Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2025/26. Cynigodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid penodi’r
Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd
Brian Jones. Ni chafwyd unrhyw
enwebiadau eraill. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ar y pwynt hwn, talodd y Cadeirydd
deyrnged i gyn Is-gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Hugh Irving, a fu farw’n
anffodus y mis blaenorol. Roedd y
Cynghorydd Irving wedi bod yn deg, yn ddibynadwy, ac yn ddiwyd yn ei asesiad o
unrhyw sefyllfa drwyddedu, yn gefnogaeth wych dros y tair blynedd diwethaf, a
byddai colled fawr ar ei ôl. Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle hefyd i
groesawu’r Cynghorydd Justine Evans fel aelod newydd ar y Pwyllgor, a thalodd
deyrnged i’r Cynghorydd Delyth Jones am y gwaith rhagorol a gyflawnwyd yn ystod
ei chyfnod ar y Pwyllgor. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar
gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2025/26. Cynigiodd y Cynghorydd Justine Evans y dylid
penodi’r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Andrea Tomlin. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnodion: |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2025 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2025. PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2025 a chadarnhau eu bod yn gywir. |
|
ADOLYGU TABL O BRISIAU CERBYDAU HACNI Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu’r tabl o brisiau presennol ar
gyfer Cerbydau Hacni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
y dylai’r Pwyllgor Trwyddedu gymeradwyo
Cynnig 2, a nodir yn Atodiad D yr adroddiad ac a gyflwynwyd gan gynrychiolydd
o’r fasnach drwyddedig, i amrywio tabl prisiau’r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacni
fel y’i nodir yn Atodiad F yr adroddiad, ac awdurdodi swyddogion i ddechrau
ymgynghoriad statudol gyda’r nod o weithredu cyn gynted â phosibl, yn amodol ar
unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol (Trwyddedu)
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu'r tabl
prisiau presennol ar gyfer Cerbydau Hacni.
Cafodd y prisiau presennol eu diwygio ddiwethaf ym mis Mehefin 2022, yn
weithredol o 1 Gorffennaf 2022. Darparwyd rhywfaint o gefndir i'r gofynion
deddfwriaethol gyda’r prisiau wedi’u pennu ar yr uchafswm y gellid ei godi ac
yn gysylltiedig â phrisiau ar gyfer teithiau a wneir yn gyfan gwbl o fewn y
sir. Nid oedd y Cyngor dan rwymedigaeth
gyfreithiol i osod y cyfraddau uchaf ond gwnaethpwyd hynny gan 341 o 345 o
awdurdodau trwyddedu. Y tro diwethaf i’r
aelodau adolygu’r prisiau oedd ym mis Mehefin 2024 ac roeddent wedi cytuno i
gadw'r prisiau presennol ac adolygu'r sefyllfa ymhen 12 mis gyda gwaith yn cael
ei wneud i ddatblygu'r gyfrifiannell brisiau.
Ers hynny, nid oedd unrhyw ymatebion wedi dod i law gan ddeiliaid
trwyddedau, a heb eu mewnbwn ni fyddai'r gyfrifiannell brisiau yn gywir ar
gyfer gosod y prisiau. Fodd bynnag,
roedd dau gais wedi dod i law gan berchnogion cerbydau hacni i adolygu'r
prisiau. Tynnwyd sylw'r aelodau at y wybodaeth yn yr
adroddiad yn ymwneud â'r tabl prisiau presennol, penderfyniadau blaenorol, y
gyfrifiannell brisiau, gohebiaeth ymgynghori, tabl cymharu'r tariff presennol
a’r tariff arfaethedig a chymharu prisiau awdurdodau lleol Gogledd Cymru (gan
gynnwys cynnydd diweddar ym mhris 2 filltir Conwy i £7.60). Ar ôl gwerthuso'r ddau gais, argymhellodd
swyddogion y dylid cymeradwyo Cynnig 2 (ar ran 42 o yrwyr trwyddedig) ar gyfer
ymgynghoriad statudol gyda'r bwriad o'i weithredu yn amodol ar unrhyw
wrthwynebiadau a dderbynnir. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr
adroddiad cynhwysfawr a manwl. Mynegodd y Cynghorydd Brian Jones ei fod yn cefnogi
argymhelliad yr adroddiad o ystyried yr angen i gefnogi'r diwydiant tacsis yng
ngoleuni'r newid mewn amgylchiadau ers yr adolygiad prisiau diwethaf ym mis
Mehefin 2024, gyda chynnydd sylweddol mewn costau sy'n gysylltiedig â'r fasnach
dacsis. Roedd yn hyderus y byddai'r
fasnach yn cyd-drafod prisiau is ar gyfer cwsmeriaid rheolaidd a diamddiffyn
wrth ddarparu'r gwasanaeth hwnnw.
Eiliodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y cynnig ar sail y gefnogaeth
sylweddol gan y fasnach tacsis i gynyddu prisiau a oedd wedi bod yn ansicr ar
adeg yr adolygiad prisiau diwethaf, ac o ystyried bod y tariff wedi gosod y
pris uchaf a ganiateir ac y gellid codi ffi is. Cefnogodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y cynnig
hefyd, ond cwestiynodd sut y gellid ceisio barn y rhai yn Ne'r sir o ystyried y
diffyg cerbydau hacni sy’n gweithredu yn yr ardal honno oherwydd nad yw'n
fenter broffidiol. Esboniodd swyddogion
y byddai’r cynnydd arfaethedig yn y prisiau yn fuddiol ar gyfer teithiau
byrrach ac yn annog gweithwyr nos, a dywedwyd mai dim ond un tabl prisiau y
gallai fod ar gyfer y sir gyfan.
Darparwyd rhagor o fanylion am y broses ymgynghori statudol a oedd yn
cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â gyda'r fasnach drwyddedig a
rhoddwyd sicrwydd y byddai swyddogion yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau y
byddai'r ymgynghoriad mor eang â phosibl ac yn targedu grwpiau / unigolion
perthnasol yn ôl yr angen er mwyn sicrhau ymgysylltiad llawn ar draws y sir
gyfan. PENDERFYNWYD
y dylai’r Pwyllgor Trwyddedu gymeradwyo
Cynnig 2, a nodir yn Atodiad D yr adroddiad ac a gyflwynwyd gan gynrychiolydd
o’r fasnach drwyddedig, i amrywio tabl prisiau’r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacni
fel y’i nodir yn Atodiad F yr adroddiad, ac awdurdodi swyddogion i ddechrau
ymgynghoriad statudol gyda’r nod o weithredu cyn gynted â phosibl, yn amodol ar
unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir. |
|
CERBYDAU HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN – Y WYBODAETH DDIWEDDARAF Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn
Gwlad (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am ganlyniad yr
ymgynghoriad ar y gofynion trwyddedu presennol ar gyfer Cerbydau sy’n Hygyrch i
Gadeiriau Olwyn a cheisio barn yr aelodau am y newidiadau posibl i’r gofynion
hynny wrth symud ymlaen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) dileu dros dro y gofynion oedran presennol ar gyfer
Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a’u disodli am gyfnod o 12 mis gyda’r angen
i bob Cerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn gyrraedd safonau allyriadau Ewro 6, gyda
phrawf cydymffurfio ychwanegol bob blwyddyn unwaith y bydd y cerbyd yn 12 oed
h.y. 3 phrawf y flwyddyn bob 4 mis, a (b) bod swyddogion yn adrodd yn
ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mehefin 2026 ynglŷn â p’un a yw’r
newidiadau dros dro a nodir yn (a) uchod wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer
y Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn ac i ystyried ymhellach a oes angen newid
y polisi yn barhaol o ganlyniad i’r newidiadau dros dro hynny. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol
(Trwyddedu) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad â'r fasnach drwyddedig ar
y gofynion trwyddedu presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn, ac
yn gofyn am farn yr aelodau am newidiadau posibl i'r gofynion hynny yn y
dyfodol. Ym mis Mehefin 2024, adolygodd y
Pwyllgor Trwyddedu'r gofynion presennol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau
Olwyn sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor oherwydd diffyg argaeledd cerbydau o'r
fath, a phenderfynodd ymgynghori ar welliannau arfaethedig i'r gofynion
presennol gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r mater. Darparwyd manylion y pum ymateb, o safbwyntiau
cymysg, i'r ymgynghoriad ynghyd â barn Adran Cludiant Teithwyr y Cyngor a
groesawodd fesurau i gynyddu nifer y Cerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau
Olwyn. Gallai'r newid ymestyn oes
weithredol Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn gan gynyddu argaeledd ar y farchnad
ac o bosibl lleihau costau cludiant ysgol.
