Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Gofynnwyd i Aelodau fynegi unrhyw fuddiannau
personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w drafod yn y
cyfarfod. PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn nodi na Ddatganwyd unrhyw Fuddiannau. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol,
1972. Esboniodd y Cynghorydd
B.A. Smith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi data Dangosyddion Strategol Cenedlaethol 2011/12 i holl Gynghorau yng Nghymru a
ddefnyddiwyd i fesur perfformiad Awdurdodau Lleol ar lefel cenedlaethol. O’r 24 dangosydd, roedd Sir Ddinbych wedi
perfformio yn hanner uchaf Cynghorau Cymru yn 75% ac yn chwarter uchaf
Cynghorau Cymru i ddeuran o dair o’r dangosyddion. Yn nhermau’r Dangosyddion Strategol
Cenedlaethol, Sir Ddinbych oedd y Cyngor uchaf ei berfformiad yng Nghymru. Esboniodd mai dyma’r dyhead oedd wedi’i nodi
yn y Cynllun Corfforaethol 2009/12 a bod cadarnhad annibynnol o hyn wedi’i
ddarparu. Amlinellodd y Cynghorydd Smith
nifer o’r uchafbwyntiau a chyfeiriodd hefyd at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan
Uned Ddata Llywodraeth Leol a oedd yn
dynodi gwelliant cyffredinol ym mherfformiad Cynghorau yng Nghymru
llynedd. Cadarnhaodd yr Arweinydd
bod yna ymrwymiad yn yr Awdurdod gan Aelodau a swyddogion, gyda phrosesau da ar
waith. Fodd bynnag, cadarnhaodd bod yna
wastad le i wella. Cefnogodd Aelodau awgrym
y Cynghorydd E.W. Williams y dylid anfon llythyr i Aelodau’r Cyngor blaenorol
yn cydnabod y gwaith a wnaethpwyd ganddynt a’u cyfraniad i’r llwyddiant a
amlinellwyd. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar ddydd
Mawrth 17eg Gorffennaf 2012 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar Ddydd Mawrth, 17
Gorffennaf, 2012. Cywirdeb:- y Cynghorydd J. Thompson-Hill i’w gynnwys yn enwau’r Aelodau
oedd yn bresennol. Cadarnhawyd ei fod wedi’i gofnodi’n bresennol yn fersiwn
Gymraeg y cofnodion. Materion yn codi:- 7. Cyn
Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych. Adroddiad Diweddaru - rhoddodd y Cynghorydd D.I
Smith ddiweddariad o’r gwaith a’r costau ynghlwm wrth y safle. Esboniodd bod
Cyfrwng Penodol wedi’i sefydlu’n ffurfiol. Byddai Hysbysiad Atgyweirio yn cael
ei gyflwyno i’r perchnogion a fyddai’n agor y ffordd at lunio Gorchymyn Prynu
Gorfodol pe byddai angen un. Roedd y
perchennog wedi hysbysu Sir Ddinbych bod cynrychiolwyr cyfreithiol wedi’u
cyfarwyddo i ymgyfreithio yn erbyn yr Awdurdod. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, bod Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd Ddydd Mawrth, 17
Gorffennaf 2012 yn cael eu derbyn fel cofnod cywir ac yn cael eu llofnodi gan
yr Arweinydd. |
|
ADRODDIAD O DDIWEDDARIAD ARIANNOL PDF 305 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amageedig) yn manylu’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd mewn perthynas â’r strategaeth gyllidebol a
gytunwyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd J.
Thompson Hill yr adroddiad i’r Cabinet a oedd yn amlinellu cyllideb refeniw y
Cyngor a’i arbedion ar gyfer 2012/13. Rhoddodd grynodeb fanwl o’r adroddiad a oedd
yn cynnwys y Cynllun Cyfalaf, y Cyfrif
Refeniw Tai, a’r Cynllun Cyfalaf Tai, nododd beth oedd ffurf y cyllidebau a
nododd hefyd y strwythur adrodd nôl i’r flwyddyn sydd i ddod. Cadarnhaodd nad
oedd ar hyn o bryd unrhyw wyriadau sylweddol o’r strategaeth gyllideb y
cytunwyd arni ar gyfer 2012/13 fel y’i diffiniwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor
Canolig, y Cynllun Cyfalaf a Chynllun Busnes y Stoc Tai. Mae’r
rhagolygon mwyaf diweddar o’r gyllideb refeniw, Atodiad 1, yn dangos gorwariant
bach ar draws holl wasanaethau, gan gynnwys ysgolion a chyllidebau
corfforaethol. Roedd hefyd yn cynnwys crynodeb o’r Cyfrif Refeniw er
gwybodaeth; fodd bynnag, dyma gronfa ar wahân nad yw’n rhan o gyllideb
refeniw'r Cyngor. Mae Atodiad 2 yn rhoi diweddariad yn dangos cynnydd yn erbyn
yr arbedion a’r pwysau y cytunwyd arnynt fel rhan o’r broses gosod y gyllideb.
