Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGORA 1A, NEAADD Y SIR, RHUTHUN

Eitemau
Rhif Eitem

Croesawodd yr Arweinydd y pedwar unigolyn graddedig a’r myfyriwr cyfraith oedd yn y cyfarfod Cabinet fel arsylwyr.

 

Rhoddodd y Cynghorydd D.I. Smith yr wybodaeth ddiweddaraf ar Adroddiad yr Archwilwyr ar y llifogydd yn Glasdir, Rhuthun a gyflwynwyd i’r Cyngor Sir ar 10 Medi, 2013.  Esboniodd bod yr argymhellion y cytunwyd arnynt yn datblygu a bod yr Aelod Cynulliad, Alun Davies, Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd wedi ymweld â’r safle ym mis Medi 2013 i gyfarfod y preswylwyr.  Trafodwyd materion ariannu ac mae Taylor Wimpey wedi cytuno i ddarparu traean o'r arian sydd ei angen. Mae Swyddogion Cyllid wedi cadarnhau y bydd traean pellach ar gael gan Sir Ddinbych ac mae trafodaethau ynglŷn â’r traean sy’n weddill wrthi’n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru.  Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod bagiau tywod wedi’u gosod cyn adeiladau bwnd sydd yn y cam dylunio ar hyn o bryd.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn

Penderfyniad:

Ni ddatganodd unrhyw Aelod gysylltiad personol neu ragfarnllyd i unrhyw fater sy'n cael ei ystyried yn y cyfarfod.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Aelod wedi datgan unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS

Rhybudd o faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw eitem y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 182 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2013 (copi wedi’i amgáu)

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: - y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2013 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2013.   

 

Materion yn codi: -

 

5.  Grŵp Tasg a Gorffen Adolygiad Bwyd – cadarnhaodd y Cynghorydd D.I. Smith bod argymhellion y Grŵp wedi’u gweithredu rŵan.

 

9.  Arolwg Swyddfeydd Gogledd Sir Ddinbych – Esboniodd y Cynghorydd B. A. Smith y cytunwyd os nad yw Swyddfeydd Tŷ Nant yn cael eu gosod i’w rhentu y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet. Cadarnhaodd y Cynghorydd H. C. Irving na fydd adeilad Tŷ Nant yn cael ei wagio nes y bydd cadarnhad yn cael ei dderbyn o’r defnydd pellach.

 

14. Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen - Gwobrwyo Contract – Cadarnhaodd y Cynghorydd H. Ll. Jones y bydd y Cynllun yn dechrau ar 7 Hydref, 2013.

 

PENDERFYNWYD: - y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 30 Gorffennaf 2013 fel cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi.

 

 

5.

YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ADRODDIAD ARIANNOL pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf, a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)  bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni, a

(b)  cyflwyno adroddiad diweddaru ar ddarpariaeth cludiant ôl 16 yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. J. Thompson Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o gyllideb refeniw ac arbedion y Cyngor ar gyfer 2013/14, Atodiad 1, a’r gyllideb net yw £192m.   Ar ddiwedd mis Awst, rhagwelwyd tanwariant ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £501k sy’n cynrychioli amrywiad o 0.55%.  Mae sefyllfa cyllidebau ysgolion yn rhagamcan symudiad cadarnhaol ar falansau o £190k, £352k y mis diwethaf.

 

Roedd Atodiad 2 yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn yr arbedion a amlygwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2012/13. Cytunwyd ar darged arbedion o £3.061 miliwn ar gyfer y flwyddyn ac mae 54% o’r targed £1.666, wedi ei gyrraedd.

 

Esboniwyd y byddai angen rhagolygon gwasanaethau cefnogi fel y nodwyd yn yr adroddiad:-

 

Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden – y rhagolygon presennol yw y byddant yn adennill costau ond mae gan y gwasanaeth sawl cyllideb cyfnewidiol sy’n ddibynnol ar ddiwallu targedau incwm mawr. Yn seiliedig ar ffigurau presennol, roedd pob cyllideb yn unol â’r targed.

 

Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg – Bu rhagamcan tanwariant o £110k, ac roedd £58k yn ymwneud ag oedi wrth weithredu’r ailstrwythuro Gwasanaethau Cwsmer yn llawn.

 

Trawsnewid Busnes/TGCh – y rhagolygon yw y bydd y gyllideb ychydig, £1k, yn is na'r targed.   Bydd unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn o’r gwasanaeth i helpu i ariannu unrhyw fylchau yng ngham nesaf strategaeth TGCh y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â’r Cytundeb Menter Microsoft.

 

Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd – rhagamcan gorwariant o £194k gyda’r mwyafrif yn ymwneud â’r Gwasanaeth Cludiant Ysgol.  Mae hyn wedi’i ddylanwadu gan nifer y diwrnodau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2013/14 yn rhannol oherwydd amseru’r gwyliau Pasg.  Mae’r pwysau wedi lleihau yn dilyn adolygiad o gronfeydd wrth gefn sy’n arwain at ryddhau £106k.  Mae’r pwysau hwn wedi lleihau yn dilyn adolygiad o gronfeydd wrth gefn sy’n arwain at rhyddhau £106k, yn bennaf y Gronfa Bws melyn o £101k nad oes ei angen bellach.

 

Gwasanaethau Oedolion a Busnes – rhagwelwyd y bydd £45k o danwariant yng nghanlyniad 2013/14.   Mae’r gofyniad cenedlaethol i ddiogelu cyllidebau gofal cymdeithasol wedi arwain at £905k ychwanegol yn ystod y flwyddyn.   

 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – y sefyllfa bresennol y rhoddwyd gwybod amdani yw tanwariant o £539k, a £285k o hwnnw ar gyllidebau staffio, £94k o danwariant ar leoliadau arbenigol, £61k wedi’i glustnodi ar gyfer lleoliad maethu nad oes ei angen bellach a £99k o danwariant wedi cario drosodd o 12/13 ac sydd heb ei ymrwymo eto.  Mae arbedion wedi’u cynnig ar gyfer 2014/15 ar gyfer rhai o’r cyllidebau hyn ac mae trafodaethau ar y gweill gyda’r Gwasanaethau Hamdden i ystyried modelau darparu gwasanaeth i’r dyfodol i ddarparu rhaglenni egniol i Blant ag Anableddau.  Cynnig y gwasanaeth oedd y byddai £250k o unrhyw danwariant yn cael ei neilltuo mewn Cronfa Plant ag Anableddau i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

 

Ysgolion – ar ddiwedd mis Awst y rhagamcan ar gyfer balansau ysgolion oedd £3.060 miliwn, sy’n symudiad positif o £190k ar falansau a ddygwyd ymlaen o 2012/13, sef £2.870m. Roedd y canlyniad hwn yn cynnwys diogelwch o £775k a ddarparwyd fel cymorth ariannol trosglwyddo ar gyfer ysgolion sydd wedi'u heffeithio gan newidiadau mewn fformwlâu ariannu.

 

Rhagwelir y bydd Cyllidebau Corfforaethol yn cynhyrchu tanwariant o £350k.   Roedd ansicrwydd ynglŷn â dyraniadau canolog ar gyfer ynni, pensiynau a chostau eraill ond rhagdybiwyd argaeledd £350k, ond pe byddai angen cronfeydd wrth gefn byddai’r rhagdybiaeth yn cael ei hadolygu.

 

Cariwyd cronfeydd Cynllun Corfforaethol o £10.3m ymlaen i 2013/14, gan adael gofyniad arian o tua £11.7m i ddarparu’r cynllun.  Roedd cyllideb 2013/14 yn clustnodi adnoddau cyllidebol newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2012/13 pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith (copi wedi’i amgáu) ynglŷn ag Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2012/13

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Barbara Smith yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi cyfle i’r Cabinet graffu ar ddogfen ddrafft yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13, Atodiad I, cyn i’r ddogfen derfynol cael ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref 2013.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn cytuno i ganiatáu cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13 i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barbara Smith yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi cyfle i’r Cabinet graffu ar ddogfen ddrafft yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13, Atodiad I, cyn i’r ddogfen derfynol cael ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref 2013.

 

Roedd Cynllun Corfforaethol 2012-17 yn amlinellu cyfeiriad strategol a blaenoriaeth y Cyngor ar gyfer y cyfnod pum mlynedd.  Mae bwriad yr Awdurdod i helpu wrth gyflawni’r blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol a Dogfen Darparu Blynyddol y Cynllun Corfforaethol.   Roedd gan y Cyngor hefyd nifer o amcanion cydraddoldeb yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol, a set o Gytundebau Canlyniadau gyda Llywodraeth Cymru. 

Rhoddodd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol werthusiad ôl-weithredol o lwyddiant yr Awdurdod wrth gyflawni yn erbyn ei ymrwymiadau yn ystod 2012-13, ac a oedd wedi cyflawni ei rwymedigaeth yn llwyddiannus i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus.  Cafwyd problemau wrth gael gwybodaeth oherwydd y system rheoli perfformiad mwy soffistigedig sy'n seiliedig ar drothwyon rhagoriaeth yn hytrach na thargedau lleol. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, esboniodd y HBPP bod gwybodaeth nad oedd ar gael, yn ymwneud yn bennaf â’r Arolwg Preswylwyr ac wedi’i nodi fel “i’w gadarnhau”, yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.   Cadarnhaodd bod gorfodaeth ar y Cyngor i gyhoeddi’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer eu Rheolyddion sy’n disgwyl i’r Awdurdod ddarparu swm sylweddol a chynhwysfawr o wybodaeth mewn perthynas â’i berfformiad.  Atgoffwyd yr Aelodau mai dyma blwyddyn gyntaf y Cynllun ac y gellir defnyddio ffigurau y flwyddyn nesaf fel cymhariaeth.  Esboniwyd y gellir defnyddio’r lliwiau yn yr adroddiad er mwyn dadansoddi a bod ffigurau yn darparu tueddiadau.  Nododd yr HBPP yr angen i adnabod sefyllfa’r Cyngor o ran uchelgais, targedau ac adlewyrchu ansawdd mewn perthynas ag Awdurdodau eraill a sefydliadau.  Pwysleisiodd y Cynghorydd H.Ll. Jones bwysigrwydd cynnwys datblygu ardaloedd gwledig a chyfeiriodd at ddangosyddion yn ymwneud â Sir Ddinbych Wledig. 

 

Cynhaliwyd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (AoEaG), Atodiad 2, ar y Cynllun Corfforaethol a cafodd ei gyflwyno i’r Cyngor ar ôl ei gymeradwyo ym mis Hydref, 2012.

 

Mae’r wybodaeth perfformiad yn y ddogfen wedi’i darparu gan wasanaethau a’i thynnu o system rheoli perfformiad Ffynnon.  Ymgynghorwyd â’r Uwch Dîm Arweiniol (UDA) a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.  Mae’r risg o gael adroddiadau negyddol sylweddol gan reolyddion allanol wedi’i nodi yn y Gofrestr Risg Corfforaethol.  Byddai methiant i gyhoeddi’r Adolygiad Blynyddol erbyn y dyddiad terfyn o 31 Hydref yn debygol o arwain at argymhellion statudol gan Swyddfa Archwilio Cymru, gyda goblygiadau sylweddol ar gyfer enw da’r Cyngor.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr bod disgwyliadau’r Awdurdod wedi codi a symud oddi wrth dargedau traddodiadau ac felly gellir disgwyl cynnydd mewn dangosyddion coch.   Cadarnhaodd nad oedd dangosyddion coch o reidrwydd yn ddangosydd bod yr Awdurdod yn tangyflawni ond bod y Cyngor wedi gosod targedau mwy heriol nag yn flaenorol a'u bod yn fwy uchelgeisiol.   Pwysleisiwyd pwysigrwydd mesur rhagoriaeth o’i gymharu â’r safon cyhoeddus sector preifat ehangach os bydd safonau uwch yn cael eu cyflawni gan yr Awdurdod.  Mae’r Prif Weithredwr yn cydnabod bod meysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw, a chyfeiriwyd yn benodol at gynnal Asesiadau Cydraddoldeb a darparu ymyl palmentydd uwch a bod peidio mynd i'r afael â materion o'r fath yn annerbyniol.

 

Ymatebodd y PGCD i bryderon a godwyd gan nifer o Aelodau ac esboniodd nad oedd graddfeydd amser yn caniatáu ar gyfer cynnwys diweddariad gan y Pwyllgor Archwilio yn yr adroddiad i’r Cabinet.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid adolygu pryderon ac efallai edrych ar y posibilrwydd o wahodd y Cadeirydd neu gynrychiolydd Archwilio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet.

 

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn cytuno i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

PROTOCOL TAI Â CHEFNOGAETH pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley (copi wedi’i amgáu) ar broses i alluogi i’r cyngor wneud penderfyniadau cytbwys am leoliad "tai â chefnogaeth"

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n nodi proses i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau teg a chytbwys am leoliad “tai â chefnogaeth”.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn cytuno:-

 

(a)  mabwysiadu'r protocol sydd ynghlwm wrth Atodiad 1.

(b)  bod gwaith y panel a'r gwaith o ran gweithredu’r protocol yn cael ei fonitro a’i adolygu’n flynyddol gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet, a

(c)  cynnal archwiliad o leoliad a nifer y cynlluniau tal â chefnogaeth yn Sir Ddinbych.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n nodi proses i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau teg a chytbwys am leoliad “tai â chefnogaeth”.

 

Cyflwynodd a darparodd y Cynghorwyr R.L. Feeley a H.C. Irving grynodeb manwl o’r adroddiad.  Esboniwyd bod angen penderfyniad ar fabwysiadu'r protocol sydd ynghlwm yn Atodiad 1.  Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y gallai SH ddarparu cynlluniau ar gyfer ystod eang o grwpiau oedd yn cynnwys:-

 

·                     Pobl hŷn bregus

·                     Pobl gyda chyflyrau meddygol

·                     Pobl ifanc nad ydynt eto’n barod ar gyfer byw'n annibynnol

·                     Pobl sy'n ffoi rhag trais domestig

·                     Rheiny sy’n gadael sefydliadau, gan gynnwys cyn-droseddwyr, a      

·                     Rheiny gyda phroblemau sy’n ymwneud ag alcohol a chyffuriau

Mae manylion y cyrff sydd â hawl i gyflwyno cynigion ar gyfer Tai â Chefnogaeth wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ac yn cynnwys cyrff allanol fel y Bail Accommodation and Support Service neu BIPBC.  Rhoddwyd cadarnhad y bydd tai â chefnogaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl leol ym mhob achos.  Roedd yr Aelodau yn cytuno â barn y Cynghorydd Feeley y dylid monitro ac adolygu gweithrediad y protocol a’r Panel ar ôl deuddeg mis, gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.

 

Gall ddod o hyd i leoliadau addas ar gyfer Tai â Chefnogaeth fod yn ddadleuol iawn mewn cymunedau lleol am nifer o resymau.  Gall achosi gwrthdaro, arwain at ddrwgdybiaeth o’r Cyngor ac ymddygiad sy’n gwahaniaethu, gan gynnwys yn erbyn grwpiau a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pwysleisiwyd yr angen am letyau addas ar gyfer unigolion diamddiffyn yn ogystal â chanlyniadau peidio diwallu’r anghenion.

 

Cadarnhaodd y CCMLl nad oes system ffurfiol ar gyfer y Cyngor i ystyried yr holl safbwyntiau a gwneud penderfyniad rhesymegol am leoliad arfaethedig.  Mae'r protocol, Atodiad 1, wedi cael ei ddatblygu gan swyddogion ar y cyd â'r ddau Aelod Arweiniol perthnasol, cynrychiolwyr o bob un o'r grwpiau gwleidyddol a’r Cefnogwr Digartrefedd.   Mae wedi defnyddio deunydd o brotocol tebyg a ddatblygwyd yn Wigan ond mae'n seiliedig ar brofiad swyddogion ac aelodau Sir Ddinbych dros nifer o flynyddoedd a thrwy gynigion syml a hynod ddadleuol.

 

Mae'r protocol yn nodi ymagwedd ofalus er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â lleoliad arfaethedig tai â chefnogaeth.  Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys:-

 

·                     diffinio pa wybodaeth fydd yn cael ei rhannu gyda phwy ac ar ba gam.

·                     ymagwedd strwythuredig tuag at gasglu gwybodaeth am safle penodol dan sylw a'i gryfderau a’i wendidau

·                     ymagwedd strwythuredig tuag at nodi unrhyw faterion cynllunio yn gynnar

·                     dull clir i nodi “sensitifrwydd” posibl cynllun posibl er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig yn cael eu hystyried a'u trin yn deg 

·                     dulliau a argymhellir ar gyfer rhannu gwybodaeth am gynlluniau gyda'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf

·                     Sefydlu “Panel Tai â Chefnogaeth”, sy'n adrodd i'r Cabinet, a fyddai'n gwneud argymhellion ar leoliad arfaethedig ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a’r safbwyntiau

 

Mae manylion costau, y broses ymgynghori a’r risgiau a mesurau i fynd i’r afael â nhw wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnwys fel Atodiad i’r adroddiad.

 

Roedd yr Aelodau yn cytuno â barn y Cynghorydd Feeley y dylid monitro ac adolygu gweithrediad y protocol a’r Panel ar ôl deuddeg mis, gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.

 

Esboniodd y Cynghorydd J. Butterfield bod Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl wedi ystyried a gwrthwynebu i’r cynllun, gan fynegi’r farn bod gan breswylwyr y Rhyl ac Aelodau Etholedig ran gyfyngedig i’w chwarae wrth lunio’r cynllun a’i weithredu.  Esboniodd bod gan Ochr Orllewinol y Rhyl nifer helaeth o gynlluniau tai eisoes sy’n cynnwys nifer fawr o dai amlfeddiannaeth.  Roedd y Cynghorydd Butterfield  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

POLISI A PHANEL DIOGELU CORFFORAETHOL BWRIEDIG pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley (copi wedi’i amgáu) sy’n cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol Aelodau/Swyddogion ar y cyd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, ar y cynnig i fabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol aelodau/swyddogion ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)          mabwysiadu’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

(b)          sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol gyda’r cylch gorchwyl a ddisgrifiwyd yn Atodiad 8, a

(c)          gwneud mynychu hyfforddiant ar ddiogelu yn orfodol i Aelodau Etholedig o fewn y deuddeg mis cyntaf.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, ar y cynnig i fabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol aelodau/swyddogion ar y cyd.

 

Esboniodd y Cynghorydd Feeley ymagwedd ragweithiol Sir Ddinbych i sicrhau cydymffurfiad â’i gyfrifoldebau diogelu yn yr adroddiad.  Er iddynt ymdrin â hyn mewn amryw o wahanol ffyrdd, ni all Sir Ddinbych fod yn hyderus bod arfer diogelu cadarn wedi’i chynnwys yn holl swyddogaethau’r Cyngor.   Roedd manylion ynglŷn â datblygiad yr ymagweddau a fabwysiadwyd i gynnal proffil corfforaethol a throsolwg ar gyfer materion diogelu wedi’u rhoi mewn manylder.

 

Eglurodd y CCMLl nad oedd y prif gyfrifoldeb i’w gyflawni, ar draws sefydliad amlswyddogaeth cymhleth erioed wedi’i esbonio nac wedi derbyn adnoddau ar wahân.   Mae sawl adroddiad awdurdodol olynol gan gynnwys Waterhouse, Laming, Sir Benfro wedi ei gwneud yn hollol glir bod heriau i gadernid trefniadau diogelu yn codi mewn amryw o wahanol lefydd, a bod rhaid i ddiogelu fod yn "Fater i Bawb”.

 

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae Sir Ddinbych wedi datblygu sawl agwedd at gynnal proffil corfforaethol a throsolwg ar gyfer materion diogelu, ac mae’r rhain wedi’u manylu yn yr adroddiad.   

 

Roedd Polisi a Chanllawiau Diogelu Corfforaethol drafft wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr hyn a fabwysiadwyd yn ddiweddar yng Ngwynedd yn dilyn Arolwg Estyn ac yn sgil gofynion a amlinellwyd gan yr Arolygiaeth, oedd wedi’u cylchredeg gyda’r adroddiad.  Byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad rhesymegol i’r gwaith rydym wedi’i wneud eisoes gyda’r Fframwaith Atebolrwydd Corfforaethol ac ar y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol.  Nod y polisi a’r canllawiau fyddai sefydlu dull strwythuredig ar gyfer sicrhau bod diogelu yn fater sy’n cael ei ystyried gan bob gwasanaeth yn y Cyngor, yn ogystal â gan bob aelod etholedig.

 

Mae agweddau allweddol y polisi a’r canllawiau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad ac mae’r Atodiadau wedi rhoi manylion pellach mewn perthynas â:-

 

-  gwybodaeth sylfaenol am arwyddion o gamdriniaeth a llwybrau atgyfeirio – sy’n cysylltu â threfnau diogelu plant ac oedolion.

-  adran ddefnyddiol ar y Cod Ymddygiad a threfnau Gweithio Diogel.

-  adran yn amlinellu’r gefnogaeth o ran hyfforddiant a fyddai’n cael ei gynnig i ddechrau, ac y byddai angen eu datblygu dros amser.

-  croesgyfeirio gyda’n Polisïau Recriwtio Diogel (Adnoddau Dynol).

-  canllawiau i gynghorwyr ar gyswllt diogel.

-  ymdrin â honiadau o gamdriniaeth broffesiynol gan gynnwys cysylltiadau â threfnau diogelu plant ac oedolion.

 

Esboniodd y CCMLl y byddai’r pecyn yn cynnig dull credadwy o wneud diogelu’n realiti fel pryder corfforaethol, a byddai’n meithrin agwedd gyson ac atebolrwydd ac yn cael ei deilwra i’r materion sy'n wynebu gwasanaethau penodol.    Roedd y prif oblygiadau o ran cost, a fyddai’n driphlyg, wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.  Rhoddwyd cadarnhad y gallai mabwysiadu trefniadau’r Polisi a’r Panel gynnig goblygiadau positif, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl, ac na nodwyd unrhyw oblygiadau negyddol.

 

Er bod y canllawiau’n brin ar hyn o bryd, mae AD yn gwneud gwaith i gynhyrchu polisi ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol.  Cadarnhaodd y CCMLl y byddai cylch y gwaith pellach yn y maes hwn yn cael ei ymgorffori yng nghylch gorchwyl y PDC.  Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet fod CLlLC wedi cynhyrchu canllawiau ar ddefnydd Aelodau Etholedig o gyfryngau cymdeithasol a allai fod o gymorth.

 

Mae’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi ystyried a mynegi eu cefnogaeth i fabwysiadu’r Polisi, y canllawiau a’r Panel.  Ond, codwyd rhai problemau ynglŷn â chysondeb mewnol y ddogfen a gafodd eu datrys wedi hyn.  Gwnaeth aelodau awgrymiadau penodol ynglŷn ag ychwanegiadau i’r polisi/ eitemau ar gyfer y rhaglen waith, yn enwedig yn ymwneud â chyngor a chanllawiau arfer da ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

GWASANAETHAU CEFNOGI SYNHWYRAU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU pdf eicon PDF 74 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n manylu ar ffurfio Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrol Gogledd Ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n manylu ar ffurfio Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrol Gogledd Ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)       cydnabod y camau gweithredu cadarnhaol a gymerwyd i wella’r gwasanaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu synhwyrau ar draws Sir y Fflint, Wrecsam, a Sir Ddinbych.

(b)       cymeradwyo’r penderfyniad i sefydlu gwasanaeth isranbarthol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n manylu ar ffurfio Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrau Gogledd Ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed i greu gwasanaeth synhwyrau isranbarthol a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y penderfyniad i symud at fodel darparu partneriaeth.  Mewn ymateb i’r gyfarwyddeb gan LlC i gynyddu cydweithio a gweithio mewn consortiwm, nodwyd ffurfio Gwasanaeth Synhwyrau rhanbarthol fel blaenoriaeth gan Swyddogion Cynhwysiant ar draws Gogledd Cymru.  Mae gwasanaethau nam ar y synhwyrau yn fach ac yn arbenigol iawn mewn llawer o awdurdodau.  Byddai gwaith partneriaeth yn galluogi gwell gwytnwch ac effeithlonrwydd trwy wella graddfa a galluogi defnyddwyr gwasanaeth i fanteisio drwy sicrhau bod amrywiaeth fwy o staff arbenigol ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.  Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd archwilio gyda’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru, aeth swyddogion o Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint ymlaen i gwmpasu gwasanaeth i gynnwys Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

Mae achos busnes llawn, Atodiad 1, wedi’i ddatblygu gan y tri Awdurdod Lleol a Chytundeb Partneriaeth, Atodiad 2, wedi’i greu yn ogystal â dogfennau cysylltiedig.  Datblygwyd model gwasanaeth llawn i’w ddarparu i gyd-fynd â’r dyraniad cyllideb presennol ar gyfer darpariaeth synhwyrol gan y tri ALl. 

 

Roedd y Cytundeb Partneriaeth yn amlinellu’r trefniadau ariannol rhwng Sir y Fflint, yr Awdurdod Cynnal, sef Wrecsam, a Sir Ddinbych sy’n nodi’r manylion ynglŷn â darpariaeth a phrosesau.  Nododd y Cytundeb gyfrifoldebau ariannol yr holl bartneriaid mewn perthynas â staff ac asedau pe bai’r Bartneriaeth yn dod i ben.

 

Cynhelir ymgynghoriad gyda staff gwasanaeth a’u cynrychiolwyr undeb.  Mae’r Swyddogion wedi cysylltu â gweithwyr proffesiynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r sector gwirfoddol ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig mewn darpariaeth gwasanaeth.  Cwblhawyd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, Atodiad 3. Credwyd y bydd datblygiad isranbarthol yn darparu manteision cadarnhaol i blant a phobl ifanc gyda nam ar y synhwyrau.  Bydd y model gwasanaeth yn arwain at wasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon y gellir ei ddarparu o fewn y gyllideb gyfyngedig.  Y risg pennaf a nodwyd yw’r anallu i ddarparu’r ystod o wasanaethau sydd eu hangen gan blant a phobl ifanc, a chynaladwyedd y gwasanaeth i’r dyfodol o fewn y model presennol.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)       cydnabod y camau gweithredu cadarnhaol a gymerwyd i wella’r gwasanaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu synhwyrau ar draws Sir y Fflint, Wrecsam, a Sir Ddinbych, a

(b)       chymeradwyo’r penderfyniad i sefydlu gwasanaeth isranbarthol.

 

 

10.

DIWEDDARIAD TRAWSNEWID CAFFAEL pdf eicon PDF 124 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar amryw o gynlluniau caffael sy’n cael eu cynnal fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Caffael ehangach

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n rhoi’r diweddaraf ar y mentrau caffael amrywiol sy’n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Trawsnewid Caffael ehangach, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â thri phrosiect Caffael fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)   rhoi cymeradwyaeth i Sir Ddinbych fod yn aelod swyddogol o Gonsortiwm Prynu Cymru am y 3 blynedd nesaf tan 31 Mawrth 2016, gyda ffi gyfrannu flynyddol o £13,500

(b)   cymeradwyo datblygu Achos Busnes ar gyfer creu gwasanaeth ar y cyd drwy gyfuno Unedau Caffael Strategol Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint, a

(c)    cymeradwyo datblygu achos busnes ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Tair Sir a fyddai i ddechrau’n cynnwys Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Gwynedd yn seiliedig ar Strwythur Rheoli Categori

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n rhoi’r diweddaraf ar y mentrau caffael amrywiol sy’n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Trawsnewid Caffael ehangach, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â thri phrosiect Caffael fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

Esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod caffael wedi’i ystyried fel yr ateb i nifer o faterion a nodwyd yn yr adroddiad.  Mae’r galwadau hyn, sy'n cystadlu, wedi’u gosod yn erbyn pwysau fel canolbwyntio ar leihau swyddogaethau ‘swyddfa gefn’ sefydliadau a grŵp cymharol fychan o staff yn genedlaethol.  Mae’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn ategol ac mae Atodiad 6 yn nodi sut y byddant yn cyd-fynd â’i gilydd.  Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi arweiniad drwy’r newidiadau sydd i ddod ac yn nodi sut y dylai’r Cyngor ymateb iddynt.  Mae’r cynlluniau allweddol presennol yn cynnwys:-

 

·           Creu Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol newydd, sydd i’w weithredu erbyn Tachwedd 2013 i ymateb i’r 20% o wariant cyffredin ac ailadroddus ar draws sector cyhoeddus Cymru.

·           Diwedd Partneriaeth Caffael Gogledd Cymru ym mis Mehefin 2013 a’r potensial o’i ddisodli drwy ymuno â Chonsortiwm Prynu Cymru.

·           Sicrhau yr ymgorfforir Datganiad Polisi Caffael Cymru a lansiwyd gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, er mwyn hyrwyddo Caffael sy’n gyfeillgar i Fentrau Bach a Chanolig yn ogystal â gwireddu Budd Cymunedol

·           Cyflwyno a gwneud rhagor o ddefnydd o atebion e-gaffael

·           Ymgorffori gweithgareddau caffael sy’n deillio o Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol CSDd

 

Rhagwelwyd y byddai Strategaeth Gaffael newydd y Cyngor wedi’i chwblhau ym mis Hydref 2013. Er mwyn cynnwys ac adlewyrchu’r cynlluniau caffael newydd, mae Rheolau cyfredol y Weithdrefn Gontractau wedi’u hadolygu a bydd set drafft o Reolau yn cael eu dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad yn y Maes Gwasanaeth a’u cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo. 

 

Amlygodd Adroddiad Archwilio Mewnol ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu nifer o welliannau sydd eu hangen ynglŷn â’r ffordd y cyflawnir caffael gwaith adeiladu.  Bydd datblygiad y prosiectau yn yr adroddiad hwn yn datrys nifer o’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad Archwilio Mewnol.

 

Wedi i Bartneriaeth Caffael Gogledd Cymru (PCGC) gau’n ddiweddar, derbyniwyd llythyr gan Fwrdd Rheoli CPC, Atodiad 1, mewn cydweithrediad â CLlLC yn gwahodd Cynghorau Gogledd Cymru i ystyried ymuno â CPC er mwyn creu Consortiwm Caffael Llywodraeth Leol Cymru yn cynnwys pob un o’r 22 o Gynghorau Cymru.   Dros 5 mlynedd, gwireddodd PCGC arbedion effeithlonrwydd ariannol o £2.4m ar draws 6 Chyngor Gogledd Cymru, gan dynnu sylw at fanteision caffael ar y cyd.  Drwy ymuno â CPC, byddai Sir Ddinbych yn defnyddio datrysiad caffael tebyg, ond ar sail genedlaethol, ond byddai'r goblygiadau o ran cost ar gyfer ymuno fel Cyngor unigol yn cynnwys tanysgrifiad aelodaeth flynyddol o £13,500 o’i gymharu â £44,000 gyda PCGC.  Byddai Sir Ddinbych hefyd yn ymrwymo i arwain ar nifer penodol o gontractau.  Mae manteision ariannol a rhai nad ydynt yn ariannol o ymaelodi â CPC wedi’u nodi yn Atodiad 2. Mae’r dewis o ymuno â’r CPC wrthi’n cael ei ystyried yng Nghynghorau Gogledd Cymru.  Mae CLlLC hefyd yn ystyried dod â CPC o fewn ei fframwaith llywodraethu i’w alluogi i fod yn Wasanaeth Caffael Llywodraeth Leol i Gymru gyfan.

 

Comisiynodd Bwrdd Rheoli PCGC CAPITA i gynhyrchu Achos Busnes ar Gaffael Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru.  Ar ôl ystyried yr Achos Busnes, penderfynwyd peidio symud ymlaen ymhellach gyda’r chwe Awdurdod Lleol.  Er mwyn symud Trawsnewid Caffael yn ei flaen ar sail isranbarthol, mae dau brosiect unigol wedi deillio o adroddiad gwreiddiol Capita.  Roedd y ddau brosiect, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar gais ar y cyd am arian gan Gronfa Cydweithio Rhanbarthol Llywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

GWIRFODDOLI, PRENTISIAETH, PROFIAD GWAITH, GRADDEDIGION A SWYDDI HYFFORDDIANT pdf eicon PDF 148 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Barbara Smith a Hugh Irving (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi crynodeb o’r gwaith o gydlynu ffrydiau gwaith gan gynnwys gwirfoddoli, graddedigion, prentisiaid, profiad gwaith a swyddi hyfforddiant

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Hugh Evans yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n darparu crynodeb o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn Sir Ddinbych o ran cydlynu nifer o ffrydiau gwaith gan gynnwys gwirfoddoli, swyddi graddedigion, prentisiaethau, profiad gwaith a swyddi hyfforddiant.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn mabwysiadu’r:-

(a)          Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol, Atodiad 1, ac yn

(b)          targedau ar gyfer y rhaglen gwirfoddoli a’r holl waith er mwyn datblygu lleoliadau profiad gwaith, swyddi hyfforddiant, swyddi i raddedigion a phrentisiaethau fel y nodir ym mharagraff 4.8 yr adroddiad. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, sy’n darparu crynodeb o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn Sir Ddinbych o ran cydlynu nifer o ffrydiau gwaith sy’n cynnwys gwirfoddoli, graddedigion, prentisiaeth, profiad gwaith a swyddi hyfforddiant (VGAWEI).   Roedd yn canolbwyntio ar raglen posibl o waith i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli a fydd yn dod â budd sylweddol i’r sefydliad ac yn cyfrannu at y flaenoriaeth o “ddod â’r Cyngor yn nes at y gymuned” a’r flaenoriaeth o ran adfywio.

 

Roedd arian i gefnogi datblygu VGAWEI wedi’i ddyrannu yn wreiddiol fel rhan o’r rhaglen Bwrdd Pobl a Llefydd ac mae manylion yr adnoddau a’r arian wedi’i grynhoi.  Roedd buddsoddiad a wnaethpwyd wedi rhagori ar y targedau yn y rhan fwyaf o achosion ond roedd yr arian hwn wedi dod i ben fis Medi 2013. Ond roedd yr adroddiad hwn yn cynnig parhau â’r rhaglen gan roi mwy o bwyslais ar ddatblygu cyfleodd gwirfoddoli.   Cyflawnwyd canlyniadau sylweddol o ganlyniad i fuddsoddi mewn unigolion graddedig dan hyfforddiant ac mae manylion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, gyda chyfrif llawnach yn Atodiad 2.

 

Roedd y gost o ddatblygu’r cyfleoedd yn gymharol fychan, £40k am gostau staff am 12 mis a £40k o arian cyfatebol.  Roedd y rhan fwyaf o'r cyfleodd a grëwyd wedi eu cefnogi gan gyllid allanol ac mae nifer fawr o'r bobl ifanc a fanteisiodd ar y cyfleodd hyn wedi llwyddo i gadw eu swyddi neu wedi canfod gwaith mewn sefydliad arall.   Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn awgrymu bod y cyfleodd hyn yn rhai gwerthfawr i bobl ifanc a rheolwyr a bod y cyfleodd yn gwella enw da’r Cyngor yn y gymuned. 

 

Nid yw datblygu gwirfoddoli wedi mynd rhagddo mor gyflym â datblygu cyfleodd gwaith.   Credwyd y byddai datblygu gwirfoddoli yn arwain at fanteision sylweddol i’r sefydliad ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.  Yn ôl y gwaith ymchwil ar wirfoddoli yng Nghyngor Sir Ddinbych, Atodiad 2, byddai’r sefydliad yn cael budd o roi ffocws strategol ar gyfleodd gwirfoddoli a’u cydlynu mewn modd cynaliadwy.   Datblygwyd Strategaeth Gwirfoddoli Corfforaethol, Atodiad 1, sy’n amlinellu dull cyson o ran denu, rheoli a chadw gwirfoddolwyr.   Hefyd, mae gwasanaethau wedi cytuno i ariannu System Rheoli Gwybodaeth Gwirfoddoli sy'n darparu porth eglur ar gyfer holl gyfleodd gwirfoddoli'r sefydliad.    Bydd y system hon yn caniatáu gweithredu dull mwy effeithiol o reoli gwirfoddolwyr a darparu cyfleodd newydd.   

 

Mae’r Tîm Gweithredu Corfforaethol wedi cytuno i ariannu swydd am 12 mis o ddyraniadau ar gyfer blaenoriaethau corfforaethol a’r gronfa Gwario i Arbed oherwydd ei botensial i ychwanegu gwerth at y blaenoriaethau.   Mae pwrpas y swydd wedi’i amlinellu yn Atodiad 3 a’i grynhoi yn yr adroddiad.  Bydd arwain ar y gwaith hwn o reoli gwirfoddolwyr yn sicrhau llif o dalent ar gyfer cyfleoedd hyfforddi eraill.   Rhagwelwyd, fel rhan o’r gwaith o fabwysiadu'r strategaeth a gweithredu’r swydd hon, y bydd y canlyniadau isod yn cael eu cyflawni:-

 

-   Cynnydd o 200 yn nifer y gwirfoddolwr yn y flwyddyn gyntaf, gyda nifer y gwirfoddolwyr yn cynyddu i 2000 erbyn 2016.

-   60 lleoliad profiad gwaith

-   5 swydd dan hyfforddiant a 5 swydd hyfforddi i raddedigion

-   35-40 prentisiaeth

 

Mae gan Sir Ddinbych weledigaeth glir ynglŷn â sut y bydd buddsoddi a chreu cyfleoedd fel gwirfoddoli a swyddi hyfforddiant yn cyfrannu at y Blaenoriaethau Corfforaethol.  Mae swm aruthrol o waith wedi ei wneud ond nid oes modd i swyddogion eraill y sefydliad ymgymryd â’r gwaith hwn.   Mae angen buddsoddiad parhaus i sicrhau bod y strategaeth gwirfoddoli a’r swyddi dan hyfforddiant yn cael eu datblygu ymhellach i gyrraedd eu potensial.

 

Mae amlinelliad o sut y bydd y rhaglen yn cyfrannu at  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

RHEOLI TRYSORLYS pdf eicon PDF 71 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n sôn am fuddsoddiadau a benthyciadau’r Cyngor yn ystod 2012/13 ac yn darparu manylion o ran y sefyllfa economaidd bryd hynny a sut bu i’r Cyngor gydymffurfio â’i Ddangosyddion Darbodus

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, buddsoddiadau a benthyciadau 2012/13 gan gynnwys trosolwg o gefndir economaidd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)  nodi’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2012/13.

(b)  gofyn i’r pryderon a godwyd o ran Benthyca Darbodus yr HRH gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, ynglŷn â gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, buddsoddi a benthyca yn ystod 2012/13, a rhoddodd drosolwg o gefndir economaidd y flwyddyn. 

 

Esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod Cod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor baratoi adroddiad blynyddol ar weithgarwch y trysorlys yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.    Gofynnir i’r Cyngor nodi perfformiad dull Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2012/13 a’i gydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus, fel yr adroddwyd yn yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2012/13.

 

Mae RhT yn cynnwys rheoli benthyca, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor, gydag oddeutu £0.5bn yn llifo drwy gyfrifon banc y Cyngor yn flynyddol.  Swm y benthyciadau cyfredol oedd £133.26m, gyda thâl cyfradd llog blynyddol cyfartalog o 5.77%.    Ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn byddai gan y Cyngor rhwng £20-£35m i’w fuddsoddi a oedd ar hyn o bryd yn ennill 0.80% ar gyfartaledd.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi ymgynghori gyda’i ymgynghorwyr trysorlys, Arlingclose Ltd. Mae llywodraethu RhT yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn ystod y flwyddyn ac maent wedi adolygu’r Adroddiad RhT Blynyddol ar gyfer 2012/13 cyn ei gyflwyno i’r Cabinet.  Cadarnhaodd y Cynghorydd J.M. McLellan, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, bod y Pwyllgor wedi cefnogi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2012/13 a’i gydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2012/13.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau i gwestiwn gan y Cynghorydd H. Ll. Jones a rhoddodd esboniad ynglŷn â pham na chaniateir i’r Cyngor ailgyllido dyledion.

 

Pwysleisiwyd bod RhT yn rhan hanfodol o waith y Cyngor.  Roedd yn gofyn am strategaeth gadarn a rheolaethau priodol i ddiogelu arian y Cyngor, i sicrhau ein bod yn derbyn adenillion ar fuddsoddiadau a’n bod yn rheoli dyled yn effeithiol ac yn ddoeth.   Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau at y pedwar prif ysgogwr twf ac eglurodd bod hyder defnyddwyr wedi arwain at rywfaint o dwf yn ddiweddar.  Bydd penderfyniadau buddsoddi a benthyca da yn caniatáu symud adnoddau ychwanegol i wasanaethau eraill.   Amlygwyd effaith y Cyfrif Refeniw Tai ar Gyllideb Refeniw’r Cyngor i’r Aelodau a chyfeiriwyd yn benodol at Atodiad B, cydymffurfio â dangosyddion darbodus 2012/13:-

 

·                     Rhagamcan a Gwir Wariant Cyfalaf.

·                     Rhagamcan a Gwir Gymhareb costau ariannu i’r llif refeniw net.

·                     Gofyniad Cyllido Cyfalaf.

·                     Cyfyngiad a Awdurdodwyd a Therfyn Gweithredol ar gyfer Dyledion Allanol.

·                    Terfynau Uchaf ar gyfer Cyfraddau Llog Sefydlog a Chyfraddau Llog Amrywiol.

·                     Strwythur Aeddfedu benthyca ar Gyfradd Sefydlog.

·                     Cyfanswm y prif symiau a fuddsoddwyd am gyfnodau hirach na 364 diwrnod.

·                     Mabwysiadu Cod Rheoli Trysorlys CIPFA

      

Roedd yr adroddiad yn crynhoi pwrpas yr Adroddiad RhT Blynyddol sef:-

 

·                    cyflwyno manylion cyllid cyfalaf, benthyca, ad-drefnu dyledion a thrafodion buddsoddi yn 2012/13.

·                    adrodd ar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion trysorlys.

·                    cadarnhau cydymffurfiad â therfynau trysorlys a Dangosyddion Darbodus.

 

Mae risg cynhennid yn perthyn i RhT ac mae’r Cyngor yn monitro a rheoli’r risgiau posibl fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ond cadarnhawyd y byddai’n amhosibl cael gwared ar y risgiau yn gyfan gwbl.  Caiff strategaeth a threfnau RhT y Cyngor eu harchwilio’n flynyddol a bu’r adolygiad archwilio mewnol diweddaraf yn gadarnhaol ac nid oedd unrhyw faterion sylweddol yn codi.

 

Gwnaed cyfeiriad at ddiddymu’r System Cymhorthdal Tai yng Nghymru.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi trafod fod y Trysorlys yn rhoi swm iddynt am adael y System Gymhorthdal, ac  effaith hyn ar Sir Ddinbych fyddai swm cyfalaf o £40m a fyddai’n cael ei fenthyca ar ddyddiad penodol.   Eglurodd y Prif Gyfrifydd y byddai’r swm am adael y system yn well cytundeb na’r System Gymhorthdal.

 

Cefnogodd y Cabinet farn y Cynghorydd E.W. Williams  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

DEDDF DELWYR METEL SGRAP 2013 pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith (copi wedi’i amgáu) ar drefn rheoleiddio ddiwygiedig ar gyfer delio mewn metel sgrap a diwydiannau datgymalu cerbydau

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. David Smith yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn manylu ar ddarpariaethau Deddf Delwyr Metel Sgrap 2-13 ac yn gofyn am gymeradwyo'r pwerau wedi eu dirprwyo a ffioedd yr Awdurdod. 

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)          dirprwyo pwerau Deddf Delwyr Metel Sgrap i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. 

(b)          dirprwyo’r penderfyniad i fabwysiadu lefel y ffi ar gyfer trwyddedau Metel Sgrap i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gyda chymeradwyaeth gan yr Aelod Arweiniol, a

(c)          caniatáu i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adolygu'r ddeddfwriaeth o ran Delwyr Metel Sgrap yn dangos bathodynnau adnabod.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, oedd yn manylu ar ddarpariaethau Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 a gofyn am gymeradwyo’r pwerau dirprwyol a gosod ffioedd a awgrymwyd i’r Awdurdod.

 

Esboniodd yr PCGC bod y Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013 yn diddymu Deddf Delwyr Metel Sgrap 1964 a Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Trosedd) 2001 ac yn cyflwyno trefn reoleiddio ddiwygiedig ar gyfer diwydiannau delwyr metel sgrap a datgymalu cerbydau, a bydd yn darparu fframwaith deddfwriaethol cryf yr oedd y Cyngor ei hangen er mwyn rhoi pŵer i’r Cyngor a’r Heddlu i frwydro yn erbyn troseddwyr sy’n anrheithio’r wlad o fetel, ac yn cryfhau a chefnogi delwyr metel sgrap cyfreithlon.   Mae rheoleiddio delwyr metel sgrap wedi’i ddiwygio i fynd i’r afael â'r effaith fawr y mae ladradau metel yn ei gael ar yr economi, trwy gyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013.

 

Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Awdurdodau Lleol i reoleiddio’r diwydiannau drwy ddarparu pŵer i wrthod rhoi trwydded a thynnu trwydded yn ôl os yr ystyrir fod y deliwr yn anaddas.   Byddai penderfynu a ydynt yn anaddas yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys unrhyw euogfarn troseddol perthnasol.   Bydd y Ddeddf yn rhoi pŵer mynediad ac arolygu addas i’r awdurdodau lleol a swyddogion yr heddlu ac yn rhoi pŵer i gau safleoedd heb awdurdod.  

 

Bydd y Ddeddf yn creu dau fath gwahanol o Drwydded Metel Sgrap, un ai “Trwydded Safle” neu “Trwydded Casglwyr Symudol”.   Bydd yn rhaid i Gasglwr Symudol gael trwydded ym mhob ardal Awdurdod Lleol y maent yn gweithredu ynddynt.   Bydd Corff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw cofrestr gyhoeddus.  Bydd unrhyw ddeliwr sydd wedi’u cofrestru dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964, neu weithredwr arbed ceir sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Cerbydau (Trosedd) 2001, yn cael parhau i weithredu’n gyfreithlon, gyda’r amod eu bod yn gwneud cais am drwydded o dan y Ddeddf newydd erbyn 15 Hydref 2013. Bydd eu trwyddedau cyfredol yn parhau i fod yn ddilys nes bod yr Awdurdod Lleol yn rhoi trwydded newydd, ac mae trefniadau trosglwyddo wedi’u gweithredu trwy Orchymyn Dechrau.

 

Esboniodd y PCGC, ar ôl 1 Hydref 2013 na all ymgeiswyr sydd heb gofrestru o dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 neu Ddeddf Cerbydau (Trosedd) 2001 weithredu’n gyfreithlon nes y bydd ganddynt drwydded.   Bydd y gwaith o orfodi darpariaethau Deddf 2013 yn llawn yn dechrau o 1 Rhagfyr 2013. Dan Ddeddf 1964 roedd rhaid i Awdurdodau Lleol gofrestru unrhyw un sy’n rhoi gwybod iddynt eu bod yn gweithredu fel deliwr metel sgrap.  Dan Ddeddf 2013 bydd yr Awdurdodau Lleol yn gallu gwrthod rhoi trwydded pan benderfynir nad yw’r ymgeisydd yn unigolyn addas i weithredu fel deliwr metel sgrap.   Mae canllawiau ar gael i asesu addasrwydd ymgeiswyr.

 

Pan fydd y Cyngor yn ystyried ei bod yn hanfodol gwrthod rhoi trwydded, amrywio trwydded neu dynnu trwydded yn ôl yna mae’n rhaid iddynt roi cyfle i’r ymgeisydd / trwyddedai wneud sylwadau ar lafar.   Mae Canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol ynglŷn â’r Ddeddf yn argymell mai Pwyllgor Trwyddedu’r Awdurdod Lelol yw’r corff priodol i wrando ar y fath sylwadau.   Gall unigolyn sy’n anfodlon gydag unrhyw benderfyniad gyflwyno apêl i Lys yr Ynadon.

 

Gellir dirprwyo’r gwaith o ddyfarnu ceisiadau sydd heb wrthwynebiad, neu mewn achosion lle nad oes amheuaeth ynglŷn ag addasrwydd ymgeisydd, i’r Swyddogion Trwyddedu.