Roedd cynnal y polisi presennol hefyd yn berygl o roi rhai defnyddwyr
gwasanaeth ag anghenion hygyrchedd dan anfantais. Gan ystyried yr adroddiad a'r ymateb
i'r ymgynghoriad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried dileu'r gofyniad oedran
presennol ar gyfer cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn dros dro a'i
ddisodli, am gyfnod o 12 mis, gyda'r gofyniad bod yn rhaid i bob cerbyd sy’n
hygyrch i gadeiriau olwyn fodloni safonau allyriadau Ewro 6, gyda phrawf cydymffurfio
ychwanegol unwaith y flwyddyn ar ôl i’r cerbyd gyrraedd 12 oed. Awgrymwyd y dylid adolygu'r sefyllfa ym mis
Mehefin 2025 i ganfod a oedd y newid dros dro wedi cael effaith gadarnhaol ar
nifer y cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac i ganfod a oedd angen newid
parhaol. Bu’r aelodau yn ystyried yr adroddiad
ac yn trafod gyda swyddogion rhinweddau posibl argymhellion yr adroddiad, y
posibilrwydd o ddulliau eraill o gynyddu argaeledd cerbydau sy’n hygyrch i
gadeiriau olwyn yn y sir, a'r effaith ar y fflyd tacsis yn gyffredinol. Roedd barn gymysg ynghylch yr argymhellion o
ystyried na fyddai pob cerbyd yn destun yr un meini prawf trwyddedu gyda'r un
safonau diogelwch yn berthnasol i bawb.
Cwestiynwyd y rhesymeg y tu ôl i newid gofynion trwyddedu i gynorthwyo i
ddarparu cludiant ysgol ac nid oedd barn glir gan y fasnach tacsis ar y mater o
ystyried y diffyg ymatebion i'r ymgynghoriad.
Teimlai aelodau eraill fod achos wedi'i wneud i gyflwyno'r newidiadau
dros dro i'r gofynion trwyddedu o ystyried y prinder cerbydau sy’n hygyrch i
gadeiriau olwyn yn y sir, a fyddai, pe baent yn llwyddiannus, o fudd nid yn
unig i ddarpariaeth cludiant ysgol ond i'r gymuned ehangach a defnyddwyr
gwasanaeth sydd angen cerbydau o'r fath, a byddai effeithiolrwydd y newid dros
dro yn cael ei adolygu ymhen 12 mis cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y
mater. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a
sylwadau’r aelodau fel a ganlyn – ·
roedd prinder cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau
olwyn yn y sir wedi’i amlygu gan yr Adran Cludiant Teithwyr gyda chontractau
ysgolion yn cael eu dyfarnu y tu allan i Sir Ddinbych o ganlyniad; byddai
cynyddu argaeledd y cerbydau hyn yn Sir Ddinbych o bosibl yn arwain at fwy o
gystadleuaeth a phrisiau tendr is ar gyfer y contractau hynny. ·
byddai’r posibilrwydd o’r Cyngor yn
caffael ei Gerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn ei hun yn fater i’w ystyried
gan y Gwasanaethau Fflyd a’r Adran Cludiant Teithwyr · nid oedd y gyfradd ymateb isel i'r ymgynghoriad yn annisgwyl o ystyried nifer isel y cerbydau hyn ar y fflyd ar hyn o bryd; y gobaith oedd y byddai'r cynnig i ganiatáu cerbydau hŷn sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ar y fflyd, sydd yn gyffredinol yn gwneud llai o filltiroedd, ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2025 Ystyried rhaglen
waith y Pwyllgor Trwyddedu (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r rhaglen waith. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol
(Trwyddedu) raglen waith y Pwyllgor Trwyddedu i’w hystyried (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw). PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r rhaglen waith. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 517116 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded
cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr rhif 517116. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 517116 yn unigolyn cymwys ac addas i
feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd
ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau goryrru parhaus a
gafodd a’i fethiant i’w datgelu.