Cytunwyd ar gyfanswm arbedion net o £3.443m ac roedd £1.774m wedi’i gyflawni
gyda £1.669m ar y gweill. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at amrywiannau
allweddol o’r gyllideb neu dargedau arbedion, risgiau neu arbedion potensial
ychwanegol allai godi drwy’r flwyddyn, ac yn darparu diweddariad mwy
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd
yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa o ran y Gyllideb
Refeniw a rhoddodd y swyddogion grynodeb mewn perthynas â’r canlynol: Cyfathrebu,
Marchnata a Hamdden, Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio,
Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau’r Amgylchedd, cyllidebau Moderneiddio
Addysg a Gofal
Cwsmeriaid ac Ysgolion. O ran y Cynllun Cyfalaf, roedd yr alldro oedd wedi'i
amcangyfrif yn £3.8m ar ddiwedd Gorffennaf yn erbyn Cynllun y
cytunwyd arno o £37.3m. Roedd atodiad 3
yn crynhoi’r cynllun presennol, a sut ddylid ei ariannu, ac roedd Atodiad 4 yn
darparu trosolwg o brosiectau cyfalaf mawr. Cyfeiriwyd yn arbennig at Gyfathrebu, Marchnata a Hamdden ac esboniwyd bod
y gyllideb i Ganolfan Plant Integredig Rhyl, Canolfan Oaktree wedi bod dan bwysau ar ôl colli £80k o arian grant. Er bod y
gwasanaeth yn gweithredu i leihau gorwariant, roedd yn debygol y byddai’r
cyfleuster yn gorwario o £40k a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei ariannu’n
gorfforaethol y flwyddyn ariannol hon.
Byddai pwysau ar flynyddoedd i’r dyfodol yn cael sylw yn y broses herio
gwasanaeth a gosod y gyllideb. Roedd
rhagolygon diweddaraf y Cyfrif Refeniw Tai a’r Cynllun Cyfalaf Tai wedi’u
crynhoi yn yr adroddiad, ynghyd â’r Sylwebaeth Economaidd a Diweddariad
Rheolaeth y Trysorlys. Esboniwyd y
byddai hwn yn gyfnod ariannol heriol i’r Cyngor, ac y byddai methu â chyflawni
strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni yn rhoi pwysau pellach ar wasanaethau yn
y flwyddyn ariannol hon ac yn y dyfodol. Hysbyswyd aelodau y byddai monitro a
rheoli cyllideb effeithiol ynghyd ag adrodd yn fuan ar unrhyw amrywiannau yn
helpu sicrhau bod y strategaeth ariannol yn cael ei gwireddu. Cyfeiriodd
y Cynghorydd Feeley at elfen ariannu prosiectau Harbwr y Foryd ac Amddiffyn
Arfordir Rhyl a’r angen posibl i
ddefnyddio arian wrth gefn. Esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod elfennau
risg fel arfer yn fwy amlwg yn ystod camau cynnar prosiectau o’r fath, ac y
byddent yn lleihau’n sylweddol wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Esboniodd y Prif
Weithredwr y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Prosiect
yn ddiweddarach yn y dydd. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd D.I. Smith ynghylch sefyllfa’r Honey Club, a’r diffyg cynnydd mewn perthynas â’r cais a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru am ganiatâd ardal gadwraeth i ddymchwel yr adeilad, a oedd bellach mewn cyflwr ansefydlog ac o bosibl ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROSIECT CEFNOGI TEULU AMDDIFFYN PLANT – ADRODDIAD EITHRIO CYTUNDEB PDF 97 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd R.L. Feeley, Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) a oedd yn
manylu Prosiect Cymorth i’r Teulu, Amddiffyn Plant Tîm Cymorth i’r Teulu, a
ariennir gan gynllun Cefnogi Pobl, ac yn gofyn am eithrio’r contract o’r
gofyniad i dendro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Feeley yr
adroddiad a oedd yn manylu ar Brosiect Cefnogi Teulu Amddiffyn Plant y Tîm Cefnogi Teulu a ariannwyd gan
Cefnogi Pobl, gan geisio cymeradwyaeth
i eithrio’r cytundeb o’r angen i dendro.
