Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH: 1 EBRILL 2015 – 31 MAWRTH 2016
Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr
Gwasanaethau Lleol ar effaith trefniadau ac arferion diogelu lleol yn Sir
Ddinbych, a'r cynnydd a wnaed wrth ymateb i feysydd pryder a godwyd gan y
Rheoleiddiwr yn ei Adolygiad a Gwerthusiad o Berfformiad Blynyddol 2014-15.
11.30am – 12pm
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
i ddarparu trosolwg i'r Aelodau o'r trefniadau ac arferion Diogelu lleol ac i
adolygu cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y 12 mis diwethaf. Roedd
yr Aelodau hefyd i gyfeirio at ddata sy'n adlewyrchu ffigurau a gyflwynwyd gan
yr Awdurdod Lleol yn flynyddol i Uned Ddata Llywodraeth Cymru. Roedd
yr adroddiad hefyd yn dangos y cynnydd a wnaed mewn ymateb i’r meysydd pryder a
godwyd gan AGGCC yn ei Adolygiad a Gwerthusiad Blynyddol o Berfformiad 2014-15.
Dywedodd fod y
nifer o atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn ystod 2015/16 o dan y trefniadau Diogelu
Oedolion Diamddiffyn (POVA) wedi bod yn debyg i'r nifer a dderbyniwyd yn ystod
y flwyddyn flaenorol. Nid oedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau yn
pasio’r trothwy ar gyfer ymchwiliad pellach. Fodd
bynnag, yn ystod 2015/16 bu cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau a wneir
gan staff y Gwasanaethau Cymdeithasol, rhai a adroddwyd o fewn ysbyty, a'r rhai
a gyfeiriwyd gan reoleiddwyr gofal.
Bu gostyngiad yn nifer yr
atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn uniongyrchol gan ddarparwyr gofal. Pwysleisiwyd
bod cwynion am ansawdd y gofal yn derbyn sylw o dan broses ar wahân. Dywedwyd
wrth y Pwyllgor fod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
wedi codi pryderon yn ei Adolygiad a Gwerthusiad o Berfformiad Blynyddol
2014-15 mewn perthynas â pherfformiad y Cyngor mewn meysydd diogelu oedolion
diamddiffyn. Yng ngoleuni canfyddiadau'r AGGCC, gwnaed
penderfyniad i newid y trefniadau a ddilynir yn Sir Ddinbych ynghylch
trefniadau POVA. Roedd y newidiadau a weithredwyd yn cynnwys:
·
Hyfforddi
mwy o weithwyr cymdeithasol i fod yn Reolwyr Arweiniol Dynodedig at y diben o
gyflawni ymchwiliadau POVA ac i gadeirio Cyfarfodydd Strategaeth;
·
Cryfhau
gallu'r Tîm i gwrdd â gofynion y broses POVA, a magu hyder wrth ymdrin â gwaith
aml-asiantaeth;
·
Cryfhau
cysylltiadau â'r Tîm Diogelu yn Ysbyty Glan Clwyd i alluogi atgyfeiriadau o
ansawdd gwael neu anghyflawn i gael eu herio'n effeithiol; a
·
Phenodi
Rheolwr Tîm i sicrhau bod terfynau amser proses yn cael eu bodloni ac ystadegau
yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar amser.
Roedd
cynrychiolwyr y Cyngor wedi cyfarfod yn ddiweddar gydag AGGCC i drafod y
mesurau a gymerwyd i wella prosesau yn Sir Ddinbych. Serch
hynny, roedd gan y rheolyddion bryderon mewn perthynas â hyder RhAD wrth
gadeirio cyfarfodydd Strategaeth.
Roedd wedi dod i'r amlwg yn
ddiweddar bod pryderon tebyg wedi cael eu codi gan AGGCC mewn perthynas â'r un
mater ar draws Gogledd Cymru ac o ganlyniad mae'r mater yn cael ei gyfeirio at
Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ar gyfer ystyriaeth. Roedd
gallu’r Cyngor i ymdrin â cheisiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a
oedd wedi cynyddu yn sylweddol yn sgîl Dyfarniad y Goruchaf Lys ym mis Mawrth
2014, ac a fyddai’n parhau i gynyddu yn y dyfodol oherwydd y gofyniad i adolygu
pob achos bob 12 mis, yn bwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth. Tra
yn y blynyddoedd blaenorol, byddai'r Awdurdod Lleol wedi derbyn rhwng 10 a 15 o
geisiadau asesu Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn flynyddol, roedd hyn
wedi cynyddu y llynedd i fwy na 300 o geisiadau am asesiadau Trefniadau Diogelu
Rhag Colli Rhyddid. Mewn ymgais i fynd i’r afael â’r galw hwn,
roedd tua 15 o weithwyr cymdeithasol wedi cael eu hyfforddi i gynnal asesiadau
Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ac roedd disgwyl i bob unigolyn sydd wedi
eu hyfforddi i ymgymryd ag o leiaf 8 o asesiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli
Rhyddid y flwyddyn yn ychwanegol at eu dyletswyddau beunyddiol. Yn
ychwanegol at y pwysau llwyth gwaith a achoswyd gan yr asesiadau Trefniadau
Diogelu Rhag Colli Rhyddid roeddent hefyd yn golygu pwysau ariannol ar yr
Awdurdod Lleol gan ei bod yn ofynnol iddynt dalu am yr asesiadau meddygol
gorfodol sy’n gysylltiedig â'r broses.
Yn Sir Ddinbych, rhagwelir y
bydd y gost hon tua £50,000 y flwyddyn, ond nid oes unrhyw gyllid ychwanegol
wedi'i ddyrannu tuag at y gost hon.
Roedd y Gymdeithas
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn Lloegr wedi apelio yn erbyn y
dyfarniad uchod, ac arhosir am ganlyniad yr apêl.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:
·
eu
bod wedi codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru trwy ADSS Cymru a Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar oblygiadau ariannol y Dyfarniad DoLS ar
gyllidebau gofal cymdeithasol, gan gynnwys tegwch talu am asesiadau meddygol
o'r cyllidebau gofal cymdeithasol;
·
byddai'r
ffigurau ar gael yn fuan a fyddai’n galluogi cymariaethau rhwng Awdurdodau
Lleol Gogledd Cymru mewn perthynas â nifer yr atgyfeiriadau POVA a cheisiadau
asesu DoLS ar gyfer 2015/16; a
·
rhagwelwyd
y byddai nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 yn y dyfodol yn ddarostyngedig i heriau cyfreithiol a
fyddai, felly, maes o law, yn dod yn gyfraith achosion.
Ar ddiwedd
trafodaeth fanwl:
PENDERFYNODD y
Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau uchod a'r pryderon a godwyd mewn perthynas â'r
adnoddau ychwanegol a phwysau ariannol a osodwyd ar gyllideb y Gwasanaethau
Cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol:
(i)
i ganmol y gwaith rhagorol ac
arweinyddiaeth a gynhaliwyd gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych
hyd yma er mwyn amddiffyn oedolion diamddiffyn yn y sir ac i fynd i'r afael â
materion a godwyd gan AGGCC; a
(ii)
cydnabod natur bwysig ymagwedd
gorfforaethol at amddiffyn oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i weld
hyn fel maes blaenoriaeth allweddol ac i’w osod ochr yn ochr â'r ymrwymiad a'r
arwyddocâd a roddwyd gan y Cyngor i Amddiffyn Plant.
Dogfennau ategol:
-
Safeguarding Report 290916, Eitem 8.
PDF 113 KB
-
Safeguarding Report - App 290916, Eitem 8.
PDF 384 KB