Eitem ar yr agenda
PROSES, METHODOLEG A MEINI PRAWF AR GYFER YMGYMRYD AG ARCHWILIADAU DIOGELWCH AR Y FFYRDD MEWN PERTHYNAS Â CHEISIADAU CYNLLUNIO
Archwilio’r broses, y fethodoleg a’r meini prawf
ar gyfer ymgymryd ag archwiliadau diogelwch ar y ffyrdd mewn perthynas â
cheisiadau cynllunio.
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ac eglurodd y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd y
broses a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer ymgymryd ag archwiliadau
diogelwch ar y ffyrdd mewn perthynas â cheisiadau cynllunio, gan gynnwys y
meini prawf ar gyfer y gofynion ar gyfer archwilio diogelwch ar y ffyrdd. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau eglurodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y
Gwasanaeth a’r Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd:
·
y byddai datblygwr
sy’n cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio yn penodi ymgynghorydd dylunio ar
gyfer y datblygiad arfaethedig. Fel rhan o’r broses ddylunio gynnar byddai archwiliad rhagarweiniol
diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei gyflawni. Byddai’r archwiliad rhagarweiniol hwn yn ystyried materion megis gwelededd
mewn cyffyrdd ffordd ac ati.
·
byddai’n rhaid
dogfennu’r holl bwyntiau diogelwch ffyrdd a godwyd gan y swyddogion cynllunio
yn ystod y broses ymgeisio yn y cais cynllunio terfynol, gan gynnwys y mesurau
fyddai’n cael eu cynnwys yn y cynlluniau datblygu i liniaru unrhyw risgiau a
nodwyd;
·
roedd canllaw
‘Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd’, yr oedd copi ohono ynghlwm i’r adroddiad,
yn ddogfen dechnegol y cedwir ati wrth ymgymryd ag archwiliadau diogelwch ar y
ffyrdd. Mae’r ddogfen hon yn nodi fod
yn rhaid i o leiaf un person sy’n ymgymryd â’r archwiliad feddu ar ‘Dystysgrif
Cymhwysedd’. Ar ôl derbyn yr adroddiad
archwilio byddai un o beirianwyr diogelwch ar y ffyrdd cymwys y Cyngor yn
sicrhau ansawdd yr asesiad, ac os oes angen byddai’n ei atgyfeirio yn ôl i’r
datblygwr gyda chais eu bod yn mynd i’r afael â’r ymholiadau cyn symud y cais
yn ei flaen i’r cam nesaf;
·
byddai unrhyw farciau
ffordd neu gynlluniau draenio sydd wedi’u cynnwys mewn ceisiadau cynllunio'n
cael eu hasesu o ran ansawdd gan beirianwyr cymwys a gyflogir gan y Cyngor;
·
unwaith y bydd
caniatâd cynllunio wedi’i roi, ac os yw gwaith ar briffyrdd yn un o‘r amodau a
nodwyd ar gyfer cymeradwyo’r caniatâd, byddai’r broses o archwilio diogelwch ar
y ffyrdd yn symud ymlaen i Gam 2. Ar y cam hwn byddai’n rhaid i’r datblygwr
geisio cymeradwyaeth priffyrdd ar gyfer newidiadau i’r briffordd e.e. adeiladu
cylchfan, peintio llinellau ac ati;
Eglurodd y Cynghorydd Alice Jones i’r Pwyllgor, er
gwaethaf y sicrwydd a roddir gan y swyddogion ynglŷn â chadernid ac
annibyniaeth archwiliadau diogelwch ar y ffyrdd, roedd hi’n bendant eu bod wedi
methu ar gyfer preswylwyr Bodelwyddan yn ystod cais cynllunio diweddar yng
nghanol y pentref. Rhoddodd fanylion i’r Pwyllgor ynglŷn ag
amgylchiadau’r cais cynllunio penodol hwn, gan bwysleisio ei safbwynt nad oedd
yr Archwiliad Diogelwch ar y Ffyrdd a baratowyd ar gyfer y cais hwn wedi cydymffurfio
â’r holl feini prawf a awgrymir sydd wedi'u rhestru yn yr adran ar ‘Briff
Archwilio Diogelwch ar y Ffyrdd’ yn nogfen ‘Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd. Teimla’r Cynghorydd Jones fod nifer o ffactorau pwysig wedi’u hepgor neu eu
diystyru yn yr archwiliad diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer y cais penodol hwn
e.e. mynediad i bobl anabl, llwybr diogel i’r ysgol ac ati.
Yn dilyn trafodaeth fanwl cafwyd consensws y
byddai’n ddefnyddiol pe gellir trefnu gweithdy hyfforddiant ar gyfer holl
aelodau’r Pwyllgor Cynllunio er mwyn egluro’r broses, y fethodoleg a’r meini
prawf ar gyfer y broses archwilio diogelwch ar y ffyrdd a’u defnydd mewn
perthynas â’r ceisiadau cynllunio. Dylai’r gweithdy fod yn
sesiwn hanner diwrnod ac wedi’i gadeirio gan Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus
a dylid defnyddio enghraifft Bodelwyddan a nodwyd gan y Cynghorydd Alice Jones
fel un o’r enghreifftiau yn y gweithdy. Dylid cyflwyno unrhyw argymhellion sy’n deillio o’r gweithdy ac sydd angen
cymeradwyaeth ffurfiol gan aelodau etholedig i’r Pwyllgor Cynllunio i'w
gymeradwyo maes o law.
Felly:
PENDERFYNWYD:-
(i)
derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a ddarparwyd, yn amodol ar yr
arsylwadau uchod;
(ii)
gofyn i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i drefnu gweithdy
hyfforddiant hanner diwrnod, wedi’i gadeirio gan Aelod Arweiniol y Parth
Cyhoeddus, ar gyfer holl aelodau Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor ar y broses,
y fethodoleg a’r meini prawf ar gyfer proses archwilio diogelwch ar y
ffyrdd a’u defnydd mewn perthynas â cheisiadau cynllunio.
Dogfennau ategol:
- Road Safety Audits Scrutiny Report v4, Eitem 9. PDF 174 KB
- Appendix A, Eitem 9. PDF 337 KB
- Appendix B, Eitem 9. PDF 194 KB
- Appendix C, Eitem 9. PDF 25 KB