Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN COMISIYNU LLEOL CEFNOGI POBL SIR DDINBYCH 2017-18

Rhoi ystyriaeth i adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi wedi’i amgáu) yn ceisio cymeradwyaeth i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2017-18 a 2017 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ac i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl Lleol ar gyfer 2017 – 2018 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ym mis Ionawr 2017.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2017 -18, cyn y câi ei gyflwyno ger bron y Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru yn Ionawr 2017.

 

Roedd Cefnogi Pobl yn ffrwd ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cefnogaeth yn gysylltiedig â thai i bobl ddiamddiffyn, er mwyn eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl ac roedd yn cyflawni nifer o ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd y Cynllun yn rhoi diweddariad ar gomisiynu Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan gynnwys cynlluniau strategol a blaenoriaethau, ynghyd â chynigion i reoli gostyngiadau parhaus posibl i'r Grant Cefnogi Pobl (cafodd y cynllun ei fodelu ar y pryd ar ostyngiad 0% gan mai’r arwyddion diweddaraf oedd bod y grant ar gyfer 2017-18 wedi cael ei ddiogelu rhag toriad pellach, ond hefyd yn cynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer 5%).  Roedd y grant wedi’i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cefnogi Pobl, fodd bynnag, byddai dyraniad y grant ac unrhyw doriadau yn cael effaith ar wasanaethau eraill.  Cyfeiriwyd hefyd at yr ymgynghoriad ar y Cynllun Comisiynu Lleol ac roedd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau wedi gwneud mân newidiadau a oedd wedi'u hadlewyrchu yn yr adroddiad.

 

Roedd y Cabinet yn cydnabod pwysigrwydd y Cynllun a chodwyd cwestiynau ynglŷn â'i ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd o ran atal digartrefedd, ynghyd â gwaith wrth ddatblygu'r Strategaeth Ddigartrefedd.  Hefyd codwyd cwestiynau ynghylch y duedd yn Sir Ddinbych, effaith diwygiadau lles, ac addysg pobl ifanc.

 

Fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion ymateb i gwestiynau a rhoddir y sylwadau canlynol -

 

·         ymhelaethwyd ar yr ystod o wasanaethau fel y disgrifir yn y Cynllun gyda'r nod o atal digartrefedd, a gafodd ei ddarparu i ystod eang o grwpiau ag anghenion cymhleth, a chyfeiriwyd hefyd at ddyletswyddau deddfwriaethol a datblygiad pellach o fesurau ataliol a oedd yn parhau i fod y ffocws presennol

·         roedd datblygu’r Strategaeth Ddigartrefedd yn fodd allweddol o gryfhau'r dull o atal ac roedd adolygiad cynhwysfawr o ddigartrefedd yn cael ei wneud - y gobaith oedd y byddai'r Strategaeth yn ei lle erbyn mis Mawrth 2017, ac yn cynnwys camau gweithredu allweddol ar ystod o faterion ac yn gwella'r math o adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys symud oddi wrth lety gwely a brecwast a darparu ystod well o dai

·         roedd gan y rhan fwyaf o bobl a oedd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref faterion eraill i ddelio â nhw, fel anawsterau ariannol neu faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a throseddu ac roedd yn hanfodol mabwysiadu ymagwedd aml-asiantaeth i sicrhau bod y lefel briodol o gefnogaeth yn cael ei rhoi

·         roedd y dull partneriaeth wedi cael ei gryfhau ac ail-sefydlwyd y Fforwm Digartrefedd a oedd â rhan allweddol wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddigartrefedd, ynghyd â'r Grŵp Llywio Atal Digartrefedd

·         bu cynnydd yn nifer y bobl ifanc a oedd angen gwasanaethau yn ddiweddar, ac roedd mwy o ffocws bellach ar atal pellach fel rhan o Lwybrau Pobl Ifanc, a dull llawer mwy cydlynol i atal digartrefedd rheolaidd.  Ymhelaethodd y Cynghorydd Eryl Williams ar fesurau a wnaed yn y system addysg i sicrhau bod pobl ifanc yn llai diamddiffyn i ddigartrefedd, gan gynnwys rheolaeth ariannol ac ymyrraeth gynnar

·         adroddwyd ar y gwaith da a wnaed yn Sir Ddinbych yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gyda phartneriaid, a ariennir gan y grant Cefnogi Pobl, yn cynnwys y Lloches Tŷ Golau a agorwyd yn ddiweddar yn y Rhyl

·         trafodwyd effaith newidiadau diwygio lles hefyd, a fyddai'n her fawr ac roedd dull partneriaeth yn cael ei gynnal i fynd i’r afael â'r risg honno – roedd pob asiantaeth a oedd yn cyfranogi’n ceisio  mynd ati i nodi cartrefi a oedd wedi’u heffeithio'n andwyol, i sicrhau bod pobl yn cael eu paratoi ar gyfer y newidiadau

·         o ran y dull rhanbarthol, roedd Sir Ddinbych wedi cymryd rôl arweiniol ac nid oedd llawer o berygl na fyddai'r cynllun rhanbarthol yn cael ei gefnogi gan yr awdurdodau lleol eraill - er bod cynllun rhanbarthol cyffredinol, roedd pob un o'r chwe awdurdod lleol hefyd wedi cael eu cynllun comisiynu eu hunain, ond roedd gan bob un cysondeb o ran dull ymyrraeth gynnar ac atal

·         cafodd y broses ar gyfer ymdrin â phobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref ei hegluro, ynghyd â'r angen i nodi pa awdurdod oedd yn gyfrifol am fynd i'r afael â'u hanghenion yn y lle cyntaf, roedd hyn yn cynnwys polisi ailgysylltu a oedd yn gysylltiedig â chyllid i ailgysylltu pobl fel y bo'n briodol.

 

Talodd y Cynghorydd Feeley deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y tîm Cefnogi Pobl a -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl ar gyfer 2017 – 2018 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017.

 

 

Dogfennau ategol: