Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYNHADLEDD FIDEO
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorydd John Roberts. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 230 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnol mewn
unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiad personol na chysylltiad oedd yn rhagfarnu. |
|
PENODI CADEIRYDD I ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y blynyddoedd dinesig 2023/24 a 2024/25. (Noder: Yn unol
â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor, bydd Cadeiryddiaeth y Pwyllgor yn newid bob dwy
flynedd rhwng aelodau etholedig Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy bob yn ail. Felly bydd Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
2023/24 a 2024/25 yn Aelod
o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy). Cofnodion: Yn unol â Chylch Gorchwyl
Cydbwyllgor Trosolwg a Chrafu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych, ceisiwyd enwebiad am Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y cyngor 2023/24 a
2024/25 o blith cynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu. Enwebodd y Cynghorydd
Austin Roberts y Cynghorydd Cheryl Carlisle ar gyfer rôl y Cadeirydd, eiliodd y
Cynghorydd Stephen Price yr enwebiad hwnnw.
Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.
Yn unfrydol: Penderfynwyd: ethol y Cynghorydd Cheryl Carlisle yn
Gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a
Sir Ddinbych yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24 a 2024/25. Diolchodd y Cynghorydd
Carlisle i bawb am eu cefnogaeth. |
|
PENODI ÎS-GADEIRYDD I ethol Îs-Gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfer y blynyddoedd dinesig 2023/24 a
2024/25. (Noder: Yn unol
â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor, bydd Îs-Gadeiryddiaeth y Pwyllgor yn newid bob dwy
flynedd rhwng aelodau etholedig Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy bob yn ail. Felly bydd Îs-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
2023/24 2024/25 yn Aelod o Gyngor Sir Ddinbych). Cofnodion: Ar ben hynny ac yn unol â
Chylch Gorchwyl Cydbwyllgor Trosolwg a Chrafu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych, ceisiwyd enwebiad am Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y
cyngor 2023/24 a 2024/25 o blith cynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych ar y
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu. Enwebodd
y Cynghorydd Joan Butterfield y Cynghorydd Gareth Sandilands ar gyfer rôl yr
Is-Gadeirydd, eiliodd y Cynghorydd Arwel Roberts yr enwebiad hwnnw. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Yn unfrydol: Penderfynwyd: ethol y Cynghorydd Gareth Sandilands yn
Is-Gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy
a Sir Ddinbych yn ystod blwyddyn y cyngor 2023/24 a 2024/25. Diolchodd y Cynghorydd
Sandilands i bawb am eu cefnogaeth. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn
y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol
ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Nid oedd y swyddogion yn
ymwybodol o faterion brys cyn y cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 151 KB I dderbyn cofnodion
cyfarfod y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd
ar 21 Hydref 2022 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2022 er cymeradwyaeth. Penderfynwyd: cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 21
Hydref 2022 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Ni chodwyd unrhyw fater mewn
perthynas â chynnwys y cofnodion. |
|
CYFRANIAD PARTNERIAID Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) I WAITH Y BWRDD A BUDDION Y BWRDD I BARTNERIAID Trafod gyda
chynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BIPBC) gyfraniad y Bwrdd Iechyd i waith y BGC, ynghyd â’r manteision
i’r Bwrdd Iechyd o fod yn
bartner ar y BGC. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Alyson
Constantine, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig (Canolog)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i drafod cyfraniad y Bwrdd Iechyd
i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) gyda’r Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu, ynghyd â’r manteision i’r Bwrdd Iechyd o fod yn bartner ar y BGC. Cyn dechrau’r drafodaeth, bu
i’r Cadeirydd atgoffa aelodau’r Pwyllgor bod pwerau’r Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu mewn perthynas â chraffu ar y Bwrdd Iechyd, fel gyda phartneriaid
eraill y BGC, yn ymestyn i’w cyfraniad i waith y BGC yn unig. Pwysleisiodd nad oedd y Cydbwyllgor Trosolwg
a Chraffu yn meddu ar unrhyw bwerau i graffu ar bolisïau neu ddarpariaeth
gwasanaeth sefydliadau unigol sy’n allanol i’w rôl ar y BGC. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Gweithrediadau wrth yr aelodau bod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn Fframwaith
Perfformiad GIG Cymru yn ddiweddar.