Roedd
y Prosiect Cefnogi Teulu Amddiffyn Plant yn cefnogi teuluoedd sy’n derbyn
gwasanaethau statudol ym meysydd amddiffyn plant a phlant mewn angen, teuluoedd
y canfuwyd eu bod mewn argyfwng ac arnynt angen gwasanaethau statudol o’r fath
ar frys; mae’n darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n gadael gofal Cyngor Sir
Ddinbych lle'r oedd dyletswydd statudol i barhau â gofal yn bodoli. Rhoddwyd
manylion ynghylch gweithrediad y prosiect gan y Tîm Cefnogi Teulu. Esboniwyd bod y cysylltiad
rhwng swyddogaethau Amddiffyn Plant statudol Gwasanaethau Cymdeithasol a rhai’r
prosiect yn hanfodol i sicrhau bod y prosiect yn gweithredu’n llwyddiannus.
Roedd teimlad mai’r darparwr mewnol presennol fyddai’n gallu cynnal y cyswllt
orau, a'i bod yn hynod o annhebygol y byddai unrhyw ddarparwr allanol yn gallu sefydlu’r
cysylltiadau hynny i lefel boddhaol i sicrhau parhad yn narpariaeth y
gwasanaeth. Roedd
amlinelliad o’r goblygiadau cost wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. £356,782.22
fyddai gwerth blynyddol y cytundeb am 3 blynedd, gydag opsiwn i ymestyn am 2
flynedd arall yn seiliedig ar berfformiad a deilliannau. Byddai’r dyraniad cyllid dros 5 mlynedd yn
£1,783,911.12. Yn unol ag arfer orau, ac
mewn ymgynghoriad gyda’r Uned Caffael
Strategol, nid oedd unrhyw achos eithriadol dros allanoli neu gontractio’r
prosiect allan. Hysbyswyd
aelodau y byddai’r prosiect yn darparu cefnogaeth i:- ·
Deuluoedd sy’n agored i niwed i
gael mynediad at ymyriad cefnogaeth teulu sydd wedi’i gydgysylltu. ·
Plant a Phobl Ifanc gyda
datblygiadau ôl-16. ·
Unigolion a theuluoedd i gael
mynediad at addysg a chyfleoedd hyfforddi.
·
Unigolion a theuluoedd sy’n
agored i niwed i gael gafael ar gymorth ataliol. ·
Pobl sydd angen tai a byddai’n
cyfrannu at fynd i’r afael â materion fel byrhoedledd a thlodi. ·
Defnyddwyr gwasanaeth wrth
ymdrin â phroblemau amddifadedd lluosog gan gynnwys amddifadedd ac anghenion
tai. Esboniwyd
y byddai’r prosiect hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gyfrannu at rwystro
digartrefedd i grwpiau sy’n agored i niwed.
Wrth
ystyried y risgiau posibl sy’n gysylltiedig gyda rhoi’r prosiect allan i dendr,
fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, cyfeiriwyd at y gost a’r tarfu potensial pe
na fyddai’r systemau gweinyddu a diogelu mewnol bellach ar gael i ddarparwr y
gwasanaeth. Tynnwyd sylw hefyd at
bwysigrwydd strategol y prosiect i Wasanaethau Plant a Theuluoedd a’r
cysylltiadau gwasanaeth sensitif a heriol gydag Amddiffyn Plant. Cadarnhawyd y
gallai’r risgiau cysylltiedig â phenodi darparwr gwahanol effeithio’n
uniongyrchol ar wasanaethau statudol gan fod y prosiect yn lliniaru pwysau ar
Ddigartrefedd a gwasanaethau eraill trwy ddarparu cefnogaeth sy'n gysylltiedig
â thai. Mewn ymateb i gwestiwn
gan yr Arweinydd ynghylch darparu sicrwydd ynglŷn â gwerth am arian,
cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles bod darpariaeth y gwasanaeth wedi bod yn destun
tendro cystadleuol yn 2009. PENDERFYNWYD:-
