Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo bod tanwariant blwyddyn gyfredol a blwyddyn flaenorol y gwasanaeth TGCh yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Ddatblygu Rhwydweithiau TG i ariannu'r prosiectau moderneiddio penodol a ddisgrifir yn Adran 6 o'r adroddiad a bod y Cabinet hefyd yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd ar gyflwyno,

 

(c)        cymeradwyo dileu balansau mân ddyledwyr, sy’n dod i £37,599, mewn perthynas â Clwyd Leisure Ltd sydd eisoes wedi'i ddarparu’n llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2016/17. Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·        rhagwelwyd tanwariant net o £0.909 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        roedd 68% o’r arbedion wedi’u cyflawni hyd yn hyn (targed o 5.2m) gyda 2% pellach yn gwneud cynnydd da; byddai 25% yn cael eu gohirio ac yn cael eu cyflawni yn 2017/18 gyda dim ond 5% o’r arbedion heb eu cyflawni o fewn y terfyn amser.

·        amlygodd y risgiau cyfredol a’r rhagdybiaethau yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Gofynnwyd hefyd i'r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo tanwariant Gwasanaeth TGCh i'r Gronfa Wrth Gefn Datblygu Rhwydweithiau TG, i ariannu prosiectau moderneiddio penodol, ynghyd â dileu balansau dyledwyr amrywiol yn ymwneud â Clwyd Leisure Ltd.

 

Cafodd y materion canlynol eu codi yn ystod y drafodaeth  -

 

·         o ran prosiect Ysgol Glan Clwyd, roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn falch o gadarnhau y byddai symud i’r bloc newydd yn dechrau’r wythnos nesaf

·         adroddodd y Prif Swyddog Cyllid ar ofynion Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth ôl-weithredol am y blynyddoedd blaenorol o waith mawr atgyweirio tai a fyddai'n profi'n feichus ac yn anodd ei roi, o ystyried na fu unrhyw ofyniad i gofnodi'r wybodaeth honno ar y pryd.  Roedd y swyddogion yn trafod â Llywodraeth Cymru ac yn hyderus y byddai'r mater yn cael ei ddatrys yn foddhaol.  Byddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yn yr adroddiad nesaf

·         Amlygodd y Cynghorydd Bobby Feeley y pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol a Gwasanaethau Plant, a thra gellid cynnwys y pwysau hynny yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol, roedd pryder yn y tymor hir

·         trafodwyd ymhellach y cais i drosglwyddo tanwariant TGCh i'r Gronfa Wrth Gefn Datblygu Rhwydweithiau TG, gyda'r Arweinydd yn gofyn am sicrwydd ynglŷn â chysondeb o ran dull ar gyfer gwasanaethau wrth ymdrin â thanwariant, o ystyried y byddai'r tanwariant yn cael ei gadw am ddwy flynedd, ac roedd pwysau presennol mewn meysydd eraill.  Eglurodd y Cynghorydd Barbara Smith bod y tanwariant mewn TGCh yn ymwneud â gwireddu cynharach o arbedion effeithlonrwydd drwy ailstrwythuro, a'r bwriad oedd gosod y tanwariant mewn cronfa wrth gefn i helpu ariannu'r Strategaeth TGCh Gorfforaethol dros gynllun dwy flynedd yn 2017/18 a 2018/19, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Os nad oedd y Cabinet yn awyddus i gadw'r tanwariant i ariannu'r Strategaeth TGCh, byddai angen dod o hyd i’r cyllid o rywle arall yn y dyfodol.  Hysbyswyd yr aelodau hefyd o'r amseroedd rhagarweiniol mwy yn gyffredinol ar gyfer gwaith TGCh a bod y Strategaeth TGCh yn cefnogi meysydd gwasanaeth eraill

·         Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies a allai'r rhaglen CYSILL (pecyn meddalwedd sillafu a gramadeg y Gymraeg) gael ei gyflwyno ar draws y Cyngor ac awgrymwyd y gallai fod yn fater i'r Grŵp Llywio'r Iaith Gymraeg ei ystyried.  Cododd y Cynghorydd Davies bryder ynghylch ansawdd gwybodaeth dechnegol arbennig a gyfieithwyd ac adroddodd y swyddogion ar y gwasanaeth rhagorol a dderbyniwyd drwy Wasanaeth Cyfieithu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a groesawodd adborth, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.  Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Davies gysylltu â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn uniongyrchol i roi adborth yn hynny o beth.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo bod tanwariant blwyddyn gyfredol a blwyddyn flaenorol y gwasanaeth TGCh yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Datblygu Rhwydweithiau TG i ariannu'r prosiectau moderneiddio penodol a ddisgrifir yn Adran 6 o'r adroddiad a bod y Cabinet hefyd yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd ar gyflwyno, ac yn

 

(c)        cymeradwyo dileu balansau mân ddyledwyr, sy’n dod i £37,599, mewn perthynas â Clwyd Leisure Ltd sydd eisoes wedi'i ddarparu’n llawn.

 

 

Dogfennau ategol: