Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
TEYRNGED – Y CYN GYNGHORYDD DAVE THOMAS Talodd yr Arweinydd deyrnged i’r cyn Gynghorydd Sirol ac Aelod Cabinet Dave
Thomas a fu farw dros y penwythnos. Bu
Mr. Thomas yn cynrychioli’r Rhyl ar y Cyngor ac yn gweithio’n ddiflino yn ei
gymuned. Mynegodd yr Arweinydd
gydymdeimlad y Cabinet â’i deulu a safodd aelodau a swyddogion ar eu traed mewn
teyrnged ddistaw. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh
Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd Y Cynghorydd
David Smith - Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh
Irving - Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd Cynghorydd David
Smith - Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd |
|
DATGAN CYSYLLTIAD O FUDDIANT PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Mawrth, 2016 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2016 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2016 . PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2016 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd
eu llofnodi. |
|
ASESIAD ARIANNOL A CHODI TÂL O DAN DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLES (CYMRU) 2014 PDF 166 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant (copi'n amgaeedig) yn rhoi manylion
am y newidiadau gorfodol a dewisol o ran Asesiad Ariannol a Chodi Tâl yn unol â
gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r newidiadau gorfodol yn y Ddeddf o asesiad
ariannol dibreswyl a chyfraniad wedi’i gapio o £60.00 yr wythnos i bobl sy'n
derbyn gofal tymor byr / gofal seibiant am lai na 8 wythnos; (b) cymeradwyo'r cynnig i gyflwyno newid yn ôl
disgresiwn i Ddiystyru Incwm ar gyfer asesiadau ariannol dibreswyl ym mis
Gorffennaf 2016, ar ôl cyfnod o gyn-gyfathrebu gyda derbynwyr presennol, ac (c) argymell bod swyddogion yn cyflwyno adroddiad i'r
pwyllgor archwilio priodol ym Medi 2017 i adolygu effaith y mesurau a nodir yn
(a) a (b) uchod. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad ynglŷn â newidiadau gorfodol a
dewisol o safbwynt Asesiad Ariannol a Chodi Tâl yn unol â gofynion Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd angen newid
polisïau a gweithdrefnau cyngor oherwydd y rheoliadau newydd a’r cod ymarfer o
safbwynt asesu ariannol a chodi tâl. Roedd gwaith wedi ei wneud i
glustnodi meysydd ar gyfer newid a meysydd a fyddai’n galluogi’r cyngor i godi
taliadau ychwanegol er mwyn cynorthwyo i liniaru pwysau cyllidol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar ddau
faes effaith o fewn y ddeddfwriaeth fel a ganlyn - (1)
capio
ffioedd ar gyfer gofal tymor byr / seibiant – newidiadau gorfodol i asesiadau
cyllidol amhreswyl a chyfraniad wedi'i gapio o £60.00 yr wythnos a fyddai’n golygu colled ariannol o £120,000
y flwyddyn, a (2)
newidiadau
yn y Lwfans Byw i'r Anabl (Gofal) a diystyru incwm Lwfans Mynychu - cyfle posib
i greu incwm drwy gyflwyno newidiadau dewisol i ddiystyru incwm asesiadau
cyllid amhreswyl a allai ddigolledu'r golled mewn incwm o’r newidiadau i’r godi
tâl am ofal tymor byr / seibiant. Mynegodd y Cabinet bryderon ynglŷn â’r pwysau cyllidol sydd wedi ei
roi ar awdurdodau lleol sy’n codi o'r newidiadau mandadol i’r broses asesu
ariannol yn dilyn rhoi’r Ddeddf ar waith. O safbwynt y newidiadau dewisol
arfaethedig i ddigolledu'r lleihad mewn incwm roedd y Cabinet am gael sicrwydd
na fyddai pwysau ariannol gormodol yn cael ei roi ar unigolion o
ganlyniad. Holwyd cwestiynau hefyd
ynghylch ymarferoldeb rhoi’r newidiadau ar waith. Amlygodd y Cynghorydd Huw Jones yr amserlenni
tynn oedd yn gysylltiedig gyda’r rheiny yr effeithir arnynt a chefnogodd y
Cabinet ei gais bod effaith unrhyw newid yn ddarostyngedig i archwilio. Ymatebodd y Cynghorydd Bobby Feeley a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol i'r materion a godwyd fel a ganlyn - ·
cadarnhawyd
bod y newidiadau mandadol wedi dod i rym fel rhan o’r Ddeddf newydd a’u bod y
tu hwnt i reolaeth y Cyngor ·
rhoddwyd
sicrwydd y byddai effeithiau codi tâl dewisol ar unigolyn yn cael eu cadw i’r
lleiafswm phosib a chynghorwyd ynglŷn â phrosesau asesu ariannol
gynhwysfawr a diogelu er mwyn sicrhau bod gan unigolion ddigon o incwm wrth
benderfynu ar lefel unrhyw newid ·
cynghorwyd
nad oedd unrhyw wybodaeth yn nogfen y Cod Ymarfer (Codi Tâl ac Asesiad
Ariannol) ynglŷn ag effaith dileu’r diystyru ar y rheiny sy’n derbyn
Taliad Annibyniaeth Bersonol a chytunwyd i edrych ymhellach i’r mater. ·
eglurwyd
na ddylai fod unrhyw effaith ar y galw am ofal tymor byr / seibiant o ganlyniad
i’r newidiadau gan bod defnyddwyr gwasanaeth posib yn ddarostyngedig i broses
asesu ·
croesawyd
y cynnig y dylid archwilio effaith y newidiadau PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi’r
newidiadau mandadol yn y Ddeddf o asesiad ariannol amhreswyl ac uchafswm
cyfraniad o £60.00 yr wythnos i unigolion sy’n derbyn gofal seibiant/tymor byr
o lai nag 8 wythnos. (b) yn
cymeradwyo’r cynnig i gyflwyno’r newid dewisol i Ddiystyriaeth Incwm ar gyfer
asesiadau ariannol amhreswyl ym mis Gorffennaf 2016, ar ôl cyfnod o gyfathrebu
gyda derbynwyr cyfredol, ac yn (c) argymell
bod swyddogion yn mynd ag adroddiad i’r pwyllgor archwilio perthnasol ym mis
Medi 2017 er mwyn adolygu effaith y mesurau a nodir yn (a) a (b) uchod. |
|
CYFRANOGIAD AELODAU MEWN APELIADAU CYFLOGAETH PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Thai (copi’n amgaeedig) am newidiadau arfaethedig sy'n ymwneud â chyfranogiad
aelodau mewn rhai prosesau cyflogaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno - (a) nad oes gofyniad i aelodau gymryd rhan mewn
Apeliadau Disgyblu a Gwerthuso Swydd; (b) y bydd Apeliadau Disgyblu yn cael eu clywed gan y
lefel nesaf o reolwr, rheolwr arall, Pennaeth Gwasanaeth priodol neu
Gyfarwyddwr. Lle mae apêl yn erbyn diswyddo, bydd angen
dau Bennaeth Gwasanaeth/Cyfarwyddwr i ymgynnull fel Panel, a (c) bydd Apeliadau Gwerthuso Swydd yn cael eu cadeirio
gan Bennaeth Gwasanaeth gydag un cynrychiolydd o’r tîm rheoli ac un
cynrychiolydd undeb llafur. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Barbara Smith adroddiad yn ceisio cytundeb y Cabinet i newid y
gofyniad bod aelodau yn cymryd rhan mewn apeliadau disgyblu a gwerthuso
swyddi. Argymhellwyd y dylid delio
gyda’r apeliadau hynny yn unol ag apeliadau eraill a gafodd eu clywed gan naill
ai Reolwyr, Penaethiaid Gwasanaeth neu Gyfarwyddwyr fel y bo'n briodol. Manylodd y
Cynghorydd Smith ar y rhesymau y tu ôl i’r argymhelliad oherwydd natur
weithredol y broses apelio a chydymffurfedd gyda chod ymarfer ACAS. Mae ymgynghori wedi bod gyda’r Undebau Llafur
ac maent yn cytuno gyda’r cynnig. Mae’r
mater hefyd wedi ei drafod yn y Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol ac er nad yw’r
Undebau Llafur wedi codi unrhyw wrthwynebiad mynegodd rhai cynghorwyr bryder y
byddai’r newid yn cael effaith ar gylch gorchwyl eu rôl. Nid oedd unrhyw fwriad i fychanu cyfraniad
aelodau, proses weithredol y dylai swyddogion ymgymryd â hi ydyw. Nododd y Cabinet
bod yr Undebau Llafur yn cefnogi’r argymhelliad oedd yn arddangos eu hyder yn y
broses heb ymglymiad aelodau.