bod y Cabinet yn cymeradwyo eithrio Prosiect Cefnogi Teulu Amddiffyn Plant y
Tîm Cefnogi Teulu o’r angen i
dendro. |
|
PROSIECT EFFEITHIOLRWYDD A GWELLA YSGOLION – SEFYDLU CYD-BWYLLGOR PDF 159 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd E.W. Williams, Aelod
Arweiniol Addysg (copi’n amgaeëdig) sy’n gofyn am gymeradwyaeth i’r Amodau
Cyfeirio ac Aelodaeth y Cyd-bwyllgor sydd i’w sefydlu yn dilyn penderfyniad i
dderbyn yr Achos Busnes Llawn, a sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd
a Gwelliannau Ysgol, ar draws chwe Awdurdod Gogledd Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd E.W. Williams yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i Gylch Gorchwyl ac Aelodaeth y Cydbwyllgor. Esboniodd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r
Achos Busnes Terfynol ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion
Rhanbarthol ar draws chwe Awdurdod Gogledd Cymru, a’i fod wedi penderfynu ym
Mawrth 2012:- ·
I gefnogi a chymeradwyo’r Achos Busnes Terfynol ar gyfer
sefydlu Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol erbyn Ebrill
2013. ·
I gefnogi argymhelliad Bwrdd
Rhaglen Addysg Gogledd Cymru y dylid mabwysiadu Cydbwyllgor gydag Awdurdod
Cynnal fel model llywodraethu. ·
Roedd Grŵp Prif
Weinyddwyr y chwe Awdurdod Lleol yn ddiweddarach wedi cymeradwyo Cyngor Gwynedd
fel yr Awdurdod Cynnal i’r Gwasanaeth Rhanbarthol. Yn
dilyn gwerthusiad manwl o’r opsiynau, argymhellwyd yn yr Achos Busnes Terfynol
y dylid mabwysiadu model llywodraethu yn seiliedig ar Gydbwyllgor/Awdurdod
Cynnal. Byddai Cytundeb Rhyng-Awdurdod
yn sylfaen i’r Bartneriaeth, ac yn diffinio rolau a chyfrifoldebau’r
Partneriaid, yr Awdurdod Cynnal a’r trefniadau llywodraethu. Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion
parthed cylch gorchwyl ac aelodaeth ffurfiol y Cydbwyllgor yn seiliedig ar yr
Achos Busnes Terfynol a chyngor Cyfreithiol pellach. Roedd
strwythur aelodaeth bosibl y Cydbwyllgor wedi’i nodi yn yr Achos Busnes gyda
chydnabyddiaeth bod angen mireinio pellach. Roedd yr Achos Busnes Llawn yn
amlinellau cwmpas y gwasanaeth arfaethedig a swyddogaeth y Cydbwyllgor o fewn y
strwythur a fyddai’n cael ei lywodraethu gan Reolau Gweithdrefn yr Awdurdod
Cynnal. Roedd aelodaeth arfaethedig y Cydbwyllgor, a oedd yn adlewyrchu’r
strwythur a amlinellwyd yn yr Achos Busnes Llawn, wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad. Roedd cyfyngiad cyfreithiol wedi’i gynnwys, sef na fyddai Aelodau
Cyfetholedig y Cydbwyllgor yn cael pleidleisio ar benderfyniadau. Byddai angen
pum aelod pleidleisio o’r Cydbwyllgor ar gyfer cworwm yng nghyfarfod y
Cydbwyllgor, a byddai cytundeb ar gyfer caniatáu i ddirprwy fynychu pe byddai
hynny’n angenrheidiol. Byddai
Grŵp Defnyddwyr Ysgolion a Llywodraethwyr RSEIS yn enwebu Cynrychiolydd
Uwchradd, Cynradd, Arbennig a Llywodraethwr i gymryd eu seddau ar y
Cydbwyllgor. Byddai’r Cytundeb
Rhyng-Awdurdod yn diffinio trefniadau llywodraethu’r Cydbwyllgor, gan gynnwys
ei Gylch Gorchwyl a Phwerau Dirprwyedig.
