Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU I’W NODI - TEYRNGED: Y DIWEDDAR EI MAWRHYDI Y FRENHINES ELIZABETH II

Oherwydd y cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ni chynhaliwyd cyfarfod y Cabinet a drefnwyd ar gyfer 20 Medi 2022.  Gan fod angen penderfynu ar rai pethau, roedd cyfarfod y Cabinet wedi ei drefnu ar gyfer heddiw. 

 

Treuliodd yr Arweinydd amser yn myfyrio ar y newyddion trist am farwolaeth y diweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, oedd wedi cysegru ei bywyd i bobl y wlad a’r Gymanwlad yn ystod ei theyrnasiad 70 mlynedd fel yr un fy ar yr orsedd am yr amser hiraf erioed ym Mhrydain.   Rhoddodd yr Arweinydd deyrnged iddi gan ddiolch am ei bywyd o ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus gan drafod sut oedd y Cyngor wedi ymateb i’r cyhoeddiad am ei marwolaeth yn unol â phrotocol cenedlaethol. Diolchodd hefyd i’r Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor am y ffordd yr oedd wedi gwneud ei ddyletswyddau ar ran y Cyngor ag urddas ac anrhydedd. Yn olaf, diolchodd yr Arweinydd i aelodau a swyddogion oedd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau’r Cyngor ac wedi gwneud eu dyletswyddau ag urddas a pharch yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, ac i holl swyddogion y Cyngor oedd wedi sicrhau bod trefniadau'r Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â phrotocolau cenedlaethol. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Elen Heaton

Byddai’r Cynghorydd Julie Matthews ychydig yn hwyr i’r cyfarfod o ganlyniad i ymrwymiad cynharach.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Elen Heaton – Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Byddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ychydig yn hwyr oherwydd ymrwymiad blaenorol.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a phersonol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 338 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 236 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd, a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer achosion busnes sy’n ymwneud â chyfleusterau newydd i storio halen yng Nghorwen a Lôn Parcwr, safleoedd depo Rhuthun a chyfleusterau lles, cerbydau a storio offer newydd yn nepo Gerddi Botaneg y Rhyl.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2022/23 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo’r cyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depos Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad, a

 

(c)       chymeradwyo datblygu ac adeiladu cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yng Ngerddi Botanegol y Rhyl, fel y nodir yn Adran 6.9 ac Atodiad 5 yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad oedd yn cynnwys manylion am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, gan dynnu sylw at yr ansicrwydd ariannol cyfredol a’r argymhelliad bod y Cabinet yn cymeradwyo dau achos busnes.

 

Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn -

 

·         y gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23 oedd £233.696 miliwn (£216.818 miliwn yn 2021/22)

·         rhagwelir y byddai gorwariant o £1.953 miliwn ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·         tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth unigol ynghyd ag effaith Coronafeirws a chwyddiant

·         manylion am arbedion gwasanaethau a chynnydd mewn ffioedd a thaliadau (£0.754 miliwn); ni ofynnwyd am arbedion gan Wasanaethau Cymorth Cymunedol nac Ysgolion

·         rhoddwyd diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf a chafwyd diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo fod yr adroddiad wedi’i baratoi ar gyfer y Cabinet ar 20 Medi a bod rhai ffigurau wedi newid, ond byddai’r Cabinet yn cael diweddariad pellach ym mis Hydref. Tynnodd sylw at y pwysau ar y gyllideb mewn Gwasanaethau Plant a lleoliadau y tu allan i’r sir ac yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, ac mai ychydig o gronfeydd wrth gefn arian parod oedd ar ôl i ariannu pwysau yn ystod y flwyddyn. Byddai unrhyw symudiadau yn y dyfodol yn debygol o ddangos fel gorwariant. Rhoddodd y Cynghorydd Gill German sicrwydd bod llawer o waith yn cael ei wneud i ymdrin â phwysau yn y gyllideb a achoswyd gan leoliadau y tu allan i’r sir, a bod cynlluniau ar waith. Cyfeiriodd yr Arweinydd at oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyllid Llywodraeth Cymru gyda phwysau anferthol ar gyllidebau wrth symud ymlaen. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo yn rhannu’r pryderon hyn a’r effaith ar osod y gyllideb yn y dyfodol, roedd y wybodaeth ddiweddaraf wedi’i drefnu ar gyfer Sesiwn Friffio’r Cabinet.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo dau achos busnes yn ymwneud â chyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depo Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun a chyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yn nepo Gerddi Botaneg y Rhyl, oedd wedi cael eu hadolygu a’u cefnogi gan y Bwrdd Cyllideb. Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Dros Dro drosolwg o’r achosion busnes a’r rhesymeg y tu ôl i’r cais a’r angen i fuddsoddi yn yr asedau hyn. Roedd y Cynghorwyr Gwyneth Ellis a Barry Mellor wedi ymweld â’r cyfleusterau ac yn llwyr gefnogi’r buddsoddiad arfaethedig.  Ystyriodd y Cabinet bob achos busnes ar wahân -