Cadarnhawyd nad oedd gan Undebau Llafur wrthwynebiad yn dilyn sicrwydd y
byddai unigolyn perthnasol nad yw’n
gysylltiedig Roedd y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts a Martyn Holland hefyd yn cefnogi’r
argymhellion ac yn credu bod y broses apeliadau yn fater rheoli y byddai’n well
i swyddogion ei drin. Amlinellodd y
Cynghorydd Huw Jones yr angen i ystyried y safonau Iaith Gymraeg newydd wrth
wrando ar apeliad a rhoddwyd sicrwydd y byddai’r gwrandawiadau yn cael eu
cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg fel bo’n addas.
O ganlyniad - PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn
cytuno - (a) nad
oes angen i aelodau gymryd rhan mewn Apeliadau Disgyblu a Gwerthuso Swyddi. (b) bod
Apeliadau Disgyblu yn cael eu clywed gan y lefel nesaf o reolwr, rheolwr arall,
Pennaeth Gwasanaeth neu Gyfarwyddwr priodol.
Lle mae apêl yn erbyn diswyddo, yna byddai dau Bennaeth Gwasanaeth /
Cyfarwyddwr yn cynnull, ac (c) y
bydd Apeliadau Gwerthuso Swyddi yn cael eu cadeirio gan Bennaeth Gwasanaeth
gydag un cynrychiolydd rheolwyr ac un cynrychiolydd undeb llafur. |
|
CYNLLUN DIRPRWYO I SWYDDOGION PDF 78 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a
Thai (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r Cynllun Dirprwyo
i Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau gweithredol a gynhwysir
ynddo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r Cynllun Dirprwyo
Swyddogion (yn amgaeedig fel Atodiad i’r adroddiad) mewn perthynas ag unrhyw
swyddogaethau gweithredol sydd wedi'u cynnwys ynddo. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith adroddiad yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw
swyddogaethau gweithredol a gynhwysir ynddo. (Byddai'r
cynllun newydd hefyd yn cael ei gynnwys mewn adroddiad ar y Cyfansoddiad newydd
i’r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf 2016 er mwyn cymeradwyo’r swyddogaethau
anweithredol.) Mae'r cynllun
wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, strwythur
uwch reolwyr y Cyngor a'r newydd sydd wedi digwydd mewn cyfrifoldebau o
ganlyniad. Mae’r adrannau cyntaf yn
nodi’r ddarpariaeth gyffredinol a’r dirprwyaethau sy’n gymwys i bob uwch
swyddog a swyddogaethau penodol swyddogion priodol. Tynnodd y Cynghorydd Smith sylw hefyd at y
darpariaethau ychwanegol canlynol - ·
hyd
yn oed pe na bai’r cynllun swyddogion yn cyfeirio’n unswydd at bŵer, os
oedd y pŵer hwnnw yn ‘angenrheidiol neu’n atodol’ i’w gwasanaeth yna
byddai’n cael ei roi ar waith yn awtomatig ·
wrth
wneud penderfyniadau rhaid i swyddogion roi sylw i gynaliadwyedd yn gyffredinol
a lles cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. ·
mynegi
darpariaeth y byddai’n rhaid i swyddogion roi sylw dyledus i’r Iaith Gymraeg a
chydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg ·
gall
y Swyddog Monitro ddiweddaru’r cynllun er mwyn adlewyrchu newidiadau i
ddeddfwriaeth, a rhaid adrodd am newidiadau i’r Cabinet neu’r Cyngor llawn. Roedd yr
Arweinydd o'r farn bod y cynllun yn cynorthwyo i gyflymu’r broses gwneud
penderfyniadau ac yn darparu peirianwaith tryloyw ynglŷn ag aelodau o fewn y broses gwneud
penderfyniadau fel bo’n addas. Nodwyd
nad oedd y cynllun yn cynnwys unrhyw ddirprwyaethau newydd ond yn adlewyrchu
newidiadau mewn deddfwriaeth a'r ffaith bod uwch swyddogion wedi eu
hail-strwythuro diweddar. Roedd y
Cabinet yn falch o nodi’r cyfeiriadau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
a safonau’r Iaith Gymraeg o fewn y ddogfen. Cyfeiriodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts at y penderfyniad dirprwyedig