Roedd
Cylch Gorchwyl a Phwerau Dirprwyedig arfaethedig y Cydbwyllgor wedi’u cynnwys
yn yr adroddiad, ynghyd â materion wedi’u neilltuo’n arbennig ar gyfer penderfyniad
Cabinet unigol. Roedd ymgynghoriadau manwl wedi’u cynnal gyda’r holl
randdeiliaid yn ystod y gwaith o lunio’r Achos Busnes Llawn, ac roedd
ymgynghoriadau manwl eraill hefyd wedi digwydd yn ddiweddarach gyda staff
fyddai’n cael eu heffeithio gan y newidiadau. Roedd yr Adran Gyfreithiol wedi
archwilio’r Cylch Gorchwyl ac oblygiadau ehangach yr adroddiad. PENDERFYNWYD:- bod y Cabinet:- (a)
yn cadarnhau sefydliad y
Cydbwyllgor yn unol â’r adroddiad. (b)
yn penodi’r Aelod Arweiniol
dros Addysg i gynrychioli’r Awdurdod ar y Cydbwyllgor, ac (c)
yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl a Swyddogaethau
Dirprwyedig y Cydbwyllgor fel y’u nodir ym mharagraff 4 yr adroddiad. |
|
PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL PDF 130 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd H.H. Evans, Arweinydd ac
Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi manylion
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad a roddai fanylion ar Brosiect Gwella Tai
Gorllewin y Rhyl (WRHIP), a gyflwynwyd yn wreiddiol yn sesiwn briffio’r Cabinet
ar 5 Rhagfyr 2011. Roedd
arian wedi’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru (LlC) i weithredu’r Prosiect, heb
ddim gofyniad am arian cyfalaf o Sir Ddinbych. Roedd gofyn i’r Cabinet ystyried
y prosiect yn unol gyda Rheoliadau Ariannol a Methodoleg Rheoli Prosiect. Mae’r
manylion canlynol yn ymwneud â’r WRHIP wedi’u darparu yn yr adroddiad:- Atodiad
1 – Briff y Prosiect – Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Atodiad
2 – Cynllun Bloc WRHIP. Atodiad
3 – Argraff Arlunydd o Fan Gwyrdd. Hysbyswyd
Aelodau y dylai’r ffynhonnell arian mewn perthynas â WG-NWCRA am 2013/14 fod yn
£1,647,000 ac nid £1,747,000 fel y nodwyd yn y tabl yn yr adroddiad. Roedd y WRHIP yn barhad o waith a oedd eisoes ar y gweill yng Ngorllewin y
Rhyl dan nawdd Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru (NWCRA) ac roedd nifer sylweddol o adeiladau
oedd angen sylw’r prosiect eisoes wedi’u prynu gydag arian LlC. Roedd manylion ynghylch y Man Gwyrdd, y
Rhaglen Gaffael, math o dai i’w creu, Rhaglen Weithredu, Rheoli Prosiect a
Threfniadau Llywodraethu wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd rhaglen
amlinellol ar gyfer gweithredu blociau unigol wedi’i dosbarthu ac roedd Atodiad
4 yn cynnwys Cynllun Rhaglen WRHIP.
Roedd Bwrdd Prosiect wedi’i sefydlu ac roedd y Cylch Gorchwyl drafft,
gyda manylion aelodaeth, wedi’i gynnwys yn Atodiad 5. Dywedodd Rheolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen
wrth y Cabinet bod Canllawiau Cynllunio Atodol drafft wedi’u cynhyrchu i’r
ardal, a allai ddarparu’r fframwaith polisi ar gyfer unrhyw ymholiad CPO
posibl, ac y byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn ystyried hyn gyda golwg ar ei anfon
at ymgynghoriad ffurfiol. Roedd
cyfrifoldebau allweddol y Bwrdd WRHIP ar gyfer gweithredu’r prosiect wedi’u
hamlygu yn yr adroddiad. Esboniwyd y
byddai mynd i’r afael â materion sydd wedi poeni’r ardal ers amser yn helpu
creu argraff fwy positif o’r dref, ac y byddai hynny wedyn yn arwain at fuddion
adfywio mwy pellgyrhaeddol. Trwy greu cymuned a marchnad dai mwy cytbwys,
byddai’r prosiect yn lleihau amddifadedd yn yr ardal, a dyma oedd un o
ddeilliannau allweddol y flaenoriaeth.