 

·         Cyfleusterau storio halen newydd yn safleoedd depo Corwen a Lôn Parcwr, Rhuthun

 

Ystyriodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu cyfleusterau storio halen newydd yn lle’r adeiladau dros dro yng Nghorwen a chreu cyfleusterau newydd pwrpasol yng Nghorwen a Lôn Parcwr. Derbyniwyd nad oedd y systemau storio a draenio presennol yn addas i bwrpas ac nad oeddent yn cydymffurfio â chanllawiau presennol. Eglurwyd bod y cynnig yn cynnwys gwella’r safleoedd presennol ac nid symud y cyfleusterau. Roedd y Cabinet yn cefnogi’r buddsoddiad cyfalaf i wella’r cyfleusterau i ymdrin â’r problemau a godwyd a hefyd sicrhau gwelliannau sylweddol i gyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar a lleihau effeithiau amgylcheddol. Ynglŷn â Chorwen, nodwyd y byddai’r adeilad newydd yn galluogi i’r cerbydau gael eu cadw ar y safle gan hwyluso effeithlonrwydd gweithredol ac amgylcheddol.

 

·         Cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd yn Nepo Gerddi Botaneg y Rhyl

 

Ystyriodd y Cabinet y cynnig i ddatblygu ac adeiladu cyfleusterau lles, storio cerbydau a chyfarpar newydd ynghyd ag ad-drefnu gweddill y safle er mwyn codi adeiladau yn lle’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAM 2 GWAITH ÔL-OSOD TAI CYMDEITHASOL - RHYDWEN DRIVE, Y RHYL pdf eicon PDF 233 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â Dyfarnu Contract Uniongyrchol i Sustainable Building Services mewn perthynas â gwaith ôl-osod ynni.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       dyfarnu’r contract yn uniongyrchol i’r contractwr sy’n ymgymryd â cham 1 y gwaith ar hyn o bryd yn seiliedig ar y cyfraddau cystadleuol a geir drwy Fframwaith Ynni’r Gynghrair Caffael Gymreig fel y cytunwyd arnynt gan yr Adain Gaffael, a

 

(b)       bod y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod sydd ei angen cyn gweithredu penderfyniad y Cabinet yn cael ei hepgor ar y sail bod y contract presennol yn dod i ben ar 30 Medi 2022 ac y bydd unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi yn y rhaglen gan arwain at y risg o fethu dyddiadau cau a nodwyd wrth amodi bod rhaid gwario grantiau erbyn dyddiadau penodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i ddyfarnu’r contract gwaith ôl-osod ynni i Sustainable Building Services.

 

Yn unol â gwaith cynnal a chadw cyfalaf y cyngor, roedd cyllid wedi’i ddiogelu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ôl-osod er mwyn optimeiddio arbedion ynni mewn cartrefi ac er budd tenantiaid. Roedd cyllid blaenorol wedi galluogi Cam 1 y gwaith ynni i 55 o dai ar Rhydwen Drive a’r bwriad oedd defnyddio’r cyllid diweddaraf i barhau â’r gwaith ar gyfer 44 o dai eraill ar y stryd. Roedd manylion y gwaith gwella a manteision parhau â’r cynllun wedi cael eu nodi ac argymhellwyd bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu’r contract drwy Fframwaith Cynghrair Cymru fel bod y contractwr sydd ar y safle ar hyn o bryd yn gallu parhau â’r gwaith i Gam 2. Daeth contract Cam 1 i ben ar 30 Medi felly gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo dyfarnu’r contract ar unwaith gan y byddai unrhyw oedi yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi i’r rhaglen.