diweddar gan swyddogion i gynyddu ffioedd parcio ceir a chwestiynodd y
peirianwaith ar gyfer ymgynghori gydag aelodau a'r darpariaethau galw i mewn yn
y broses honno. Amlygodd swyddogion y peirianwaith sydd yn ei le er
mwyn i aelodau ymwneud â’r broses gwneud penderfyniadau, a thynnwyd sylw at
Adran 2 y cynllun sy’n gosod rhagdybiaeth o blaid cyfeirio’r mater at aelodau
lle'r fo’r penderfyniad yn debygol o gael effaith sylweddol ar broffil y
cyngor, yn debygol o atynnu sylw anffafriol yn y cyfryngau newyddion neu o
achosi goblygiadau ariannol sylweddol. Roedd y broses wedi ei dilyn ac
roedd barn aelodau wedi ei gasglu cyn penderfynu ar ffioedd parcio ceir. Roedd proses hefyd i herio penderfyniadau wedi eu
dirprwyo ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno proses debyg ar gyfer
penderfyniadau swyddogion wedi’i dirprwyo yn unol â’r rheiny a wneir gan
Aelodau Arweiniol er mwyn rhoi gwybod i aelodau am benderfyniadau pwysig oedd
angen eu gwneud o flaen llaw. Cafwyd trafodaeth wedyn oedd yn
canolbwyntio ar y broses ddiweddar a’r deilliannau wrth benderfynu ar ffioedd
parcio ceir o safbwynt aelodau a swyddogion a phe gallai meysydd penodol gael
eu cryfhau. Amlygodd aelodau’r ffaith
bod rhoi gwybod iddynt mewn da bryd am benderfyniadau lefel uchel a wneir gan
swyddogion o dan bwerau a ddirprwywyd yn ystyriaeth bwysig gyda phroses galw i
fewn gliriach. Awgrymwyd hefyd y gellid
gwneud mwy er mwyn cynnwys aelodau yn gynt cyn hyrwyddo gwybodaeth
ddadleuol/proffil uchel sy’n codi o'r penderfyniadau hynny. Roedd y Prif Weithredwr yn awyddus i sicrhau bod gan aelodau hyder yn y cynllun dirprwyo swyddogion a nodwyd y byddai’r cynllun yn cael ei gynnwys mewn adroddiad i'r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf, ac y byddai hynny’n rhoi cyfle i’r holl aelodau ei adolygu. Awgrymwyd hefyd bod y cynllun yn cael ei gylchredeg cyn cyfarfod y Cyngor yn llawn i gynghori aelodau o’r peirianwaith os hoffent gynnig ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn - (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo mewn egwyddor y defnydd o danwariant gwasanaeth a gynigir gan y
Penaethiaid Gwasanaeth, yn amodol ar y sefyllfa Alldro Terfynol (a grynhoir yn
Atodiad 5 i'r adroddiad); (c) cymeradwyo'r achosion busnes sy'n ymwneud ag Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w
hargymell i'r Cyngor Llawn fel a ganlyn - ·
cymeradwyo’r Achos Busnes
Amlinellol a Llawn ar y cyd ar gyfer datblygiad Ysgolion Glasdir, a ·
cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhau
Busnes ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, a (d) bod unrhyw gynghorwyr a swyddogion presennol sydd wedi bod yn cymryd rhan
yn y gwaith o ddatblygu prosiectau cyfalaf sylweddol yn cael eu gwahodd i'r
seremonïau agoriadol mewn perthynas â'r prosiectau hynny hyd yn oed os nad yw’r
cynghorwyr hynny wedi dychwelyd ar ôl etholiadau mis Mai 2017. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £1.276 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
91% o’r arbedion a gytunwyd wedi'u cyflawni hyd yn hyn (targed o £7.3m) ac
amcangyfrifir y byddai mwyafrif yr arbedion sy'n weddill yn cael eu cyflawni
erbyn 2016/17 fan bellaf ·
amlygwyd
bod y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â
meysydd gwasanaeth unigol, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol). Holwyd i’r Cabinet hefyd i gymeradwyo mewn
egwyddor y defnydd o danwariant gwasanaeth a gynigir gan y Penaethiaid
