flaenorol a byddai’r fethodoleg ar gyfer cynnal yr arolwg
trigolion nesaf yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau ddechrau
flwyddyn nesaf
·
Tipio
Anghyfreithlon - o ystyried y cynnydd mewn achosion o dipio anghyfreithlon,
roedd y Cynghorydd Martyn Holland yn awyddus i droseddwyr gael eu herlyn, ond
roedd hefyd yn credu y dylai camau cyfreithiol gael eu cymryd yn erbyn y rhai
sy'n defnyddio casglwyr heb drwydded i waredu gwastraff. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd at Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
yn cynghori y byddai achos o'r fath yn dibynnu ar p'un a yw'r unigolyn wedi
achosi neu ganiatáu’r drosedd o dipio anghyfreithlon yn fwriadol, ac wedi
cymryd pob rhagofal rhesymol, ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy yn y cyswllt
hwnnw. Cytunwyd y dylid ymchwilio i’r
potensial i erlyn yr unigolion hynny ymhellach
·
Canlyniad
7 Mae myfyrwyr yn cyflawni eu potensial - roedd hwn yn ddangosydd blynyddol ac
felly byddai'n aros yn goch ar gyfer 2016/17 ac roedd yn cael ei fonitro gan
archwilio. Er bod y sefyllfa’n goch ar y
cyfan, roedd rhai agweddau wedi cyrraedd y trothwy derbyniol a rhagorol. Cododd y Cynghorydd Arwel Roberts ei bryderon
ynghylch safon yr addysg yn y sir ac yn teimlo y dylai mwy o gefnogaeth gael ei
rhoi i wella safonau. Amlygodd y
Cynghorydd Eryl Williams welliant cyson ar draws safonau addysgol, gan roi
gwybod bod Sir Ddinbych yn gweithio tuag at darged uchelgeisiol, a dyna pam y
rhoddwyd statws dangosydd coch. Fodd
bynnag, roedd yn hyderus y byddai'r newidiadau a gyflwynwyd gan GwE’n codi
safonau ymhellach. O ran perfformiad
Cymru yn y canlyniadau PISA, cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn faes o
bryder a oedd angen mynd i'r afael ag ef
·
Argaeledd
band eang cyflym iawn - roedd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer
gwella a mynegodd yr aelodau eu rhwystredigaeth a phryderon ynghylch y cynnydd
araf, diffyg gwybodaeth, a gwybodaeth anghywir gan ddarparwyr wrth gyflawni'r
canlyniad hwn, gan dynnu sylw at broblemau penodol a gafwyd yn eu wardiau
unigol ac effaith niweidiol ar unigolion a busnesau o ganlyniad. Teimlwyd hefyd nad oedd y broblem wedi'i
chyfyngu i'r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn a chafodd y mater ei
gymhlethu gan broblemau gyda'r isadeiledd ac anawsterau gweithredol. Nodwyd bod y mater wedi bod yn destun
archwilio ym mis Ebrill 2016 gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ond ychydig
iawn o gynnydd oedd wedi'i wneud ers hynny.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd
ddiweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf gan ddweud bod rhagor o wybodaeth ar y
gweill, ond nid oedd ar y lefel cyfeiriad eiddo yn ôl y disgwyl, ac felly
gofynnwyd am y wybodaeth unwaith eto er mwyn adnabod y rhai nad ydynt wedi'u
cynnwys yn y cyfnod cyflwyno. Byddai'r
wybodaeth honno, ynghyd â gwybodaeth a ddisgwylir yn fuan gan OfCom am
ddarpariaeth band eang gwirioneddol yn rhoi darlun cliriach o wasanaeth ar
draws y sir. Teimlwyd, pan dderbyniwyd y data
angenrheidiol, efallai y bydd y mater yn cyfiawnhau trafodaeth bellach yn
archwilio. Wrth fynd heibio, roedd angen gwneud
rhywfaint o waith i ganfod pam fod cofrestru ar gyfer band eang a’r nifer a
oedd wedi manteisio ar hynny’n gyfyngedig yn yr ardaloedd hynny lle’r oedd ar
gael. Ystyriodd yr Aelodau’r ffordd orau
i symud ymlaen a symud y mater hwn i gasgliad boddhaol ar y cyfle cyntaf, er
mwyn rhoi sicrwydd i drigolion a busnesau.
Cytunwyd bod y darparwyr gwasanaeth band eang cyflym iawn yn cael eu
gwahodd i'r pwyllgor archwilio perthnasol, a bod llythyr agored yn cael ei
anfon at Weinidogion Cymru yn manylu pryderon aelodau.
PENDERFYNWYD -
(a) Bod y Cabinet yn nodi
cynnwys yr adroddiad;
(b) gwahodd cynrychiolwyr
perthnasol y darparwyr band eang cyflym iawn i'r pwyllgor archwilio perthnasol i
ateb cwestiynau ac ymateb i bryderon yr aelodau o ran y broses o gyflwyno band
eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych, ac
(c) anfon llythyr agored at
Weinidogion Cymru yn nodi pryderon y Cabinet ynghylch cynnydd y broses o
gyflwyno band eang cyflym iawn yn Sir Ddinbych.
Dogfennau ategol:
- CORPORATE PLAN PERFORMANCE REPORT, Eitem 6. PDF 162 KB
- CORPORATE PLAN PERFORMANCE REPORT - APPENDIX, Eitem 6. PDF 2 MB