 

Mae pwerau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf yn cynnwys:-

 

·                Arddangos trwyddedau

·                Delwyr i gynnal gwiriadau cerdyn adnabod ar ddarparwyr metel sgrap

·                Delwyr i gadw cofnodion o unrhyw sgrap a dderbyniwyd neu a waredwyd

·                Gwahardd taliadau arian parod.  Dim ond siec na ellir ei drosglwyddo neu drosglwyddiad arian y  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 114 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi’r cynnwys

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. H. H. Evans Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’r Aelodau.

 

PENDERFYNIAD – bod y Cabinet yn derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, yn amodol ar y newidiadau a gytunwyd arnynt.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet, a gylchredwyd â phapurau’r cyfarfod.     

 

Cytunodd y Cabinet ag awgrym gan y Cynghorydd D. I. Smith, oherwydd ymglymiad yr Aelod Arweiniol yn y broses Archwilio, y dylid cynnwys Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgorau Archwilio fel eitem rhaglen ar gyfer cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol bod yr eitem rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid – cais am arian ar gyfer Prosiectau Canol Tref y Rhyl, oedd wedi’i threfnu ar gyfer 29 Hydref, 2013, wedi’i gohirio tan gyfarfod arall yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y bydd yr eitem Gaffael yn ymwneud â’r Achos Busnes ar gyfer Gwasanaeth Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y cyd yn cael ei chyflwyno i gyfarfod Tachwedd 2013, ac y bydd yr Achos Busnes amlinellol ar gyfer y tair sir yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Rhagfyr 2013 neu fis Ionawr 2014.

 

PENDERFYNWYD – Dylai’r Cabinet dderbyn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar ôl gwneud y diwygiadau y cytunwyd arnynt.

 

RHAN II

 

EITHRIO’R WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraffau 14 ac 15, Rhan 4, Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

15.

RHOI CYTUNDEB AR GYFER CAFFAEL STORFEYDD (TAI)

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â rhoi cytundeb i gaffael Storfeydd (Tai)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Hugh Irving yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, yn darparu trosolwg o’r rheswm dros gaffael storfeydd a chyflenwad deunyddiau, ac yn argymell contractwr a ffafrir i ddarparu'r gwasanaeth.  

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn cymeradwyo dewis Jewson fel y contractwr a ffafrir i gyflenwi storfeydd a deunyddiau ar gyfer y Gwasanaeth Tai am gyfnod o 3 blynedd, gyda’r dewis o ymestyn y cyfnod am flwyddyn arall os oes angen. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, oedd y rhoi trosolwg o’r rheswm dros gaffael storfeydd a chadwyn cyflenwi deunyddiau, ac argymell contractwr a ffafrir i ddarparu’r gwasanaeth i’r dyfodol.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd Irving grynodeb manwl o’r adroddiad ac esboniodd bod y Gwasanaethau Tai wedi comisiynu adolygiad o’r storfeydd, a gynhaliwyd gan Cirrus Purchasing, Atodiad A, i asesu’r sefyllfa gyfredol a gwneud argymhellion ynglŷn â’r dewis a ffafrir fydd yn rhoi gwerth am arian i’r gwasanaeth a’i gwsmeriaid.  Mae’r themâu allweddol sy’n nodweddu’r storfeydd mewnol presennol a’r gwasanaeth cyflenwi deunyddiau uniongyrchol wedi’u crynhoi yn yr adroddiad.

 

Yn seiliedig ar yr amgylchedd a’r gofynion gweithredu cyfredol ac i’r dyfodol mae 3 prif fodel cadwyn cyflenwi, Dewisiadau A, B ac C, ar gyfer yr ateb cadwyn cyflenwi i’r dyfodol.

 

·                                 Dewis A – Moderneiddio a Gwneud y Gorau o’r swyddogaeth storfeydd mewnol.

·                                 Dewis B – Contract gyda’r masnachwr i ddarparu prif fodel cyflenwi.

·                                 Dewis C – Datblygu model rhwydwaith gan fasnachu gydag amryw o gyflenwyr lleol yn uniongyrchol.

 

Oherwydd y byddai costau a chymhlethdod gwella’r gwasanaeth storfa mewnol i’r chwartel uchaf o ran perfformiad yn anghymesur, cytunwyd y dylid nodi Dewis B fel y ffynhonnell a ffafrir ar gyfer darparu storfeydd a deunydd.  Cynhaliwyd proses dendro ffurfiol a arweiniodd at gymeradwyo 2 gais cyflenwr gan swyddogion, gweithredwyr a Chadeirydd y Gymdeithas Tenantiaid.  Yn dilyn gwerthusiad ariannol ac ansoddol, Atodiad B, canfuwyd ymgeisydd a ffafrir ac mae manylion y ceisiadau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad.  Roedd y tendr yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ddarparu costau ar gyfer basged o ddeunydd a chyflenwad, oedd yn cynnwys 282 o’r deunyddiau a brynwyd amlaf, a arweiniodd at gostau sy’n llai na’r ddarpariaeth storfa bresennol.

 

Roedd y cais i gaffael yn darparu mantais net sylweddol i’r Gwasanaeth Tai ac i’r sector preifat yn gyffredinol.  Amcangyfrifwyd bod y golled incwm i’r Gwasanaethau Storfa, Priffyrdd ac Amgylcheddol yn £67k, sydd tua 33% o’r incwm sy’n cael ei dderbyn gan y Storfeydd.  Bydd yr arbedion a wneir gan y Gwasanaeth Tai, sef £15,232 trwy beidio defnyddio depos Dinbych bellach, yn cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr depo eraill fydd yn golygu bod y Cyfrif Refeniw Tai yn cyflawni arbedion, ac argostau yn cael eu rhannu rhwng gwasanaethau presennol.  Byddai’r Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol hefyd yn manteisio o sicrhau bod gwasanaethau yn defnyddio’r system Coms gyda 12.5% yn cael ei ychwanegu pan fydd gwasanaethau yn caffael isgontractwyr a chyflenwadau yn uniongyrchol trwy Coms.  Yn 2012/13 roedd y ffi yn £23,861 ar gyfer Tai, sy’n 19% o’r cyfanswm ffioedd Coms.

 

Mae manylion yn ymwneud â’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb, y risgiau a’r camau i’w lleihau, Datganiad y Prif Swyddog Cyllid a’r broses ymgynghori wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Cadarnhawyd, fel rhan o'r ymarfer ymgynghori, bod tenantiaid wedi bod ynghlwm â dewis contractwr a ffafrir.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, esboniodd y Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol bod y prisiau cystadleuol a ddyfynnwyd wedi’u cytuno am gyfnod o chwe mis ac y byddant yn cael eu hadolygu yn flynyddol.  Rhoddodd fanylion hefyd ynglŷn â threfniadau staffio a’r trafodaethau TUPE. 

 

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn cymeradwyo dewis Jewson fel y contractwr a ffafrir i gyflenwi storfa a deunyddiau i’r Gwasanaeth Tai am gyfnod o 3 blynedd gyda’r dewis o roi estyniad am flwyddyn arall os oes angen.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.15 pm.