 

Canmolodd y Cabinet y gwaith rhagorol oedd eisoes wedi’i wneud ac roedd y Cyngor ar flaen y gad o ran symud ymlaen â gwaith gwella ynni, yn enwedig yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac roedd tenantiaid yn manteisio ar filiau ynni is ar adeg o ansicrwydd o ran tanwydd. Roedd y Cabinet hefyd yn croesawu’r manteision cymunedol o ran hyfforddiant a phrentisiaethau, yn cynnwys 12 prentisiaeth leol, ac roedd aelodau’n awyddus i’r cyngor barhau i gefnogi’r prentisiaid hyn i sicrhau eu bod yn cael cymwysterau da a chyflogaeth i’r dyfodol. Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol Eiddo  Corfforaethol a Stoc Dai fod Sir Ddinbych yn dal ar flaen y gad er bod gwaith tebyg wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol eraill. Byddai Cam 2 yn galluogi’r 12 prentis o Gam 1 barhau â’u cyflogaeth a chael y cymwysterau perthnasol erbyn diwedd yr ail gam. Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r prentisiaid yn cael eu cefnogi i gael cyflogaeth llawn amser ar ôl cwblhau’r gwaith, a chyfeiriwyd at Sir Ddinbych yn Gweithio fel ffordd arall o ddarparu cymorth i sicrhau bod y prentisiaid yn cael gwaith pellach os nad oedd yn bosibl iddynt gael gwaith gan y contractwr ar y safle. 

 

O ran dyfarnu’r contract a’r posibilrwydd o hepgor y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod, cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol, os byddai’r Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu’r contract, byddai’n rhoi hyder i’r contractwyr ac eraill yn y gadwyn gyflenwi y byddai’r dyfarniad ar ddigwydd a sicrhau pontio llyfn i Gam 2. Rhoddodd y Swyddog Monitro gyd-destun cyfreithiol a darpariaeth yng nghyfansoddiad y cyngor i hepgor y galw i mewn ar gyfer penderfyniadau brys pan fo’r rhesymau dosto wedi eu nodi.

 

Ystyriodd y Cabinet argymhellion yr adroddiad a - 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(a)       dyfarnu’r contract yn uniongyrchol i’r contractwr sy’n ymgymryd â cham 1 y gwaith ar hyn o bryd yn seiliedig ar y cyfraddau cystadleuol a geir drwy Fframwaith Ynni Cynghrair Caffael Cymru fel y cytunwyd arnynt gan yr Adain Gaffael, a

 

(b)       bod y cyfnod galw i mewn 5 diwrnod sydd ei angen cyn gweithredu penderfyniad y Cabinet yn cael ei hepgor ar y sail bod y contract presennol yn dod i ben ar 30 Medi 2022 ac y bydd unrhyw oedi o ran dyfarnu’r contract yn arwain at gostau ychwanegol ac oedi yn y rhaglen gan arwain at y risg o fethu dyddiadau cau a nodwyd wrth amodi bod rhaid gwario grantiau erbyn dyddiadau penodol.

 

 

7.

SEFYDLU BWRDD RHEOLI MAETHYNNAU I FYND I’R AFAEL Â LLYGREDD FFOSFFORWS YN ARDAL CADWRAETH ARBENNIG “AFON DYFRDWY A LLYN TEGID” pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio a Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) mewn perthynas â ffurfio’r Bwrdd Rheoli Maethynnau a cheisio cynrychiolaeth yr aelod arweiniol ar y Bwrdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno:

 

(a)       bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymuno â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau ac yn cydweithio gyda’i bartneriaid i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn nalgylch Afon Dyfrdwy a

 

(b)       bod Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yn cynrychioli’r Cyngor, gyda’r Aelod Arweiniol Cynllunio a Datblygu Lleol yn ddirprwy.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad ar y cyd â’r Cynghorydd Win Mullen-James ar sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau i fynd i’r afael â llygredd ffosfforws yn nalgylch Afon Dyfrdwy ac am gynrychiolaeth aelod arweiniol ar y Bwrdd.

 

Cafodd y Cabinet wybod bod safonau ffosfforws newydd wedi cael eu gosod ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonydd Cymru a bod tua 38% o gyrff dŵr a arolygwyd yn ardal cydymffurfiaeth “ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid” wedi methu â chyrraedd y targed. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sefydlu Bwrdd Rheoli Maethynnau ac argymhellwyd bod Cyngor Sir Ddinbych yn ymuno â’r bartneriaeth i alluogi dull dalgylch cyfan o wella ansawdd dŵr yn Afon Dyfrdwy, a sicrhau bod y Cyngor yn gallu cyflawni prosiectau cymunedol lleol a Gwasanaeth Cynllunio effeithlon dan ystyriaethau Rheoliadau Cynefinoedd 2017. Roedd yr adroddiad yn nodi manylion y fframwaith cyfreithiol, y strwythur, y gofynion posibl o ran adnoddau a’r llwyth gwaith cynnar.

 

Roedd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai, yr Uwch Swyddog Cynllunio  a’r Swyddog Cynllunio  yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cafodd y Cabinet wybod am y niwed amgylcheddol a achosir gan ormod o ffosfforws yn yr afon a goblygiadau’r targedau newydd ar geisiadau cynllunio a darparu tai newydd, tir ar gyfer cyflogaeth ac ati.  Cyfeiriwyd at y map oedd yn cyd-fynd â’r adroddiad yn dangos dalgylch Afon Dyfrdwy, oedd yn gorchuddio rhan helaeth o dde Sir Ddinbych, yn cynnwys Llangollen a Chorwen fel y prif drefi, a’r pentrefi rhyngddynt. Roedd y Bwrdd Rheoli Maethynnau yn darparu dull partneriaeth o fynd i’r afael ag ansawdd dŵr a gofynnwyd am gymeradwyaeth i ymuno â’r Bwrdd a chadarnhau’r Cynghorydd Barry Mellor fel cynrychiolydd y Cyngor a’r Cynghorydd Win Mullen-James fel dirprwy.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         Tynnodd y Cynghorydd Win Mullen-James sylw at effaith ddinistriol blymau algâu a achosir gan lefelau ffosfforws uwch ar ecoleg afonydd a bywyd gwyllt a phwysigrwydd ymuno â’r Bwrdd Rheoli Maethynnau er mwyn gallu mynd i’r afael â llygredd ffosfforws a’r goblygiadau ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

·         Gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne gwestiynau am y diffyg cyfeiriad yn yr adroddiad at Afon Alyn fel llednant i Afon Dyfrdwy a’r broblem hysbys â ffosfforws yn ardal Llanarmon yn Iâl. Dywedodd y Swyddogion nad oedd Afon Alyn ei hun a Llanarmon yn Iâl yn rhan o’r Ardal Cadwraeth Arbennig oedd yn canolbwyntio ar yr ardal benodol o amgylch Afon Dyfrdwy. Fodd bynnag, roedd y dalgylch ehangach yn dod dan Reoliadau Cynefinoedd 2017 oherwydd bod gan gynnydd mewn ffosfforws yn yr ardaloedd hynny lwybr i Afon Dyfrdwy. Tynnwyd sylw at y map ynghlwm â’r adroddiad yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd cydymffurfiaeth ffosfforws yn yr ACA a’r ardaloedd sensitif o ran ffosfforws yn yr ACA.

·         Mae Llywodraeth Cymru yn dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yng ngoleuni argymhellion a wneir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwad Cymru cyn hynny), drwy’r Pwyllgor Cadwraeth Natur ar y Cyd.  

·         Pwysleisiodd y Cynghorydd Barry Mellor fod angen ystyried yr holl ffynonellau ffosfforws oedd yn mynd i Afon Dyfrdwy, yn cynnwys y rhai o du allan i’r ACA a’r lle gorau i godi’r mater fyddai’r Bwrdd Rheoli Maethynnau. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i gefnogi gwaith y Byrddau Rheoli Maethynnau, a bod hyd at £415,000 ar gael yng Nghymru yn 2022-23 a darpariaeth ychwanegol yn 2022-23 a 2024-25.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Rhys Thomas at arolwg yr oedd wedi ei gynnal ar Afon Dyfrdwy a’i fod yn deall y problemau’n gysylltiedig â lefelau ffosfforws yn iawn.   Pwysleisiodd fod angen gweithio ar draws y dalgylch,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET pdf eicon PDF 291 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd aelodau bod yr eitem ‘Marchnad y Frenhines: Dyfarnu Contract y Gweithredwr’ wedi’i symud o fis Tachwedd i fis Ionawr.   Nodwyd hefyd y dylai’r cyfeiriad at yr aelod arweiniol a’r swyddog yn ymwneud ag eitem Adroddiad Rheoli’r Trysorlys 2021-22 ar gyfer mis Hydref nodi’r Cynghorydd Gwyneth Ellis a Steve Gadd. 

 

PENDERFYNWYD nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cabinet.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.00 pm.