Byddai hefyd yn hybu hyder y sector preifat yn y Rhyl ac yn ysgogi
buddsoddiad a hyder sector preifat pellach trwy greu swyddi newydd a chyfleoedd
busnes. Byddai’r
prosiect yn cael effaith uniongyrchol ar y deilliant blaenoriaeth o “gynnig
amrywiaeth o fathau a ffurfiau tai gwahanol... i gyflawni anghenion unigolion a
theuluoedd”. Roedd y costau a godwyd o Atodiad 1, Briff y Prosiect – Prosiect
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, wedi’u manylu yn yr adroddiad. Fodd bynnag,
cadarnhawyd nad oedd arian ar gyfer 2014/15 wedi’i dderbyn o’r NWCRA hyd yma. Roedd y
tabl o fewn yr adroddiad yn dangos y byddai’r arian i’r WRHIP yn cael ei
ddarparu gan LlC ac yn dod o gyfuniad o Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog ac arian
o’r Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru (NWCRA). Roedd yr arian wedi’i neilltuo’n
benodol i’r prosiect ac nid oedd i’w wario tu allan Y Rhyl nac ar brosiect
gwahanol. Darparwyd yr ymatebion
canlynol i bryderon a fynegwyd a chwestiynau a godwyd:- - Esboniodd Rheolwr
Prosiect Y Rhyl yn Symud Ymlaen y byddai’r adeiladu newydd yn cael ei ddylunio
a’i adeiladu i fod mor hyblyg â phosibl, felly byddai modd addasu llety i
gyflawni gofynion bobl hŷn. - Esboniwyd nad oedd
unrhyw gynnig i ddarparu tai gofal ychwanegol o fewn y prosiect, fodd bynnag
byddai modd ystyried darpariaeth ar safle West Parade. - Mewn perthynas â’r trefniadau llywodraethu i Fwrdd Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Ar ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
NEWIDIADAU I’R RHAGLEN CEFNOGI POBL PDF 104 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd R.L. Feeley, Aelod
Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi’n amgaeëdig) yn
manylu’r datblygiadau diweddaraf yn y trefniadau arfaethedig ar gyfer Rhaglen
Cefnogi Pobl a gofyn i’r Cabinet gytuno ar gynrychiolaeth Aelod Arweiniol ar y
Cyd-bwyllgor Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Feeley yr
adroddiad a oedd yn amlinellu datblygiadau diweddar yn y trefniadau arfaethedig
i’r Rhaglen Cefnogi Pobl (SPP) ac yn ceisio
cymeradwyaeth y Cabinet i gynrychiolaeth yr Aelod Arweiniol ar y Pwyllgor
Cydweithredol Rhanbarthol. Darparwyd
crynodeb o’r newidiadau allweddol i weinyddiad yr SPP a oedd yn digwydd ledled
Cymru. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys
symud tuag at fformiwla ddosbarthu arian newydd a throsglwyddo cyfrifoldebau
contractio rhai gwasanaethau o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Roedd
trefniadau llywodraethu newydd, gan gynnwys Pwyllgorau Cydweithredol
Rhanbarthol (RCC) gyda chyfrifoldebau allweddol am yr SPP, yn cael eu sefydlu
ledled Cymru ar hyn o bryd. Esboniwyd
bod yr SPP yn rhaglen arwyddocaol a oedd yn darparu gwasanaethau cymorth “cysylltiedig â thai” i
ystod eang o grwpiau sy’n agored i niwed. Nod y rhaglen oedd eu galluogi i
fanteisio ar sicrwydd tŷ wrth ddatblygu agweddau eraill o’u bywydau gan
hyrwyddo annibyniaeth. Roedd y Rhaglen
wedi’i gwerthuso ar lefel cenedlaethol gan ddangos ei bod yn arwain at fuddion
ariannol ac anariannol cadarnhaol iawn. Yn 2011/12, derbyniodd Sir Ddinbych
£6.9m o arian trwy’r SPP a oedd yn ddigon i ariannu oddeutu 2404 uned
cefnogaeth, sef y mwyaf posibl, gan gynnwys gwasanaethau warden i henoed, ar
unrhyw adeg, ar draws ystod o anghenion ac ymyriadau. Roedd
argymhellion allweddol adolygiad annibynnol y SPP, a gomisiynwyd gan Lywodraeth
Cymru (LlC), wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â chrynodeb o’r goblygiadau
mwyaf nodedig i Sir Ddinbych, a oedd yn cynnwys materion ariannu. Pwysleisiodd
yr Arweinydd a’r Cynghorydd Feeley y byddai gan y Pwyllgor Craffu rhan bwysig
i’w chwarae o ran monitro ac arolygu’r rhaglen wrth iddi ddatblygu, a chytunwyd
y dylid cynnwys hyn yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Craffu perthnasol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles at bryderon Sir Ddinbych ynghylch datblygiad y rhaglen, yn
enwedig y cydbwysedd pŵer ar lefel rhanbarthol ac Awdurdod unigol mewn
perthynas â’r broses gwneud penderfyniadau. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr
Arweinydd, mynegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bryder ynghylch cyfansoddiad y
Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol a’r posibilrwydd o wrthdaro rhwng y
darparwyr gwasanaeth a’r cyrff sy’n comisiynu gwasanaethau. Hysbyswyd aelodau bod y newidiadau arfaethedig wedi bod
yn ddadleuol mewn rhai ffyrdd. Fodd bynnag, yn dilyn ymgynghoriad a
thrafodaethau, roedd LlC wedi newid rhywfaint ar y canllawiau, yn enwedig
ynghylch rôl y Pwyllgorau
Cydweithredol Rhanbarthol. Roedd Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru wedi dangos
eu bod yn cefnogi’r trefniadau newydd ac roedd LlC wedi cytuno i arolygu’r
trefniadau a amlinellwyd yn y canllawiau o fewn y flwyddyn bontio. Roedd pob rhanbarth wedi cael cais i
arddangos eu “parodrwydd” i sefydlu Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol erbyn
1 Awst 2012 ac roedd Gogledd Cymru
wedi bodloni’r meini prawf a osodwyd gan LlC. Roedd Sir Ddinbych wedi derbyn
amodau a thelerau’r grant newydd a’r canllawiau newydd. Fodd bynnag, roedd rhai
pryderon yn dal i fod, ac roeddynt wedi’u cofnodi’n ffurfiol gyda LlC. Roedd
manylion yn ymwneud â’r strwythur gweithredol newydd wedi’u cynnwys yn Atodiad
1. Roedd hyn yn cynnwys y rôl
arfaethedig i’r Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol a’r Awdurdod Lleol a oedd yn
Cydlynu, ac roedd hefyd yn amlinellu sut y rhagwelwyd y byddai rôl yr Awdurdod
Lleol unigol yn ffitio gyda’r strwythur rhanbarthol. Mae’r argymhellion a
nodwyd ym mharagraffau 3.1 a 3.2 o’r adroddiad yn adlewyrchu’r farn y dylai Sir
Ddinbych gyfranogi yn y trefniadau newydd, er gwaetha’r risgiau. Fodd bynnag, esboniwyd y byddai angen i'r
Pwyllgor Craffu gadw golwg agos ar effaith y risgiau cysylltiedig â’r
trefniadau newydd dros y 12 mis nesaf wrth i’r newidiadau mawr gael eu
cyflwyno. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd J.R. Bartley ynghylch gostyngiad yn narpariaeth y gyllideb ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
BLAEN-RAGLEN WAITH Y CABINET PDF 70 KB Derbyn blaenraglen waith y Cabinet a chydnabod y cynnwys. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd H.H.
Evans Flaen-Raglen Waith y Cabinet. Cytunodd Aelodau y dylid ad-drefnu’r Eitemau Busnes canlynol fel y ganlyn:- - Penodi Cynghorwyr i Gyrff Allanol o gyfarfod Medi i gyfarfod Hydref. - Adolygiad o Ddarpariaeth Addysg Seiliedig ar Ffydd ac Adolygiad Ysgolion Rhuthun o gyfarfod Medi
i gyfarfod Hydref neu Dachwedd, yn amodol ar dderbyn arweiniad gan Lywodraeth
Cymru ar fethodoleg ariannu. PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod,
bod y Cabinet yn derbyn y Blaen-raglen Waith. |
|
RHAN II GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD PENDERFYNWYD - yn unol ag Adran
100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd
rhag mynychu’r cyfarfod i’r eitemau busnes canlynol ar y sail eu bod yn ymdrin
â’r posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth a eithriwyd fel y diffinnir ym
mharagraffau 13 a 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL - GORCHYMYN PRYNU GORFODOL Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd H.H. Evans, Arweinydd ac
Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd (copi’n amgaeëdig) ar ddefnyddio trefniadau
Prynu Gorfodol i gaffael eiddo yng Ngorllewin y Rhyl, i ddibenion cyflawni
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd H.H. Evans yr adroddiad a oedd yn manylu ar y defnydd o
weithdrefnau Prynu Gorfodol i gaffael eiddo yng Ngorllewin y Rhyl, er mwyn
gweithredu Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl, a oedd wedi’i ystyried dan
eitem rhif 8 ar yr Agenda. Gofynnwyd
i’r Aelodau astudio’r cynllun a oedd wedi’i gynnwys fel Atodiad 1. Esboniodd y
swyddogion bod y Cynllun wedi’i newid fel a ganlyn:- ·
Bloc 2 i gynnwys Stryd Gronant yn y Gorchymyn Prynu Gorfodol i ganiatáu
gwaith alinio. ·
Bloc 7 i gynnwys adeilad
pellach, sef tŷ
allanol ar ochr ddwyreiniol Abbey Street ger Crescent Road. Dosbarthwyd copi o’r
cynllun diwygiedig i Aelodau yn y cyfarfod.