Wedi’i gynnwys yn y fframwaith hwnnw oedd gwybodaeth am Gymru Iachach ac
roedd 4 nod y Cynllun yn cyd-fynd yn dda ochr yn ochr â Chynllun Lles ar y cyd
y BGC. O safbwynt y Bwrdd Iechyd a’r
Gymuned Iechyd Integredig, roedd dogfennau strategol yn cysylltu’r gwaith partneriaeth
rhwng y Bwrdd a gwaith y cynllun lles. Atgoffwyd yr aelodau o
amcanion Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych yn cynnwys mynediad at ofal
sylfaenol, adferiad canser, oedi wrth drosglwyddo gofal, cynllun ar gyfer
iechyd meddwl a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, gofal,
diagnosteg adferiad a gofal mewn argyfwng a brys. Arddangos
y meysydd niferus sydd o fudd i weithio
mewn partneriaeth. Cynigodd y Cyfarwyddwr
Gweithrediadau i rannu ei manylion cyswllt gyda’r aelodau pe bai ganddynt
unrhyw sylwadau neu gwestiynau i’w codi y tu allan i’r cyfarfod. Gofynnodd yr aelodau sut
allant gefnogi a mynd ati i graffu ar y bartneriaeth rhwng y BGC a’r Bwrdd
Iechyd orau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Mewn ymateb, awgrymodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau y dylid cael dealltwriaeth
o faint o wybodaeth y mae’r Grŵp BGC ar y Cyd yn ei dderbyn yn nhermau
perfformiad o safbwynt iechyd yn erbyn yr amcanion a osodwyd. Rhoi gwybodaeth i aelodau i graffu a thrafod
unrhyw feysydd mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Roedd cyfathrebu yn aml yn
eithaf heriol. Yn aml, gall hysbysu
preswylwyr o waith y Bwrdd a derbyn gwybodaeth gan breswylwyr fod yn
anodd. Roedd rhannu ac ymgysylltu â
chleifion a grwpiau mewn cymdeithas yn fuddiol i bawb ac yn galluogi i
drafodaethau a chyfathrebu ddigwydd a ffurfio perthynas gadarnhaol rhwng
partneriaid a’r cyhoedd. Os sefydlwyd
canolbwynt neu ganolfan wybodaeth i liniaru’r gwaith o rannu gwybodaeth rhwng
preswylwyr, gwasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, byddai’r Bwrdd Iechyd
o bosibl yn hapus i ymgysylltu mewn a rhannu gwybodaeth a chael trafodaethau
pellach os byddai hynny’n digwydd. Byddai'r holl sianeli rhannu gwybodaeth a'r platfform y mae angen ei ddefnyddio
yn helpu i ddarparu gwasanaethau cyffredinol gwell i drigolion. Mynegodd aelod bryder ynglŷn â risgiau mewn perthynas â meddygfeydd mewn maes penodol, awgrymodd y Cadeirydd y dylid codi ymholiadau o natur benodol gyda'r Bwrdd Iechyd y tu allan i'r cyfarfod. Ar ddiwedd y drafodaeth,
diolchodd y Pwyllgor i’r cynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd am y wybodaeth a
roddwyd ac am ateb cwestiynau’r aelodau.