Gwasanaethau ac i argymell yr achos busnes sy’n ymwneud â chynlluniau ysgolion Glasdir ac Ysgol Carreg
Emlyn i’r Cyngor llawn i’w cymeradwyo. Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth - ·
Roedd
y Cynghorydd Huw Jones yn falch o nodi'r argymhelliad i gymeradwyo ceisiadau i
gario tanwariant ymlaen yn y Gwasanaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden a
fyddai’n galluogi rhedeg prosiectau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth ganmol prosiectau
gwella’r ysgol manteisiodd ar y cyfle i amlygu’r pwysau ariannol canlynol ar
ganolfannau hamdden penodol drwy golli incwm tra roedd y gwaith hwn yn cael ei
wneud. ·
Roedd
y Cynghorydd Eryl Williams yn falch o allu cadarnhau bod yr holl brosiectau o
dan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn
dod yn eu blaenau’n dda. Adroddodd am y
gwaith caled a’r gwaith paratoi a wnaed wrth arwain amrywiol brosiectau, ac na
fydd rhai ohonynt yn cael eu cwblhau yn ystod y tymor cyngor presennol, a
chefnogodd y Cabinet y cynigion y byddai cynghorwyr a’r aelodau oedd yn ymwneud
â’r cynlluniau hynny, a phrosiectau cyfalaf
sylweddol eraill, yn cael eu gwahodd i seremonïau agor y prosiectau hynny p’un ai eu bod yn
dychwelyd wedi etholiadau Mai 2017 ai peidio. ·
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby
Feeley at gynllunio ariannol a phwysau o fewn y Gwasanaeth Oedolion a Gofal
Cymdeithasol yn y dyfodol a chynghorodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod
rhagolygon yn cael eu hymgorffori i’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac y
byddent yn cael eu trafod ymhellach yn y dyfodol fel rhan o’r broses gyllido. ·
Adroddodd
yr Arweinydd ar y sail resymegol y tu ôl i beth o’r tanwariant yn y Gwasanaeth
Datblygu Economaidd a Busnes gan gynghori bod y cynnydd yn dibynnu i raddau
helaeth ar ddylanwadau allanol y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. ·
Cadarnhaodd
y Cynghorydd Julian Thompson-Hill taw’r swm ychwanegol yr oedd angen i’r Cyngor
ei dalu er mwyn gwasanaethu ei rwymedigaethau o safbwynt yr hen Mutual Municipial Insurance Company oedd
tua £262,000 a fyddai’n cael ei gyllido o’r gronfa Yswiriant wrth gefn ·
mewn
ymateb i gwestiynau eglurodd y Prif Swyddog Cyllid y cyfyngiadau ar gyllid y
Cyfrif Refeniw Tai a sut roedd elfennau wedi eu defnyddio i symud staff tai o
Brighton Road, Y Rhyl, i Galedfryn, Dinbych ac yn galluogi trefniadau gweithio
mwy hyblyg fel rhan o'r prosiect gofod swyddfa. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r
cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y
cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb; (b) cymeradwyo
mewn egwyddor y defnydd o danwariant gwasanaeth a gynigir gan y Penaethiaid
Gwasanaeth, yn amodol ar y sefyllfa Alldro Terfynol (a grynhoir yn Atodiad 5
i'r adroddiad); (c) cymeradwyo'r achosion busnes sy'n ymwneud ag Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w hargymell i'r Cyngor ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET PDF 137 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Cabinet i’w
hystyried a nododd yr aelodau’r canlynol - ·
roedd adroddiad cyn Ysbyty
Gogledd Cymru, Dinbych wedi ei ohirio a byddai’n cael ei ail-gynllunio unwaith
byddai mwy o eglurder ynghylch amserlenni ·
roedd y Fframwaith Contractwr
Cynnal a Chadw Ymatebol wedi ei aildrefnu o fis Mai i fis Mehefin. ·
byddai’r
adroddiad Alldro Refeniw Terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis
Mehefin. PENDERFYNWYD nodi
Blaenraglen Waith y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m. |