Gosodwyd amod hefyd ar Drwydded y Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn
ei gwneud yn ofynnol i'r Gyrrwr gwblhau cwrs ymwybyddiaeth o gyflymder i
gynnwys asesiad ymarferol yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant theori a ddarperir
o fewn 3 mis i ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad. Gallai methu â chydymffurfio â’r amod hwn
arwain at atal y drwydded. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 517116 i ddal
trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn euogfarnau
goryrru a gafwyd ym mis Chwefror 2024 nad oeddent wedi'u datgan o'r blaen, ac
ym mis Mehefin 2021 nad oeddent wedi'u datgan cyn cyflwyno ei gais adnewyddu; (ii)
bod gwybodaeth gefndirol a dogfennau
cysylltiedig wedi'u darparu gan gynnwys manylion yr euogfarnau moduro, cofnod
o'r cyfweliad â'r Gyrrwr, ynghyd â'i hanes gyrru blaenorol a'i ymddangosiadau
gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â'i gais gwreiddiol yn 2017; (iii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r
mater at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol
yr achos; (iv)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a (v)
gwahoddwyd y Gyrrwr i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau wedi
hynny. Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu
(NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos. Cyflwynodd y Gyrrwr ei fod wedi newid yn sylweddol ers yr euogfarnau moduro
gwreiddiol a gafodd pan oedd yn ifanc o 1998 ac nid oedd yn derbyn bod
camgyfathrebu wedi bod â Llys yr Ynadon yn 2017 fel y manylwyd yn yr
adroddiad. Esboniodd nad oedd wedi
datgan bod ganddo bwyntiau cosb yn 2021 oherwydd ei fod wedi newid galwedigaeth
ond ei fod wedi datgan y pwyntiau cosb hynny yn ddiweddarach. Esboniwyd yr amgylchiadau o amgylch euogfarn
mis Chwefror 2024 hefyd. Yn olaf,
rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd ynghylch ei ymddygiad fel gyrrwr trwyddedig,
cyflwynodd nifer o eirdaon yn tystio i'w gymeriad da, ac ymddiheurodd am beidio
â datgan y pwyntiau cosb fel sy'n ofynnol.
Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd y Gyrrwr ar amgylchiadau'r
euogfarn am oryrru a'r 3 phwynt cosb a'i gyfrifoldebau rheoli yn ei swydd
bresennol. Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried yr achos a – PENDERFYNWYD bod Gyrrwr
Rhif 517116 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni
a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r
euogfarnau goryrru parhaus a gafodd a’i fethiant i’w datgelu. Gosodwyd amod hefyd ar Drwydded y Gyrrwr
Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gyrrwr gwblhau cwrs
ymwybyddiaeth o gyflymder i gynnwys asesiad ymarferol yn ogystal ag unrhyw
hyfforddiant theori a ddarperir o fewn 3 mis i ddyddiad yr hysbysiad
penderfyniad. Gallai methu â
chydymffurfio â’r amod hwn arwain at atal y drwydded. Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad – Roedd yr aelodau wedi ystyried y
dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad. Roedd penderfyniad aelodau’r Pwyllgor yn
gytbwys iawn ond credwyd bod y Gyrrwr yn dal i fod yn unigolyn addas a phriodol
i barhau i ddal trwydded yrru ddeuol. Bu i’r Pwyllgor ganfod fod y methiant i
ddatgelu'r euogfarn arfaethedig yn y cais adnewyddu ym mis Rhagfyr 2023 yn
anonest gyda'r Gyrrwr yn gwybod am euogfarn arfaethedig o ystyried ei fod wedi
derbyn y cynnig o ddirwy a phwyntiau cosb ar unwaith. Bu i’r Pwyllgor hefyd ganfod fod y methiant i
ddatgelu’r pwyntiau cosb o fewn 7 diwrnod fel sy’n ofynnol ar ôl iddynt gael eu
derbyn yn fwriadol ac yn anonest. Er bod y Pwyllgor wedi canfod bod y Gyrrwr wedi ymddwyn yn anonest fel y disgrifiwyd uchod, roedd y Pwyllgor o'r farn bod amgylchiadau lliniarol a oedd yn cyfrannu at egluro pam nad oedd yr euogfarn wedi'i ddatgelu o fewn y cyfnod amser priodol fel sy'n ofynnol. Roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch goryrru parhaus ... view the full Cofnodion text for item 10. |