Penderfynwyd: yn amodol ar yr
arsylwadau uchod i dderbyn y wybodaeth a roddwyd ar gyfraniad Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych a’r manteision iddo o fod yn bartner ar y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus. |
|
COFRESTR RISG BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH PDF 205 KB Ystyried adroddiad
gan Swyddogion Cefnogi y BGC (copi ynghlwm) sy’n hysbysu’r
Pwyllgor o’r risgiau sy’n wynebu’r
BGC a’r mesurau a gymerwyd i reoli a lliniaru’r risgiau hynny. Mae’r adroddiad
hefyd yn gofyn am sylwadau’r aelodau ar y risgiau
a nodwyd a’r mesurau lliniaru a weithredwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tywysodd y Swyddog Perfformiad
a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) yr aelodau drwy’r Gofrestr Risg ar gyfer
adroddiad y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd y Gofrestr Risg yn canolbwyntio ar
allu’r BGC i gyflawni’r rhwymedigaethau statudol a darparu’r Cynllun Lles. Roedd y Gofrestr Risg wedi'i hadolygu
a'i thrafod ddiwethaf gan y Bwrdd ym mis
Tachwedd 2022. Hysbyswyd yr aelodau y byddai'r
Bwrdd yn trafod risgiau a materion y Bwrdd a sefydliadau partner yn fanwl yn y cyfarfod
nesaf ym mis Gorffennaf 2023. Credwyd hynny. byddai'n gyfle da i ganfod unrhyw risgiau
a phroblemau cyffredin. Roedd yr adolygiad diwethaf a
gynhaliwyd ym mis Tachwedd yn adolygiad manwl a gafodd ei drafod yn dda. Tywyswyd aelodau at adran 4.2 a oedd yn
amlinellu’r hyn a gafodd ei ddiweddaru yn nhermau’r Gofrestr Risg. Penderfynwyd cynnwys colofn ychwanegol i
gynnwys pa gamau gweithredu pellach gall y Bwrdd eu cymryd i leihau’r risgiau a
nodwyd ymhellach. Roedd hefyd yn cynnwys
amserlenni i wneud yn siŵr y gall y Bwrdd fonitro’r camau gweithredu yn
brydlon. Risg BGC 2: Y risg nad oedd sefydliadau partner yn
ymroddedig i’r Bwrdd. Bu i’r Bwrdd gynnwys tri cham lliniaru ychwanegol:
Hysbyswyd Aelodau o newid i risg
BGC 3: Y risg bod y BGC yn methu sicrhau’r effaith mwyaf posibl y gall ei
gyflawni drwy ddull cydweithredol. Roedd y risg yn cynnwys tri cham lliniaru
ychwanegol: ·
Cefnogaeth gan y rhwydwaith
cydgynhyrchu i sicrhau ei fod yn cydweithio’n llwyddiannus. ·
Sefydlwyd Cydbwyllgor Craffu i
werthuso effeithlonrwydd y BGC. ·
Mae cynrychiolwyr oddi ar restr y
BGC o gyfranogwyr gwadd yn mynd i gael eu cyfethol i’r Cydbwyllgor Craffu pan
fo angen, i drafod eitemau / meysydd gwaith penodol fel ffordd o asesu
effeithiolrwydd cynlluniau’r Bwrdd. Nododd y Bwrdd risg ychwanegol BGC
6: Y risg bod problemau recriwtio a chadw, sy’n arwain at golli arbenigedd a
chapasiti, yn gwaethygu gan arwain at wasanaethau gwael neu annigonol. Roedd y risg a nodwyd yn codi ymysg yr holl
bartneriaid ar draws y BGC ac roedd recriwtio wedi bod yn her ar draws yr holl
sefydliadau. Roedd copi o’r Gofrestr Risg llawn
wedi’i gynnwys ym mhecyn y rhaglen, ac roedd yn cynnwys y sgoriau risg cynhenid
a gweddilliol ar gyfer pob un. Ar ôl cyflwyno’r cyflwyniad,
gwahoddwyd aelodau i roi sylwadau a gofyn cwestiynau. Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o
fanylder: ·
Codwyd pryderon o ran sut oedd
cyfarfodydd anffurfiol yn cael eu cynnal, ac felly’n peidio â chynorthwyo tryloywder
ac a oedd unrhyw nodiadau neu bwyntiau gweithredu o'r cyfarfodydd hynny'n cael
eu cofnodi. Cadarnhawyd bod y cyfarfodydd anffurfiol wedi’u cyfyngu, roedd
unrhyw drafodaeth yn y cyfarfodydd hynny yn cael eu cyflwyno’n ffurfiol i
gyfarfod y BGC i’w trafod. Roedd y
syniad o gael cyfarfod anffurfiol yn dilyn awgrym o adolygiad gan Archwilio
Cymru. Byddai’r drafodaeth a gafwyd yng
nghyfarfod ffurfiol y BGC wedyn yn cael ei chofnodi yng nghofnodion y
cyfarfodydd hynny, a gafodd eu rhannu gyda’r Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu. · Codwyd pryderon o ran yr effaith o beidio ag ymgysylltu â budd-ddeiliaid eraill, a chyfraddau ymateb isel i ymgynghoriadau cyhoeddus. Anogwyd aelodau i gysylltu â’r Swyddog Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol gydag awgrymiadau o ffyrdd o ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH I'R DYFODOL PDF 834 KB I ystyried a derbyn blaenraglen waith arfaethedig y Pwyllgor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tywysodd y Swyddog
Gwasanaethau Craffu a Phwyllgor yr aelodau trwy’r rhaglen gwaith i’r dyfodol
drafft (dosbarthwyd ymlaen llaw).