Roedd
yr adroddiad yn amlinellu cefndir Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl (WRHIP).
Nod y Prosiect yw lleihau nifer y tai amlfeddiannaeth yn ardal Gorllewin y
Rhyl, gwella ansawdd y tai a’r amgylchedd cyffredinol, a darparu gofod agored
newydd. Yn Nhachwedd 2011, penderfynodd y Cabinet fabwysiadu cynllun gwaith Y
Rhyl yn Symud Ymlaen fel strategaeth adfywio ar gyfer Y Rhyl. Roedd Achos
Cyfiawnhau Busnes Cam 1 WRHIP wedi’i gadarnhau gan Weinidog dros Gyllid
Llywodraeth Cymru (LlC) ac arian ar gyfer y prosiect o Gronfa Cyfalaf a Gedwir
yn Ganolog LlC. Roedd
Cynllun Busnes WRHIP wedi’i gymeradwyo gan LlC ym Mai 2012, ac roedd cyfarfod
cyntaf Bwrdd WRHIP, sef partneriaeth strategol y prosiect, wedi’i drefnu yng
Ngorffennaf 2012. Ar ôl
i’r Cabinet ystyried adroddiad WRHIP, ac yn unol â Rheoliadau Ariannol a
Methodoleg Rheoli Prosiect Sir Ddinbych, byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno
i’r Cyngor ym Medi 2012 i gymeradwyo’r prosiect a dirprwyo pwerau i’r Bwrdd
Prosiect. Roedd
yr adroddiad yn amlinellu amcanion y Prosiect, i wella amwynder yr ardal a
chreu cymuned fwy cytbwys gyda chyfran o berchen-feddiannaeth. Roedd manylion o’r eiddo oedd wedi’u cynnwys
yn y prosiect wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Esboniwyd y byddai Gorchmynion Prynu
Gorfodol yn berthnasol i unrhyw adeiladau gweddilliol nad oedd dan berchnogaeth
gyhoeddus i’r prosiect. Fodd bynnag, hyd
yn oed pe byddai’r Cyngor yn cyflwyno Gorchmynion Prynu Gorfodol, byddai hefyd
yn ceisio prynu adeiladau trwy gytundeb. Byddai gan y Pennaeth Cyllid ac
Asedau'r awdurdod i ganiatáu mân newidiadau i’r Gorchmynion ac i dynnu eiddo
oddi ar unrhyw rai o’r Gorchmynion yn ôl cyfarwyddyd y Bwrdd Prosiect. Roedd
canlyniad y Prosiect i bob bloc wedi’i nodi’n fanwl yn Atodiad 3 i’r
adroddiad. Cyfeiriodd swyddogion at y
pŵer i wneud y penderfyniad ac roedd manylion wedi’u cynnwys a’u crynhoi
yn yr adroddiad. Mynegodd
y Cynghorydd C. Hughes bryder ynghylch y gostyngiad posibl yn nifer yr unedau
un llofft fyddai ar gael ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau, a pha mor
fforddiadwy oedd yr adeiladau newydd i bobl sy’n byw yn yr ardal ar hyn o
bryd. Cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Y Rhyl
yn Symud Ymlaen mai un o’r amcanion allweddol oedd lleihau nifer yr unedau un
llofft yn yr ardal oherwydd bod gormod o unedau o’r fath ar gael yn yr ardal ar
hyn o bryd, a bod hynny’n gysylltiedig â rhai o’r problemau amddifadedd
economaidd a chymdeithasol a brofwyd yno. Esboniodd nad oedd bwriad i gael
gwared ag unedau un llofft yn llwyr, a chadarnhaodd y byddai nifer sylweddol o
unedau o’r fath ar gael yn ardal ehangach Gorllewin y Rhyl; roedd yn teimlo y
byddai hynny’n darparu gwell cydbwysedd o ran y tai oedd ar gael yn yr
ardal. Roedd Aelodau’n cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan y Cynghorydd E.W. Williams y byddai’n bwysig ei gwneud yn glir fod Sir Ddinbych yn gweithredu’r Gorchmynion Prynu Gorfodol ar ran Llywodraeth Cymru, am nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hynny ei hunan. ... view the full Cofnodion text for item 11. |