Trefnwyd bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 20 Hydref
2023. Ar gyfer y cyfarfod nesaf
cynigiwyd adroddiad diweddaru ar weithrediad y BGC o’r Cynllun Lles. Awgrymwyd
estyn gwahoddiad i Gadeirydd y BGC i fynychu’r cyfarfod nesaf i gyflwyno’r
adroddiad cynnydd. Cytunwyd, yn unol ag awgrym
aelod, bod yr eitem sefydlog ar gyfraniad partneriaid y BGC yn cael ei ddiwygio
yn y dyfodol i ddarllen ‘Cyfraniad ac Ymrwymiad Partneriaid y BGC i waith y BGC
a manteision y BGC i bartneriaid’.
Trafododd yr aelodau pa bartner yr hoffent ei wahodd i’r cyfarfod nesaf
a chytuno i estyn gwahoddiad i Gyfoeth Naturiol Cymru i’r cyfarfod ar 20 Hydref
i drafod eu cyfraniad a’u hymrwymiad i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r
manteision i’r sefydliad o fod yn aelod o’r BGC. Atgoffwyd yr aelodau bod y BGC
wedi creu adroddiad blynyddol, gellir gwahodd Cadeirydd y BGC i gyflwyno’r
adroddiad i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych pan fo ar gael. Awgrymwyd estyn gwahoddiad i
bartneriaid eraill ar y BGC i fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol, yn cynnwys y
Sector Gwirfoddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy’n mynychu cyfarfodydd
y BGC fel cyfranogwyr a wahoddwyd. Yn dilyn ystyried y rhaglen
gwaith i’r dyfodol arfaethedig ar gyfer y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu: Penderfynwyd: (i) cadarnhau ei raglen gwaith i’r dyfodol drafft ar gyfer ei
gyfarfod nesaf a gynhelir ar 20 Hydref 2023; (ii) bod Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael
gwahoddiad i’r cyfarfod uchod i gyflwyno’r eitem ‘Y wybodaeth ddiweddaraf gan y
BGC ar Weithredu ei Gynllun Lles’, a fyddai’n cynnwys trafodaeth ar unrhyw
rwystrau neu bwysau a wynebwyd hyd yma o ran ei weithrediad; (iii)
bod cynrychiolydd o Gyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) yn cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod ym mis Hydref 2023
er mwyn trafod cyfraniad ac ymrwymiad CNC i waith y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus a’r manteision i’r sefydliad o fod yn aelod o’r BGC; (iv)
bod ystyriaeth yn cael
ei roi ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol i wahodd cynrychiolwyr o aelodaeth
‘Cyfranogwyr a Wahoddwyd’ y BGC i fynychu cyfarfodydd y Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu i ddarparu cyflwyniad ar eu ‘cyfraniad a’u hymrwymiad i waith y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus a’r manteision i’w sefydliad o fod yn aelod a wahoddwyd
o’r BGC’ (v)
nodi’r dyddiadau
arfaethedig ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn
ystod 2024. |
|
COFNODION CYFARFODYDD Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 371 KB Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar: (i) 26 Medi 2022 (ii) 30 Tachwedd 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y ddwy set o gofnodion
a gyflwynwyd er gwybodaeth. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH PDF 333 KB Cofnodion: Nodwyd Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a ddosbarthwyd er gwybodaeth. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10.50am |